Agenda, decisions and minutes

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Mercher, 4ydd Tachwedd, 2020 10:00

Lleoliad: remotely via Skype for Business

Cyswllt: Gwasanaethau Democratidd 

Nodyn: Nodyn: Sylwch: Yn sgil yr angen i gadw pellter cymdeithasol, ni fydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal yn ei leoliad arferol. Yn hytrach, bydd hwn yn gyfarfod rhithwir a bydd Aelodau'r Cyngor a Swyddogion yn mynychu o bell. Bydd y cyfarfod yn cael ei recordio i’w ddarlledu ar wefan y Cyngor cyn gynted ag sy'n ymarferol ar ôl y cyfarfod. Os oes gennych unrhyw gwestiwn am hyn, cysylltwch â cabinet_committee@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 01656 643147 / 643148. 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

184.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Datganodd pob Aelod fuddiant personol yn eitem 4 ar yr agenda - Adroddiad Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2021/2022 – gan eu bod i gyd yn derbyn cydnabyddiaeth ariannol.

 

185.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 94 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 12/03/2020

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:   Bod cofnodion cyfarfod 12/03/2020 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir

 

186.

Adroddiad drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2021/2022 pdf eicon PDF 89 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn rhoi gwybod i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am Adroddiad Blynyddol drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol mewn perthynas â lefel ac ystod y gydnabyddiaeth ariannol y mae'n rhaid i'r Awdurdod ei darparu i'w Aelodau ar gyfer blwyddyn 2021/2022 y Cyngor.

 

Gofynnodd i'r Pwyllgor hefyd roi unrhyw sylwadau ac argymhellion i'r Cyngor mewn perthynas ag Adroddiad Blynyddol Drafft 2021/2022.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd mai 2021/2022 oedd trydydd Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel), a'r degfed a gyhoeddwyd o dan ofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (sydd wedi'i atodi fel Atodiad 1). Estynnodd y Mesur gyfrifoldebau'r Panel a'i bwerau o dan Adran 142 i benderfynu (rhagnodi) taliadau i aelodau awdurdodau perthnasol.

 

Ychwanegodd fod cynrychiolwyr y Panel wedi cynnal cyfarfodydd ymgynghori o bell ar eu cynigion, a fynychwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Phennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

 

Dangoswyd penderfyniadau Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2021 yn Atodiad 2 i'r adroddiad.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd er bod cyfyngiadau ariannol ar y sector cyhoeddus yn parhau, bod y Panel o'r farn bod cyfiawnhad dros gynnydd yn y cyflog sylfaenol a'i fod wedi cynnig cynnydd o £150 y flwyddyn (1.06%) i'r cyflog sylfaenol ar gyfer aelodau’r prif gynghorau o 1 Ebrill 2021. Mae'r cynnydd arfaethedig a gymhwysir at gyflog sylfaenol aelodau’r prif gynghorau yn cydnabod y dyletswyddau sylfaenol a ddisgwylir gan bob Aelod Etholedig.  Y cyflog sylfaenol yn 2021/2022 ar gyfer Aelodau Etholedig y prif gynghorau fydd £14,368, a dangoswyd hyn ym Mhenderfyniad 1.   

 

Yn yr un modd, mae'r Panel wedi penderfynu y byddai cyflogau uwch yn cael eu cynyddu ar yr un gyfradd â chyflogau sylfaenol sef 1.06%, a ddangoswyd ym Mhenderfyniad 2.  Ychwanegodd na fyddai unrhyw godiadau ychwanegol yn cael eu talu i ddeiliaid cyflog uwch yn 2021/2022.  Roedd y Panel yn ystyried bod Arweinwyr ac aelodau'r weithrediaeth yn cario'r atebolrwydd unigol mwyaf.  Cynigiodd y Panel gynyddu cyflogau'r Bwrdd Gweithredol, Cadeiryddion Pwyllgorau ac Arweinydd y Gr?p i'r lefelau canlynol:

 

Uwch gyflogau (gan gynnwys cyflog sylfaenol)

Yr Arweinydd

£49,974

Dirprwy arweinydd

£35,320

Aelodau gweithredol

£30,773

Cadeiryddion pwyllgorau (os cânt gydnabyddiaeth ariannol):

£23,161

Arweinydd y gr?p gwrthblaid mwyaf3

£23,161

Arweinydd grwpiau gwleidyddol eraill

£18,108

Penderfynodd y Panel hefyd ym Mhenderfyniad 3 y dylid talu cyflogau dinesig fel a ganlyn:

 

 

Cyflogau dinesig (gan gynnwys cyflog sylfaenol)

Y Maer

£23,161

Yr Arglwydd Faer

£18,108          

 

 

 

 

Gofynnodd Aelod mewn perthynas â thudalen 34, adran 3.22 o'r adroddiad lle mae'n nodi y dylai Aelodau eisoes ddefnyddio gwasanaethau e-bost electronig a'r gallu i gael gafael ar wybodaeth yn electronig, beth oedd barn yr Aelodau am hyn. Ychwanegodd bod angen i Aelodau weithio gartref yn ystod Pandemig Covid-19. A oedd disgwyl i Aelodau fod â chyfleusterau’r rhyngrwyd yn eu lle, neu a oedd yr Aelodau'n teimlo bod angen iddynt sefydlu hyn o ganlyniad i Covid-19.

