Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr. Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

165.

Datganiadau o fuddiant

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim.

166.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 96 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 26/06/2018.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:         Cymeradwyo Cofnodion cyfarfod o Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned dyddiedig 27 Tachwedd 2018 fel cofnod gwir a chywir.

167.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) 2019/20 i 2022/23 pdf eicon PDF 54 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Interim a’r Swyddog Adran 151 adroddiad, er mwyn rhoi’r diweddaraf i’r Aelodau ar y Cynllun Ariannol Tymor Canolig.

 

Drwy roi gwybodaeth gefndir, esboniodd fod yr MTFS drafft a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 20 Tachwedd 2018 (ynghlwm yn Atodiad A i’r adroddiad) wedi cael ei arwain i raddau helaeth gan flaenoriaethau diwygiedig y Cyngor sef, Cefnogi Economi Lwyddiannus, Helpu Pobl i fod yn Hunan-Ddibynnol a Defnyddio Adnoddau’n Ddoethach.

 

.

 

Cyfeiriodd at Naratif y Gyllideb a oedd â’r nod o fynegi’r buddsoddiad parhaus a sylweddol mewn gwasanaethau cyhoeddus y bydd y Cyngor yn ei wneud i’r dyfodol. Disgrifiai hefyd sut mae’r Cyngor yn bwriadu newid meysydd cyflawni penodol a chanlyniadau ariannol hyn.

 

Yna rhoddodd yr Atodiad hwn drosolwg ariannol, cyn i’r Pennaeth Cyllid Interim a’r Swyddog Adran 151 roi crynodeb o faint o’r gyllideb sydd wedi’i dyrannu i bob un o’r meysydd gwasanaethau allweddol fel a ganlyn:-

 

·      Addysg

·      Gofal Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

·      Tir y Cyhoedd

·      Cefnogi’r Economi

·      Gwasanaethau Eraill

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid Interim a’r Swyddog Adran 151 fod MTFS y Cyngor wedi’i osod yng nghyd-destun cynlluniau gwariant cyhoeddus ac economaidd y DU, blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.

 

Esboniodd yngl?n â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Cyllid ar 2 Hydref 2018, ac fel yr oedd hyn yn effeithio ar awdurdodau lleol yng Nghymru gan gynnwys CBSP. Ers hynny, mae’r Llywodraeth Ganol yn ei chyllideb hydref ar 29 o Hydref, wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn cael £550m yn ychwanegol dros flynyddoedd 2018-19 i 2020-21.

 

Roedd yr adran nesaf yn yr atodiad i’r adroddiad yn manylu ar yr hyn yr oedd y setliadau uchod yn ei olygu i’r Awdurdod hwn, a oedd yn adlewyrchu ar gyfer 2019-20 ostyngiad cyffredinol o £1.616m neu -0.84%. Dywedodd Llywodraeth Cymru hefyd fod y setliad yn cynnwys £20m yn ychwanegol i ysgafnu’r pwysau ar y Gwasanaethau Cymdeithasol. O roi ystyriaeth i hyn hefyd, roedd y sefyllfa wirioneddol ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr yn ostyngiad o -1.3% neu £2.5m. Roedd y setliad hefyd yn cynnwys cyllid gwaelodol o £2.5m i sicrhau nad oes yr un Awdurdod yn gorfod ymdopi â gostyngiad o dros 1% yn ei Grant Cynnal Refeniw y flwyddyn nesaf.

 

Yn gyffredinol, roedd y setliad dros dro yn unol â’r rhagdybiaeth “mwyaf tebygol” o -1.5% a geir yn MTFS gwreiddiol y Cyngor ar gyfer 2019-20, ond ni chydnabyddai nifer o bwysau o’r newydd y bydd yn rhaid i’r Cyngor eu hwynebu.

 

Roedd adran nesaf yr Atodiad yn amlinellu’r rhesymau pam bod angen gwrthsefyll y pwysau ariannol y mae’n rhaid i’r Cyngor eu hwynebu dros y flwyddyn nesaf, drwy orfod ystyried cynnydd o 5.4% yn y Dreth Gyngor.

 

Yna dangosodd paragraff 4.11 o’r Atodiad yn Nhabl 1, gymhariaeth o’r gyllideb yn erbyn alldro amcanestynedig ar 30 Medi 2019, a oedd yn adlewyrchu tanwariant net o £2.551m.

 

Roedd Tabl 2 ym mharagraff 4.17 o’r Atodiad, yn dangos manylion cynnig MTFS wedi’i gefnogi gan Gronfa Hapddigwyddiadau Gostyngiadau’r Gyllideb yn 2018-19, a oedd yn oddeutu £200k ar gyfer MREC.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 167.

168.

Bwrdd Asedau Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 82 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cydlynydd y Bartneriaeth adroddiad ar ran y Prif Weithredwr, gyda’r diben o geisio enwebiadau gan Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned am gynrychiolydd i ymuno ag Is-fwrdd Asedau Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Cyfeiriodd Cydlynydd y Bartneriaeth at baragraff 4.1 o’r adroddiad lle’r amlinellai’r aelod-sefydliadau presennol a oedd yn cynnwys y BGC a pharagraff 4.2 a oedd yn dweud bod y BGC, ar ôl cyhoeddi’r Cynllun Llesiant, wedi llunio’r strwythur cyflawni ar gyfer y bartneriaeth. Cynhwysai’r strwythur hwn bum bwrdd cyflawni, gan gynnwys y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol (statudol) a oedd eisoes wedi’i sefydlu. Y byrddau cyflawni a ychwanegwyd oedd Plant a Phobl Ifanc a Theuluoedd, Partneriaeth Ddysgu Pen-y-bont ar Ogwr, Lles ac Asedau Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Aeth ymlaen drwy gadarnhau bod Is-fwrdd Asedau Pen-y-bont ar Ogwr yn gyfrifol am sicrhau y cyflawnir yr Amcan Llesiant ‘Dewisiadau Iach mewn Amgylchedd Iach’ yn effeithiol. Canolbwyntiai’r amcan hwn (a’r Is-fwrdd) ar Sir Pen-y-bont ar Ogwr fel ‘lle’ ac ar gryfderau a heriau cymunedau unigol.

