Agenda a Chofnodion

Is-Bwyllgor Trwyddedu (A) - Dydd Iau, 21ain Medi, 2017 10:00

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

48.

Datganiadau o Fuddiant

To receive declarations of personal and prejudicial interest (if any) from Members/Officers in accordance with the provisions of the Members Code of Conduct adopted by Council from 1 September 2008.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd DRW Lewis fuddiant personol yn Eitem 12 yr Agenda, gan ei fod yn adnabod yr ymgeisydd.

 

Datganodd y Cynghorydd S Baldwin fuddiant personol yn Eitem 11 yr Agenda, gan ei fod yn adnabod yr ymgeisydd.

49.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 77 KB

To receive for approval the Minutes of meetings of the Licensing Act 2003 Sub-Committee dated 27 March and 23 May 2017

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     Cymeradwyo’r Cofnodion ar gyfer cyfarfodydd Is-bwyllgor Deddf Drwyddedu 2003 dyddiedig 27 Mawrth a 23 Mai 2017, yn gofnod gwir a chywir.

50.

Cais i Drwyddedu Cerbyd Hurio Preifat pdf eicon PDF 88 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth adroddiad yn gofyn i’r Is-bwyllgor ystyried cais i gymeradwyo trwydded ar gyfer Cerbyd Hurio Preifat.

 

Dywedodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu wrth yr Aelodau fod cais yn cael ei wneud gan David Llewellyn T/A Executive Cars Wales, i drwyddedu cerbyd Mercedes Sprinter, rhif cofrestru WR64 KUF, yn Gerbyd Hurio Preifat ar gyfer 8 o bobl. Cerbyd ail law oedd hwn a gafodd ei gofrestru gyntaf yn y DVLA ar 30 Medi 2014.

 

Dywedodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu hefyd wrth yr Is-bwyllgor nad yw’r cais yn cydymffurfio â’r Polisi Cerbydau Hurio Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Nid yw’r cerbyd yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Serch hyn, ceir canllawiau polisi penodol sy’n berthnasol i drefniadau trwyddedu cychwynnol ar gyfer Cerbydau Hurio Preifat nad ydynt yn cydymffurfio â’r canllawiau polisi, ac mae manylion hyn ym mharagraff 4.4 yr adroddiad.

 

Yna, aeth yr Aelodau a’r Swyddogion i weld y cerbyd a oedd wedi’i barcio yn y maes parcio o dan y Swyddfeydd Dinesig.

 

Ar ôl dychwelyd i’r cyfarfod, dywedodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu wrth yr Is-bwyllgor fod 27,410 o filltiroedd ar gloc y cerbyd ar hyn o bryd.

 

Cadarnhaodd Mr Llewellyn wrth yr Aelodau fod gan y cerbyd Dystysgrif Cydymffurfiaeth gan y DVLA ar gyfer yr addasiadau.

 

O ran cofnod gwasanaethau y cerbyd, dywedodd Mr Llewellyn ei fod wedi anfon neges e-bost i’r Adran Drwyddedu ar 4 Medi yngl?n â hyn. Dywedwyd bod yn rhaid i’r cerbyd gael gwasanaeth bob 25,000 milltir ac y gwnaed y gwasanaeth diwethaf cyn iddo brynu’r cerbyd a bod rhyw 16,700 o filltiroedd ar gloc y cerbyd ar y pryd. Nid oedd y gwasanaeth nesaf yn angenrheidiol nes bod y cerbyd wedi teithio 14,000 milltir arall.

 

O ran defnydd y cerbyd, cadarnhaodd Mr Llewellyn fod gan Executive Cars Wales fflyd o gerbydau pen uchaf y farchnad a bod cwmnïau yn defnyddio’r rhain ar gyfer gwaith corfforaethol. Ychwanegodd fod cludiant gweithredol i 8 o bobl yn fwyfwy poblogaidd erbyn hyn.

