Agenda a Chofnodion

Is-Bwyllgor Trwyddedu (A) - Dydd Mawrth, 12fed Mawrth, 2019 10:00

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

170.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd D Lewis fuddiant rhagfarnus yn eitem 15 ar yr agenda, Cais am Adnewyddu Trwyddedau, gan ei fod yn adnabod yr ymgeisydd. Gadawodd y cyfarfod pan ystyriwyd yr eitem hon a chymerodd y Cynghorydd S Baldwin y Gadair.

171.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 72 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 15/01/2018

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:       Cymeradwyo cofnodion cyfarfod yr Is-bwyllgor Trwyddedu A, dyddiedig 15 Ionawr 2019, fel cofnod cywir.          

172.

Cais am Drwyddedu Cerbyd Llogi Preifat pdf eicon PDF 101 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad yn gofyn i'r Is-bwyllgor ystyried cais am roi trwydded ar gyfer cerbyd llogi preifat.

 

Gwnaed y cais gan Forge Travel Limited am drwyddedu cerbyd Volkswagen Transporter, rhif cofrestru GJ17 OBD, fel cerbyd llogi preifat ar gyfer 8 person. Roedd yn gerbyd ail-law ac fe'i cofrestrwyd gyda’r DVLA gyntaf ar 21 Mawrth 2017.

 

Archwiliodd yr Is-bwyllgor y cerbyd.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) wrth yr Aelodau bod y cerbyd wedi gwneud 27,286 o filltiroedd. Dywedodd fod y cais yn syrthio y tu allan i'r Polisi Cerbydau Llogi Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu am y rhesymau a amlinellir yn yr adroddiad. Nid oedd y cerbyd yn hygyrch i gadeiriau olwyn, ond roedd canllawiau polisi penodol mewn perthynas â thrwyddedu cerbydau llogi preifat am y tro cyntaf a oedd y tu allan i ganllawiau polisi, a amlinellir ym mharagraff 4.4 yr adroddiad. Er gwybodaeth i'r Aelodau, darparwyd hanes gwasanaeth y cerbyd, ble’r oedd 6886 milltir wedi’u cofnodi ar 13 Rhagfyr 2017, 9900 milltir ar 14 Chwefror 2018, 19927 milltir ar 23 Awst 2018 a 22678 milltir wedi’u cofnodi ar 24 Hydref 2018.

 

PENDERFYNWYD:       Ystyriodd yr Is-bwyllgor y cais am gofrestru GJ17 OBD fel cerbyd llogi preifat.

 

                                    Nododd yr Aelodau ei fod y tu allan i bolisi 2.1 oherwydd ei oedran a nifer y  milltiroedd.

 

                                    Nododd yr Aelodau y gellid llacio'r polisi fel y nodir ym mharagraff 2.2 y polisi a bod y canllawiau yn 2.2.5 yn berthnasol, sef yr ansawdd eithriadol y tu mewn a'r tu allan a'r safonau diogelwch eithriadol. Ac felly, roedd yr Is-bwyllgor yn hapus i roi'r drwydded.      

173.

Cais am Drwyddedu Cerbyd Llogi Preifat pdf eicon PDF 101 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad yn gofyn i'r Is-bwyllgor ystyried cais am roi trwydded ar gyfer cerbyd llogi preifat.

 

Gwnaed y cais gan Forge Travel Limited am drwyddedu cerbyd Volkswagen Transporter, rhif cofrestru GJ17 OCW, fel cerbyd llogi preifat ar gyfer 8 person. Roedd yn gerbyd ail-law ac fe'i cofrestrwyd gyda’r DVLA gyntaf ar 24 Mawrth 2017.

 

Archwiliodd yr Is-bwyllgor y cerbyd.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) wrth yr Aelodau bod y cerbyd wedi gwneud 28,600 o filltiroedd. Dywedodd fod y cais yn syrthio y tu allan i'r Polisi Cerbydau Llogi Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu am y rhesymau a amlinellir yn yr adroddiad. Nid oedd y cerbyd yn hygyrch i gadeiriau olwyn, ond roedd canllawiau polisi penodol mewn perthynas â thrwyddedu cerbydau llogi preifat am y tro cyntaf a oedd y tu allan i ganllawiau polisi, a amlinellir ym mharagraff 4.4 yr adroddiad. Er gwybodaeth i'r Aelodau, darparwyd hanes gwasanaeth y cerbyd, ble’r oedd 5743 milltir wedi’u cofnodi ar 20 Medi 2017, 9772 milltir ar 30 Tachwedd, 12804 milltir ar 2 Chwefror 2018 a 28151 milltir wedi’u cofnodi ar 20 Chwefror 2019.

 

PENDERFYNWYD:       Ystyriodd yr Is-bwyllgor y cais am gofrestru GJ17 OCW fel cerbyd llogi preifat.

 

                                    Nododd yr Aelodau ei fod y tu allan i bolisi 2.1 oherwydd ei oedran a’r nifer o filltiroedd.

 

                                    Nododd yr Aelodau y gellid llacio'r polisi fel y nodir ym mharagraff 2.2 y polisi a bod y canllawiau yn 2.2.5 yn berthnasol, sef yr ansawdd eithriadol y tu mewn a'r tu allan a'r safonau diogelwch eithriadol. Ac felly, roedd yr Is-bwyllgor yn hapus i roi'r drwydded.       

   

174.

