Agenda a Chofnodion

Is-Bwyllgor Trwyddedu (A) - Dydd Mawrth, 15fed Medi, 2020 10:00

Lleoliad: yn o bell trwy Skype for Business

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Nodyn: Nodyn: Sylwch: Yn sgil yr angen i gadw pellter cymdeithasol, ni fydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal yn ei leoliad arferol. Yn hytrach, bydd hwn yn gyfarfod rhithwir a bydd Aelodau'r Pwyllgor a Swyddogion yn mynychu o bell. Bydd y cyfarfod yn cael ei recordio i’w ddarlledu ar wefan y Cyngor ar ol i’r cyfarfod orffen. Os oes gennych unrhyw gwestiwn am hyn, cysylltwch â cabinet_committee@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 01656 643147 / 643148. 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

262.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Dim

263.

Derbyn y Cofnodion pdf eicon PDF 66 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 10/03/2020

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10/03/2020 fel rhai cywir.

264.

Cais i Drwyddedu Cerbyd Hurio Preifat pdf eicon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Rheoli adroddiad yn gofyn i'r is-bwyllgor ystyried cais i ganiatáu trwydded i Gerbyd Hurio Preifat.

 

Gwnaethpwyd y cais gan Mr Paul Brain, Peyton Travel Limited ym Mhen-y-bont ar Ogwr i drwyddedu Vauxhall Vivaro, rhif cofrestru'r cerbyd LO16 HCJ, fel cerbyd hurio preifat i gludo 8 unigolyn. Roedd y cerbyd yn un ail law ac fe'i cofrestrwyd â'r DVLA am y tro cyntaf ar 23 Mawrth 2016. Milltiroedd presennol y cerbyd oedd 80,089. 

 

Dywedodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu nad oedd y cais yn bodloni'r Polisi Cerbyd Hurio Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Nid oedd y cerbyd yn addas i gadair olwyn. Cyflwynwyd adroddiad gwasanaeth wedi'i ddyddio 21 Tachwedd 2017, gyda'r milltiroedd yn cael eu cofnodi yn 25225, 10 Chwefror 2019 gyda milltiroedd yn 52253 a 17 Ionawr 2020 gyda milltiroedd yn 74488.

 

Ar 8 Medi 2020, archwiliwyd y cerbyd gan Swyddog Gorfodi Trwyddedau a chanfuwyd bod y cerbyd mewn cyflwr da. Darparwyd ffurflen Asesu Cerbyd yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Bu i'r Uwch Swyddog Trwyddedu gyfeirio'r Is-Bwyllgor at y detholiad perthnasol o'r polisi cerbyd sy'n berthnasol i'r cais hwn.

 

PENDERFYNWYD: Ystyriodd yr Is-Bwyllgor y cais i drwyddedu'r cerbyd â'r rhif cofrestru LO16 HCJ fel cerbyd hurio preifat.

 

Nododd yr aelodau bod y cais yn mynd y tu hwnt i'r Polisi Trwyddedu ym mharagraff 2.1 oherwydd oedran y cerbyd.

 

Nododd yr aelodau bod y Polisi ym mharagraff 2.2.5 yn caniatáu i'r rheol gael ei llacio dan amgylchiadau eithriadol.

 

Ar ôl archwilio'r ffurflen Asesu Cerbyd yn Atodiad A, roedd yr Is-bwyllgor yn credu bod y cerbyd mewn cyflwr addas ac felly, cymeradwywyd y drwydded.

 

265.

Cais i Drwyddedu Cerbyd Hurio Preifat pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Rheoli adroddiad yn gofyn i'r is-bwyllgor ystyried cais i ganiatáu trwydded i Gerbyd Hurio Preifat.

 

Gwnaethpwyd y cais gan Driven Personal Hire Limited ym Mhorthcawl i drwyddedu Mercedes C200, rhif cofrestru'r cerbyd CN13 KFU, fel cerbyd hurio preifat i gludo 4 unigolyn. Roedd y cerbyd yn un ail law ac fe'i cofrestrwyd â'r DVLA am y tro cyntaf ar 5 Mawrth 2015. Milltiroedd presennol y cerbyd oedd 113,767. 

 

Dywedodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu nad oedd y cais yn bodloni'r Polisi Cerbyd Hurio Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Nid oedd y cerbyd yn addas i gadair olwyn. Ni chyflwynwyd adroddiad gwasanaeth gan fod y cerbyd yn gerbyd Hurio Preifat tan y dyddiad terfynu, sef 12 Gorffennaf 2019. Ni wnaethpwyd cais i adnewyddu ar yr adeg hon.

 

Ar 24 Awst 2020, archwiliwyd y cerbyd gan Swyddog Gorfodi Trwyddedau a chanfuwyd bod y cerbyd mewn cyflwr da. Darparwyd ffurflen Asesu Cerbyd yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Bu i'r Uwch Swyddog Trwyddedu gyfeirio'r Is-Bwyllgor at y detholiad perthnasol o'r polisi cerbyd sy'n berthnasol i'r cais hwn.

 

PENDERFYNWYD: Ystyriodd yr Is-Bwyllgor y cais i drwyddedu'r cerbyd â'r rhif cofrestru CN13 KFU fel cerbyd hurio preifat.

 

Nododd yr aelodau nad oedd y cais yn bodloni'r Polisi Trwyddedu ym mharagraff 2.1 oherwydd oedran y cerbyd.

 

Nododd yr aelodau bod y Polisi ym mharagraff 2.2.5 yn caniatáu i'r rheol gael ei llacio dan amgylchiadau eithriadol.

 

Ar ôl archwilio'r ffurflen Asesu Cerbyd yn Atodiad A, roedd yr Is-bwyllgor yn credu bod y cerbyd mewn cyflwr addas ac felly cymeradwywyd y drwydded.

266.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Dim