 

Cadarnhaodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu fod paragraff 2.2.5 o’r Polisi Trwyddedu yn caniatáu ar gyfer llacio canllawiau’r polisi mewn amgylchiadau eithriadol pan ystyrir bod hynny’n briodol, ar gyfer trefniadau trwyddedu cychwynnol  Cerbydau Hurio Preifat.

 

Aeth yr Aelodau i ffwrdd wedyn i ystyried y cais, ac ar ôl dychwelyd

 

PENDERFYNWYD:         Ystyriodd yr Is-bwyllgor y cais a wnaed gan Mr Llewellyn i drwyddedu cerbyd, rhif cofrestru WR64 KUF, yn Gerbyd Hurio Preifat.

 

                                         Nododd yr Is-bwyllgor nad yw’r cerbyd yn cydymffurfio â pharagraff 2.1 o'r Polisi Trwyddedu. O dan baragraff 2.2.5 o’r polisi, ceir cymeradwyo Trwydded mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn yr achos hwn, mae’r Is-bwyllgor wedi penderfynu y bodlonir yr amgylchiadau hyn am y rhesymau canlynol:

 

1.    Safon ragorol y cerbyd tu fewn a thu allan.

2.    Y safonau diogelwch rhagorol.

 

                                         Felly, cymeradwyodd yr Is-bwyllgor y Drwydded.

51.

Cais i Drwyddedu Cerbyd Hurio Preifat pdf eicon PDF 87 KB

Cofnodion:

Dywedodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu, mewn cysylltiad â’r cais i drwyddedu Ford Transit Tourneo Custom, rhif cofrestru WR64 YDC, yn Gerbyd Hurio Preifat ar gyfer 8 o bobl, fod yr ymgeisydd, Mr Richard Phillips wedi dweud wrth yr Adran Drwyddedu nad oedd yn gallu dod i’r cyfarfod heddiw oherwydd ei fod ar ei wyliau.

 

Yn sgil yr wybodaeth hon,

 

PENDERFYNWYD:       Gohirio’r cais gan Mr Phillips am drwydded Cerbyd Hurio Preifat ar gyfer y cerbyd uchod tan gyfarfod nesaf yr Is-bwyllgor, gan nad oedd yr ymgeisydd yn bresennol.

52.

Cais i Drwyddedu Cerbyd Hurio Preifat pdf eicon PDF 87 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth adroddiad yn gofyn i’r Is-bwyllgor ystyried cais i gymeradwyo trwydded ar gyfer Cerbyd Hurio Preifat.

 

Dywedodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu wrth yr Aelodau fod cais yn cael ei wneud gan Andrew Bowler, i drwyddedu Ford Mondeo Titanium B-S Edn TDCI, rhif cofrestru CK14 PYB, yn Gerbyd Hurio Preifat ar gyfer 4 o bobl. Cerbyd ail law oedd hwn a gafodd ei gofrestru gyntaf yn y DVLA ar 9 Mai 2014.

 

Dywedodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu hefyd wrth yr Is-bwyllgor nad yw’r cais yn cydymffurfio â’r Polisi Cerbydau Hurio Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Nid yw’r cerbyd yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Serch hyn, ceir canllawiau polisi penodol sy’n berthnasol i drefniadau trwyddedu cychwynnol ar gyfer Cerbydau Hurio Preifat nad ydynt yn cydymffurfio â’r canllawiau polisi, ac mae manylion hyn ym mharagraff 4.4 yr adroddiad.

 

Yna, aeth yr Aelodau a’r Swyddogion i weld y cerbyd a oedd wedi’i barcio yn y maes parcio o dan y Swyddfeydd Dinesig.

 

Ar ôl dychwelyd i’r cyfarfod, dywedodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu wrth yr Is-bwyllgor fod 38,332 milltir ar gloc y cerbyd ar hyn o bryd.

 

Cadarnhaodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu fod cofnod gwasanaethau wedi’i ddarparu a oedd yn cadarnhau bod 34,285 milltir ar y cloc ar 2 Mai 2017.

