Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Andrew Rees Senior Democratic Services Officer - Committees
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o fuddiant Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008. Cofnodion: Dim. |
|
Cymeradwyaeth Cofnodion PDF 47 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 18/01/2018 Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod cofnodion cyfarfod yr Is-bwyllgor Trwyddedu ar 12 Ionawr 2018 yn cael eu cymeradwyo yn gofnod gwir a chywir. |
|
Cais am Drwyddedu Cerbyd Llogi Preifat PDF 87 KB Cofnodion: Gwnaethpwyd y cais gan Richard Singleton i drwyddedu Mercedes S350L gyda rhif cofrestru newydd sef G20 UPS (KY63 HLW yn gynt) fel Cerbyd Llogi Preifat ar gyfer 4 person. Nid oedd y cerbyd yn newydd a chafodd ei gofrestru yn y DVLA am y tro cyntaf ar 18 Chwefror 2014.
Yna aeth yr aelodau a’r swyddogion ymlaen i archwilio’r cerbyd oedd ym maes parcio y Swyddfeydd Dinesig, gan ohirio’r cyfarfod at y diben hwn.
Wrth ailddechrau’r cyfarfod, dywedodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) wrth yr Aelodau fod y cerbyd wedi teithio 23,440 milltir hyd yn hyn. Ychwanegodd nad yw’r cais yn berthnasol i’r Polisi Cerbydau Llogi Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Nid oedd y cerbyd yn hygyrch i gadeiriau olwyn, ond roedd canllawiau polisi penodol mewn perthynas â thrwyddedu Cerbydau Llogi Preifat am y tro cyntaf nad oeddent yn cyd-fynd â’r canllawiau polisi wedi’u nodi ym mharagraff 4.4 yr adroddiad. Mae hanes gwasanaeth llawn o’r cerbyd wedi’i roi gan yr ymgeisydd.
Nododd aelod o’r Is-bwyllgor y gwelwyd wrth archwilio’r cerbyd, fod gwadn y teiars wedi’u treulio'n eithriadol a gofynnodd i Mr Singleton beth oedd yn ei wneud am hyn. Ymatebodd Mr Singleton gan ddweud ei fod wedi bwcio i’r teiars gael eu newid nes ymlaen heddiw i dderbyn set newydd o deiars.
PENDERFYNWYD: Ystyriodd yr Is-bwyllgor y cais i drwyddedu'r cerbyd â'r rhif cofrestru G20 UPS fel Cerbyd Llogi Preifat.
Nododd yr Is-bwyllgor nad yw’r cerbyd yn berthnasol i baragraff 2.1 Polisi Trwyddedu’r Cyngor o ganlyniad i’w oedran.
Ystyriodd yr Is-bwyllgor yr amgylchiadau eithriadol dan baragraff 2.2.5 y Polisi, a phenderfynodd, o ganlyniad i ansawdd mewnol ac allanol eithriadol y cerbyd, a’r safonau diogelwch eithriadol, fod yr Aelodau’n cymeradwyo’r cais. |
|
Cais i Drwyddedu Cerbyd Llogi Preifat PDF 87 KB Cofnodion: Gwnaethpwyd y cais gan Forge Travel Limited i drwyddedu Volkswagen Transporter, rhif cofrestru’r cerbyd GJ16 XJP fel Cerbyd Llogi Preifat ar gyfer 8 person. Nid oedd y cerbyd yn newydd a chafodd ei gofrestru yn y DVLA am y tro cyntaf ar 7 Ebrill 2016.
Nid oedd yr ymgeisydd yn gallu bod yn bresennol oherwydd salwch ac anfonodd gynrychiolydd a llythyr ar ei ran i ategu ei gais.
Cafwyd y cyfarfod ei ohirio'n fras i'r aelodau a'r swyddogion archwilio'r cerbyd ym maes parcio'r Swyddfeydd Dinesig.
