Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mark Anthony Galvin Senior Democratic Services Officer - Committees
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o fuddiant Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008. Cofnodion: Dim |
|
Cymeradwyaeth Cofnodion PDF 51 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 13/03/2018 Cofnodion: PENDERFYNWYD: Cadarnhau bod cofnodion Is-bwyllgor Trwyddedu A, dyddiedig Mawrth 13 2018, yn gywir. |
|
Cais i Drwydded Cerbyd Hacnai PDF 78 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaethol adroddiad a ofynnai i’r Is-bwyllgor ystyried cais am drwydded Cerbyd Hacni.
Cyflwynodd Jamshad Iqbal gais i drwyddedu cerbyd Skoda Octavia â’r rhif cofrestru KH07 ANG fel Cerbyd Hacni i eistedd 4 o bobl. Roedd yn gerbyd ail-law ac fe’i cofrestrwyd gyntaf â’r DVLA ar 9 Mawrth 2018.
Yna, cafwyd toriad byr er mwyn i’r Aelodau a’r Swyddogion archwilio’r cerbyd yn y maes parcio ar waelod adeilad Siambr y Cyngor.
Wedi i’r cyfarfod ailgychwyn, hysbysodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) yr Aelodau mai’r milltiroedd ar gloc y cerbyd ar hyn o bryd oedd 790. Ychwanegodd nad oedd y cais yn dod o fewn y Polisi Trwyddedu Cerbydau Hacni a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Nid oedd cadeiriau olwyn yn gallu mynd i mewn i’r cerbyd. Fodd bynnag, roedd canllawiau polisi penodol i’w cael o ran trwyddedu Cerbydau Hacni nad oeddent yn dod o fewn y canllawiau polisi ym mharagraff 4.4 yr adroddiad am y tro cyntaf. Nid oedd yr ymgeisydd wedi darparu dim hanes o’r gwasanaeth yr oedd y cerbyd wedi’i gael gan mai dim ond deufis oed ydoedd.
Gofynnodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) i’r ymgeisydd sôn wrth yr Aelodau am y ffordd yr oedd yn bwriadu defnyddio’r cerbyd. Atebodd drwy ddweud y byddai’n ei ddefnyddio i ddarparu gwasanaeth tacsi o ddydd i ddydd yn ardal Pen-y-bont yn bennaf ac y byddai’n yrrwr annibynnol.
Wrth ymateb i gwestiwn arall gan y Swyddog, atebodd ei fod wedi oedi cyn cyflwyno’i gais oherwydd y tywydd anffafriol yn y wlad hon ym mis Mawrth. Arweiniodd hyn at oedi cyn iddo gael y cerbyd.
Gadawodd yr ymgeisydd a’r Swyddogion yr ystafell gyfarfod er mwyn i’r Aelodau ddod i benderfyniad ynghylch y cais. Wedi iddynt ddychwelyd,
PENDERFYNWYD: Ystyried cais gan berchennog cerbyd â’r rhif cofrestru KH07 ANG i’w drwyddedu fel Cerbyd Hacni.
Nododd yr Aelodau nad oedd y cais yn dod o fewn y Polisi Trwyddedu ym mharagraff 2.1 am fod 14 diwrnod wedi mynd heibio ers y cofrestriad cyntaf ar 9 Mawrth 2018.
Nododd yr Is-bwyllgor hefyd y rhesymau a roddwyd dros yr oedi cyn cyflwyno’r cais, gan gynnwys yr oedi cyn i’r ymgeisydd gael y cerbyd o ganlyniad i dywydd gwael. Mae paragraff 2.2 yn nodi’n glir y gellir llacio’r polisi dan amgylchiadau eithriadol a bod paragraff 2.2.1 yn rhoi enghreifftiau o oedi, e.e. oedi o du’r DVLA a phellter cludo cerbyd.
Felly, yn yr achos hwn, cymeradwyodd yr Is-bwyllgor gais yr ymgeisydd am drwydded. |
|
Cais i Drwyddedu Cerbyd Hurio Preifat PDF 86 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaethol adroddiad a ofynnai i’r Is-bwyllgor ystyried cais am drwydded Cerbyd Hurio Preifat.
Cyflwynodd Jeffrey Evans gais i drwyddedu’i gerbyd Mercedes Benz Vito Tourer â’r rhif cofrestru EG16 AAE fel Cerbyd Hurio Preifat i eistedd 8 o bobl. Roedd yn gerbyd ail-law ac fe’i cofrestrwyd gyntaf â’r DVLA ar 20 Gorffennaf 2016.
Yna, cafwyd toriad byr er mwyn i’r Aelodau a’r Swyddogion archwilio’r cerbyd yn y maes parcio ar waelod adeilad Siambr y Cyngor.
