Agenda a Chofnodion

Is-Bwyllgor Trwyddedu (A) - Dydd Mawrth, 25ain Medi, 2018 10:00

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Pitman 

Eitemau
Rhif Eitem

132.

Ethol Cadeirydd

Cofnodion:

Roedd angen i’r aelodau ethol Cadeirydd oherwydd absenoldeb y Cynghorydd David Lewis (Cadeirydd). Cytunodd yr aelodau i ethol y Cynghorydd Stuart Baldwin i’r Gadair.

133.

Ymddiheuriadau oherwydd absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd David Lewis (Cadeirydd) a’r Cynghorydd Richard Collins.

134.

Datgan buddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

135.

Cymerdwyo’r cofnodion pdf eicon PDF 42 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod yr Is-Bwyllgor Deddf Trwyddedu 2003 (A) 12/07/2018 a Cofnodion 31/07/2018 a 14/08/2018

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Cytunwyd bod cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor (A) Deddf Trwyddedu 2003 a gynhaliwyd ar 12/07/2018 a chofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 31/07/2018 a 14/08/2018 yn gywir.

136.

Cais am drwydded ar gyfer Cerbyd Hurio Preifat pdf eicon PDF 89 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad yn gofyn i’r Is-bwyllgor ystyried cais i roi trwydded ar gyfer Cerbyd Hurio Preifat.

 

Cais gan Forge Travel Limited oedd hwn, i drwyddedu Volkswagen Transporter, rhif cofrestru GJ17 OCS, fel cerbyd hurio preifat i gludo 8 o deithwyr. Roedd y cerbyd yn eiddo i rywun arall cynt a chafodd ei gofrestru gyntaf â’r DVLA ar 28 Mawrth 2017.

 

Gohiriwyd y cyfarfod am gyfnod byr i roi cyfle i’r Aelodau archwilio’r cerbyd.

 

Ar ôl ailddechrau’r cyfarfod, dywedodd Rheolwr y Tîm (Trwyddedu) fod y cerbyd wedi teithio 20,366 o filltiroedd hyd yma. Ychwanegodd nad oedd y cais yn cydymffurfio â’r Polisi Cerbydau Hurio Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Nid oedd modd cludo cadair olwyn ynddo, ond roedd canllawiau polisi penodol yn ymwneud â thrwyddedu Cerbydau Hurio Preifat am y tro cyntaf nad oeddent yn cydymffurfio â’r canllawiau polisi a amlinellwyd ym mharagraff 4.4. o’r adroddiad. 

 

Er gwybodaeth i’r aelodau, oherwydd oed y cerbyd, ni fu’n rhaid cynnal archwiliad mecanyddol ohono eto. Cafodd y cerbyd ei weld gan swyddog gorfodi ar 14 Medi 2018 ac roedd i’w weld mewn cyflwr da ac nid oedd dim problemau neu ddiffygion amlwg. Roedd wedi teithio 19,959 o filltiroedd.

 

PENDERFYNWYD:  Trafododd yr Is-bwyllgor y cais i drwyddedu’r cerbyd ac iddo’r rhif cofrestru GJ17 OCS fel Cerbyd Hurio Preifat.

 

Nododd yr Aelodau nad oedd y cerbyd yn cydymffurfio â pharagraff 2.1 o’r Polisi Trwyddedu, a hynny oherwydd ei oed.

 

Nododd yr Aelodau hefyd fod paragraff 2.2. o’r Polisi yn caniatáu i’r Is-bwyllgor lacio’r gofyniad o dan amgylchiadau eithriadol, ac roedd enghreifftiau o’r rhain i’w gweld ym mharagraff 2.4 o’r Polisi.

 

Ar ôl archwilio’r cerbyd, roedd yr is-bwyllgor yn teimlo bod ei gyflwr y tu mewn a’r tu allan, a safon ei nodweddion diogelwch, yn eithriadol. Gan hynny, cytunodd yr Is-bwyllgor i ganiatáu’r drwydded.

137.

Cais am Drwydded ar gyfer Cerbyd Hurio Preifat pdf eicon PDF 89 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad  yn gofyn i’r Is-bwyllgor drafod cais am drwydded ar gyfer Cerbyd Hurio Preifat.

