Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd Dinesig, Stryd Yr Angel, Penybont Ar Ogwr CF31 4WB
Cyswllt: Mr Mark Anthony Galvin Senior Democratic Services Officer - Committees
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am Absenoldeb Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.
Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan yr Aelodau/Clercod canlynol o Gynghorau Tref/Cymuned:-
Y Cynghorydd B Jones Y Cynghorydd RE Young Y Cynghorydd M Clarke Y Cynghorydd N Mackay A Harris A Wilkes
|
|
Datganiadau Budd Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008. Cofnodion: Dim.
|
|
Cymeradwyo Cofnodion PDF 84 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 27/11/2018 Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cymeradwywyd bod Cofnodion cyfarfod Fforwm y Cyngor Tref a Chymuned dyddiedig 27 Tachwedd 2018 yn gofnod gwir a chywir.
|
|
Rôl y sector Cynghorau Tref a Chymuned yng Nghymru yn y dyfodol PDF 114 KB Cyflwyno Cyflwyniad gan Bennaeth Partneriaethau Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru. Cofnodion: Fe wnaeth yr Arweinydd a'r Cadeirydd groesawu Clair Germain, Pennaeth Partneriaethau Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, i'r cyfarfod a nodi y byddai’n rhoi cyflwyniad PowerPoint ynghylch y pwnc uchod.
Roedd y cyflwyniad yn cynnwys y sleidiau canlynol:-
Comisiynu Adolygiad
Adolygiad annibynnol a sefydlwyd yn 2017 i ystyried rôl Cynghorau Cymuned a Thref yn y dyfodol.
Panel Trawsbleidiol, gydag arbenigedd/profiad ehangach ategol.
Cafwyd 12 mis i wneud y canlynol:
· Ymchwilio i rôl bosibl llywodraeth leol o dan Gynghorau Awdurdodau Lleol, gan ddefnyddio arferion gorau; · Diffinio’r model(au)/strwythur(au) mwyaf priodol er mwyn cyflawni’r rôl hon; · Ystyried sut byddai'r strwythurau hyn yn cael eu defnyddio ledled Cymru. Bydd hyn yn cynnwys ystyried unrhyw sefyllfaoedd lle na fyddant yn angenrheidiol nac yn briodol.
Cynnal yr Adolygiad
Roedd yn cynnwys gwaith ymgysylltu a chasglu tystiolaeth helaeth, gan gynnwys:
Canfyddiadau ac Argymhellion
Fe gyflwynodd y Panel safbwyntiau ynghylch:
· Beth yw Cynghorau Cymuned a Thref; · Beth mae Cynghorau Cymuned a Thref yn ei wneud; · Sut mae Cynghorau Cymuned a Thref yn gwneud hynny; · Sut mae Cynghorau Cymuned a Thref yn cael eu dal i gyfrif.
Cyflwynwyd yr adroddiad terfynol ym mis Hydref 2018.
Parhau â'r drafodaeth
Cyflwynwyd datganiad ysgrifenedig ar 31 Tachwedd 2018 yn nodi dull polisi Llywodraeth Cymru:
1. Annog a galluogi newid i ddigwydd yn naturiol; 2. Rhoi elfen o ddewis yngl?n â pha mor bell a pha mor gyflym mae Cyngor yn penderfynu symud; 3. Creu amgylchedd lle gall Cynghorau ehangu eu gweithgareddau pan maen nhw’n teimlo y gallant/dylent wneud hynny
Meysydd Gweithredu ar gyfer Llywodraeth Cymru
Meysydd lle gallwn, a lle byddwn, yn cymryd camau gweithredu ar unwaith, a meysydd y mae angen eu hystyried ymhellach ac ymgynghori yn eu cylch
Thema
Egluro rôl y sector:
Camau gweithredu ar unwaith
Cynnal ymgyrch er mwyn:
Ystyriaeth bellach
1. Yn ogystal a chodi ymwybyddiaeth o fanteision sefydlu Cynghorau Tref/Cymuned, edrych ar fodelau eraill a allai roi rhywbeth i gymunedau ganolbwyntio arno mewn ardaloedd trefol; 2. Ystyried ymhellach pa mor ddefnyddiol fyddai ‘gwasanaethau sylfaenol wedi’u lleoli’, yr awydd i newid a pha mor gyflym fyddai modd cynnal hynny; 3. Ystyried ymgynghori ynghylch manteision cynnal (Cynghorwyr â dwy het)
Cynyddu democratiaeth a chyfranogiad:
Camau gweithredu ar unwaith
|
|
Cofrestr o Safleoedd Ymgeisiol – Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd Pen-y-bont ar Ogwr PDF 280 KB Cofnodion: Y Cyfarwyddwr Corfforaethol – fe wnaeth Cymunedau gyflwyno adroddiad â'r diben o roi gwybod i’r Fforwm am y gofrestr o Safleoedd Ymgeisiol (Atodiad 1) a gafwyd gan bartïon â diddordeb ar ôl galw am gyflwyno safleoedd o’r fath rhwng 14 Medi 2018 a 9 Tachwedd 2018.
