Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Iau, 12fed Mawrth, 2020 10:00

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

175.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

 

176.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 88 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 17/10/2019

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:   Cymeradwyo’r cofnodion dyddiedig 17/10/2019 yn gofnod gwir a chywir.

 

177.

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a amlinellodd y cynigion allweddol yn y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).

 

Esboniodd fod y Bil wedi cael ei gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Tachwedd 2019 a’i nod oedd diwygio a chryfhau llywodraeth leol a gwella trefniadau etholiadol.

Crynhowyd cynigion allweddol y bil fel y’u nodir isod, ac ymhelaethwyd arnynt ymhellach yn adrannau 4.2 i 4.9 yr adroddiad:

 

  • Trefniadau Etholiadol Llywodraeth Leol
  • Meini prawf anghymhwyso i sefyll fel Cynghorydd
  • Trefniadau Llywodraethu
  • Uno
  • Ymgysylltu â’r Cyhoedd
  • Dwy System Bleidleisio
  • Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
  • Dyletswydd prif gynghorau i gyhoeddi cyfeiriadau swyddogol

 

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod pwynt 4.4.1 o’r adran Trefniadau Llywodraethu eisoes ar waith mewn awdurdodau yn Lloegr a’i fod yn caniatáu iddynt fuddsoddi mewn trafodion eiddo ac ati. Ychwanegodd hefyd fod y Ddyletswydd ar brif gynghorau i gyhoeddi cyfeiriadau swyddogol eisoes ar waith yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y disgwylir i’r ddeddfwriaeth ddod i rym yn yr haf 2020, ond nad yw’n glir p’un a fydd camau graddol, yn dibynnu ar sefyllfaoedd awdurdodau lleol ar y pryd.

 

PENDERFYNWYD: Bod yr Aelodau’n nodi’r adroddiad.

 

178.

Adroddiad Atodol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2020-2021 pdf eicon PDF 64 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn cynghori’r Pwyllgor am adroddiad atodol drafft a gyhoeddwyd gan y Panel yngl?n ag ad-dalu Costau Gofal, a oedd yn destun ymgynghoriad.

 

Esboniodd fod yr adroddiad atodol drafft llawn wedi’i restru yn Atodiad 1 yr adroddiad a’i fod yn amlinellu’r lleiafswm y dylai awdurdodau lleol ei wneud a sut y gallai hyn gael ei wneud o ran Ad-dalu Costau Gofal.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd wybod i’r Aelodau am y goblygiadau ariannol, a dywedodd mai’r gyllideb a osodwyd ar gyfer cydnabyddiaeth ariannol Aelodau Etholedig yn 2020-2021 oedd £1,152,930 ac y byddai cost ychwanegol gofal yn cael ei thalu o’r gyllideb bresennol.

 

Gofynnodd Aelod pe byddai hawliadau’n cael eu gwneud, a fyddent yn gyfrinachol.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai hawliadau’n gyfrinachol o ran manylion personol. Ychwanegodd mai’r unig gyhoeddiad fyddai cyfanswm cost gofal fel ystadegyn, yn hytrach na phwy a’i hawliodd.

 

Gofynnodd Aelodau pe gallai pecynnau sefydlu Aelodau yn y dyfodol gynnwys mwy o wybodaeth am hawlio, fel bod Aelodau’n llwyr ddeall y broses ac yn gallu gwneud defnydd llawn ohoni pe byddai angen.

 

Gofynnodd Aelod am eglurhad yngl?n â ph’un a ellid ystyried bod rhiant-cu yn brif ofalwr, oherwydd bod wyrion ac wyresau gan lawer o gynghorwyr.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor wedi ystyried y gyfres o egwyddorion ar gyfer Ad-dalu Costau Gofal ac wedi ymateb yn unol â hynny i Adroddiad Atodol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

 

179.

Diogelwch Personol Cynghorwyr pdf eicon PDF 70 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn rhoi arweiniad i Gynghorwyr ar faterion Diogelwch Personol a Gweithio’n Unigol.

 

Dywedodd y dylai Cynghorwyr fod yn effro i’r risgiau sy’n gysylltiedig wrth gyflawni eu rôl, gan gynnwys;

  • Ymweld â phobl yn eu cartrefi;
  • Derbyn galwyr i’ch cartrefi;
  • Cynnal cymorthfeydd;
  • Teithio; a
  • Chyfathrebu ar-lein.