 

Cais gan Neil Davies oedd hwn, i drwyddedu Skoda Superb, rhif cofrestru KW18 FWM, fel cerbyd hurio preifat i gludo 4 o deithiwr. Roedd y cerbyd yn eiddo i rywun arall cynt a chafodd ei gofrestru gyntaf â’r DVLA ar 24 Mai 2018

 

Gohiriwyd y cyfarfod am gyfnod byr i roi cyfle i’r Aelodau archwilio’r cerbyd.

 

Ar ôl ailddechrau’r cyfarfod, dywedodd Rheolwr y Tîm (Trwyddedu) fod y cerbyd wedi teithio 2,350 o filltiroedd hyd yma. Ychwanegodd nad oedd y cais yn cydymffurfio â’r Polisi Cerbydau Hurio Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Nid oedd modd cludo cadair olwyn ynddo, ond roedd canllawiau polisi penodol yn ymwneud â thrwyddedu Cerbydau Hurio Preifat am y tro cyntaf nad oeddent yn cydymffurfio â’r canllawiau polisi a amlinellwyd ym mharagraff 4.4. o’r adroddiad.

 

Er gwybodaeth, nid oedd y cerbyd wedi cael archwiliad mecanyddol gan nad oedd yn ddigon hen eto i orfod gwneud hynny.

 

PENDERFYNWYD: Trafododd yr Is-bwyllgor y cais i drwyddedu’r cerbyd ac iddo’r rhif cofrestru KW18 FWM fel Cerbyd Hurio Preifat.

 

Nododd yr Aelodau nad oedd y cerbyd yn cydymffurfio â pharagraff 2.1 o’r Polisi Trwyddedu, a hynny oherwydd ei oed.

 

Nododd yr Aelodau hefyd fod paragraff 2.2. o’r Polisi yn caniatáu i’r Is-bwyllgor lacio’r gofyniad o dan amgylchiadau eithriadol, ac roedd enghreifftiau o’r rhain i’w gweld ym mharagraff 2.4 o’r Polisi.

 

Ar ôl archwilio’r cerbyd, roedd yr is-bwyllgor yn teimlo bod ei gyflwr y tu mewn a’r tu allan, a safon ei nodweddion diogelwch, yn eithriadol. Gan hynny, cytunodd yr Is-bwyllgor i ganiatáu’r drwydded.

 

138.

Cais am drwydded ar gyfer Cerbyd Hurio Preifat pdf eicon PDF 83 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad yn gofyn i’r Is-bwyllgor ystyried cais i roi trwydded ar gyfer Cerbyd Hurio Preifat.

 

Cais gan Peyton Travel Limited oedd hwn, i drwyddedu Renault Master LM35 DCI 100, rhif cofrestru GJ17 OCS, fel cerbyd hurio preifat i gludo 8 o deithwyr. Roedd y cerbyd yn eiddo i rywun arall cynt a chafodd ei gofrestru gyntaf â’r DVLA ar 9 Ionawr 2012.

 

 

 

Gohiriwyd y cyfarfod am gyfnod byr i roi cyfle i’r Aelodau archwilio’r cerbyd.

 

Ar ôl ailddechrau’r cyfarfod, dywedodd Rheolwr y Tîm (Trwyddedu) fod y cerbyd wedi teithio 89,117 o filltiroedd hyd yma. Dywedodd ei bod yn bosibl cludo cadair olwyn yn y cerbyd a bod lifft electronig yn y cefn a ramp electronig ar yr ochr. Dywedodd nad oedd y cerbyd yn cydymffurfio â’r Polisi Cerbydau Hacnai a’i fod yn h?n na’r hyn roedd y Pwyllgor Trwyddedu wedi’i gymeradwyo ar gyfer cerbydau sy’n gallu cludo cadeiriau olwyn.

 

Er gwybodaeth i’r aelodau, roedd cofnod bod y cerbyd wedi’i archwilio ar y dyddiadau a ganlyn:

8 Mawrth 2013, ar ôl 24,965 o filltiroedd

19 Ebrill 2015, ar ôl 49,002 o filltiroedd

25 Mawrth 2017, ar ôl 74,355 o filltiroedd

21 Chwefror 2018, ar ôl 89,113 o filltiroedd

 

Cafodd y cerbyd ei archwilio gan swyddog gorfodi ar 14 Medi 2018 a chadarnhaodd ei fod wedi teithio 89113 o filltiroedd. Roedd i’w weld mewn cyflwr da ac nid oedd dim problemau neu ddiffygion amlwg.

 

PENDERFYNWYD: Trafododd yr Is-bwyllgor y cais i drwyddedu’r cerbyd ac iddo’r rhif cofrestru BX61 GFV fel Cerbyd Hurio Preifat.

 

Nododd yr Aelodau nad oedd y cerbyd yn cydymffurfio â pharagraff 2.1 o’r Polisi Trwyddedu, a hynny oherwydd ei oed.

 

Nododd yr Aelodau hefyd fod paragraff 2.2. o’r Polisi yn caniatáu i’r Is-bwyllgor lacio’r gofyniad o dan amgylchiadau eithriadol, ac roedd enghreifftiau o’r rhain i’w gweld ym mharagraff 2.4 o’r Polisi.

 

Ar ôl archwilio’r cerbyd, roedd yr is-bwyllgor yn teimlo bod ei gyflwr y tu mewn a’r tu allan, a safon ei nodweddion diogelwch, yn eithriadol ac roedd y cyfarpar i gludo pobl anabl a defnyddwyr cadeiriau olwyn yn dda. Gan hynny, cytunodd yr Is-bwyllgor i ganiatáu’r drwydded

 

 

139.

Cais am drwydded ar gyfer Cerbyd Hurio Preifat pdf eicon PDF 89 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad yn gofyn i’r Is-bwyllgor ystyried cais i roi trwydded ar gyfer Cerbyd Hurio Preifat.

 

Cais gan Peyton Travel Limited oedd hwn, i drwyddedu Dacia Logan MCV Stepway, rhif cofrestru LN67 FVD, fel cerbyd hurio preifat i gludo 4 o deithwyr. Roedd y cerbyd yn eiddo i rywun arall cynt a chafodd ei gofrestru gyntaf â’r DVLA ar 28 Medi 2017.

 

Gohiriwyd y cyfarfod am gyfnod byr i roi cyfle i’r Aelodau archwilio’r cerbyd.

 

Ar ôl ailddechrau’r cyfarfod, dywedodd Rheolwr y Tîm (Trwyddedu) fod y cerbyd wedi teithio 6,839 o filltiroedd hyd yma. Ychwanegodd nad oedd y cais yn cydymffurfio â’r Polisi Cerbydau Hurio Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Nid oedd modd cludo cadair olwyn ynddo, ond roedd canllawiau polisi penodol yn ymwneud â thrwyddedu Cerbydau Hurio Preifat am y tro cyntaf nad oeddent yn cydymffurfio â’r canllawiau polisi a amlinellwyd ym mharagraff 4.4. o’r adroddiad.

 

 

Er gwybodaeth, nid oedd y cerbyd wedi cael archwiliad mecanyddol gan nad oedd yn ddigon hen eto i orfod gwneud hynny. Cafodd y cerbyd ei weld gan swyddog gorfodi ar 14 Medi 2018 ac roedd i’w weld mewn cyflwr da ac nid oedd dim problemau neu ddiffygion amlwg. Roedd wedi teithio 6836 o filltiroedd.

 

PENDERFYNWYD: Trafododd yr Is-bwyllgor y cais i drwyddedu’r cerbyd ac iddo’r rhif cofrestru LN67 FVD fel Cerbyd Hurio Preifat.

 

Gan hynny, cytunodd yr Is-bwyllgor i ganiatáu’r drwydded

 

140.

Eitemau brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim

141.

Gwahardd y cyhoedd

Nid oedd y cofnodion ac adroddiadau sy'n ymwneud â'r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 14 a 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol

(Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

 

 

 

Cofnodion:

Ni fydd yr adroddiadau/cofnodion yn ymwneud â’r eitemau a ganlyn yn cael eu  cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’u heithrio, fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 4 a/neu Baragraff 21, Rhan 5 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth)(Amrywio)(Cymru) 2007.

 

Os bydd y Pwyllgor, ar ôl cymhwyso’r prawf budd cyhoeddus, yn penderfynu trafod yr eitemau hyn mewn sesiwn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o’r cyfarfod yn ystod y trafodaethau hyn.

 

142.

Cymeradwyaeth Cofnodion wedi’u Eithrio

I dderbyn cymeradwyaeth Cofnodion Is-bwyllgor Deddf Trwyddedu 2003 (A) o'r 12/07/2018 a chofnodion 31/07/2018 a 14/08/2018

 

143.

Ceisiadau i Gymeradwyo Trwyddedau

144.

Ceisiadau i Gymeradwyo Trwyddedau

145.

Ceisiadau i Gymeradwyo Trwyddedau