Agenda, decisions and minutes

Fforwm Cyngor Tref a Chymuned - Dydd Llun, 21ain Tachwedd, 2022 16:00

Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Nodyn: Time STC 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

6.

Datganiadau o fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Dim.

7.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 189 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 01/08/2022

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                    Cymeradwyo cofnodion cyfarfod Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned dyddiedig 14 Awst 2022, fel cofnod gwir a chywir, yn amodol ar ychwanegu enw’r Cynghorydd M Evans at restr y rhai a ymddiheurodd am eu habsenoldeb o’r cyfarfod hwnnw.

8.

Adolygiad Llywodraethu Cymunedol pdf eicon PDF 141 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gr?p Cymorth Busnes adroddiad, a’i ddiben oedd rhoi amlinelliad i’r Cynghorau Tref a Chymuned o’r broses ar gyfer Adolygiad Llywodraethu Cymunedol llawn ym Mhen-y-bont ar Ogwr, i’w gyflawni ar gyfer Etholiadau Lleol Mai 2027.

 

Fel rhywfaint o wybodaeth gefndir, dywedodd fod ffiniau wardiau a threfniadau etholiadol Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael eu hadolygu a’u gweithredu gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (y Comisiwn) ar gyfer Etholiadau Lleol Mai 2022.

 

Roedd adolygiad y Comisiwn hefyd yn cynnwys rhai newidiadau o bwys mewn dau Gyngor Cymuned: Cyngor Cymuned Bracla a Chyngor Tref Porthcawl; a gweithredwyd y rhain hefyd ar gyfer Etholiadau Lleol Mai 2022.

 

Ychwanegodd Rheolwr y Gr?p Cymorth Busnes, fod y Cyngor hefyd wedi cynnal adolygiad o drefniadau etholiadol Cyngor Cymuned Coety Uchaf yn dilyn cais ffurfiol gan y Cyngor Cymuned, oedd hefyd wedi cael ei weithredu mewn pryd ar gyfer Etholiadau Lleol Mai 2022.

 

Cwblhawyd yr Adolygiad Llywodraethu Cymunedol llawn diwethaf yn 2009 a byddai fel arfer yn dilyn cylch 10 mlynedd. Arweiniodd yr oedi cyn cwblhau Adolygiad Etholiadol Pen-y-bont ar Ogwr a’r pandemig at ddiffyg digon o amser i gynnal adolygiad llawn mewn pryd ar gyfer yr Etholiadau Lleol ym mis Mai 2022.

 

Eglurodd mai'r Cylch Gorchwyl (ToR) yw'r enw ar y ddogfen allweddol sy'n cychwyn yr Adolygiad Llywodraethu Cymunedol. Mae'r Cylch Gorchwyl yn nodi'r amserlen a'r gweithdrefnau arfaethedig ar gyfer yr adolygiad, yn rhoi arweiniad, ac yn nodi'r materion fydd yn cael eu hystyried yn ystod yr adolygiad. Mae hefyd yn caniatáu i'r Cyngor sicrhau ei fod yn dilyn gweithdrefn benodol, yn ystyried yr ystyriaethau priodol ar gyfer yr adolygiad, ac yn galluogi partïon â diddordeb i ddeall sut i gymryd rhan yn effeithiol yn yr adolygiad. Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth i'r Comisiwn p’un a yw'r Cyngor wedi cynnal yr adolygiad yn briodol neu beidio o dan delerau'r Ddeddf. Cafwyd esboniad pellach o'r Cylch Gorchwyl ym mharagraff 4.2 yr adroddiad.

 

O ran y trefniadau etholiadol, rhydd yr adolygiad y cyfle i ystyried i ba raddau y cyflawnir “cydraddoldeb etholiadol” ar draws cymunedau Pen-y-bont ar Ogwr, ac ar draws unrhyw wardiau sy’n bodoli o fewn cymuned. Adwaenir hwn fel polisi maint cyngor, a bydd yn ystyried:

 

  • Dyraniad bras y cynghorwyr fesul etholaeth;
  • Darparu isafswm ac uchafswm cyffredinol nifer y cynghorwyr cymuned ar gyfer cyngor cymuned. Yn hanesyddol, lleiafswm nifer y cynghorwyr ar gyfer cyngor cymuned oedd 7. Mae’r cyngor cymuned mwyaf yng Nghymru ar hyn o bryd yn 24. Gall y maint mwyaf fod yn ddibynnol ar y ffactorau a ganlyn:

 

   Maint y cynghorau cymuned presennol;

   Graddfa gweithgaredd y cynghorau cymuned;

   Daearyddiaeth ardal y Cyngor; a

   Dwysedd poblogaeth ardal y Cyngor;

 

