Agenda, decisions and minutes

Fforwm Cyngor Tref a Chymuned - Dydd Llun, 1af Awst, 2022 16:00

Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Nodyn: Time STC 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiadau ynghylch Buddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Penderfyniad:

Datganodd y Cynghorydd H Bennett fuddiant personol yn eitem 4 Rhwydwaith Natur Cwm Taf - Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant gan ei fod yn aelod o Fwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus.      

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd H Bennett fudd personol yn eitem 4 ar yr agenda Rhwydwaith Natur Cwm Taf – Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant fel aelod o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

2.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 225 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 07/02/22

Penderfyniad:

Cymeradwywyd cofnodion 2 Chwefror 2022 fel cofnod gwir a chywir.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion 2 Chwefror 2022 fel cofnod gwir a chywir.

3.

Rhwydwaith Natur Cwm Taf - Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant pdf eicon PDF 431 KB

Penderfyniad:

Fe nodwyd y Fforwm Cyngor Tref a Chymuned yr adroddiad.  

Cofnodion:

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd wrth y Fforwm y bydd Blaenraglen waith o eitemau yn cael ei datblygu gyda'r Bwrdd Rheoli Corfforaethol a Chynghorau Tref a Chymuned. Bydd eitem sefydlog ar yr agenda ym mhob cyfarfod o'r Fforwm er mwyn ychwanegu neu ddiwygio eitemau i gael cynllun clir i'r dyfodol a gellir blaenoriaethu eitemau yn ôl yr angen.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol adroddiad a oedd yn hysbysu’r Fforwm am Brosiect Rhwydwaith Natur Cwm Taf sy’n fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant (ENRaW). Rhoddwyd diweddariad i'r Fforwm ar gynnydd ac effaith y prosiect yn ystod cam 1 o gyflawni'r prosiect. Dywedodd mai nod Rhwydwaith Natur Cwm Taf oedd ffurfio cydweithrediad i reoli seilwaith gwyrdd Rhanbarth Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn well a’r Cyngor hwn fyddai’r corff arweiniol ar gyfer cyflawni’r prosiect ar draws y Rhanbarth.

 

Derbyniodd y Fforwm gyflwyniad gan y Swyddog Adnoddau Naturiol a Llesiant ar Brosiect Rhwydwaith Natur Cwm Taf, sy’n cael ei ariannu 100% gan Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Dywedodd mai un o'r pethau y gellir eu cyflawni o fewn y prosiect yw ymgysylltu â'r gymuned i ddatblygu mwy o ymdeimlad o berchnogaeth dros eu mannau gwyrdd, i deimlo'n ddiogel yn y mannau gwyrdd hynny ac i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol. Nod arall y prosiect yw cryfhau bioamrywiaeth, ei wella a’i ddiogelu trwy weithio gydag ystod o arbenigwyr a sefydliadau o ddiddordeb.

 

Dywedodd y Swyddog Adnoddau Naturiol a Llesiant wrth y Fforwm fod 20 o fannau gwyrdd wedi’u nodi ar draws y tair sir a fydd yn cael eu rheoli fel rhwydwaith cysylltiedig o fannau gwyrdd, wedi’u dylanwadu’n bennaf gan botensial cysylltedd ecolegol pedair rhywogaeth y mae’r prosiect wedi ymrwymo i’w gwarchod. Roedd safleoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi'u dewis lle mae gan swyddogion fwy o ddylanwad dros le mae nifer o warchodfeydd natur leol sy'n cael eu rheoli'n weithredol neu lle mae presenoldeb gwirfoddolwyr cryf. Ethos y prosiect yw iddo gael ei arwain gan y gymuned, gyda photensial mewn llawer o’r mannau gwyrdd i adeiladu ar hynny. Bydd y prosiect hefyd yn ceisio cefnogi rhai grwpiau i greu safleoedd enghreifftiol, yn enwedig o ran ymgysylltu synhwyraidd.

 

Dywedodd y Swyddog Adnoddau Naturiol a Llesiant hefyd wrth y Fforwm fod rhai o'r safleoedd eisoes â mynediad rhagorol, fodd bynnag, mae cyfraniad tuag at wella mynediad i fannau gwyrdd sydd heb fynediad da yn cael ei ystyried. Yng ngham 1, mae Direct Access, sy'n sefydliad sy'n cael ei arwain gan anabledd 100% wedi'i gomisiynu i helpu i wella mynediad i safleoedd. Bydd eu canfyddiadau, ynghyd â chanfyddiadau archwiliad iechyd a diogelwch, i'w cyflawni erbyn canol mis Medi a chyfeirir at y Cynllun Rheoli Tir fel rhan o'r gwaith arolwg sy'n cael ei wneud.

 

Eglurodd y Swyddog Adnoddau Naturiol a Llesiant yr amserlen ar gyfer cyflawni'r prosiect a oedd i'w gyflawni'n wreiddiol dros 3 blynedd, a fyddai bellach yn cael ei gyflawni dros gyfnod o 12 mis erbyn mis Mehefin 2023. Nodweddion gweithgarwch cadwraeth amgylcheddol y prosiect, gwella llwybrau,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Penderfyniad:

Nid oedd unrhyw eitemau ar frys.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

5.

20 MPH Default Limit in Wales from September 2023 pdf eicon PDF 283 KB