Wrth ailddechrau’r cyfarfod, dywedodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) wrth yr Aelodau fod y cerbyd wedi teithio 13,906 milltir hyd yn hyn. Ychwanegodd nad yw’r cais yn berthnasol i’r Polisi Cerbydau Llogi Preifat a gymeradwywyd gan yr Is-bwyllgor Trwyddedu. Nid oedd y cerbyd yn hygyrch i gadeiriau olwyn, ond roedd canllawiau polisi penodol mewn perthynas â thrwyddedu Cerbydau Llogi Preifat am y tro cyntaf nad oeddent yn cyd-fynd â’r canllawiau polisi wedi’u nodi ym mharagraff 4.4 yr adroddiad.
Gan fod y cerbyd wedi teithio mwy na 10,000 milltir a’i fod yn fwy nag un flwyddyn, gofynnodd yr aelodau pam nad yw wedi cael gwasanaeth eto. Ymatebodd yr ymgeisydd trwy ddweud bod y cerbyd ar Drefn Gwasanaeth Hyblyg (LongLife Service) sy’n gynllun gan Volkswagen. Mae’r olew a ddefnyddir yn y car yn golygu y gellir defnyddio’r cerbyd am hyd at 18,000 milltir heb wasanaeth (neu 24 mis). Credodd yr ymgeisydd na fydd y cerbyd yn cyrraedd 18,000 cyn mis nesaf.
PENDERFYNWYD: Ystyriodd yr Is-bwyllgor gais i drwydded cerbyd â’r rhif cofrestru GJ16 XJP fel Cerbyd Llogi Preifat.
Nododd yr Is-bwyllgor nad yw’r cerbyd yn berthnasol i baragraff 2.1 Polisi Trwyddedu’r Cyngor o ganlyniad i’w oedran.
Ystyriodd yr Is-bwyllgor yr amgylchiadau eithriadol dan baragraff 2.2.5 y Polisi a phenderfynon nhw , o ganlyniad i ansawdd mewnol ac allanol eithriadol y cerbyd, a'r safonau diogelwch eithriadol, gytuno i gymeradwyo’r cais. |
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad. Cofnodion: Nid oedd dim materion brys. |
|
Gwahardd y Cyhoedd Nid oedd y cofnodion ac adroddiadau sy'n ymwneud â'r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 12 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).
Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Dan Adran 100A(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007, fod y cyhoedd yn cael ei wahardd o’r cyfarfod tra bod yr eitemau busnes hyn yn cael eu hystyried gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth wedi'i heithrio fel y diffinnir ym Mharagraff 12 o Ran 4 a/neu Baragraff 21 o Ran 5 o Atodlen 12A y Ddeddf hon.
Yn dilyn y prawf o fuddiant y cyhoedd, penderfynwyd, yn unol â’r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, ystyried yr eitemau canlynol mewn preifat, gyda’r cyhoedd wedi’i wahardd o’r cyfarfod, gan y ystyriwyd, ym mhob amgylchedd sy’n ymwneud â’r eitemau, y byddai buddiant y cyhoedd mewn cynnal yr eithriad yn drech na fuddiant y cyhoedd mewn datgelu’r wybodaeth, gan y byddai’r wybodaeth yn niweidiol i’r ymgeiswyr wedi sôn amdanynt. |
|
Cymeradwyo’r Cofnodion wedi’u Heithrio I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod 18/01/2018 Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod cofnodion wedi’u heithrio o gyfarfod yr Is-bwyllgor Trwyddedu ar 12 Ionawr 2018 yn cael eu cymeradwyo yn gofnod gwir a chywir. |
|
Ceisiadau i Adnewyddu Trwyddedau |
|
Ceisiadau i Adnewyddu Trwyddedau |
|
Ceisiadau i Gymeradwyo Trwyddedau |
|
Ceisiadau i Gymeradwyo Trwyddedau |
|
Ceisiadau i Gymeradwyo Trwyddedau |
|
Ceisiadau i Gymeradwyo Trwyddedau |
|
Ceisiadau i Gymeradwyo Trwyddedau |