Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs Julie Ellams Democratic Services Officer
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgan Buddiannau Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Datganodd y Cyng H Bennett fuddiant personol yn eitem agenda 5, Glanhau a Chynnal a Chadw Canol y Dref, pwynt 4.21 Gweithio/Gwirfoddoli yn y 3ydd Sector gan mai hi yw CEO CVC a Chanolfan Wirfoddoli dros y BAVO Sirol. |
|
Cymeradwyo Cofnodion PDF 84 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 16/10/17 Cofnodion: PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cyfarfod cofnodion Fforwm Cyngor Tref a Chymuned ar 16 Hydref 2017 fel cofnod gwir a chywiro. |
|
Adolygu dyfodol y Sector Cyngor Tref a Chymuned yng Nghymru PDF 75 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Fforwm gyflwyniad gan Claire Germain, Llywodraeth Cymru (LlC) ar ymgynghoriad ar yr Adolygiad ar Ddyfodol y Sector Cyngor Tref a Chymuned yng Nghymru. Esboniodd fod Panel Adolygu Annibynnol wedi'i benodi i ystyried rôl bosibl llywodraeth leol. Byddai’r Panel Adolygu hefyd am ddiffinio’r model/strwythur mwyaf priodol i gyflawni’r rôl hon a sut dylid rhoi’r modelau a'r strwythurau hyn ar waith ledled Cymru. Ers dechrau’r Adolygiad ym mis Gorffennaf y llynedd, mae’r panel wedi clywed barn a chasglu tystiolaeth gan ystod o randdeiliaid gan gynnwys Cynghorau Tref a Chymuned, Awdurdodau Lleol, y Trydydd Sector a rhanddeiliaid allweddol. Dywedwyd wrth y Fforwm y croesawir eu barn ar yr hyn y dylent fod yn gyfrifol amdano, sut y dylent weithredu, pa rwystrau sy’n eu hwynebu a’r cyfleoedd sy’n bodoli a rhoddwyd dolen i arolwg lle y gellir cyflwynir gwybodaeth. Dywedwyd wrth y Fforwm y cesglir y canfyddiadau ym mis Gorffennaf a’u rhoi mewn adroddiad terfynol fydd ar gael yn yr hydref.
Cododd Aelodau’r fforwm nifer o faterion gan gynnwys: · Cynghorau Tref a Chymuned sy’n cydweithio a phroblemau gyda’r gwahaniaeth mewn praeseptau. Esboniodd cynrychiolydd LlC fod y Panel yn dal i fod yn gwrando ac yn dwyn tystiolaeth ynghyd o ran ystyried llais y gymuned a cydweithio i ddarparu gwasanaethau. · Y gwahaniaeth rhwng yr hyn y mae Cynghorau Tref a Chymuned ei eisiau a’i angen. Esboniodd cynrychiolydd LlC fod y synnwyr o wahaniaethau’n dod drwy’n gryf a’r pwynt allweddol yw’r hyn y mae’r gymuned ei eisiau a’i angen. · A ragwelir Cynghorau Tref a Chymuned mwy pwerus? Esboniodd cynrychiolydd LlC ei bod yn rhy gynnar i gael farn cadarn ond roedd y Panel yn gofyn a oes angen mwy o bwerau ar Gynghorau Tref a Chymuned. · Gwerth cyngor cryf pan fo angen. · Pe bai mwy o gyfrifoldebau gan Gynghorau Tref a Chymuned fyddai cyllid, cyllid allanol yn benodol, yn cael ei adolygu? Dywedodd cynrychiolydd LlC ei bod yn ymddangos bod hyn yn thema yn y dystiolaeth eu bod wedi'i hystyried hyd yn hyn. · Diffyg dylanwad o ran ceisiadau cynllunio. Gallai Cynghorau Tref a Chymuned nodi'r materion ond mae'r Pwyllgor Datblygu Rheoli bob amser yn defnyddio argymhelliad y swyddog. · Mae trefniadau cyllid ar sail system hen ffasiwn lle bo sieciau’n cael eu llofnodi gan lofnodyddion a’r awdurdod lleol sydd â’r praesept. · Fyddai’r Panel yn ystyried modelau sydd ar waith yn Lloegr? Esboniodd cynrychiolydd LlC fod modelau yn Lloegr, UDA a gwledydd eraill yn cael eu hystyried. · Fyddai’r Panel yn ystyried trefniadau ôl Brexit a llymder sy’n debygol o barhau am y dyfodol agos? Esboniodd cynrychiolydd LlC y dylai’r Panel fod yn uchelgeisiol ac ystyried Brexit a llymder. · Roedd yr adolygiad hwn yn gynamserol, mae angen gwneud penderfyniad ar fwrdeistrefi sirol yn gyntaf a tan yr adeg honno, mae popeth yn ansicr. Esboniodd cynrychiolydd LlC fod y darlun ehangach yn cael ei ystyried ac roedd yr adolygiad yn cael ei wneud ochr yn ochr â chynlluniau eraill ac roedd yn rhagweithiol ac yn uchelgeisiol. · Ellir diddymu Cynghorau Tref a Chymuned neu fyddent yn cael eu diogelu? ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 156. |
|
Glanhau a Chynnal a Chadw Canol Trefi PDF 79 KB Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth adroddiad yn cynnwys gwybodaeth o ran cynnal a chadw a glanhau gan gynnwys rhaglenni glanhau a draeniau d?r wyneb ar y briffordd ar gyfer y trefi mawr yn y fwrdeistref
Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth, er 2010, fod rhaglen barhaol o arbedion ariannol wedi bod ar waith i gyflawni gostyngiadau mewn cyllid cyhoeddus ac o ganlyniad mae gostyngiad wedi bod yn lefelau staff a gwasanaethau i fwrw targedau arbed. Amlinellodd y tablau glanhau strydoedd ac esboniodd eu bod yn cael eu newid yn aml i newid amlder glanhau a chodi sbwriel i sicrhau bod gwasanaeth yn cael ei ddarparu ym mhob ardal. Esboniodd fod y Tîm Strydoedd Glanach wedi cydnabod, yn yr adegau o lymder hyn i allu cynnal darpariaeth gwasanaeth foddhaol, fod angen gweithio’n agosach gyda Chynghorau Tref.
Amlinellodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth gynnydd mewn project sy’n ymwneud â baw c?n, cyflwyno swyddi TIKSPAC, gweithio a gwirfoddoli 3ydd sector a draeniau a gweithgareddau'r tîm glanhau strydoedd. Esboniodd nad oes llawer o gyfle i’w staff orfodi felly roedd anfon gwaith yn allanol ar sail hunan-ariannu'n cael ei ystyried.
Cododd Aelod bryder ynghylch baw c?n a chaeau chwaraeon a meysydd chwarae a gofynnodd a yw unrhyw gynnydd wedi’i wneud. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth fod Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus a phwerau gwell yn cael eu hystyried cyn ymgynghoriad. Mewn rhan lleoedd, yr ardaloedd hyn yw’r unig ardaloedd sydd ar gael i fynd â ch?n am dro a gall fod yn her gweithredu unrhyw gynigion. Dywedodd aelod ei bod yn ymddangos bod dosbarthwyr bagiau wrth ymyl biniau yn ffordd gadarnhaol ac effeithiol o ddelio gyda’r mater.
Gofynnodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth a yw unrhyw un wedi’i erlyn am adael baw c?n yn CBSP a chadarnhaodd nad yw unrhyw un wedi’i erlyn yn CBSP am adael baw c?n.
Croesawodd Aelod y syniad o orfodi ac awgrymodd weithio gydag awdurdodau eraill i rannu arfer gorau. Gallai ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol ac apiau lle y gellir rhoi gwybod am ddigwyddiadau fod y ffordd ymlaen. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth ei fod yn ystyried ap ar gyfer cwynion amgylcheddol megis goleuadau stryd a cheubyllau.
Pwysleisiodd Aelod y pwysigrwydd o gydlynu gwaith 3ydd sector a gwirfoddolwyr gyda gwaith CBSP ac y gellir darparu pecynnau gwybodaeth ac offer i helpu gyda’r gwaith. Cododd pryderon a fyddai unrhyw warant y gellir cyflawni’r amserlenni ar ôl i nifer y staff gael ei ostwng o 41 i 18. Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth fod gostyngiadau sylweddol wedi bod yn adnoddau ond mae pob ymdrech wedi’i wneud i wneud y defnydd gorau o’r hyn sydd ar gael a’r meysydd allweddol oedd y rhai olaf i gael eu gostwng.