 

Dywedodd hefyd fod canllaw defnyddiol ar gael yngl?n â diogelwch personol llywodraethwyr a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sydd â’r nod o helpu cynghorwyr i gyflawni eu rôl yn ddiogel ac yn effeithiol. Roedd y canllaw hwn yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd mai diben y canllaw oedd amlinellu pa fesurau diogelwch personol y gellid eu cymryd i atal ac ymdrin ag amgylchiadau prin y gallai Cynghorydd eu hwynebu sy’n peri iddo bryderu am ei ddiogelwch.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd hefyd at bryderon rhai Cynghorwyr yngl?n â chyhoeddi eu cyfeiriadau cartref ar wefan y Cyngor. Esboniodd pe byddai Cynghorydd eisiau i’w gyfeiriad cartref gael ei ddileu o’r wefan, y dylai gysylltu â’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd a fyddai’n trefnu iddo gael ei ddileu. Ychwanegodd y dylai eu cyfeiriad e-bost a’u rhif ffôn aros ar y wefan i ganiatáu i aelodau’r cyhoedd gysylltu â nhw.

 

Dywedodd Aelod fod yr Atodiad yn datgan y dylai manylion cysylltu mewn argyfwng gael eu rhoi i’r Gwasanaethau Democrataidd. Gofynnodd a allai’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd gadarnhau beth oedd yn cael ei wneud â’r manylion hyn.

 

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod y manylion hyn ar gyfer cofnodion y Timau Gwasanaethau Democrataidd yn unig mewn argyfwng, ac nad oeddent yn cael eu cyhoeddi.

 

Gofynnodd y Pwyllgor p’un a ellid cadarnhau pa fanylion cyswllt yr hoffai Aelodau iddynt gael eu harddangos ar y wefan, gan efallai nad yw llawer o Aelodau’n ymwybodol bod eu manylion yn cael eu cyhoeddi o hyd. Yna, gallai Aelodau nad oeddent eisiau i fanylion penodol gael eu cyhoeddi anfon neges e-bost at y Gwasanaethau Democrataidd yn gofyn iddynt ddelio â’r mater yn unol â hynny.

 

PENDERFYNWYD: Bod yr Aelodau’n nodi cynnwys yr adroddiad a’r canllaw yngl?n â Diogelwch Personol Cynghorwyr ac y dylai’r canllaw Diogelwch Personol Cynghorwyr gael ei anfon at bob Cynghorydd trwy e-bost.

 

180.

Atgyfeiriadau Aelodau pdf eicon PDF 73 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar berfformiad Atgyfeiriadau Aelodau.

 

Esboniodd mai atgyfeiriad yw achwyniad, cais neu ymholiad yr oedd Cynghorydd wedi’i dderbyn gan etholwr ac yr oedd y tîm Gwasanaethau Democrataidd wedi’i anfon ymlaen wedi hynny i’r adran berthnasol neu’r sefydliad allanol perthnasol i roi sylw iddo. Ychwanegodd fod y broses hon yn cael ei chynnal fel bod pob rhan o’r broses atgyfeirio’n cael ei chofnodi ac yn sicrhau bod ymateb yn cael ei dderbyn erbyn terfyn amser cytunedig.


Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd dabl i’r Aelodau a oedd yn amlinellu nifer yr atgyfeiriadau a wnaed rhwng 1 Mawrth 2019 a 29 Chwefror 2020 fesul cyfarwyddiaeth, a’r graddfeydd amser y’u cwblhawyd ynddynt. Roedd y tabl hwn yn adran 4.1.2 yr adroddiad.

 

Gofynnodd Aelod a oedd modd o roi adborth yngl?n â’r ymatebion a roddwyd i atgyfeiriad, gan ei bod hi wedi derbyn ymatebion sawl gwaith nad oeddent yn briodol. Cytunodd Aelod nad oedd ymatebion rhai adrannau cystal ag eraill. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod y system atgyfeiriadau wrthi’n cael ei hadolygu ac y byddai’r adolygiad yn archwilio unrhyw gyfleoedd i wella’r system bresennol. Ychwanegodd fod ffurflen atgyfeirio ar-lein wrthi’n cael ei datblygu gan yr adran TGCh.

 

 

Dywedodd Aelod fod system debyg i’r system atgyfeirio a oedd eisoes yn cael ei defnyddio gan Aelodau Seneddol yng Nghymru. Gofynnodd a ellid archwilio hyn.

 

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod Bwrdd y Prosiect wedi mynychu arddangosiad o system gwaith achos, ond bod y system yn rhy ddrud.

 

Cyfeiriodd Aelod at amseroedd ymateb nifer o’r atgyfeiriadau, gan ddweud mai dim ond tua 60% o’r atgyfeiriadau yr ymatebwyd iddynt o fewn yr 20 niwrnod. Ychwanegodd fod angen cynyddu’r pwyslais ar gwblhau mwy o atgyfeiriadau o fewn y cyfnod 20 niwrnod hwnnw.

