Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd Dinesig, Stryd Yr Angel, Penybont Ar Ogwr CF31 4WB

Cyswllt: Mr Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

171.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan yr Aelodau/Clercod canlynol o Gynghorau Tref/Cymuned:-

 

Y Cynghorydd B Jones

Y Cynghorydd RE Young

Y Cynghorydd M Clarke

Y Cynghorydd N Mackay

A Harris

A Wilkes

 

172.

Datganiadau Budd

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Dim.

 

173.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 84 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 27/11/2018

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:                      Cymeradwywyd bod Cofnodion cyfarfod Fforwm y Cyngor Tref a Chymuned dyddiedig 27 Tachwedd 2018 yn gofnod gwir a chywir.

 

174.

Rôl y sector Cynghorau Tref a Chymuned yng Nghymru yn y dyfodol pdf eicon PDF 114 KB

Cyflwyno Cyflwyniad gan Bennaeth Partneriaethau Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru.

Cofnodion:

Fe wnaeth yr Arweinydd a'r Cadeirydd groesawu Clair Germain, Pennaeth Partneriaethau Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, i'r cyfarfod a nodi y byddai’n rhoi cyflwyniad PowerPoint ynghylch y pwnc uchod.

 

Roedd y cyflwyniad yn cynnwys y sleidiau canlynol:-

 

Comisiynu Adolygiad

 

Adolygiad annibynnol a sefydlwyd yn 2017 i ystyried rôl Cynghorau Cymuned a Thref yn y dyfodol. 

 

Panel Trawsbleidiol, gydag arbenigedd/profiad ehangach ategol.

 

Cafwyd 12 mis i wneud y canlynol:

 

·        Ymchwilio i rôl bosibl llywodraeth leol o dan Gynghorau Awdurdodau Lleol, gan ddefnyddio arferion gorau;

·        Diffinio’r model(au)/strwythur(au) mwyaf priodol er mwyn cyflawni’r rôl hon;

·        Ystyried sut byddai'r strwythurau hyn yn cael eu defnyddio ledled Cymru. Bydd hyn yn cynnwys ystyried unrhyw sefyllfaoedd lle na fyddant yn angenrheidiol nac yn briodol.

 

Cynnal yr Adolygiad

 

Roedd yn cynnwys gwaith ymgysylltu a chasglu tystiolaeth helaeth, gan gynnwys:

 

  1. Cyfarfodydd Panel rheolaidd, gan gynnwys casglu tystiolaeth;
  2. Amrywiaeth helaeth o dystiolaeth lafar ac ysgrifenedig gan randdeiliaid – gan gasglu cymaint o safbwyntiau â phosib drwy ystod o weithgareddau ymgysylltu;
  3. Ystyried tystiolaeth ehangach (data, adroddiadau, ymchwil, ac ati);
  4. Newyddlenni yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd a chyfleoedd i ymgysylltu.

 

Canfyddiadau ac Argymhellion

 

Fe gyflwynodd y Panel safbwyntiau ynghylch:

 

·       Beth yw Cynghorau Cymuned a Thref;

·       Beth mae Cynghorau Cymuned a Thref yn ei wneud;

·       Sut mae Cynghorau Cymuned a Thref yn gwneud hynny;

·       Sut mae Cynghorau Cymuned a Thref yn cael eu dal i gyfrif.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad terfynol ym mis Hydref 2018.

 

Parhau â'r drafodaeth

 

Cyflwynwyd datganiad ysgrifenedig ar 31 Tachwedd 2018 yn nodi dull polisi Llywodraeth Cymru:

 

1.     Annog a galluogi newid i ddigwydd yn naturiol;

2.     Rhoi elfen o ddewis yngl?n â pha mor bell a pha mor gyflym mae Cyngor yn penderfynu symud;

3.     Creu amgylchedd lle gall Cynghorau ehangu eu gweithgareddau pan maen nhw’n teimlo y gallant/dylent wneud hynny

 

Meysydd Gweithredu ar gyfer Llywodraeth Cymru

 

Meysydd lle gallwn, a lle byddwn, yn cymryd camau gweithredu ar unwaith, a meysydd y mae angen eu hystyried ymhellach ac ymgynghori yn eu cylch

 

Thema

 

Egluro rôl y sector:

 

Camau gweithredu ar unwaith

 

Cynnal ymgyrch er mwyn:

 

  • Cadarnhau rôl bwysig y sector;
  • Codi ymwybyddiaeth o waith Cynghorau Tref/Cymuned (gan gynnwys mewn ardaloedd lle nad oes rhai);
  • Codi ymwybyddiaeth o fanteision sefydlu Cynghorau Tref/Cymuned;
  • Annog Cynghorau Tref/Cymuned i ystyried yr hyn mae galw amdano yn lleol, o ran y mathau o wasanaethau y gallant eu darparu.