 

Dywedodd Mr Bowler ei fod wedi prynu’r cerbyd 3 wythnos yn ôl gan brif ddeliwr Ford, a’i fod wedi ystyried y cerbyd o safon dda a digon o le y tu mewn iddo ar gyfer teithwyr. Ychwanegodd fod nifer o nodweddion diogelwch yn y cerbyd hefyd.

 

Pan ofynnwyd pa fath o waith tacsi yr oedd Mr Bowler yn bwriadu ei wneud pe gymeradwywyd ei gais, atebodd y byddai’n gweithio i gwmni o’r enw With-Driven fel gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat.

 

Cadarnhaodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu fod paragraff 2.2.5 o’r Polisi Trwyddedu yn caniatáu ar gyfer llacio canllawiau’r polisi mewn amgylchiadau eithriadol pan ystyrir bod hynny’n briodol, ar gyfer  trefniadau trwyddedu cychwynnol Cerbydau Hurio Preifat.

 

Aeth yr Aelodau i ffwrdd wedyn i ystyried y cais, ac ar ôl dychwelyd

 

PENDERFYNWYD:         Ystyriodd yr Is-bwyllgor y cais a wnaed gan Mr Bowler i drwyddedu cerbyd, rhif cofrestru CK14 PYB, yn Gerbyd Hurio Preifat.

 

                                         Nododd yr Is-bwyllgor nad yw’r cerbyd yn cydymffurfio â pharagraff 2.1 o'r Polisi Trwyddedu oherwydd oedran y cerbyd.

 

                                          O dan baragraff 2.2.5 o’r polisi, ceir cymeradwyo Trwydded mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn yr achos hwn, mae’r Is-bwyllgor wedi penderfynu y bodlonir yr amgylchiadau hyn am y rhesymau canlynol:

 

1.    Safon ragorol y cerbyd tu fewn a thu allan.

2.    Y safonau diogelwch rhagorol.

 

                                         Felly, cymeradwyodd yr Is-bwyllgor y Drwydded.                                          

53.

Cais i Drwyddedu Cerbyd Hacnai pdf eicon PDF 78 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth adroddiad yn gofyn i’r Is-bwyllgor ystyried cais i gymeradwyo trwydded ar gyfer Cerbyd Hacnai.

 

Dywedodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu wrth yr Aelodau fod cais yn cael ei wneud gan Paul Brain t/a Peyton Travel Ltd, i drwyddedu Dacia Logan, rhif cofrestru FG15 XBP, yn Gerbyd Hacnai ar gyfer 4 o bobl. Cerbyd ail law oedd hwn a gafodd ei gofrestru gyntaf yn y DVLA ar 17 Ebrill 2015.

 

Nid yw’r cais yn cydymffurfio â’r Polisi Cerbydau Hacnai a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Nid yw’r cerbyd yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Serch hyn, ceir canllawiau polisi penodol sy’n berthnasol i drefniadau trwyddedu cychwynnol ar gyfer Cerbydau Hacnai nad ydynt yn cydymffurfio â’r canllawiau polisi, ac mae manylion hyn ym mharagraff 4.4 y adroddiad.

 

Yna, aeth yr Aelodau i archwilio’r cerbyd a oedd wedi’i leoli yn y maes parcio o dan y Swyddfeydd Dinesig.

 

Ar ôl dychwelyd i’r cyfarfod, dywedodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu wrth yr Is-bwyllgor fod 24,380 milltir ar gloc y cerbyd ar hyn o bryd.

 

Yna, gofynnodd i Mr Griffiths, a oedd yn y cyfarfod ar ran Mr Brain, am rywfaint o hanes y cerbyd er mwyn yr Aelodau.

 

Dywedodd fod Mr Brain wedi prynu’r cerbyd yn breifat ac mai un perchennog blaenorol oedd ganddo. Cadarnhaodd fod nifer y milltiroedd ar gloc y cerbyd yn isel a’i fod wedi prynu’r cerbyd am bris cystadleuol, ac mai ei fwriad wedyn oedd newid y cerbyd yn fuan, a phrynu cerbyd mwy diweddar yn ei le. Ni fyddai’r dull hwn o brynu/gwerthu yn arwain at gymaint o ymrwymiad ariannol o ran gwariant ar y cerbyd, gan gynnwys y golled yn sgil ei ailwerthu.

