Agenda a Chofnodion

Is-Bwyllgor Trwyddedu (A) - Dydd Mawrth, 15fed Ionawr, 2019 10:00

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Pitman  Business Administrative Apprentice

Eitemau
Rhif Eitem

156.

Datganiadau o Gysylltiad

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim.

157.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 49 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 27/11/2018

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:         Bod Cofnodion cyfarfod yr Is-bwyllgor Trwyddedu ‘A’ dyddiedig 27 Tachwedd 2018, yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

158.

Cais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat pdf eicon PDF 89 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio adroddiad, a ofynnodd i’r Is-bwyllgor ystyried cais i roi trwydded am Gerbyd Hurio Preifat.

 

Gwnaed y cais gan Richard Singleton i drwyddedu cerbyd Mercedes V Class, rhif cofrestru cerbyd CV18 HTK, fel cerbyd hurio preifat i gario 7 unigolyn. Roedd y cerbyd yn ail-law ac fe’i cofrestrwyd gyda’r DVLA am y tro cyntaf ar 30 Mai 2018.

 

Aeth yr Aelodau ati i archwilio’r cerbyd.

 

Cynghorodd Rheolwr y Tîm (Trwyddedu) yr aelodau mai milltiroedd presennol y cerbyd oedd 19,884 milltir. Datganodd fod y cerbyd yn cwympo y tu allan i’r Polisi Cerbydau Hurio Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu am y rhesymau a amlinellwyd yn yr adroddiad. Nid oedd y cerbyd yn hygyrch i gadeiriau olwyn, ond roedd yna ganllawiau polisi penodol mewn perthynas â thrwyddedu am y tro cyntaf Gerbydau oedd yn cwympo y tu allan i’r canllawiau polisi a amlinellwyd ym mharagraff 4.4 yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:    Ystyriodd yr Is-bwyllgor y cais i drwyddedu’r  cerbyd uchod fel Cerbyd Hurio Preifat.

 

Nododd yr aelodau fod y cais yn cwympo y tu allan i’r Polisi Cerbyd Hurio Preifat oherwydd ei oedran.

 

Gellir llacio’r polisi dan rai amgylchiadau yn ôl paragraff 2.2 a rhoddir enghreifftiau yn 2.2.5 y polisi sy’n cynnwys:-

 

·      Yr ansawdd allanol a mewnol eithriadol;

·      Safonau diogelwch eithriadol

 

                                 Ar ôl archwilio’r cerbyd, teimlai’r Is-bwyllgor fod yr amgylchiadau uchod yn bodoli yma, ac roedd yn hapus i roi’r drwydded.

159.

Cais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat pdf eicon PDF 88 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio adroddiad, a ofynnodd i’r Is-bwyllgor ystyried cais i roi trwydded am Gerbyd Hurio Preifat.

 

Gwnaed y cais gan Peyton Travel i drwyddedu Dacia Logan, rhif cofrestru cerbyd CA65 OHE, fel cerbyd hurio preifat i gario 4 unigolyn. Roedd y cerbyd yn ail-law ac fe’i cofrestrwyd gyda’r DVLA am y tro cyntaf ar 31 Rhagfyr 2015.

 

Aeth yr Aelodau ati i archwilio’r cerbyd.

 

Cynghorodd Rheolwr y Tîm (Trwyddedu) yr aelodau mai milltiroedd presennol y cerbyd oedd 17,180 milltir. Datganodd fod y cerbyd yn cwympo y tu allan i’r Polisi Cerbydau Hurio Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu am y rhesymau a amlinellwyd yn yr adroddiad. Nid oedd y cerbyd yn hygyrch i gadeiriau olwyn, ond roedd yna ganllawiau polisi penodol mewn perthynas â thrwyddedu am y tro cyntaf Gerbydau oedd yn cwympo y tu allan i’r canllawiau polisi a amlinellwyd ym mharagraff 4.4 yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:    Ystyriodd yr Is-bwyllgor y cais i gofrestru’r  cerbyd uchod fel Cerbyd Hurio Preifat.

 

Nododd yr aelodau fod y cais yn cwympo y tu allan i’r Polisi Cerbyd Hurio Preifat oherwydd ei oedran.