Nododd Arweinydd y Tîm Cynllunio Datblygiad bod Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd Pen-y-bont ar Ogwr yn strategaeth lefel uchel y mae’n rhaid i'r Cyngor ei pharatoi. Mae’r Cynllun Datblygu Lleol yn nodi holl flaenoriaethau ac amcanion y Cynllun Corfforaethol yng nghyd-destun defnydd tir. Bydd gofyn i’r CDLl Newydd yn y dyfodol fynegi blaenoriaethau ac amcanion llesiant Cynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr yng nghyd-destun defnydd tir.
Cafodd yr alwad am safleoedd ei hysbysebu fel y nodwyd ym mharagraff 3.2 yr adroddiad ac, erbyn y dyddiad cau ar 9 Tachwedd 2018, roedd 172 o safleoedd wedi cael eu cyflwyno a’u casglu mewn ‘Cofrestr o Safleoedd Ymgeisiol’ sydd wedi'i hatodi i’r adroddiad.
Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion y camau nesaf o ran proses y ddogfen hon.
Roedd Arweinydd y Tîm Cynllunio Datblygiad yn pwysleisio wrth yr Aelodau ei bod yn bwysig nodi eto yn ystod y cam hwn nad yw cyhoeddi unrhyw safle ar y Gofrestr hon o Safleoedd Ymgeisiol yn cadarnhau unrhyw statws nac yn awgrymu y bydd yn mynd ymlaen i gael ei gynnwys mewn cynigion cyn-adneuo, neu'r CDLl adneuo, nac yn awgrymu ffafriaeth yr Awdurdod Cynllunio Lleol ynghylch ei fanteision. Mae hyn yn cynnwys unrhyw safleoedd a gyflwynwyd gan Adrannau mewnol y Cyngor.
Aeth ati hefyd i bwysleisio nad dogfen ymgynghori gyhoeddus yw'r gofrestr hon, ond casgliad ffeithiol o’r safleoedd sydd wedi cael eu cyflwyno.
Roedd paragraff 4.8 yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am y dulliau mae’r Tîm Cynllunio Datblygiad wedi rhoi sylw cyhoeddus iddynt ac yn sicrhau bod y gofrestr ar gael.
Cynghorodd Arweinydd y Tîm Cynllunio Datblygiad y byddai cost y CDLl Newydd yn dod o'r gyllideb Cynllunio Datblygiad ac y byddai’n cael ei gynnal gan y staff Cynllunio Datblygiad, gyda chyngor arbenigol a thystiolaeth wedi'i chaffael gan ymgynghorwyr a drwy gydweithio ag awdurdodau cyfagos yn ôl y gofyn.
Fe wnaeth Rheolwr y Gr?p – Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu gadarnhau y byddai ymweliadau â Chynghorau Tref a Chymuned yn cael eu cynnal o bryd i'w gilydd ac yn cael eu diweddaru fel rhan o’r broses yng nghyswllt y CDLl wrth symud ymlaen.