 

Ychwanegodd Aelod y byddai’n well ganddi weld y cyfnod 10 niwrnod yn cael ei ymestyn i 15 niwrnod, sef y cyfnod sydd ar waith yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf, a chredai y byddai’r amser hwy yn caniatáu ymateb mwy trwyadl, yn hytrach nag un brysiog, o bosibl.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y gallai’r graddfeydd amser gael eu hadolygu yn y dyfodol pe byddai angen.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn nodi cynnwys yr adroddiad. 

 

181.

Rhaglen Datblygu Aelodau pdf eicon PDF 101 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar ddarparu Rhaglen Hyfforddi a Datblygu Aelodau’r Cyngor a gweithgareddau cysylltiedig. Ychwanegodd mai diben hyn hefyd oedd gofyn am gynigion ar gyfer unrhyw bynciau i’w cynnwys yn y rhaglen.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y Sesiynau Hyfforddi a Datblygu Aelodau, y Sesiynau Briffio Cyn-Gyngor a Sesiynau Hyfforddi’r Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 17 Hydref 2019. Rhestrwyd y rhain yn y tabl yn adrannau 4.1, 4.2 a 4.3 yr adroddiad. 

 

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod y sesiynau briffio cyn-gyngor a drefnwyd ar gyfer y dyfodol fel a ganlyn:

 

  • 9 Mawrth 2020: Credyd Cynhwysol
  • 11 Mawrth 2020: Trosglwyddo Asedau Cymunedol
  • 8 Ebrill 2020: Newidiadau i’r Cwricwlwm Newydd
  • 17 Mehefin 2020: Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr
  • 16 Medi 2020: Trefniadau Teithio Ôl-16 a Dysgwyr

 

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod Sesiynau Hyfforddi’r Pwyllgor Rheoli Datblygu a drefnwyd ar gyfer y dyfodol fel a ganlyn:

 

  • 9 Ebrill 2020: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2016 a Pholisi Cynllunio Cymru 10 – Cyfeiriad Teithio

 

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod y sesiynau Hyfforddi a Datblygu Aelodau a drefnwyd ar gyfer y dyfodol fel a ganlyn:

 

  • 22 Ebrill 2020: Sgiliau Holi wrth Graffu
  • 22 Ebrill 2020: Sgiliau Cadeirio wrth Graffu
  • Defnyddio Mapiau Pontio – i’w gadarnhau
  •  

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gofyn i sesiwn hyfforddi gael ei threfnu ar Ddiogelu, ond nad oedd y dyddiad wedi’i gadarnhau eto.

 

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod y pwyllgor wedi cael gwybod am ddatblygiad modiwlau e-ddysgu cenedlaethol mewn cyfarfod blaenorol. Roedd gwaith yn mynd rhagddo ar hyn a disgwyliwyd iddo gael ei ddarparu ym mis Medi 2020.

 

Esboniodd fod nifer o gyrsiau e-ddysgu wedi cael eu darparu ers dechrau’r tymor presennol. Roedd y cyrsiau e-ddysgu canlynol wedi cael eu cwblhau gan aelodau:

 

  • Sefydlu Corfforaethol (11 Aelod)
  • Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (4)
  • Cyfarpar Sgrîn Arddangos (3)
  • Ymwybyddiaeth o Ddiogelwch Tân (4)
  • Cod Ymddygiad TGCh (9)
  • Diogelu Plant ac Oedolion (14)
  • Trais yn erbyn Menywod, Trais Domestig a Thrais Rhywiol (3)

 

Ychwanegodd fod dwy sesiwn galw heibio wedi cael eu trefnu, a hwyluswyd gan y Tîm Dysgu a Datblygu, i gynorthwyo Aelodau er mwyn eu hannog i wneud mwy o ddefnydd o’r Modiwlau E-ddysgu sydd ar gael. Trefnwyd y sesiynau hyn rhwng 17 Mawrth ac 1 Ebrill 2020 yn yr Ystafell TG, Ravens Court, a gellid eu mynychu unrhyw bryd rhwng 9:30am a 3:00pm.

 

Gofynnodd Aelod a oedd modd manteisio ar y sesiynau hyn mewn man arall heblaw am swyddfeydd y Cyngor. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y gallent fanteisio ar y rhain o’u cartrefi eu hunain os oeddent yn dymuno.