 

Gofynnodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu ymhle’r oedd y cerbyd wedi bod yn ystod y 6 mis diwethaf, h.y. rhwng dyddiad ei brynu a dyddiad y cais.

 

Dywedodd Mr Griffiths fod mam Mr Brain wedi bod yn defnyddio’r cerbyd yn y cyfnod hwn.

 

Nododd Aelod fod difrod ar flaen y cerbyd.

 

Dywedodd Mr Griffiths nad oedd y cerbyd wedi bod mewn damwain a bod gan y math hwn o fodel baneli â bolltau ar ei ochrau blaen, a gallai hynny roi’r argraff weithiau nad yw’r ddwy ochr mewn llinell union â’i gilydd. Roedd hyn oherwydd sut cafodd y car ei weithgynhyrchu/ei adeiladu.

 

Gofynnodd i Mr Griffiths a oedd Mr Brain yn ymwybodol o’r ffaith bod y polisi’n datgan bod trwyddedu cychwynnol Cerbydau Hacnai fel arfer ar gyfer cerbydau newydd ac nid cerbydau ail law.

 

Cadarnhaodd Mr Griffiths nad oedd yn gwybod a oedd Mr Brain yn ymwybodol o’r ddarpariaeth hon yn y polisi ai peidio.

 

Nododd un Aelod, ar ôl archwilio’r cerbyd, nad oedd bonet y cerbyd mewn llinell union a bod yr ochr wedi’i chwistrelli â phaent.

 

Dywedodd Mr Griffiths eto fod Mr Brain wedi archwilio’r cerbyd ar adeg yr arwerthiant, a bod hyn wedi datgelu na fu difrod sylweddol i’r cerbyd yn flaenorol, er enghraifft mewn damwain ffordd.

 

Aeth yr Aelodau i ffwrdd wedyn i ystyried y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 53.

54.

Cais i Drwyddedu Cerbyd Hacnai pdf eicon PDF 78 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth adroddiad yn gofyn i’r Is-bwyllgor ystyried cais i gymeradwyo trwydded ar gyfer Cerbyd Hacnai.

 

Dywedodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu wrth yr Aelodau fod cais yn cael ei wneud gan Paul Brain t/a Peyton Travel Ltd, i drwyddedu Dacia Logan, rhif cofrestru GC15 OLA, yn Gerbyd Hacnai ar gyfer 4 o bobl. Cerbyd ail law oedd hwn a gafodd ei gofrestru gyntaf yn y DVLA ar 21 Gorffennaf 2015.

 

Nid yw’r cais yn cydymffurfio â’r Polisi Cerbydau Hacnai a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Nid yw’r cerbyd yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Serch hyn, ceir canllawiau polisi penodol sy’n berthnasol i drefniadau trwyddedu cychwynnol ar gyfer Cerbydau Hacnai nad ydynt yn cydymffurfio â’r canllawiau polisi, ac mae manylion hyn ym mharagraff 4.4 yr adroddiad.

 

Yna, aeth yr Aelodau i archwilio’r cerbyd a oedd wedi’i leoli yn y maes parcio o dan y Swyddfeydd Dinesig.

 

Ar ôl dychwelyd i’r cyfarfod, dywedodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu wrth yr Is-bwyllgor fod 47,848 milltir ar gloc y cerbyd ar hyn o bryd.

 

Yna, gofynnodd i Mr Griffiths, a oedd yn y cyfarfod ar ran Mr Brain, am rywfaint o hanes y cerbyd er mwyn yr Aelodau.

 

Dywedodd fod Mr Brain wedi prynu’r cerbyd yn breifat ac mai un perchennog blaenorol oedd ganddo. Cadarnhaodd fod nifer y milltiroedd ar gloc y cerbyd yn isel a’i fod wedi prynu’r cerbyd am bris cystadleuol, ac mai ei fwriad wedyn oedd newid y cerbyd yn fuan, a phrynu cerbyd mwy diweddar yn ei le. Ni fyddai’r dull hwn o brynu/gwerthu yn arwain at gymaint o ymrwymiad ariannol o ran gwariant ar y cerbyd, ynghyd â’r lefel leiaf bosibl o ddibrisio yn sgil ei ailwerthu.

