Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd Dinesig, Stryd Yr Angel, Penybont Ar Ogwr CF31 4WB

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

185.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Ymddiheuriadau am Absenoldeb:-

 

A Wilkes

G Letman

Y Cyng. C Webster

Y Cyng. N Clarke

Y Cyng. K Watts

186.

Datgan Buddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Dim.

187.

Y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC) 2020-21 hyd 2023-24 - Diweddariad a'r Ymgynghoriad ar Gyllideb 2019 - Ymgysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned pdf eicon PDF 72 KB

I Gael Cyflwyniad.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a ddiweddarai'r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned yngl?n â SATC 2020-21 hyd 2023-24. Pwrpas yr adroddiad hefyd oedd hysbysu'r Aelodau ac eraill yngl?n â'r broses ymgynghori ar Gyllideb SATC 2019 er mwyn gwella'r gwaith ymgysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned.

 

Rhoddai'r adroddiad beth gwybodaeth gefndirol a chafwyd ynddo gadarnhad mai'r bwriad oedd ymgynghori ar Gyllideb SATC 2019 rhwng 9 Medi 2019 a 3 Tachwedd 2019.

 

Cafwyd yn adran nesaf yr adroddiad amlinelliad o'r dulliau a ddefnyddid i gynnal yr ymgynghoriad, gan gynnwys ymgynghoriad ar-lein ac ar bapur, yn ogystal â gosod hysbysebion mewn llefydd cyhoeddus.

 

Cynhelid cyfarfodydd cyhoeddus hefyd a'r bwriad yw ymgysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned, gan eu bod hwy yn ymgyngoreion pwysig iawn.

 

Yna, rhoddodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a'r Swyddog Adran 151 gyflwyniad PowerPoint a oedd yn dwyn y teitl, 'Brîff ynghylch Cyllideb y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig'.

Esboniodd fod cyllideb gyfredol y Cyngor ar gyfer 2019/20 wedi'i dyrannu fel a ganlyn:

 

Cyfarwyddiaeth/Maes Cyllidebol

Cyllideb 2019-20

£’000

Cyfarwyddiaeth

 

Addysg a Chymorth i Deuluoedd

21,347

Ysgolion

94,861

Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

70,894

Cymunedau

25,422

Y Prif Weithredwr

18,667

Cyfanswm Cyllideb pob Cyfarwyddiaeth

231,191

Cyllidebau ar draws y Cyngor

 

 

Cyllido Cyfalaf

7,329

Ardollau

7,134

Ardoll Prentisiaethau

700

Cynllun Lleihau’r Dreth Gyngor

14,854

Premiymau Yswiriant

1,588

Cynnal a Chadw Adeiladau

870

Costau sy’n gysylltiedig â Phensiynau

430

Cyllidebau eraill ar draws y Cyngor

6,713

Cyfanswm y Cyllidebau ar Draws y Cyngor

39,618

 

 

Cyfanswm

270,809

 

Ariennir y rhan fwyaf o'r gyllideb net gan Lywodraeth Cymru a thrwy daliadau'r Dreth Gyngor. Daw'r rhan fwyaf o’r cyllid o'r Grant Cynnal Refeniw oddi wrth Lywodraeth Cymru, ond mae'r Cyngor hefyd yn cael cyfran o drethi annomestig / busnes oddi wrth Lywodraeth Cymru. Mae'r 2 ddyraniad hyn yn sefydlog ac maent yn cyfrannu tuag at 71% o'r cyllid. Daw'r gweddill o'r Dreth Gyngor. Dyma grynodeb a dadansoddiad o'r dosraniad:-

 

                                                £                                    %          

Y Grant Cynnal Refeniw     145,354,407                   53.67

Trethi Annomestig               46,452,373                       17.15  

Incwm drwy'r Dreth Gyngor 79,001,854                       29.18                

Cyfanswm                           270,808,634                     100%               

 

O ran y cyllid y bydd yn ei gael oddi wrth Lywodraeth Cymru, bwriad y Cyngor yw cynllunio ar sail 3 senario, h.y. y Senario Orau, y Senario Fwyaf Tebygol a'r Senario Waethaf. Cyfeirir at gyfanswm y Grant Cynnal Refeniw a'r Cyfraddau Annomestig fel Cyllid Allanol Cyfun.

 

Senarios SATC 2020-21 hyd 2023-24 -%

Newid yn y Cyllid Allanol Cyfun

 

                                            2020-21      2021-22     2022-23     2023-24

                                         % y Newid  % y Newid  % y Newid % y Newid

Y Senario Orau                      -1.0%           -1.0%          -1.0%       -1.0%

Y Senario Fwyaf Tebygol       -1.5%           -1.5%          -1.5%       - 1.5%

Y Senario Waethaf                 - 3.0%          -3.0%          -3.0%       - 3.0%

 

Cynnydd yn y Dreth Gyngor   +4.5%         +4.5%         +4.5%       +4.5%

 

Effaith y Gwahanol Senarios ar Gyllid y Cyngor:

 

Cyfanswm y Cyllid Allanol Cyfun y mae'r Cyngor yn ei gael yn 2019/20 yw £191.807 miliwn. Dangosir isod effaith y 3 senario o ran cyllid Llywodraeth Cymru ar gyllideb Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd y Senario Fwyaf Tebygol yn arwain at leihad o £2.8 miliwn yng nghyllid  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 187.

188.

Materion Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z