Wedi i’r cyfarfod ailgychwyn, hysbysodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) yr Aelodau mai’r milltiroedd ar y cloc ar hyn o bryd oedd 28,148. Ychwanegodd nad oedd y cais yn dod o fewn y Polisi Trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Nid oedd cadeiriau olwyn yn gallu mynd i mewn i’r cerbyd. Fodd bynnag, roedd canllawiau polisi penodol i’w cael o ran trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat nad oeddent yn dod o fewn y canllawiau polisi ym mharagraff 4.4 yr adroddiad am y tro cyntaf. Er gwybodaeth yr Aelodau, cyflwynwyd hanes o’r gwasanaeth yr oedd y cerbyd wedi’i gael ar 14 Mawrth 2017. Y milltiroedd ar gloc y cerbyd bryd hynny oedd 15,798.
Gofynnodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) i’r ymgeisydd gadarnhau wrth yr Aelodau sut yr oedd yn bwriadu defnyddio’r cerbyd.
Dywedodd Mr. Evans oddi godi’r cerbyd o Southport oddeutu mis yn ôl ac y byddai’n ei ddefnyddio i ymgymryd â gwaith hurio preifat yn rhan o’i gynlluniau i ymddeol yn rhannol. Ychwanegodd y bu’n yrrwr tacsi ers 4 blynedd.
Wedi archwilio’r cerbyd, nododd un Aelod fod rhimyn allanol y teiars ôl wedi treulio tipyn.
Dywedodd yr ymgeisydd y byddai’n galw mewn garej ar ôl gadael y cyfarfod i weld a oedd y teiars yn dal yn iawn i’w defnyddio ar y ffordd neu a fyddai angen cael rhai newydd.
Gadawodd yr ymgeisydd a’r Swyddogion yr ystafell gyfarfod er mwyn i’r Aelodau ddod i benderfyniad ynghylch y cais. Wedi iddynt ddychwelyd,
PENDERFYNWYD: Ystyried cais gan berchennog cerbyd â’r rhif cofrestru EG16 AAE i’w drwyddedu fel Cerbyd Hurio Preifat.
Nododd yr Aelodau nad oedd y cais yn dod o fewn y Polisi Trwyddedu ym mharagraff 2.1 o ganlyniad i oedran y cerbyd.
Yn ogystal â hynny, nododd yr Aelodau y gellir llacio’r Polisi ym mharagraff 2.2 dan amgylchiadau eithriadol, a rhoddir enghreifftiau o’r amgylchiadau hynny ym mharagraff 2.4 y Polisi.
Wedi archwilio’r cerbyd, roedd yr Is-bwyllgor o’r farn ei fod mewn cyflwr eithriadol o dda, oddi mewn a thu allan, ac roedd safonau diogelwch y cerbyd yn rhagorol hefyd.
Yng ngoleuni hyn, cymeradwyodd yr Is-bwyllgor gais yr ymgeisydd am drwydded. |
|
Cais i Drwyddedu Cerbyd Hurio Preifat PDF 87 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaethol adroddiad a ofynnai i’r Is-bwyllgor ystyried cais am drwydded Cerbyd Hurio Preifat.
Cyflwynodd Kathryn Leigh gais i drwyddedu Mercedes Benz â’r rhif cofrestru Y8 DET fel Cerbyd Hurio Preifat i eistedd 4 o bobl. Roedd yn gerbyd ail-law ac fe’i cofrestrwyd gyntaf â’r DVLA ar 31 Ionawr 2013.
Yna, cafwyd toriad byr er mwyn i’r Aelodau a’r Swyddogion archwilio’r cerbyd yn y maes parcio ar waelod adeilad Siambr y Cyngor.
Wedi i’r cyfarfod ailgychwyn, hysbysodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) yr Aelodau mai’r milltiroedd ar y cloc ar hyn o bryd oedd 73,906. Ychwanegodd nad oedd y cais yn dod o fewn y Polisi Cerbydau Hurio Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Nid oedd cadeiriau olwyn yn gallu mynd i mewn i’r cerbyd. Fodd bynnag, roedd canllawiau polisi penodol i’w cael o ran trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat nad oeddent yn dod o fewn y canllawiau polisi ym mharagraff 4.4 yr adroddiad am y tro cyntaf. Darparwyd tystysgrif MOT a gyflwynwyd ar 5 Mawrth 2018 a chadarnhawyd mai’r milltiroedd ar y cloc bryd hynny oedd 72,980. Darparwyd cofnod llawn o’r gwasanaeth yr oedd y cerbyd wedi’i gael a chadarnhawyd mai’r milltiroedd ar y cloc ar 17 Mawrth 2014 oedd 16,470; 29,838 ar 1 Ebrill 2015 a 56,264 ar 8 Hydref 2016.
Gofynnodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) i’r ymgeisydd roi amlinelliad i’r Aelodau o hanes y cerbyd.
