Agenda a Chofnodion

Fforwm Cyngor Tref a Chymuned - Dydd Llun, 15fed Gorffennaf, 2019 16:00

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

178.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan yr Aelodau a ganlyn:-

 

Y Cynghorydd L Desmond-Williams

Y Cynghorydd T Lyddon

Y Cynghorydd K Rowlands

Y Cynghorydd MC Voisey

Y Cynghorydd RE Young

179.

Datgan buddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Dim.

180.

Cymeradwyo’r cofnodion pdf eicon PDF 92 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 26/02/19

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:         Cytunwyd bod cofnodion cyfarfod Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned, dyddiedig 26 Chwefror 2019, yn gywir.            

181.

Cyflwyniad gan y Prif Uwcharolygydd Alun Morgan o Heddlu De Cymru ar Blismona yn y Fwrdeistref Sirol.

Cofnodion:

Agorodd y Cadeirydd yr eitem hon drwy gyflwyno’r Prif Uwcharolygydd Alun Morgan i’r Aelodau. Roedd y Prif Uwcharolygydd yn ymddangos gerbron y Fforwm heddiw i roi cyflwyniad llafar ar faterion plismona.

 

Dywedodd y byddai’n trafod rhai o’r materion a oedd yn wynebu Heddlu’r De a sut roeddent yn bwriadu ymdrin â rhai o’r problemau a byddai’n eu hamlinellu.

 

Rhoddodd drosolwg o’r materion dan sylw gan ddweud bod yr heddlu’n dymuno gweithio mor effeithlon â phosibl yn yr hinsawdd bresennol. Dywedodd hefyd ei bod yn bwysig i’r heddlu ddefnyddio’r adnoddau mwyaf priodol yn yr ardaloedd iawn, gan ddefnyddio data a thechnoleg i’w helpu i ddarparu’r gwasanaethau hyn.

 

Aeth rhagddo i ganmol y Cyngor am fod mor awyddus i weithio gyda’r heddlu i ddatrys problemau lleol fel digartrefedd, cyflenwi/camddefnyddio cyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac yna nododd y pum blaenoriaeth roedd yr heddlu wedi’u mabwysiadu’n ffurfiol yng nghyd-destun plismona, sef cam-drin domestig, troseddu â chyllyll, llinellau cyffuriau, trais a throseddau rhywiol difrifol eraill, yn ogystal â’r angen i atal ac ymateb i fygythiadau terfysgol ac ymosodiadau posibl gan eithafwyr.

 

Yna rhoddodd y Prif Uwcharolygydd esboniad manylach o’r hyn yw ‘llinell gyffuriau’, sef sefyllfa sy’n codi pan fydd gangiau cyffuriau o’r dinasoedd mawr yn ehangu eu busnes i drefi llai, gan ddefnyddio trais i yrru’r delwyr cyffuriau llai o’r dref a manteisio ar bobl agored i niwed i werthu cyffuriau. Bydd y delwyr hyn hefyd yn defnyddio llinellau ffonau symudol penodol, y ‘llinellau cyffuriau’, i brynu a gwerthu cyffuriau.  

 

Drwy ganolbwyntio mwy ar y pum blaenoriaeth hyn, gallai’r heddlu weithio’n fwy cydlynol nag erioed o’r blaen, gan ddefnyddio adnoddau mwy arbenigol i frwydro yn erbyn y problemau dan sylw.

 

Ychwanegodd fod proses ar waith yn awr yn yr heddlu i greu mwy o gyfleoedd i benodi swyddogion prawf newydd ac i swyddogion drosglwyddo o un heddlu i’r llall, ac mae cynllun mynediad uniongyrchol hefyd ar waith ar gyfer ymchwilwyr.  

 

Nod yr holl newidiadau hyn yw galluogi’r heddlu i ymateb yn fwy effeithiol i’r galw cynyddol i ymdrin ag achosion mwy difrifol. Byddai’r swyddogion ychwanegol yn cael eu defnyddio i ymateb i achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol dros fisoedd yr haf, sy’n cynyddu pan fydd y tywydd yn cynhesu. 

 

Gofynnodd un o’r Aelodau a oedd unrhyw gynigion i leihau nifer y gorsafoedd heddlu ac, yn benodol, gorsaf Heddlu Porthcawl.

 

Cadarnhaodd y Prif Uwcharolygydd fod ystâd yr heddlu’n cael ei hadolygu’n barhaus ond nad oedd unrhyw bryderon ynghylch yr orsaf hon ar hyn o bryd. Ychwanegodd y gallai’r syniad o uno gorsafoedd, a fydd yn digwydd yn fuan yn Llanilltud Fawr, apelio at Borthcawl, ond byddai’n rhaid sicrhau na fyddai adolygiad o’r fath yn gwanhau’r gwasanaeth plismona yn yr ardal. Dywedodd hefyd fod y model ar gyfer Llanilltud Fawr yn seiliedig ar bartneriaeth rhwng yr heddlu, y gwasanaeth tân, ambiwlans a gwylwyr y glannau.

 

Yna, trafododd y Prif Uwcharolygydd Morgan Ymgyrch y Ddraig Goch yn erbyn cyffuriau Dosbarth A. Trefnwyd i aelod o’r heddlu cudd fod ar strydoedd y Barri a Phen-y-bont ar Ogwr rhwng mis Gorffennaf  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 181.