 

Gofynnodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu ymhle’r oedd y cerbyd wedi bod yn ystod y 6 mis diwethaf, h.y. rhwng dyddiad ei brynu a dyddiad y cais.

 

Dywedodd Mr Griffiths ei fod wedi’i ddefnyddio’n breifat yn ystod y cyfnod hwn.

 

Dywedodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu wrth Mr Griffiths y dylai’r cerbyd fod yn newydd, fel rheol, ar gyfer ei drwyddedu’n gychwynnol fel Cerbyd Hacnai. Ychwanegodd fod y cerbyd, yn debyg i’r un blaenorol a ystyriwyd o dan Eitem 7 yr Agenda, yn dangos arwyddion o draul.

 

Dywedodd Mr Griffiths unwaith eto nad oedd y cerbyd (yn debyg i’r un diwethaf) wedi bod mewn damwain, ac y byddai Mr Brain wedi sicrhau hyn beth bynnag cyn prynu’r cerbyd.

 

Gofynnodd i Mr Griffiths a oedd Mr Brain yn ymwybodol o’r ffaith bod y polisi’n datgan bod trwyddedu cychwynnol Cerbydau Hacnai fel arfer ar gyfer cerbydau newydd ac nid cerbydau ail law.

 

Cadarnhaodd Mr Griffiths nad oedd yn gwybod a oedd Mr Brain yn ymwybodol o’r ddarpariaeth hon yn y polisi ai peidio.

 

Nododd un Aelod, ar ôl archwilio’r cerbyd, nad oedd bonet y cerbyd mewn llinell union a bod yr ochr wedi’i chwistrellu â phaent.

 

Dywedodd Mr Griffiths eto fod Mr Brain wedi archwilio’r cerbyd ar adeg yr arwerthiant, a bod hyn wedi datgelu na fu difrod sylweddol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 54.

55.

Materion Brys

To consider any other item(s) of business in respect of which notice has been given in accordance with Rule 4 of the Council Procedure Rules and which the person presiding at the meeting is of the opinion should by reason of special circumstances be transacted at the meeting as a matter of urgency.

Cofnodion:

Dim.

56.

Eithrio’r Cyhoedd

The reports relating to the following items are not for publication as they

contain exempt information as defined in Paragraph 12 of Part 4 and/or Paragraph 21 of Part 5 of Schedule 12A of the Local Government Act 1972 as amended by the Local Government (Access to Information)(Variation)(Wales) Order 2007.

 

If following the application of the public interest test the Committee resolves pursuant to the Act to consider these items in private, the public will be excluded from the meeting during such consideration.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:       O dan Adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod wrth ystyried yr eitemau busnes canlynol gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth esempt yn unol â’r diffiniad ym Mharagraff 12 o Ran 4 a/neu Baragraff 21 o Ran 5 o Atodlen 12A o’r Ddeddf.

 

                                    Yn dilyn prawf buddiant y cyhoedd, penderfynwyd ystyried yr eitemau canlynol yn breifat ac eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod, yn unol â’r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, oherwydd ystyriwyd ym mhob un o’r amgylchiadau sy’n berthnasol i’r eitemau, fod buddiant y cyhoedd i gadw’r esemptiad yn drech na buddiant y cyhoedd i ddatgelu’r wybodaeth, oherwydd byddai’r wybodaeth yn rhagfarnus i’r ymgeiswyr dan sylw.

</AI8>

 

57.

Ceisiadau i Gymeradwyo Trwyddedau

58.

Ceisiadau i Gymeradwyo Trwyddedau

59.

Ceisiadau i Gymeradwyo Trwyddedau

60.

Ceisiadau i Gymeradwyo Trwyddedau

61.

Ceisiadau i Gymeradwyo Trwyddedau