 

Croesawodd Aelod y sesiynau hyfforddi gan nad oedd yn si?r pa fodiwlau yr oedd angen eu cwblhau. Gofynnodd hefyd a ellid ffonio Aelodau i gadarnhau eu bod yn gallu cyrchu’r Modiwlau E-ddysgu ac i’w cynorthwyo os oedd angen.

 

Dywedodd Aelod fod nifer o negeseuon e-bost sothach yn ymddangos yn y blwch  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 181.

182.

Gweddarlledu Cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet a Phwyllgorau pdf eicon PDF 83 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad i’r pwyllgor ar y trefniadau ar gyfer gweddarlledu cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet a Phwyllgorau, ac yn rhoi safbwyntiau ar ba gyfarfodydd y dylid eu gweddarlledu.

 

Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr ystadegau gweddarlledu ar gyfer y blynyddoedd 2018/19 a 2019/20 a oedd yn dangos Gwylio’n Fyw, Gwylio Ar Gais, a Chyfanswm Gwylio ar gyfer pob cyfarfod a weddarlledwyd. Rhestrir y tablau ar gyfer y blynyddoedd unigol isod:

 

Gweddarlledu cyfarfodydd 2018/19

 

Dyddiad

Enw’r Cyfarfod

Gwylio’n Fyw

Gwylio Ar Gais

Cyfanswm Gwylio

1

30-Awst-18

Pwyllgor Rheoli Datblygu

38

51

89

2

17-Medi-18

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 3

11

131

142

3

16–Hyd-18

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 1

0

42

42

4

18-Hyd-18

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 2

22

47

69

5

18-Rhag-18

Cabinet

27

31

58

6

03-Ion-19

Pwyllgor Rheoli Datblygu

10

28

38

7

14-Chwef-19

Pwyllgor Rheoli Datblygu

70

72

142

8

25-Chwef-19

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 3

6

10

16

9

18-Maw-19

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 3

10

32

42

10

19-Maw-19

Pwyllgor Rheoli Datblygu

55

120

175

Niferoedd Gwylio ar Gyfartaledd

25

56

81

Cyfanswm Niferoedd Gwylio

249

564

813

 

 

 

Gweddarlledu cyfarfodydd 2019/20

 

Dyddiad

Enw’r Cyfarfod

Gwylio’n Fyw

Gwylio Ar Gais

Cyfanswm Gwylio

1

29-Ebr-19

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 1

3

49

52

2

09-Mai-19

Pwyllgor Rheoli Datblygu

6

29

35

3

04-Meh-19

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 1

42

64

106

4

03-Gorff-19

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 2

4

31

35

5

05Medi-19

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 3

15

52

67

6

13-Tach-19

Cabinet Arbennig

133

360

493

7

05-Rhag-19

Pwyllgor Rheoli Datblygu

3

18

21

8

16-Ion-20

Pwyllgor Rheoli Datblygu

17

23

40

9

27-Chwef-20

Pwyllgor Rheoli Datblygu

9

8

17

Niferoedd Gwylio ar Gyfartaledd

26

70

96

Cyfanswm Niferoedd Gwylio

232

634

866

 

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod amryw flaengynlluniau gwaith a rhaglenni gwaith pwyllgor wedi cael eu hadolygu gyda’r bwriad o gadarnhau pa gyfarfodydd y cynigir eu gweddarlledu yn ystod y tri mis nesaf. Ychwanegodd fod y cynigion wedi cael eu datblygu gan roi ystyriaeth i eitemau y tybiwyd eu bod o ddiddordeb sylweddol i’r cyhoedd. Cynigiwyd gweddarlledu’r cyfarfodydd canlynol:

 

  • Cyfarfod Cyfunol Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 1 a 2 – 19 Mawrth 2020 (Trefniadau Teithio Dysgwyr ac Addysg Ôl-16)
  • Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 3 – 23 Mawrth 2020 (Gweithio Tuag at Ben-y-bont ar Ogwr Ddi-blastig)
  • Pwyllgor Rheoli Datblygu – 9 Ebrill 2020
  • Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 3 – 27 Ebrill 2020 (Rheoli Gwastraff / Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu)
  •  

Esboniodd Aelod fod problem wedi codi yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor lle’r oedd cyflwyniad Skype wedi’i drefnu gan unigolyn gwadd. Esboniodd nad oedd modd defnyddio Siambr y Cyngor ar gyfer y trefniant hwn ac y bu’n rhaid symud y cyfarfod i’r Ystafelloedd Pwyllgor, a achosodd oedi a dryswch. Gofynnodd a ellid ystyried datblygu system lle’r oedd modd i wahoddedigion a Chynghorwyr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 182.

183.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad. 

Cofnodion:

Dim.