Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr. Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

149.

Datgan buddiannau

To receive declarations of personal and prejudicial interest (if any) from Members/Officers in accordance with the provisions of the Members’ Code of Conduct adopted by Council from 1 September 2008

Cofnodion:

Dywedodd y Cynghorydd HM Morgan fod ganddo fuddiant personol yn eitem 4 gan ei fod yn aelod o Gymdeithas Preswylwyr Oedrannus Ynysawdre.

150.

Cymeradwyo’r cofnodion pdf eicon PDF 82 KB

To receive for approval the Minutes of a meeting of the Town and Community Council Forum dated 10 July 2017.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:          Bod Cofnodion cyfarfod y Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf 2017 yn gywir.

151.

Cyllideb 2018-19 pdf eicon PDF 58 KB

This item will be accompanied by a Presentation from the Head of Finance and Section 151 Officer.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid / Swyddog Adran 151 adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am hynt Cyllideb y Cyngor (hy y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS)).

 

Wrth roi’r cefndir, dywedodd fod gan y Cyngor MTFS pedair blynedd sy’n cynnwys cyllideb blwyddyn. Roedd hon yn cael ei diweddaru bob blwyddyn drwy gyfrwng y broses Graffu a phroses y Cabinet cyn i’r Cyngor ei chymeradwyo – ac ar 1 Mawrth 2017 a y digwyddodd hynny ddiwethaf. Yn y Strategaeth, nodir yr adnoddau sydd eu hangen i roi’r blaenoriaethau gwella ar waith, yn ogystal â’r adnoddau sydd eu hangen i ymgymryd â ‘busnes arferol’ y Cyngor.  Roedd angen i bawb gofio bod yr MTFS yn ymdrin â’r cyfnod rhwng 2018-19 a 2021-22.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid / Swyddog Adran 151 fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, fel pob awdurdod arall, wedi wynebu her ariannol fwy difrifol nag erioed o’r blaen dros y pedair blynedd diwethaf. Dros y cyfnod hwn, mae’r Cyngor wedi gorfod sicrhau arbedion o oddeutu  £36m mewn cyllidebau cylchol.

 

O ran y sefyllfa’n fwy diweddar, a’r sefyllfa yn y dyfodol, mae’r Cyngor yn rhagweld diffygion ariannol o oddeutu £35m rhwng 2018-19 a 2021-22.

 

Ar ben y gostyngiad yn y setliad ariannol roedd y Cyngor yn ei gael gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn, byddai’r Cyngor, meddai’r Pennaeth Cyllid / Swyddog Adran 151, yn wynebu pwysau ariannol cynyddol yn ystod y blynyddoedd nesaf o ganlyniad i:- 

 

  • Unrhyw bwysau deddfwriaethol heb eu hariannu yn y dyfodol
  • Cynnydd yn y gost o gyflogi staff wrth i’r mesurau i ffrwyno cyflogau gael eu llacio
  • Materion yn ymwneud â’r strwythur cyflogau er mwyn cydymffurfio â’r cyflog byw cenedlaethol
  • Chwyddiant prisiau sy’n effeithio ar gytundebau cyflenwi allanol

 

Er i awdurdodau lleol gael eu setliad drafft gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar, cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid / Swyddog Adran 151 na fyddai effaith lawn y newidiadau posibl yn dod yn gwbl glir am gryn amser, a nes daw’r wybodaeth am grantiau penodol i’r amlwg.

 

Yna, byddai’r cynigion ar gyfer yr MTFS yn cael eu cyflwyno a byddai modd llywio a rhannu’r Gyllideb â phwyllgorau Trosolwg a Chraffu’r Cyngor, cyn i’r Pwyllgor Gweithredol (hy y Cabinet) ei chymeradwyo.

 

Yna, ym mharagraff 4.5 o’r adroddiad nodwyd bod MTFS y Cyngor yn tybio y bydd cynnydd o 4.2% yn y Dreth Gyngor yn 2018-19, a 4.5% bob blwyddyn wedyn. Yn y rhan hon o’r adroddiad hefyd cafwyd manylion amserlen ehangach y gyllideb, a dyddiadau penodol yn ymwneud â’r Dreth Gyngor.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid / Swyddog Adran 151 fod yr MTFS yn dyrannu adnoddau i roi Cynllun Corfforaethol yr Awdurdod ar waith. Y Cynllun hwn sy’n llywio gwasanaethau’r Cyngor yn gyffredinol. Bwriedir i gynigion terfynol y Gyllideb ymdrin ag amrywiaeth eang o wasanaethau, ac roedd yn anochel y bydd y gostyngiadau angenrheidiol yn y gyllideb wrth ddatblygu’r cynigion hyn yn effeithio ar y boblogaeth leol mewn gwahanol ffyrdd.

 

Yn olaf, cyfeiriodd ar oblygiadau ariannol yr adroddiad a oedd yn cadarnhau bod MTFS y Cyngor yn ategu ei flaenoriaethau a’i Gynllun Corfforaethol yn ddigonol.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 151.

152.

Adolygu Siarter y Cynghorau Tref a Chymuned pdf eicon PDF 55 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaethol adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad o Siarter y Cynghorau Tref a Chymuned, a soniodd am y cynlluniau i gwblhau’r adolygiad.

 

Gofynnodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i’r Aelodau gofio bod y Siarter wedi’i diweddaru mewn cyfarfod blaenorol o’r Fforwm, ac un o’r darpariaethau oedd yr angen i adolygu’r Siarter bob blwyddyn. Hefyd, meddai, yn ei gyfarfod ar 10 Gorffennaf 2017, roedd Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned wedi cymeradwyo’r cynnig i sefydlu  gweithgor i ymgymryd â’r dasg hon, ac i gyflwyno adroddiad ac argymhelliad i’r Fforwm. Dechreuodd Gweithgor Siarter y Cynghorau Tref a Chymuned ei adolygiad ar 4 Medi.  

 

Aethrhagddo i ddweud bod y cyfarfod cyntaf hwn o’r Gweithgor wedi nodi nifer o newidiadau i’r Siarter, ac roedd y rhain i’w gwneud ym mharagraff 4.1 o’r adroddiad. Cytunwyd ymhellach y dylid rhannu’r rhain â’r holl Gynghorau Tref a Chymuned, a rhoi cyfle iddynt roi sylwadau ar y Siarter a gwneud argymhellion eraill o ran sut y gellir ei newid/adolygu. Yna, gellid casglu’r rhain i gyd a’u cyflwyno i Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned, er mwyn i honno benderfynu arnynt yn ei gyfarfod nesaf.

 

Yna, clywodd yr Aelodau nad oedd y Cynghorwyr T Giffard ac A Hussain yn Aelodau o’r Fforwm erbyn hyn ac, felly, ni allent fod yn rhan o’r Gweithgor.

 

Ganhynny, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod angen enwebu dau Aelod arall o’r Fforwm i ymuno â’r Gweithgor.

 

Ar ôl cael enwebiadau o’r llawr,

 

PENDERFYNWYD:   Enwebu’r Cynghorwyr S Aspey a JP Blundell yn aelodau o Weithgor Siarter y Cynghorau Tref a Chymuned yn lle’r Aelodau a nodwyd uchod.

153.

Eitemau brys

To consider any other item(s) of business in respect of which notice has been given in accordance with Rule 4 of the Council Procedure Rules and which the person presiding at the meeting is of the opinion should by reason of special circumstances be transacted at the meeting as a matter of urgency. 

Cofnodion:

Dim.

 

Adolygiadau Etholiadol: Polisi ac Arfer

Cynnal a Chadw a Glanhau Prif Drefi

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z