Cadarnhaodd Rheolwr y Gr?p Cymorth Busnes pe bai uno dwy neu fwy o gymunedau’n cael ei argymell, yna byddai'r cynghorau cymuned presennol yn cael eu diddymu a châi ardal gymunedol newydd ar wahân ei sefydlu. Dan yr amgylchiadau hyn mae'n arferol i'r gymuned gael ei rhannu'n wardiau i adlewyrchu ffiniau'r cymunedau blaenorol a gafodd eu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

Terfyn Diofyn o 20 MYA yng Nghymru o fis Medi 2023 pdf eicon PDF 283 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Gweithrediadau’r Gwasanaethau Cymunedol adroddiad ar yr eitem uchod ac, yn dilyn cyflwyniad byr, gwahoddodd Arweinydd y Tîm Rheoli Traffig a Pharcio i roi cyflwyniad.

Cadarnhaodd Arweinydd y Tîm Rheoli Traffig a Pharcio fod Strategaeth Trafnidiaeth Cymru 2021, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, wedi nodi un o’i blaenoriaethau allweddol sef ‘newid y terfyn cyflymder diofyn o 30mya i 20mya mewn ardaloedd adeiledig i leihau anafiadau a marwolaethau sy’n gysylltiedig â thraffig a gwneud cerdded a beicio yn fwy diogel ac yn fwy deniadol'.

Y cynnig oedd, drwy alluogi llawer mwy o bobl i ddefnyddio terfynau 20mya, y byddai’n sicrhau manteision sylweddol o ran diogelwch ffyrdd, yn enwedig mewn cymdogaethau difreintiedig. Yn y tymor hwy, disgwylir y bydd gweld llai o berygl ar y ffyrdd yn arwain mwy o bobl i gerdded a beicio, fydd yn gwella iechyd y cyhoedd ac yn cymryd lle rhai teithiau car byr, gan gyflawni gostyngiadau pellach mewn gwrthdrawiadau ac anafusion. Mae mwy o gerdded a beicio hefyd yn debygol o arwain at fwy o gydlyniad cymdeithasol fydd yn esgor ar fanteision cymdeithasol ac iechyd pellach. Ar ben hynny, bydd cyflymderau is yn arwain at ostyngiad mewn s?n traffig, tra bydd yr effeithiau ar ansawdd yr aer yn niwtral ar y gwaethaf ac y bydd cynnydd bach mewn amseroedd teithio.

Cadarnhaodd, fel rhan o'r ddeddfwriaeth newydd, fod Tasglu 20mya wedi'i greu i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol i nodi'r ffyrdd hynny fyddai'n eithriad i'r ddeddfwriaeth. Darparodd yr Awdurdod wybodaeth leol ac arbenigedd rheoli traffig i helpu i nodi'r ffyrdd hynny a ddylai fod yn eithriad i'r ddeddfwriaeth er mwyn helpu i sicrhau y cedwir at derfynau ledled y fwrdeistref ac o ganlyniad nad yw'r ddeddfwriaeth yn dioddef anfri.

Fel rhan o’i gyflwyniad, dywedodd Arweinydd y Tîm Rheoli Traffig a Pharcio, o fis Medi 2023, y bydd terfyn cyflymder diofyn newydd o 20mya yn berthnasol i’r rhan fwyaf o strydoedd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr sydd â goleuadau stryd yng Nghymru.

Gallai’r cynnig i leihau terfynau cyflymder diofyn o 30mya i 20mya yn yr ardaloedd hyn arwain at nifer o fanteision, gan gynnwys:

       gostyngiad mewn gwrthdrawiadau ar y ffordd

       mwy o gyfleoedd i gerdded a beicio yn ein cymunedau

       cynorthwyo i wella ein hiechyd a'n lles

       gwneud ein strydoedd yn fwy diogel

       diogelu'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol

Cadarnhaodd y byddai'r cyfyngiadau cyflymder uchod yn cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru o 17 Medi 2023.

Cadarnhaodd Arweinydd y Tîm Rheoli Traffig a Pharcio fod cyflwyno cynlluniau peilot wedi nodi problemau gyda chyflwyniad cyffredinol yr 20mya, yn benodol ar yr holl ffyrdd cyfyngedig.

Roedd deiseb a gyflwynwyd o fewn misoedd i’r cynnig cychwynnol, wedi sicrhau 40,000 o lofnodion yn awgrymu nad oedd terfyn cyflymder cyffredinol o 20mya yn briodol ar gyfer pob ffordd, a bod angen ceisio barn cymunedau yngl?n â hyn er mwyn cael adborth.

O ganlyniad i’r ymgynghoriad hwn, cyflwynwyd rhai eithriadau cyffredinol ac ni chawsant eu caniatáu ar gyfer ffyrdd 30mya A a B, os oeddent  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.

10.

Eitemau brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.