Cais am Drwyddedu Cerbyd Llogi Preifat pdf eicon PDF 92 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad yn gofyn i'r Is-bwyllgor ystyried cais am roi trwydded ar gyfer cerbyd llogi preifat.

 

Gwnaed y cais gan Forge Travel Limited am drwyddedu cerbyd traffig Renault, rhif cofrestru MX13 LHF fel cerbyd llogi preifat ar gyfer 8 person. Roedd y cerbyd yn hygyrch i gadeiriau olwyn ac yn gallu cynnwys 2 gadair olwyn a 5 teithiwr. Roedd yn gerbyd ail-law ac fe'i cofrestrwyd gyda’r DVLA gyntaf ar 20 Mehefin 2013.

 

Archwiliodd yr Is-bwyllgor y cerbyd.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) wrth yr Aelodau fod y cerbyd wedi gwneud 16,553 o filltiroedd. Dywedodd fod y cais yn syrthio y tu allan i'r polisi cerbydau llogi preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor trwyddedu am y rhesymau a amlinellir yn yr adroddiad. Roedd y cerbyd yn hygyrch i gadeiriau olwyn ac roedd y polisïau a oedd yn berthnasol i'r achos hwn wedi'u nodi yn yr adroddiad. Er gwybodaeth i'r Aelodau, darparwyd hanes gwasanaeth y cerbyd, ble’r oedd 1279 milltir wedi’u cofnodi ar 30 Mehefin 2014, 3962 milltir ar 10 Mehefin 2015, 5244 milltir ar 19 Tachwedd 2015, 6938 milltir ar 10 Mehefin 2016, 10392 milltir ar 19 Mehefin 2017, 12309 milltir ar 20 Ebrill 2018, 12669 milltir ar 22 Mai 2018 a 13906 milltir wedi’u cofnodi ar 1 Hydref 2018.  Roedd tystysgrif foddhaol o Archwiliad Trylwyr gan LOLER hefyd wedi’i chyflwyno gyda'r cais dyddiedig 22 Chwefror 2019, mewn perthynas â Lifft Ôl y cerbyd.

 

PENDERFYNWYD:       Ystyriodd yr Is-bwyllgor y cais am gofrestru MX13 LHF fel cerbyd llogi preifat.

 

                                    Nododd yr Aelodau ei fod yn hygyrch o ran cadeiriau olwyn a nodi’r canllawiau polisi arbennig a oedd yn gysylltiedig â hyn.

 

                                    Nododd yr Aelodau fod y cerbyd y tu allan i'r polisi ym mharagraff 2.2.3, ond eu bod serch hynny, o dan 2.2.5, yn barod i lacio'r polisi ar sail yr ansawdd eithriadol y tu allan a'r tu mewn a safonau diogelwch eithriadol.

 

                                    Ac felly, roedd yr is-bwyllgor yn hapus i roi'r drwydded gydag uchafswm o 7 o deithwyr dan baragraff 2.2.4.         

175.

Cais am drwyddedu cerbyd llogi preifat pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad yn gofyn i'r Is-bwyllgor ystyried cais am roi trwydded ar gyfer cerbyd llogi preifat.

 

Gwnaed y cais gan Traveland (Wales) Limited, am drwyddedu Volkswagen Transporter, rhif cofrestru, A5 TLD fel cerbyd llogi preifat ar gyfer 8 person. Cofrestrwyd y cerbyd gyda’r DVLA am y tro cyntaf ar 16 Ionawr 2019. 

 

Archwiliodd yr Is-bwyllgor y cerbyd.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) wrth yr Aelodau bod y cerbyd wedi gwneud 621 o filltiroedd. Dywedodd fod y cais yn syrthio y tu allan i'r polisi cerbydau llogi preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor trwyddedu am y rhesymau a amlinellir yn yr adroddiad. Nid oedd y cerbyd yn hygyrch i gadeiriau olwyn, ond roedd canllawiau polisi penodol mewn perthynas â thrwyddedu cerbydau llogi preifat am y tro cyntaf a oedd y tu allan i ganllawiau polisi, a amlinellir ym mharagraff 4.4 yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:       Ystyriodd yr Is-bwyllgor y cais am gofrestru A5 TLD fel cerbyd llogi preifat.

 

                                    Nododd yr Aelodau ei fod y tu allan i bolisi 2.1 oherwydd ei oedran a’r nifer o filltiroedd.

 

               Nododd yr Aelodau y gellid llacio'r polisi fel y nodir ym mharagraff 2.2 y polisi a bod y canllawiau yn 2.2.5 yn berthnasol, sef ansawdd eithriadol y tu mewn a'r tu allan a'r safonau diogelwch eithriadol. Ac felly, roedd yr Is-bwyllgor yn hapus i roi'r drwydded.         

   

176.

Materion Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim

177.

Gwahardd y Cyhoedd

Nid oedd y cofnodion ac adroddiadau sy'n ymwneud â'r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 14 a 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol

(Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

 

Cofnodion:

Nid oedd y cofnodion ac adroddiadau sy'n ymwneud â'r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 14 a 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'I newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

178.

Cymeradwyaeth Cofnodion wedi’u Eithrio

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 15/01/2019

 

179.

Ceisiadau i Gymeradwyo Trwyddedau

180.

Ceisiadau i Gymeradwyo Trwyddedau

181.

Ceisiadau i Adnewyddu Trwyddedau

182.

Ceisiadau i Adnewyddu Trwyddedau

183.

Ceisiadau i Adnewyddu Trwyddedau