Cadarnhaodd Ms. Leigh y prynwyd y cerbyd drwy drefniant preifat a’r bwriad oedd ei ddefnyddio i wneud gwaith corfforaethol a chludo pobl i feysydd awyr ac yn ôl adref, ac ati.
Gadawodd yr ymgeisydd a’r Swyddogion yr ystafell gyfarfod er mwyn i’r Aelodau ddod i benderfyniad ynghylch y cais. Wedi iddynt ddychwelyd,
PENDERFYNWYD: Ystyried cais gan berchennog cerbyd â’r rhif cofrestru Y8 DET i’w drwyddedu fel Cerbyd Hurio Preifat.
Nododd yr Aelodau nad oedd y cais yn dod o fewn y Polisi Trwyddedu ym mharagraff 2.1 o ganlyniad i oedran y cerbyd.
Yn ogystal â hynny, nododd yr Aelodau y gellir llacio’r Polisi ym mharagraff 2.2 dan amgylchiadau eithriadol, a rhoddir enghreifftiau o’r amgylchiadau hynny ym mharagraff 2.4 y Polisi.
Wedi archwilio’r cerbyd, roedd yr Is-bwyllgor o’r farn ei fod mewn cyflwr eithriadol o dda, oddi mewn a thu allan, ac roedd safonau diogelwch y cerbyd yn rhagorol hefyd.
Yng ngoleuni hyn, cymeradwyodd yr Is-bwyllgor gais yr ymgeisydd am drwydded. |
|
Cais i Drwyddedu Cerbyd Hurio Preifat PDF 86 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaethol adroddiad a ofynnai i’r Is-bwyllgor ystyried cais am drwydded Cerbyd Hurio Preifat.
Cyflwynodd Paul Brain, sy’n masnachu fel Peyton Travel Limited, gais i drwyddedu cerbyd Ford Tourneo Custom 300 Ltd E-Tech â’r rhif cofrestru CU16 EFS fel Cerbyd Hurio Preifat i eistedd 8 o bobl. Roedd yn gerbyd ail-law ac fe’i cofrestrwyd gyntaf â’r DVLA ar 1 Mawrth 2016.
Cafwyd toriad byr er mwyn i’r Aelodau a’r Swyddogion archwilio’r cerbyd yn y maes parcio ar waelod adeilad Siambr y Cyngor.
Wedi i’r cyfarfod ailgychwyn, hysbysodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) yr Aelodau mai’r milltiroedd ar y cloc ar hyn o bryd oedd 27,585. Ychwanegodd nad oedd y cais yn dod o fewn y Polisi Cerbydau Hurio Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Nid oedd cadeiriau olwyn yn gallu mynd i mewn i’r cerbyd. Fodd bynnag, roedd canllawiau polisi penodol i’w cael o ran trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat nad oeddent yn dod o fewn y canllawiau polisi ym mharagraff 4.4 yr adroddiad am y tro cyntaf. Nid oedd yr ymgeisydd wedi darparu hanes o’r gwasanaeth yr oedd y cerbyd wedi’i gael am fod nifer y milltiroedd ar y cloc yn is na 30,000. Ychwanegodd y byddai’r cerbyd yn cael ei wasanaeth cyntaf pan fydd y milltiroedd ar y cloc wedi cyrraedd 30,000.
Gofynnodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) i’r ymgeisydd gadarnhau wrth yr Aelodau sut yr oedd yn bwriadu defnyddio’r cerbyd.
Cadarnhaodd Mr. Brain y byddai’n defnyddio’r cerbyd i gludo pobl i feysydd awyr yn bennaf ac mai ei fwriad oedd newid hen gar a brynwyd at yr un pwrpas.
Gadawodd yr ymgeisydd a’r Swyddogion yr ystafell gyfarfod er mwyn i’r Aelodau ddod i benderfyniad ynghylch y cais. Wedi iddynt ddychwelyd,
PENDERFYNWYD: Ystyried cais gan berchennog cerbyd â’r rhif cofrestru CU16 EFS i’w drwyddedu fel Cerbyd Hurio Preifat.
Nododd yr Aelodau nad oedd y cais yn dod o fewn y Polisi Trwyddedu ym mharagraff 2.1 o ganlyniad i oedran y cerbyd.
Yn ogystal â hynny, nododd yr Aelodau y gellir llacio’r Polisi ym mharagraff 2.2 dan rai amgylchiadau, a rhoddir enghreifftiau o’r amgylchiadau hynny ym mharagraff 2.4 y Polisi.
Wedi archwilio’r cerbyd, roedd yr Is-bwyllgor o’r farn ei fod mewn cyflwr eithriadol o dda, oddi mewn a thu allan, ac roedd safonau diogelwch y cerbyd yn rhagorol hefyd.