 

Ystyriaeth bellach

 

1.      Yn ogystal a chodi ymwybyddiaeth o fanteision sefydlu Cynghorau Tref/Cymuned, edrych ar fodelau eraill a allai roi rhywbeth i gymunedau ganolbwyntio arno mewn ardaloedd trefol;

2.      Ystyried ymhellach pa mor ddefnyddiol fyddai ‘gwasanaethau sylfaenol wedi’u lleoli’, yr awydd i newid a pha mor gyflym fyddai modd cynnal hynny;

3.      Ystyried ymgynghori ynghylch manteision cynnal (Cynghorwyr â dwy het)

 

Cynyddu democratiaeth a chyfranogiad:

 

Camau gweithredu ar unwaith

 

  • Defnyddio pwerau presennol i sicrhau bod Adolygiadau o Gymunedau yn cael eu cynnal yn rheolaidd;
  • Sefydlu gwell dealltwriaeth Cynghorau Tref/Cymuned o ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, er mwyn ymgysylltu â’u cymuned a hwyluso'r broses o rannu arferion da;
  • Cynnal ymgyrch i annog rhagor o bobl i sefyll  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 174.

175.

Cofrestr o Safleoedd Ymgeisiol – Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 280 KB

Cofnodion:

Y Cyfarwyddwr Corfforaethol – fe wnaeth Cymunedau gyflwyno adroddiad â'r diben o roi gwybod i’r Fforwm am y gofrestr o Safleoedd Ymgeisiol (Atodiad 1) a gafwyd gan bartïon â diddordeb ar ôl galw am gyflwyno safleoedd o’r fath rhwng 14 Medi 2018 a 9 Tachwedd 2018.

 

Nododd Arweinydd y Tîm Cynllunio Datblygiad bod Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd Pen-y-bont ar Ogwr yn strategaeth lefel uchel y mae’n rhaid i'r Cyngor ei pharatoi. Mae’r Cynllun Datblygu Lleol yn nodi holl flaenoriaethau ac amcanion y Cynllun Corfforaethol yng nghyd-destun defnydd tir. Bydd gofyn i’r CDLl Newydd yn y dyfodol fynegi blaenoriaethau ac amcanion llesiant Cynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr yng nghyd-destun defnydd tir.

 

 

Cafodd yr alwad am safleoedd ei hysbysebu fel y nodwyd ym mharagraff 3.2 yr adroddiad ac, erbyn y dyddiad cau ar 9 Tachwedd 2018, roedd 172 o safleoedd wedi cael eu cyflwyno a’u casglu mewn ‘Cofrestr o Safleoedd Ymgeisiol’ sydd wedi'i hatodi i’r adroddiad.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion y camau nesaf o ran proses y ddogfen hon.

 

Roedd Arweinydd y Tîm Cynllunio Datblygiad yn pwysleisio wrth yr Aelodau ei bod yn bwysig nodi eto yn ystod y cam hwn nad yw cyhoeddi unrhyw safle ar y Gofrestr hon o Safleoedd Ymgeisiol yn cadarnhau unrhyw statws nac yn awgrymu y bydd yn mynd ymlaen i gael ei gynnwys mewn cynigion cyn-adneuo, neu'r CDLl adneuo, nac yn awgrymu ffafriaeth yr Awdurdod Cynllunio Lleol ynghylch ei fanteision. Mae hyn yn cynnwys unrhyw safleoedd a gyflwynwyd gan Adrannau mewnol

y Cyngor.

 

Aeth ati hefyd i bwysleisio nad dogfen ymgynghori gyhoeddus yw'r gofrestr hon, ond casgliad ffeithiol o’r safleoedd sydd wedi cael eu cyflwyno.

 

Roedd paragraff 4.8 yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am y dulliau mae’r Tîm Cynllunio Datblygiad wedi rhoi sylw cyhoeddus iddynt ac yn sicrhau bod y gofrestr ar gael.

 

Cynghorodd Arweinydd y Tîm Cynllunio Datblygiad y byddai cost y CDLl Newydd yn dod o'r gyllideb Cynllunio Datblygiad ac y byddai’n cael ei gynnal gan y staff Cynllunio Datblygiad, gyda chyngor arbenigol a thystiolaeth wedi'i chaffael gan ymgynghorwyr a drwy gydweithio ag awdurdodau cyfagos yn ôl y gofyn.

 

Fe wnaeth Rheolwr y Gr?p – Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu gadarnhau y byddai ymweliadau â Chynghorau Tref a Chymuned yn cael eu cynnal o bryd i'w gilydd ac yn cael eu diweddaru fel rhan o’r broses yng nghyswllt y CDLl wrth symud ymlaen.

 

PENDERFYNIAD:                        Fe wnaeth y Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned gydnabod yr adroddiad a chynnwys y Gofrestr o Safleoedd Ymgeisiol.

176.

Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd Pen-y-bont ar Ogwr 2018-2033, Drafft o Weledigaeth ac Amcanion, Twf ac Opsiynau Gofodol pdf eicon PDF 251 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe wnaeth y Rheolwr Cynllunio Datblygiad gyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Rheoli Datblygiad yngl?n â’r drafft o weledigaeth, amcanion, twf ac opsiynau'r strategaeth ofodol ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Eglurodd fod y 3 adroddiad technegol (atodiadau A, B ac C i'r adroddiad eglurhaol) yn rhoi gwybodaeth gefndirol yng nghyswllt y weledigaeth ddrafft a'r amcanion, yr opsiynau twf a’r opsiynau arfaethedig o ran strategaeth ofodol a gynigiwyd gyfer y CDLl Newydd.

 

Bwriad yr adroddiadau technegol hyn fydd darparu gwybodaeth ar gyfer y cyfranogiad a’r ymrwymiad cyn-adneuo parhaus, ac ar gyfer paratoi'r strategaeth ddewisol a'r camau dilynol o ran paratoi cynllun:

 

            Adroddiad Technegol 1: Drafft o’r Weledigaeth a'r Amcanion (Atodiad A);

            Adroddiad Technegol 2: Drafft o'r Opsiynau Twf Strategol (Atodiad B);

            Adroddiad Technegol 3: Drafft o'r Opsiynau Gofodol Strategol (Atodiad C).

 

Roedd adrannau nesaf yr adroddiad, yn amlinellu crynodebau gweithredol yr Adroddiadau Technegol uchod ac fe roddodd y Rheolwr Cynllunio Datblygiad restr o brif bwyntiau pob un er budd yr Aelodau.

 

Wedyn, fe roddodd y Rheolwr Cynllunio Datblygiad gyflwyniad PowerPoint, a oedd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y pwnc, fel a ganlyn:-

 

Bydd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i gael ei drawsnewid er mwyn bod yn rhwydwaith gynaliadwy, diogel, iach a chynhwysol o gymunedau sy’n cynnwys aneddiadau cryf, cyd-ddibynnol, cysylltiedig a chydlynus sy’n gallu cynnig y canlynol i bobl:

 

·       Y dechrau gorau mewn bywyd drwy ddarparu amgylchedd dysgu effeithiol i sicrhau'r canlyniadau gorau posib i ddysgwyr;

·       Darparu cyfleoedd i leihau anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd;

·       Gwell ansawdd bywyd ac amgylchedd iach i bawb sy’n byw yn yr ardal, yn gweithio yno, neu’n ymweld â'r ardal ac yn ymlacio ynddi.

 

Byddai'r Weledigaeth ddiwygiedig ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol yn cael ei chyflawni drwy 4 Amcan Strategol, h.y.:-

 

  1. Creu Mannau Cynaliadwy o Ansawdd Uchel (Placemaking).
  2. Creu cymunedau Egnïol, Iach, Cydlynus a Chymdeithasol
  3. Creu Mannau Cynhyrchiol a Mentrus.
  4. Gwarchod a Gwella ein Mannau Naturiol ac Unigryw.

 

Pan fydd wedi'i sefydlu’n llwyr, bydd y Cynllun Datblygu Lleol yn cynorthwyo â'r canlynol:-

 

  • Gwella Cynaliadwyedd
  • Creu tai newydd a fforddiadwy
  • Cefnogi cenedlaethau'r dyfodol
  • Helpu gyda chyfleoedd cyflogaeth
  • Helpu i sicrhau bod canol y dref yn hyfyw yn ein trefi
  • Helpu'r amgylchedd
  • Darparu cyfleoedd i adfywio
  • Gwella seilwaith gwyrdd
  • Cefnogi Addysg
  • Atal datblygu anaddas

 

Roedd tri opsiwn o ran twf yn cael eu hystyried ac roedd y rhain wedi’u dosbarthu’n rhai Uchel, Canolig ac Isel; fe wnaeth Swyddogion egluro mai’r opsiwn twf Canolig oedd yr un a oedd yn cael ei ffafrio. Dyma rai o brif bwyntiau'r opsiwn hwn:-

 

Cefndir

 

       Edrych ar dueddiadau blaenorol o ran geni, marw a mudo

       Trosi i aelwydydd, anheddau a swyddi

       Dadansoddi amryw o wahanol sefyllfaoedd er mwyn pennu tri opsiwn o ran twf

       Rhoi sail i'r Cynllun Datblygu Lleol

 

Opsiwn Twf Canolig; +505 o anheddau, +266 o swyddi

 

       Amcan Llywodraeth Cymru + Amcangyfrif Canol-Blwyddyn

       Tueddiadau o 2011/12 - 2016/17, tebyg i gyfradd adeiladu

       Llif mudo net uwch

       Proffil oedran iau, twf yn y categori  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 176.

177.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.

 

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z