Cyfeiriodd Aelod at y dirywiad yng ngolwg y strydoedd gyda biniau sy'n gorlifo a gwaith archwili a glanhau gylïau annigonol. Amlinellodd broblemau yn ei ardal ac awgrymodd y dylid mynd i’r afael â’r broblem mewn modd mwy rhagweithiol.
Cyfeiriodd Aelod ar Gadw Cymru’n Daclus a sut mae pecynnau wedi’u datblygu a sut mae unigolion ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 157. |
|
Adolygu Siartr Cynghorau Tref a Chymuned (CTCau) a fformat cyfarfodydd Fforwm y CTC PDF 85 KB Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad sy’n rhoi gwybod i Fforwm y CTC o argymhellion Gweithgor Siartr y Cyngor Tref a Chymuned a fformat cyfarfodydd Fforwm y CTC. Esboniodd fod y Siartr wedi’i hadolygu ddiwethaf yn 2016 pan gytunwyd y byddai’n cael ei hadolygu bob blwyddyn i sicrhau ei bod yn parhau i fod yn addas at y diben. Ym mis Hydref 2017 sefydlwyd Gweithgor i ddatblygu capasiti yng nghymunedau’r Fwrdeistref Sirol, lleihau effaith gostyngiadau yn y gyllideb ar ddinasyddion ac estyn perthnasau gyda sefydliadau Trydydd Sector a sefydliadau eraill.
Trafododd Fforwm y Cyngor Tref a Chymuned yr argymhellion yn yr adroddiad a chytunodd i’r argymhellion isod:
Argymhellion:
(b) Bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ynghyd â’r saith amcan llesiant a'i phum ffordd o weithio'n cael ei defnyddio i roi sail i drafodaethau gyda Chynghorau i fwrw ymlaen gyda'r gwaith o ddatblygu'r Siartr.
(c) Bod adborth o ymgysylltiadau’r Cyngor yn cael ei goladu gan y gweithgor a bod diweddariadau’n cael eu rhoi i Fforwm y CTC yn rheolaidd.
(d) bod y gwaith o raglenni Gwaith Blaen ar gyfer y Fforwm yn cael ei wella a bod ei gyfarfodydd yn ystyried ystod ehangach o eitemau gan gynnwys ymgynghoriadau cyfredol ac wedi'u cynllunio, rhannu arfer da a gwybodaeth, a nodi cyfleoedd i Gynghorau gydweithio.
(e) y dylai cyfarfodydd y Clerciau barhau a’u hymblethu gyda chyfarfodydd Fforwm y CTC.
(f) bod amlder cyfarfodydd Fforwm y CTC gael ei gynnal sef 4 gwaith y flwyddyn ond yn cael ei adolygu yn ystod y 12 mis nesaf. Bydd y Flaenraglen Waith yn penderfynu a oes angen cyfarfodydd ychwanegol yn ystod y flwyddyn.
(g) Bod cynrychiolwyr o Gynghorau Tref a Chymuned yn gallu enw rhywun i fynychu cyfarfod y Fforwm yn eu lle os na allant fynychu.
(h) Bod arolwg o amseroedd cyfarfodydd yn cael ei wneud i benderfynu ar ddewis ddiwrnod ac amser cyfarfodydd y Fforwm yn y dyfodol i ddileu unrhyw rwystrau sy’n atal aelodau rhag bod yn bresennol yn y cyfarfodydd hyn.
(i) Bod y cynigion hyn yn cael eu hadolygu ar ôl 12 mis.
(j) y gofynnir i bob Cyngor Tref a Chymuned gael eitem sefydlog ar ei agenda i:
• ystyried eitemau i’w cynnwys ar agenda Fforwm y Cyngor Tref a Chymuned. • ystyried adborth o gyfarfodydd y Fforwm y Cyngor Tref a Chymuned • nodi cynigion i’w cynnwys ar Gynllun Gweithredu Siartr y CTC a fyddai’n helpu i ddatblygu'r Siartr.
Nododd Fforwm y CTC y rhoddir gwybod am unrhyw argymhellion cytunedig nad ydynt o fewn cylch gwaith Fforwm y Cyngor Tref a Chymuned i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-Y-Bont Ar Ogwr neu’r Cyngor Tref a Chymuned priodol i’w cymeradwyo. |
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim |