Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd Dinesig, Stryd Yr Angel, Penybont Ar Ogwr CF31 4WB

Cyswllt: Mr Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

160.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan yr Aelodau canlynol:-

Y Cynghorydd R Penhale-Thomas

Y Cynghorydd PW Jenkins

Y Cynghorydd P Gwilliam

161.

Datganiadau o Ddiddordeb

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Dim.

162.

Cymeradwyaeth Cofnodion pdf eicon PDF 83 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 19/03/2018

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:         Cymeradwyo Cofnodion cyfarfod o Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned dyddiedig 19/03/2018 fel cofnod gwir a chywir.

163.

Cydnabyddiaeth Cynghorwyr Tref a Chymuned

To receive a presentation from representatives of Welsh Government on the subject of the Independent Remuneration Panel in respect of Town and Community Councillors

Cofnodion:

Gwahoddodd y Cadeirydd y canlynol i'r cyfarfod: Mr. L Jones, o Lywodraeth Cymru, a Ms. S. Willey a Mr. G. Owens o Banel Cydnabyddiaeth Annibynnol Cymru, er mwyn rhoi cyflwyniad ar y pwnc uchod.

 

Roedd y cyflwyniad yn cynnwys y canlynol:-

 

Grwpiau Cynghorau Cymuned a Thref

Credai'r Panel bod yr amrywiad eang ym maint y Cynghorau Cymuned a Thref, yn golygu bod yn rhaid i gyfrifoldebau ac atebolrwydd Cynghorwyr hefyd amrywio.

 

Mae cynghorwyr sy'n rheoli incwm gwariant o £1m ac sy'n darparu gwasanaethau sylweddol, gan gynnwys y rhai a ddirprwywyd efallai o Brif Gynghorau, yn gweithredu mewn amgylchedd llawer mwy cymhleth na Chyngor sydd â chyllideb flynyddol o lai na £30k.

 

Archwiliodd y Panel ystod o fesurau y gallem eu defnyddio fel sail ar gyfer grwpio Cynghorau Cymuned a Thref i adlewyrchu'r gwahaniaethau hyn.

 

Daethom i'r casgliad bod defnyddio ffigyrau incwm neu wariant yn adlewyrchu'n well lefelau gweithgarwch Cyngor na chymarebau poblogaeth neu braeseptau, y darganfu’r Panel nad ydynt bob amser yn cyfateb i incwm neu wariant.

 

Gan ystyried adborth ymgynghoriad ar yr Adroddiad Blynyddol drafft, ffurfiodd y Panel 3 gr?p o Gynghorau Cymuned a Thref ar sail lefel yr incwm neu'r gwariant, pa un bynnag yw'r uchaf, yn y flwyddyn ariannol flaenorol.

 

Roedd hefyd yn haws i Gynghorau ddeall pa gr?p maent yn perthyn iddo h.y.:-

 

Gr?p Cyngor Cymuned / Tref            Incwm neu wariant yn 2017-18 o

           A                                                     £200k ac uwchlaw

           B                                                     £30k - £199,999k

           C                                                     Dan £30k

 

Yna, aeth y Swyddogion o'r IRWP ymlaen i siarad am wahanol Benderfyniadau a wnaed fel a ganlyn:-

 

Penderfyniad 44

 

Rhaid i gynghorau cymuned a thref yn Grwpiau A a B sicrhau bod taliad ar gael i bob un o'u haelodau o £150 y flwyddyn am gostau a geir o ran defnyddio ffôn, technoleg gwybodaeth, nwyddau traul ayb.

 

Penderfyniad 45

 

Awdurdodir cynghorau cymuned a thref yn Gr?p C i sicrhau bod taliad ar gael i bob un o'u haelodau o £150 y flwyddyn am gostau a geir o ran defnyddio ffôn, technoleg gwybodaeth, nwyddau traul ayb.

 

Penderfyniad 46

 

Rhaid i gynghorau cymuned a thref yn Gr?p A sicrhau bod taliad blynyddol o £500 yr un ar gael i leiafswm o 1 ac uchafswm o 5 aelod i gydnabod cyfrifoldebau penodol. Mae hyn yn ychwanegol at y taliad o £150 am gostau a threuliau.

 

Penderfyniad 47

 

Awdurdodir cynghorau cymuned a thref yn Grwpiau B neu C i wneud taliad blynyddol o £500 yr un i hyd at 5 aelod i gydnabod cyfrifoldebau penodol. Mae hyn yn ychwanegol at y taliad o £150 am gostau a threuliau os hawlir hynny.

 

Penderfyniad 48

 

Awdurdodir cynghorau cymuned a thref i wneud taliadau i bob un o'u haelodau o ran costau teithio ar gyfer mynychu dyletswyddau cymeradwy. Rhaid i daliadau o'r fath fod yn wir gostau teithio trwy gludiant cyhoeddus neu lwfansau milltiroedd CThEM fel y'u nodir yn yr adroddiad blynyddol.

 

Penderfyniad 49

 

Os bydd cyngor cymuned neu dref yn penderfynu bod dyletswydd benodol angen arhosiad dros nos, gall awdurdodi ad-dalu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 163.

