Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Datganiadau o Fuddiannau Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008. Cofnodion: Fe wnaeth y Cynghorydd R Smith ddatgan buddiant rhagfarnus yn eitem 5 ar yr Agenda, am ei fod yn Gyfarwyddwr cwmni oedd yn derbyn grant Canolfan Gynnes.
Fe wnaeth y Cynghorydd H Bennett ddatgan buddiant rhagfarnus yn eitem 5 ar yr Agenda, fel cyflogwr corff oedd yn gweinyddu’r grantiau.
Fe wnaeth y Cynghorydd E Winstanley ddatgan buddiant rhagfarnus yn eitem 5 ar yr Agenda, fel cyflogwr corff oedd yn gweinyddu’r grantiau.
Fe wnaeth y Cynghorydd S Parker ddatgan buddiant personol yn eitem 5 ar yr Agenda, gan fod ei wraig yn Aelod o Ganolfan Gynnes Corneli sydd hefyd wedi derbyn grant. |
|
|
Cymeradwyo’r cofnodion I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 21/11/2022 Cofnodion: PENDERFYNWYD:: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned dyddiedig 21 Tachwedd 2022, fel cofnod gwir a chywir. |
|
|
Cynllun Corfforaethol 2023-28 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus adroddiad, er mwyn rhoi diweddariad ar Gynllun Corfforaethol y Cyngor a cheisio cefnogaeth gan Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned i rannu Cynllun Corfforaethol 2023-28, a oedd ynghlwm yn Atodiad 1 i’r adroddiad. Roedd hwn i fod i gael ei adrodd i'r Cyngor yn ddiweddarach y mis hwn.
Cadarnhaodd fod 7 nod llesiant ar gyfer Cymru, wedi eu nodi yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a bod angen i’r Cyngor, fel awdurdodau lleol eraill, ddangos ein cyfraniad at bob un o’r nodau hyn, sef – • Cymru lewyrchus • Cymru gydnerth • Cymru iachach • Cymru fwy cyfartal • Cymru o gymunedau cydlynol • Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu • Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Ychwanegodd Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus fod yn rhaid i'r Cyngor hefyd ystyried y 5 ffordd o weithio wrth iddo ddatblygu'r Cynllun Corfforaethol newydd. Y rhain oedd –
• Hirdymor - cydbwyso anghenion tymor byr gyda'r angen i ddiogelu'r gallu i ateb anghenion hirdymor hefyd • Atal - gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu rhag gwaethygu er mwyn helpu'r Cyngor i gyflawni ei amcanion • Integreiddio – meddwl am sut y bydd ei nodau llesiant yn cyfrannu at y 7 nod genedlaethol, at ei amcanion eraill ac at amcanion partneriaid. • Cydweithio – gweithio ar draws gwahanol rannau o'r Cyngor a phartneriaid i gyflawni ei amcanion • Cynnwys – cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth ei ardal.
Y Cynllun Corfforaethol yw prif gyfrwng y Cyngor ar gyfer dangos a chyfleu’r blaenoriaethau i bobl a busnesau lleol. Roedd hefyd yn rhan bwysig o'r fframwaith sicrwydd ar gyfer ei reoleiddwyr. Roedd Archwilio Cymru yn bwriadu rhoi prawf ar ddulliau o ddatblygu’r Cynllun Corfforaethol (yn enwedig yr amcanion llesiant) ledled Cymru dros y 6 mis nesaf. Amlinellwyd yr Amcanion hyn ym mharagraff 3.5 o'r adroddiad.
Roedd Llywodraeth Cymru hefyd yn cymryd diddordeb mawr yn natblygiad amcanion llesiant, yn unol ag esblygiad y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a’r canllawiau. Maent yn awyddus i weld tystiolaeth fod y Cyngor yn gweithio gyda staff ac Undebau Llafur ar ddatblygu ei amcanion a'i gynllun llesiant.
Yna amlinellodd Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus rywfaint o’r gwaith oedd wedi cael ei wneud neu oedd yn ofynnol, megis mewn perthynas â:
• Defnyddio ymchwil, data a gwybodaeth i gasglu manylion ar gyfer y Cynllun Corfforaethol; • Defnyddio ymgysylltu, cynnwys ac ymgynghori i gasglu'r wybodaeth ar gyfer y Cynllun Corfforaethol.
Eglurwyd rhagor o fanylion am y gwaith a wnaed yn y meysydd hyn yn yr adroddiad, gan gynnwys adborth gyda golwg ar ymgynghori’n fewnol, er enghraifft drwy’r broses Trosolwg a Chraffu, ac yn allanol gyda rhanddeiliaid, megis etholwyr, y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Cyngor Ieuenctid.
