Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mark Anthony Galvin Senior Democratic Services Officer - Committees
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau. Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd K Edwards a oedd yn ymgymryd â busnes arall yn ymwneud â’r Cyngor. |
|
Datgan buddiannau Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Dim. |
|
Cymeradwyo’r cofnodion PDF 74 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 21/09/2017 & 16/11/2017 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd Is-bwyllgor Trwyddedu ‘A,’ dyddiedig 21 Medi a 16 Tachwedd 2017, fel cofnod cywir. |
|
Cais i drwyddedu Cerbyd Hurio Preifat PDF 88 KB Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaethau adroddiad yn gofyn i’r Is-bwyllgor ystyried cais am drwydded ar gyfer Cerbyd Hurio Preifat.
Cais gan James Bickerstaff oedd hwn, i drwyddedu Renault Trafic Business Class, â’r rhif cofrestru MD15 SXA, fel cerbyd Hurio Preifat i gludo 8 o deithwyr. Roedd y cerbyd yn eiddo i rywun arall cynt ac fe’i cofrestrwyd gyntaf â’r DVLA ar 27 Gorffennaf 2015.
Yna, aeth yr Aelodau a’r swyddogion ati i archwilio’r cerbyd ym maes parcio llawr isaf Siambr y Cyngor, gan ohirio’r cyfarfod er mwyn gwneud hynny.
Ar ôl ailddechrau’r cyfarfod, dywedodd Rheolwr y Tîm (Trwyddedu) fod y cerbyd wedi teithio 17,638 o filltiroedd hyd yma. Ychwanegodd nad oedd y cais yn cydymffurfio â’r Polisi Cerbydau Hurio Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Nid oedd modd cludo cadair olwyn ynddo, ond roedd canllawiau polisi penodol yn ymwneud â thrwyddedu Cerbydau Hurio Preifat am y tro cyntaf nad oeddent yn cydymffurfio â’r canllawiau polisi a amlinellwyd ym mharagraff 4.4. o’r adroddiad. Roedd yr ymgeisydd wedi darparu hanes cynnal a chadw llawn y cerbyd.
Gofynnodd Rheolwr y Tîm (Trwyddedu) i’r ymgeisydd roi braslun o hanes y cerbyd i’r Aelodau.
Cadarnhaodd Mr. Bickerstaff mai cwpl oedrannus oedd unig berchnogion blaenorol y cerbyd ac y byddai’n cael ei ddefnyddio’n bennaf i deithio i’r maes awyr, ac i gludo pobl rhwng Pen-y-bont ar Ogwr i Gaerdydd am ‘noson allan’ etc.
PENDERFYNWYD: Trafododd yr Is-bwyllgor y cais i drwyddedu cerbyd â rhif cofrestru MD15 SXA fel Cerbyd Hurio Preifat.
Nododd yr Is-bwyllgor nad oedd y cerbyd yn cydymffurfio â pharagraff 2.1 o Bolisi Trwyddedu’r Cyngor, a hynny oherwydd ei oed.
Trafododd yr Is-bwyllgor yr amgylchiadau eithriadol o dan baragraff 2.2.5 o’r Polisi ac, oherwydd safon eithriadol y cerbyd ar y tu mewn a’r tu allan, a’r safonau diogelwch eithriadol, cytunodd yr Aelodau i ganiatáu’r cais. |
|
Eitemau brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim. |
|
Gwahardd y cyhoedd Nid oedd y cofnodion ac adroddiadau sy'n ymwneud â'r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 14 a 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).
Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath. .
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod, o dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007, tra oedd yr Is-bwyllgor yn trafod yr eitemau a ganlyn gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth esempt fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 1o Ran 4 a/neu Baragraff 21 o Ran 5 o Atodlen 12A i’r Ddeddf. Arôl cymhwyso’r prawf budd cyhoeddus, penderfynwyd gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod, yn unol â’r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, er mwyn trafod yr eitemau a ganlyn mewn sesiwn breifat, a hynny oherwydd, ym mhob un o’r amgylchiadau’n ymwneud â’r eitemau hyn, ystyriwyd bod y budd cyhoeddus a oedd ynghlwm wrth barhau â’r eithriad yn drech na’r budd cyhoeddus a oedd ynghlwm wrth ddatgelu’r wybodaeth, gan y byddai’r wybodaeth yn niweidiol i’r ymgeiswyr dan sylw. |
|
Cymeradwyaeth Cofnodion wedi’u Eithrio I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion gwahardd cyfarfod y 21/09/2017 and 16/11/2017 |
|
Ceisiadau i Gymeradwyo Trwyddedau |
|
Ceisiadau i Gymeradwyo Trwyddedau |
|
Ceisiadau i Gymeradwyo Trwyddedau |
|
Ceisiadau i Gymeradwyo Trwyddedau |