Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd Dinesig, Stryd Yr Angel, Penybont Ar Ogwr CF31 4WB
Cyswllt: Mark Anthony Galvin Senior Democratic Services Officer - Committees
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau am Absenoldeb Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.
Cofnodion: Ymddiheuriadau am Absenoldeb:-
A Wilkes G Letman Y Cyng. C Webster Y Cyng. N Clarke Y Cyng. K Watts |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datgan Buddiannau Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008. Cofnodion: Dim. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
I Gael Cyflwyniad. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a ddiweddarai'r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned yngl?n â SATC 2020-21 hyd 2023-24. Pwrpas yr adroddiad hefyd oedd hysbysu'r Aelodau ac eraill yngl?n â'r broses ymgynghori ar Gyllideb SATC 2019 er mwyn gwella'r gwaith ymgysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned.
Rhoddai'r adroddiad beth gwybodaeth gefndirol a chafwyd ynddo gadarnhad mai'r bwriad oedd ymgynghori ar Gyllideb SATC 2019 rhwng 9 Medi 2019 a 3 Tachwedd 2019.
Cafwyd yn adran nesaf yr adroddiad amlinelliad o'r dulliau a ddefnyddid i gynnal yr ymgynghoriad, gan gynnwys ymgynghoriad ar-lein ac ar bapur, yn ogystal â gosod hysbysebion mewn llefydd cyhoeddus.
Cynhelid cyfarfodydd cyhoeddus hefyd a'r bwriad yw ymgysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned, gan eu bod hwy yn ymgyngoreion pwysig iawn.
Yna, rhoddodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a'r Swyddog Adran 151 gyflwyniad PowerPoint a oedd yn dwyn y teitl, 'Brîff ynghylch Cyllideb y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig'. Esboniodd fod cyllideb gyfredol y Cyngor ar gyfer 2019/20 wedi'i dyrannu fel a ganlyn:
Ariennir y rhan fwyaf o'r gyllideb net gan Lywodraeth Cymru a thrwy daliadau'r Dreth Gyngor. Daw'r rhan fwyaf o’r cyllid o'r Grant Cynnal Refeniw oddi wrth Lywodraeth Cymru, ond mae'r Cyngor hefyd yn cael cyfran o drethi annomestig / busnes oddi wrth Lywodraeth Cymru. Mae'r 2 ddyraniad hyn yn sefydlog ac maent yn cyfrannu tuag at 71% o'r cyllid. Daw'r gweddill o'r Dreth Gyngor. Dyma grynodeb a dadansoddiad o'r dosraniad:-
£ % Y Grant Cynnal Refeniw 145,354,407 53.67 Trethi Annomestig 46,452,373 17.15 Incwm drwy'r Dreth Gyngor 79,001,854 29.18 Cyfanswm 270,808,634 100%
O ran y cyllid y bydd yn ei gael oddi wrth Lywodraeth Cymru, bwriad y Cyngor yw cynllunio ar sail 3 senario, h.y. y Senario Orau, y Senario Fwyaf Tebygol a'r Senario Waethaf. Cyfeirir at gyfanswm y Grant Cynnal Refeniw a'r Cyfraddau Annomestig fel Cyllid Allanol Cyfun.
Senarios SATC 2020-21 hyd 2023-24 -% Newid yn y Cyllid Allanol Cyfun
2020-21 2021-22 2022-23 2023-24 % y Newid % y Newid % y Newid % y Newid Y Senario Orau -1.0% -1.0% -1.0% -1.0% Y Senario Fwyaf Tebygol -1.5% -1.5% -1.5% - 1.5% Y Senario Waethaf - 3.0% -3.0% -3.0% - 3.0%
Cynnydd yn y Dreth Gyngor +4.5% +4.5% +4.5% +4.5%
Effaith y Gwahanol Senarios ar Gyllid y Cyngor:
Cyfanswm y Cyllid Allanol Cyfun y mae'r Cyngor yn ei gael yn 2019/20 yw £191.807 miliwn. Dangosir isod effaith y 3 senario o ran cyllid Llywodraeth Cymru ar gyllideb Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd y Senario Fwyaf Tebygol yn arwain at leihad o £2.8 miliwn yng nghyllid ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 187. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Materion Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim. |