Yn dilyn y broses ymgynghori, gwnaed rhai newidiadau i’r Cynllun Corfforaethol yn seiliedig ar yr adborth a dderbyniwyd, megis:
• Ailysgrifennu'r egwyddorion, a newid yr eiconau sy'n eu cynrychioli, fel eu bod yn fwy ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 13. |
|
|
Costau Byw / Canolfannau Cynnes Cofnodion: Cyflwynodd Cydlynydd Costau Byw (Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr) adroddiad, a’i ddiben oedd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned am y gweithgarwch ynghylch cymorth costau byw, a Chanolfannau Cynnes yn fwyaf penodol, oedd yn cael eu darparu i gymunedau ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Fel rhywfaint o wybodaeth gefndir, dywedodd fod effaith y cynnydd mewn costau byw yn effeithio ar bawb ond bod yna grwpiau oedd yn debygol o gael eu taro galetaf. Roedd y bobl hyn yn gwario cyfran uwch o gyfanswm eu hincwm ar fwyd, tai a chostau ynni ac felly bod ganddynt lai o hyblygrwydd i gwrdd â chostau oedd yn cynyddu. Roedd y rhai oedd yn arfer gallu rheoli eu cyllidebau bellach yn dechrau cael trafferth neu'n cael eu hunain mewn argyfwng.
Roedd problemau gyda stoc tai h?n yn golygu bod llawer o gartrefi yn llai ynni-effeithlon. Mewn ardaloedd gwledig roedd cartrefi yn fwy tebygol o fod yn ddibynnol ar danwydd solet, olew, neu LPG ar gyfer eu gwresogi. Roedd y rhain i gyd yn ffactorau oedd yn cynyddu costau ynni.
Cadarnhaodd y Cydgysylltydd Costau Byw fod y cap ar brisiau ynni domestig wedi codi i £1,971 y flwyddyn ym mis Ebrill 2022, gan arwain Llywodraeth Cymru i amcangyfrif y gallai hyd at 45% o aelwydydd fod mewn tlodi tanwydd ac y gallai hyd at 8% o aelwydydd fod mewn tlodi tanwydd difrifol. Gan fod 1 o bob 5 cartref yng Nghymru yn peri risg annerbyniol i iechyd cyn yr argyfwng costau byw, roedd y cynnydd yn yr aelwydydd yr oedd tlodi tanwydd wedi effeithio arnynt yn debygol o gynyddu marwolaethau ychwanegol y gaeaf yn gyffredinol.
Ym mis Medi 2022, mewn ymateb i’r argyfwng costau byw cynyddol, costau uwch ynni yn benodol, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai miliwn o bunnau ar gael i gynorthwyo cymunedau i ddatblygu Canolfannau Cynnes neu ehangu a gwella darpariaeth Canolfan Gynnes.
Yna ym mis Hydref 2022, cyhoeddwyd y câi’r cyllid ei ddosbarthu drwy awdurdodau lleol fyddai’n gweithio gyda phartneriaid lleol i ddatblygu a darparu Canolfannau Cynnes. Dyrannwyd £44,590 i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gynorthwyo Canolfannau Cynnes drwy gynllun grant i’w wario erbyn 31 Mawrth 2023.
Eglurodd fod Canolfannau Cynnes wedi eu bwriadu fel lleoedd mewn cymunedau lleol lle gallai pobl ddod o hyd i amgylchedd diogel a chynnes yn ystod y dydd i gynorthwyo i leihau cost gwresogi eu cartrefi eu hunain ac i helpu pobl oedd yn wynebu tlodi tanwydd eithafol y gaeaf hwn. Yn dibynnu ar eu lleoliad a’u cyfleusterau, roedd Canolfannau Cynnes yn cynnig amrywiaeth o gymorth, gan gynnwys lluniaeth a byrbrydau sylfaenol o leiaf, ac ymestyn i bryd o fwyd mwy sylweddol lle bo modd, gweithgareddau cyfoethogi fel celf a chrefft, ymarfer corff a gweithgaredd diwylliannol a darparu cyngor a gwasanaethau cymorth fel iechyd a lles, materion ariannol, a hygyrchedd digidol i’r rhai oedd yn mynychu.
Nod cronfa’r Canolfannau Cynnes oedd darparu mannau diogel, hygyrch, cyfeillgar, rhad ac am ddim i gynnig cymorth gyda chostau byw cynyddol tra’n ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 14. |
|
|
Eitemau brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim. |