PENDERFYNIAD: Fe wnaeth y Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned gydnabod yr adroddiad a chynnwys y Gofrestr o Safleoedd Ymgeisiol. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Fe wnaeth y Rheolwr Cynllunio Datblygiad gyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Rheoli Datblygiad yngl?n â’r drafft o weledigaeth, amcanion, twf ac opsiynau'r strategaeth ofodol ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd Pen-y-bont ar Ogwr.
Eglurodd fod y 3 adroddiad technegol (atodiadau A, B ac C i'r adroddiad eglurhaol) yn rhoi gwybodaeth gefndirol yng nghyswllt y weledigaeth ddrafft a'r amcanion, yr opsiynau twf a’r opsiynau arfaethedig o ran strategaeth ofodol a gynigiwyd gyfer y CDLl Newydd.
Bwriad yr adroddiadau technegol hyn fydd darparu gwybodaeth ar gyfer y cyfranogiad a’r ymrwymiad cyn-adneuo parhaus, ac ar gyfer paratoi'r strategaeth ddewisol a'r camau dilynol o ran paratoi cynllun:
• Adroddiad Technegol 1: Drafft o’r Weledigaeth a'r Amcanion (Atodiad A); • Adroddiad Technegol 2: Drafft o'r Opsiynau Twf Strategol (Atodiad B); • Adroddiad Technegol 3: Drafft o'r Opsiynau Gofodol Strategol (Atodiad C).
Roedd adrannau nesaf yr adroddiad, yn amlinellu crynodebau gweithredol yr Adroddiadau Technegol uchod ac fe roddodd y Rheolwr Cynllunio Datblygiad restr o brif bwyntiau pob un er budd yr Aelodau.
Wedyn, fe roddodd y Rheolwr Cynllunio Datblygiad gyflwyniad PowerPoint, a oedd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y pwnc, fel a ganlyn:-
Bydd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i gael ei drawsnewid er mwyn bod yn rhwydwaith gynaliadwy, diogel, iach a chynhwysol o gymunedau sy’n cynnwys aneddiadau cryf, cyd-ddibynnol, cysylltiedig a chydlynus sy’n gallu cynnig y canlynol i bobl:
· Y dechrau gorau mewn bywyd drwy ddarparu amgylchedd dysgu effeithiol i sicrhau'r canlyniadau gorau posib i ddysgwyr; · Darparu cyfleoedd i leihau anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd; · Gwell ansawdd bywyd ac amgylchedd iach i bawb sy’n byw yn yr ardal, yn gweithio yno, neu’n ymweld â'r ardal ac yn ymlacio ynddi.
Byddai'r Weledigaeth ddiwygiedig ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol yn cael ei chyflawni drwy 4 Amcan Strategol, h.y.:-
Pan fydd wedi'i sefydlu’n llwyr, bydd y Cynllun Datblygu Lleol yn cynorthwyo â'r canlynol:-
Roedd tri opsiwn o ran twf yn cael eu hystyried ac roedd y rhain wedi’u dosbarthu’n rhai Uchel, Canolig ac Isel; fe wnaeth Swyddogion egluro mai’r opsiwn twf Canolig oedd yr un a oedd yn cael ei ffafrio. Dyma rai o brif bwyntiau'r opsiwn hwn:-
Cefndir
• Edrych ar dueddiadau blaenorol o ran geni, marw a mudo • Trosi i aelwydydd, anheddau a swyddi • Dadansoddi amryw o wahanol sefyllfaoedd er mwyn pennu tri opsiwn o ran twf • Rhoi sail i'r Cynllun Datblygu Lleol
Opsiwn Twf Canolig; +505 o anheddau, +266 o swyddi
• Amcan Llywodraeth Cymru + Amcangyfrif Canol-Blwyddyn • Tueddiadau o 2011/12 - 2016/17, tebyg i gyfradd adeiladu • Llif mudo net uwch • Proffil oedran iau, twf yn y categori ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 176. |
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim.
|