Yng ngoleuni hyn, cymeradwyodd yr Is-bwyllgor gais yr ymgeisydd am drwydded. |
|
Cais i Drwyddedu Cerbyd Hurio Preifat PDF 87 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaethol adroddiad a ofynnai i’r Is-bwyllgor ystyried cais am drwydded Cerbyd Hurio Preifat.
Cyflwynodd Paul Brain, sy’n masnachu fel Peyton Travel Limited, gais i drwyddedu cerbyd Renault Trafic LL29 Sport Energy DCI â’r rhif cofrestru LN16 JTO fel Cerbyd Hurio Preifat i eistedd 8 o bobl. Roedd yn gerbyd ail-law ac fe’i cofrestrwyd gyntaf â’r DVLA ar 17 Mawrth 2016.
Yna, cafwyd toriad byr er mwyn i’r Aelodau a’r Swyddogion archwilio’r cerbyd yn y maes parcio ar waelod adeilad Siambr y Cyngor.
Wedi i’r cyfarfod ailgychwyn, hysbysodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) yr Aelodau mai’r milltiroedd ar y cloc ar hyn o bryd oedd 51,688. Ychwanegodd nad oedd y cais yn dod o fewn y Polisi Cerbydau Hurio Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Nid oedd cadeiriau olwyn yn gallu mynd i mewn i’r cerbyd. Fodd bynnag, roedd canllawiau polisi penodol i’w cael o ran trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat nad oeddent yn dod o fewn y canllawiau polisi ym mharagraff 4.4 yr adroddiad am y tro cyntaf. Darparodd yr ymgeisydd hanes o’r gwasanaeth yr oedd y cerbyd wedi’i gael ar 11 Mawrth 2017 a nifer y milltiroedd ar y cloc bryd hynny oedd 24,875 a chofnodwyd 49,662 o filltiroedd ar 16 Chwefror 2018.
Gofynnodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) i’r ymgeisydd gadarnhau wrth yr Aelodau sut yr oedd yn bwriadu defnyddio’r cerbyd.
Cadarnhaodd Mr. Brain y byddai’n defnyddio’r cerbyd i gludo pobl i feysydd awyr yn bennaf ac mai ei fwriad oedd newid hen gar a brynwyd at yr un pwrpas.
Gadawodd yr ymgeisydd a’r Swyddogion yr ystafell gyfarfod er mwyn i’r Aelodau ddod i benderfyniad ynghylch y cais. Wedi iddynt ddychwelyd,
PENDERFYNWYD: Ystyried cais gan berchennog cerbyd â’r rhif cofrestru LN16 JTO i’w drwyddedu fel Cerbyd Hurio Preifat.
Nododd yr Aelodau nad oedd y cais yn dod o fewn y Polisi Trwyddedu ym mharagraff 2.1 o ganlyniad i oedran y cerbyd.
Yn ogystal â hynny, nododd yr Aelodau y gellir llacio’r Polisi ym mharagraff 2.2 dan rai amgylchiadau, a rhoddir enghreifftiau o’r amgylchiadau hynny ym mharagraff 2.4 y Polisi.
Wedi archwilio’r cerbyd, roedd yr Is-bwyllgor o’r farn ei fod mewn cyflwr eithriadol o dda, oddi mewn a thu allan, ac roedd safonau diogelwch y cerbyd yn rhagorol hefyd.
Yng ngoleuni hyn, cymeradwyodd yr Is-bwyllgor gais yr ymgeisydd am drwydded. |
|
Materion Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad. Cofnodion: Dim. |
|
Gwahardd y Cyhoedd Nid oedd y cofnodion ac adroddiadau sy'n ymwneud â'r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 14 a 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).
Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath. Cofnodion: PENDERFYNWYD: Dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, penderfynwyd cau allan y cyhoedd o’r cyfarfod tra ystyriwyd y mater canlynol am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 o Ran 4 a/neu Baragraff 21 o Ran 5 o Atodlen 12A o’r Ddeddf.
Wedi cynnal prawf lles y cyhoedd, penderfynwyd, yn unol â’r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, ystyried yr eitem ganlynol yn gyfrinachol, gan gau allan y cyhoedd o’r cyfarfod, gan mai’r farn oedd, ym mhob un o’r amgylchiadau a oedd yn ymwneud â’r eitem hon, bod lles y cyhoedd wrth gynnal yr eithriad yn gorbwyso lles y cyhoedd wrth ddatgelu’r wybodaeth, gan y byddai’r wybodaeth yn niweidiol i’r ymgeiswyr a enwyd. |
|
Cymeradwyaeth Cofnodion wedi'u Eithrio I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 13/03/2018
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Cadarnhau bod Cofnodion eithriedig Is-bwyllgor Trwyddedu A, dyddiedig 13 Mawrth 2018, yn gywir. |