 

Trafododd y Pwyllgor y pwynt hwn a daeth i'r casgliad bod cyfleusterau rhyngrwyd priodol yn rhywbeth y byddai Aelodau eisoes wedi'i gael cyn Pandemig Covid-19, a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 186.

187.

Rhaglen Datblygu Aelodau pdf eicon PDF 118 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a'i ddiben oedd rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu Rhaglen Hyfforddi a Datblygu Aelodau'r Cyngor a gweithgareddau cysylltiedig. Ychwanegodd mai'r diben oedd gofyn hefyd am unrhyw bynciau i'w cynnwys ar y rhaglen.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd Sesiynau Hyfforddi a Datblygu Aelodau, Sesiynau Briffio Cyn-Gyngor a Sesiynau Hyfforddi'r Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ers y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd diwethaf ar 17 Hydref 2019. Rhestrwyd y rhain yn y tabl yn 4.1, 4.2 a 4.3 yr adroddiad. 

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y sesiynau briffio cyn-gyngor a drefnwyd ar gyfer y dyfodol, sef:

 

  • 18 Tachwedd 2020: Ymgynghoriad ar y Gyllideb
  • 16 Rhagfyr 2020: Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr
  • I’w gadarnhau: Newidiadau i'r Cwricwlwm Newydd

 

 

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd Sesiynau Hyfforddi Pwyllgor Rheoli Datblygu a drefnwyd ar gyfer y dyfodol a oedd wedi'u hamserlennu fel a ganlyn:

 

  • 10 Rhagfyr 2020: Y wybodaeth ddiweddaraf am Faterion Cynllunio Rhanbarthol/Cymru ac Adnoddau'r Gwasanaeth Cynllunio
  •  

 

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y sesiynau Hyfforddi a Datblygu Aelodau Arfaethedig ar gyfer y dyfodol a drefnwyd fel a ganlyn:

 

  • · 5 Tachwedd 2020 – Hyfforddiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
  • 25 Tachwedd 2020 - Sgiliau Cadeirio Craffu
  • 30 Tachwedd 2020 - Sgiliau Cwestiynu Craffu
  • Defnyddio Mapiau Pontydd – I'w gadarnhau
  • Diogelu -  I’w gadarnhau
  • Canlyniadau Addysg – I'w gadarnhau

 

 

Esboniodd fod nifer o gyrsiau E-ddysgu wedi'u darparu ers dechrau'r tymor presennol. Roedd yr E-ddysgu canlynol wedi'i gwblhau gan aelodau:

 

  • Ymsefydlu Corfforaethol (11 Aelod)
  • Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data (4)
  • Offer Sgriniau Arddangos (3)
  • Ymwybyddiaeth o Ddiogelwch Tân (4)
  • Cod Ymddygiad TGCh (9)
  • Diogelu Plant ac Oedolion (14)
  • Trais yn erbyn menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

 

Cyn hynny, cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr Aelodau at y modiwl E-ddysgu a oedd i'w gyflwyno ar sail Cymru gyfan. Cadarnhaodd fod fersiwn drafft y modiwl hyfforddi wedi'i gwblhau a'i fod wedi'i dreialu gan Gadeirydd y pwyllgor hwn. Roedd y Cadeirydd wedi ymgymryd â'r hyfforddiant ac wedi awgrymu nifer o newidiadau a oedd i fod i gael eu gwneud cyn cyflwyno fersiwn derfynol y modiwl hyfforddi. Gofynnodd a oedd gan Aelodau'r pwyllgor hwn ddiddordeb mewn ymgymryd â'r modiwl hyfforddi hwn, byddai'n cysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn ogystal ag Academi Wales wedi darparu rhai canllawiau defnyddiol ar amrywiaeth o bynciau, y cynhwyswyd dolenni i'r rhain yn adran 4.7.6 o'r adroddiad.

 

Gofynnodd Aelod a ellid cynnwys cyflwyniad ar Iechyd Meddwl fel Briff Cyn-Gyngor.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd pe bai gan Aelodau unrhyw bynciau pellach i'w hychwanegu, y dylent ei e-bostio ef neu'r tîm ar unrhyw adeg gydag awgrymiadau.

 

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd:

 

  • wedi nodi cynnwys yr adroddiad; a
  • Darparu pynciau ychwanegol ar gyfer sesiynau briffio cyn-gyngor, Sesiynau Datblygu Aelodau a Modiwlau E Ddysgu.

 

188.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad. 

Cofnodion:

Dim