164.

Cynllun Datblygu Lleol Amnewidiol (Pen-y-bont ar Ogwr) pdf eicon PDF 147 KB

Report To be accompanied by a presentation from Planning Officers

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau adroddiad, a oedd yn amlinellu'r camau a wnaed hyd yn hyn wrth ddatblygu Cynllun Datblygu Lleol Amnewidiol (Pen-y-bont ar Ogwr) (2018-2033), gan ganolbwyntio ar:

 

           Adroddiad Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr (2013) (Atodiad 1 i'r adroddiad). Mae'r ddogfen hon yn nodi maint arfaethedig y newidiadau tebygol i’r CDLl presennol (2006-2021) ac mae'n ceisio cadarnhau'r weithdrefn adolygu i'w dilyn wrth baratoi CDLl amnewidiol. Cynigir y bydd y CDLl Amnewidiol yn cwmpasu cyfnod y cynllun hyd at 2033, sef diwedd cyfnod cynllun 15 mlynedd a fydd yn cychwyn yn 2018; a

           Chytundeb Cyflenwi Cynllun Datblygu Lleol Amnewidiol Pen-y-bont ar Ogwr (Atodiad 2 i'r adroddiad). Mae'r Cytundeb Cyflenwi yn nodi sut a phryd y gall y gymuned leol a rhanddeiliaid eraill gyfrannu at baratoi'r Cynllun Amnewidiol ac amserlen i'w baratoi. Cynigir y bydd y CDLl Amnewidiol yn cynnwys cyfnod y cynllun hyd at 2033

 

Bydd yr Adroddiad Adolygu (ar gyfer y CDLl presennol (2013)) a'r Cytundeb Cyflenwi ar gyfer y CDLl amnewidiol yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru cyn diwedd Mehefin 2018, ar ôl i'r Cyngor gytuno arnynt.

 

Ynghyd â'r adroddiad, rhoddwyd cyflwyniad PowerPoint gan Arweinydd y Tîm Cynllunio Datblygu, gyda’r Rheolwr Gr?p Datblygu yn bresennol hefyd.

 

Roedd y Cyflwyniad yn cwmpasu'r meysydd canlynol:

 

  1. Beth yw CDLl - Strategaeth lefel uchel sy'n dyrannu defnydd tir ledled y Fwrdeistref Sirol. Bydd hyn yn portreadu amcanion allweddol, rhwymedigaethau Gwasanaeth Cyhoeddus a chynlluniau llesiant. Bydd y CDLl yn gyfrifol am ddatblygu cynaliadwy a darpariaeth twf cynaliadwy.

 

  1.  Bydd y Cyngor yn monitro'r CDLl at ddibenion perfformiad, ac mae'n ofynnol ei adolygu bob 4 blynedd.

 

Mae'r CDLl yn helpu i wella a chyflenwi/ creu'r canlynol:-

 

           Cartrefi newydd / Tai Fforddiadwy

           Cyflogaeth

           Canol Trefi

           Adfywio

           Amgylchedd

           Seilwaith Gwyrdd

           Darpariaeth addysg

           Atal datblygiadau amhriodol

           Cynaliadwyedd

           Cenedlaethau'r Dyfodol

 

Bydd angen asesu pob agwedd ar y Cynllun i ystyried a ydynt yn parhau i fod yn gadarn. Bydd hyn yn cynnwys:-

 

1. Gweledigaeth y CDLl

2. Ei Amcanion

3. Strategaeth Ofodol

4. Polisïau a Dynodiadau

 

Bydd yr Adolygiad llawn yn dilyn yr union broses baratoi a'r un cyfnodau â'r CDLl mabwysiedig gwreiddiol.

 

Hysbysir newidiadau i'r CDLl gan y canlynol:-

 

           Canfyddiadau a phryderon arwyddocaol a nodwyd yn y 3 AMR sydd wedi'u cyhoeddi ers i'r Cynllun gael ei fabwysiadu;

           Unrhyw newidiadau cyd-destunol arwyddocaol (megis amodau ac amgylchiadau Cenedlaethol, Rhanbarthol neu leol);

           Tystiolaeth newydd;

 

Roedd rhan nesaf y Cyflwyniad yn cynnwys yr holl gamau sy'n gysylltiedig â dilyniant y CDLl, gan gynnwys yr amserlen ar gyfer y rhain. Byddai'n arwain at fabwysiadu'r CDLl ym mis Awst / Medi 2021.

 

Eglurwyd y byddai nifer o randdeiliaid allweddol yn rhan o'r Adroddiad Adolygu, gydag 'ymgysylltu wedi'i dargedu' gyda rhanddeiliaid ayb. Enghreifftiau o'r rhain oedd y cyhoedd, Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, Cyfoeth Naturiol Cymru, CADW, D?r Cymru a Chynghorau Tref/Cymuned.

 

Materion allweddol y CDLl fyddai bodloni’r Ddeddf Lleiant Cenedlaethau’r Dyfodol newydd (a chyflenwi’r amcanion); Teithio Llesol i ddarparu a gwella cysylltiadau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 164.

165.

Materion brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z