182.

Hynt y rhaglen Teithio Llesol ym Mhen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 72 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Polisi, Datblygu a Thrafnidiaeth adroddiad. Diben hwn oedd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Fforwm am Deithio Llesol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Rhoddwyd y wybodaeth hon i Glercod y Cynghorau Tref a Chymuned ar 28 Mehefin 2019.

 

Esboniodd y cefndir drwy ddweud bod Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 wedi dod i rym ym mis Medi 2014 ac, ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhoi arian grant i Gynghorau Cymru i’w helpu i weithredu’r rhaglenni teithio llesol a nodwyd ym Mapiau Rhwydwaith Integredig y cynghorau unigol. Bob blwyddyn, caiff cynghorau eu gwahodd i gyflwyno cynigion i hyrwyddo teithio llesol gan gynnwys llwybrau sy’n cyd-fynd â’r cynllun llwybrau diogel mewn cymunedau/i ysgolion. Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r cynllun hwn hefyd. Pan fo hynny’n briodol ac yn berthnasol, mae’r Cyngor hefyd yn gweithredu rhannau o’r rhwydwaith teithio llesol drwy gyfraniadau gan ddatblygwyr.

 

Yna, aeth Arweinydd y Tîm Polisi, Datblygu a Thrafnidiaeth rhagddo i roi cyflwyniad, a’r prif ddiben oedd rhoi gwybod i’r Cynghorwyr am hynt y gwaith ac esbonio’r prosesau mae Swyddogion y Cyngor yn eu dilyn wrth benderfynau ar y cynlluniau a’u hasesu. 

 

Roedd y cyflwyniad yn ymdrin â’r prif bwyntiau a’r themâu a ganlyn:-

 

Prif ddiben y Ddeddf oedd sicrhau bod pobl yn dewis cerdded a  beicio o le i le dros  bellteroedd byr/byrrach.

 

Cyflwyno map rhwydwaith Teithio Llesol i Lywodraeth Cymru ei gymeradwyo ym mis Hydref 2017. Mae’r rhwydwaith yn cynnwys:-

 

·       Y mapiau rhwydwaith presennol (ERM)

·       Map Rhwydwaith Integredig (INM)

·       Map a fydd ar gael i’r cyhoedd

 

Hynt y gwaith ym Mhen-y-bont ar Ogwr

 

Mae Teithio Llesol yn integreiddio â pholisïau trafnidiaeth ehangach:-

 

  1. Cynllun Datblygu Lleol (CDLl)
  2. Cynllun Trafnidiaeth Lleol (CTLl)

 

Gwella ac ariannu cynlluniau i wella’r seilwaith teithio llesol

 

  • Cynlluniau i’w cynnwys yn y Map Rhwydwaith Integredig a’r Cynllun Trafnidiaeth Lleol
  • Cynlluniau sy’n gysylltiedig ac yn cyd-fynd â llwybrau diogel mewn cymunedau/ i ysgolion
  • Cynlluniau i’w cynnwys yn y cynlluniau teithio i ysgolion neu gynlluniau mynediad cymunedol
  • Cynlluniau i’w datblygu a’u hariannu drwy’r broses defnyddio tir fel rhan o :-

 

1.     Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif

2.     Datblygiadau preswyl

3.     Datblygiadau’r GIG/Ymddiriedolaeth

4.     Adfywio Canol Trefi

5.     Datblygu seilwaith trafnidiaeth.

 

Yna, cafwyd gwybodaeth am gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016/17 – 2018/19, a’r cyllid ar gyfer 2019/20:-

 

 

 

Nodau llesiant Teithio Llesol yw creu Cymru:

 

  • lewyrchus
  • cydnerth
  • iach
  • mwy cydradd
  • cydlynol
  • sydd â diwylliant bywiog a
  • chyfrifoldeb byd-eang

 

Hyrwyddo llwybrau Teithio Llesol drwy:-

 

Gynlluniau hirdymor e.e. datblygu defnydd tir;

Atal e.e. lleihau dibyniaeth ar geir, gwersi beicio mewn ysgolion, cynlluniau beicio i’r gwaith yn y gweithle;

Integreiddio e.e. defnydd tir a defnyddio mwy nag un dull o deithio;

Cydweithredu e.e. cymunedau, ysgolion etc;

Cyfranogiad e.e. defnyddwyr trafnidiaeth, cerddwyr, beicwyr etc

 

Teithio Llesol a’r broses gynllunio

 

Nod y  broses o gynllunio datblygiadau yw:

 

1.     Integreiddio a chydlynu cynlluniau defnydd tir a thrafnidiaeth

2.     Hygyrchedd i bawb (dewis ehangach)

3.     Lleihau’r angen i deithio

4.     Blaenoriaethu teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus

5.     Cefnogi cerbydau ag allyriadau eithriadol o isel (cerbydau ULEV)

 

Mae’r broses rheoli datblygiadau’n gyfrifol am:

 

183.

Glanhau strydoedd pdf eicon PDF 147 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:         O dan gyfarwyddyd y Cadeirydd, cytunodd Aelodau’r Fforwm i ohirio’r eitem hon tan y cyfarfod nesaf.

184.

Eitemau brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.