 

Gellir llacio’r polisi dan rai amgylchiadau yn ôl paragraff 2.2 a rhoddir enghreifftiau yn 2.2.5 y polisi sy’n cynnwys:-

 

·      Yr ansawdd allanol a mewnol eithriadol;

·      Safonau diogelwch eithriadol

 

                                Ar ôl astudio’r cerbyd, teimlai’r Is-bwyllgor fod yr amgylchiadau uchod yn bodoli yma, ac roedd yn hapus i roi’r drwydded.

160.

Cais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat pdf eicon PDF 89 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio adroddiad, a ofynnodd i’r Is-bwyllgor ystyried cais i roi trwydded am Gerbyd Hurio Preifat.

 

Gwnaed y cais gan Peyton Travel i drwyddedu Dacia Logan Laureate, rhif cofrestru cerbyd CU66 ENE (ac nid EHE fel y nodwyd yn yr adroddiad), fel cerbyd hurio preifat i gario 4 unigolyn. Roedd y cerbyd yn ail-law ac fe’i cofrestrwyd gyda’r DVLA am y tro cyntaf ar 29 Medi 2016.

 

Aeth yr Aelodau ati i archwilio’r cerbyd.

 

Cynghorodd Rheolwr y Tîm (Trwyddedu) yr aelodau mai milltiroedd presennol y cerbyd oedd 29,988 milltir. Datganodd fod y cerbyd yn cwympo y tu allan i’r Polisi Cerbydau Hurio Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu am y rhesymau a amlinellwyd yn yr adroddiad. Nid oedd y cerbyd yn hygyrch i gadeiriau olwyn, ond roedd yna ganllawiau polisi penodol mewn perthynas â thrwyddedu am y tro cyntaf Gerbydau oedd yn cwympo y tu allan i’r canllawiau polisi a amlinellwyd ym mharagraff 4.4 yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:    Ystyriodd yr Is-bwyllgor y cais i gofrestru’r  cerbyd uchod fel Cerbyd Hurio Preifat.

 

Nododd yr aelodau fod y cais yn cwympo y tu allan i’r Polisi Cerbyd Hurio Preifat oherwydd ei oedran.

 

Gellir llacio’r polisi dan rai amgylchiadau yn ôl paragraff 2.2 a rhoddir enghreifftiau yn 2.2.5 y polisi sy’n cynnwys:-

 

·      Yr ansawdd allanol a mewnol eithriadol;

·      Safonau diogelwch eithriadol

 

                                Ar ôl archwilio’r cerbyd, teimlai’r Is-bwyllgor fod yr amgylchiadau uchod yn bodoli yma, ac roedd yn hapus i roi’r drwydded.

161.

Cais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat pdf eicon PDF 89 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio adroddiad, a ofynnodd i’r Is-bwyllgor ystyried cais i roi trwydded am Gerbyd Hurio Preifat.

 

Gwnaed y cais gan Peyton Travel i drwyddedu Ford Transit Custom, rhif cofrestru cerbyd WV14 0BZ, fel cerbyd hurio preifat i gario 8 unigolyn. Roedd y cerbyd yn ail-law ac fe’i cofrestrwyd gyda’r DVLA am y tro cyntaf ar 10 Mawrth 2014.

 

Aeth yr Aelodau ati i archwilio’r cerbyd.

 

Cynghorodd Rheolwr y Tîm (Trwyddedu) yr aelodau mai milltiroedd presennol y cerbyd oedd 75,084 milltir. Datganodd fod y cerbyd yn cwympo y tu allan i’r Polisi Cerbydau Hurio Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu am y rhesymau a amlinellwyd yn yr adroddiad. Nid oedd y cerbyd yn hygyrch i gadeiriau olwyn, ond roedd yna ganllawiau polisi penodol mewn perthynas â thrwyddedu am y tro cyntaf Gerbydau oedd yn cwympo y tu allan i’r canllawiau polisi a amlinellwyd ym mharagraff 4.4 yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:    Ystyriodd yr Is-bwyllgor y cais i gofrestru’r  cerbyd uchod fel Cerbyd Hurio Preifat.

 

Nododd yr aelodau fod y cais yn cwympo y tu allan i’r Polisi Cerbyd Hurio Preifat oherwydd ei oedran.

 

Gellir llacio’r polisi dan rai amgylchiadau yn ôl paragraff 2.2 a rhoddir enghreifftiau yn 2.2.5 y polisi sy’n cynnwys:-

 

·      Yr ansawdd allanol a mewnol eithriadol;

·      Safonau diogelwch eithriadol

 

                                Ar ôl archwilio’r cerbyd, teimlai’r Is-bwyllgor fod yr amgylchiadau uchod yn bodoli yma, ac roedd yn hapus i roi’r drwydded.

162.

Cais am Drwydded Cerbyd Hacni pdf eicon PDF 79 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio adroddiad, a ofynnodd i’r Is-bwyllgor ystyried cais i roi trwydded am Gerbyd Hacni.

 

Gwnaed y cais gan James Bickerstaff i drwyddedu Nissan NV300, rhif cofrestru cerbyd WD18 XTJ, fel cerbyd hacni i gario 8 unigolyn. Nid oedd y cerbyd yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Roedd y cerbyd yn ail-law ac fe’i cofrestrwyd gyda’r DVLA am y tro cyntaf ar 29 Awst 2018.

 

Aeth yr Aelodau ati i archwilio’r cerbyd.

 

Cynghorodd Rheolwr y Tîm (Trwyddedu) yr aelodau mai milltiroedd presennol y cerbyd oedd 281 milltir. Datganodd fod y cerbyd yn cwympo y tu allan i’r Polisi Cerbydau Hacni a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Er gwybodaeth i’r aelodau, nid oes hanes gwasanaeth na dogfennaeth gefnogol ar y cerbyd hwn, gan nad yw’r gofyniad am wasanaeth wedi cyrraedd eto. Edrychodd y Swyddog Gorfodaeth ar y cerbyd ar 18 Rhagfyr 2018 a chyflwynwyd y cerbyd mewn cyflwr da.

 

PENDERFYNWYD:  Ystyriodd yr Is-bwyllgor y cais i gofrestru’r  cerbyd  uchod fel Cerbyd Hacni.

 

Nododd yr Aelodau fod y cais yn cwympo y tu allan i’r Polisi Cerbyd Hurio Preifat oherwydd ei oedran.

 

Gellir llacio’r polisi dan rai amgylchiadau eithriadol yn ôl paragraff 2.2. Mae canllawiau o ran yr hyn sy’n cyfansoddi eithriadol. Fodd bynnag, nododd yr aelodau’r safon allanol a mewnol eithriadol yn ogystal â’r safonau diogelwch.

 

                                Roedd yr aelodau felly’n hapus i roi’r drwydded.

163.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim un.

164.

Gwahardd y Cyhoedd

Nid oedd y cofnodion ac adroddiadau sy'n ymwneud â'r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 14 a 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol

(Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

 

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:         Gwahardd y cyhoedd, dan Adran 100A (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007, o’r cyfarfod wrth ystyried yr eitemau busnes canlynol gan fod ynddynt wybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad Paragraff 12 Rhan 4 ac/neu Baragraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

                                         Yn dilyn cymhwyso prawf lles y cyhoedd, penderfynwyd, yn unol â’r Ddeddf y cyfeiriwyd ati uchod, i ystyried yr eitemau canlynol yn breifat, gan wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod, gan ei fod yn ystyried yn yr holl amgylchiadau’n ymwneud â’r eitemau, fod lles y cyhoedd wrth gynnal yr eithriad yn bwysicach na lles y cyhoedd wrth ddatgelu’r wybodaeth, oherwydd byddai’r wybodaeth yn niweidiol i’r ymgeiswyr a grybwyllwyd.

165.

Cymeradwyaeth Cofnodion wedi’u Eithrio

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion eithrio cyfarfod y 27/11/2018

 

166.

Ceisiadau i Adnewyddu Trwyddedau

167.

Ceisiadau i Adnewyddu Trwyddedau

168.

Ceisiadau i Adnewyddu Trwyddedau