 

Aeth Cydlynydd y Bartneriaeth ymlaen drwy ddweud bod BGC Pen-y-bont ar Ogwr yn cydnabod y rôl bwysig y mae Cynghorau Tref a Chymuned yn ei chwarae i wella lles Pen-y-bont ar Ogwr. Ychwanegodd y byddai’r BGC yn croesawu mwy o gynrychiolaeth a chefnogaeth gan Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned i gyflawni’r Cynllun Llesiant, drwy wahodd cynrychiolydd i ymuno ag Is-fwrdd Asedau Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Cynhwysai Atodiad 1 i’r adroddiad Gynllun Llesiant Pen-y-bont ar Ogwr, ac roedd hwn yn datgan yn glir sut roedd yr amcanion llesiant yn cyfrannu at y 7 nod llesiant a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.

 

Amlinellai’r cynllun sut bydd y BGC yn gweithredu’n unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy drwy sicrhau nad ydynt, wrth fodloni anghenion y presennol, yn peryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i fodloni eu hanghenion hwythau. Cyflawnir hyn drwy gyfrwng y 5 ffordd o weithio sydd i’w gweld drwy Gynllun Llesiant Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Teimlai’r Aelodau y byddai’n fanteisiol cael dau Aelod ar Is-fwrdd Asedau Pen-y-bont ar Ogwr yn hytrach na’r un a argymhellir, ac at hynny teimlent y dylai’r naill fod yn Aelod Cyngor Tref o’r Fforwm a’r llall yn Aelod Cyngor Cymuned o’r Fforwm.

 

Ar ôl cael enwebiadau, eu heilio’n briodol a phleidleisio’n unfrydol drwy gydsyniad,

 

ARGYMHELLWYD:           Enwebu’r Cynghorwyr S Baldwin a JP Blundell gan Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned i eistedd fel Aelodau o’r Fforwm ar Is-fwrdd Asedau Pen-y-bont ar Ogwr.   

169.

Cydweithredu â Chynghorau Tref a Chymuned pdf eicon PDF 61 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau adroddiad, gyda’r nod o gychwyn trafodaeth â Chynghorau Tref a Chymuned (CTCh) a chanfod faint o awydd sydd ganddynt i gydweithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP).

 

Drwy roi gwybodaeth gefndir, cadarnhaodd Cadeirydd y Pwyllgor Trosolygu a Chraffu Testunau 3 a gyflwynodd yr adroddiad, y dywedwyd y dylai CBSP weithio’n agosach mewn partneriaeth a CTCh mewn ymgais i gynnal gwasanaethau cymunedol sydd mewn perygl o doriadau yn y gyllideb i’r dyfodol a sicrhau’r gwasanaethau a’r canlyniadau gorau i ddinasyddion Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Ar 22 Hydref 2018 cadarnhaodd fod Pwyllgor Trosolygu a Chraffu Testunau 3 wedi derbyn adroddiad (sydd ynghlwm yn Atodiad A), a roddai fanylion canlyniad y Panel Adolygu Annibynnol o safbwynt CTCh a’r effaith y byddai gweithredu’r argymhellion yn ei chael ar CBSP.

 

Roedd yr Aelodau wedi gwneud nifer o sylwadau ac argymhellion yn y cyfarfod o’r Pwyllgor uchod (gweler Atodiad B i’r adroddiad), a oedd yn cynnwys awgrym i gyflwyno’r adroddiad, ynghyd â chanlyniadau’r cyfarfod i Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned.

 

Yna fe wnaeth Cadeirydd Pwyllgor Trosolygu a Chraffu Testunau 3 ddethol rhai o’r pwyntiau amlycaf yn Atodiadau’r adroddiad, megis er enghraifft:-

 

·        Bod gan Ben-y-bont ar Ogwr CTCh a oedd yn cwmpasu 100% o’r sir a bod hynny’n cymharu’n ffafriol ag awdurdodau cyfagos;

·        Roedd cyfanswm o £2.5m o’r praesept wedi cael ei gynhyrchu gan CTCh ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn 2018/19;

·        Teimlai fod y lefelau presenoldeb angen gwella yng nghyfarfodydd y Fforwm i’r dyfodol, yn enwedig ymysg cynrychiolwyr enwebedig o’r CTCh;

·        Y posibilrwydd i’r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned gyfarfod yn amlach na bob chwarter, er mwyn sicrhau momentwm a monitro’n gyson unrhyw waith cydweithredol i’r dyfodol rhwng y ddwy haen o Awdurdod; a

·        Manylion nifer y prosiectau CAT sydd naill ai wedi’u cwblhau neu wrthi’n cael eu hystyried

·        Y sylwadau a’r argymhellion a wnaeth Pwyllgor Trosolygu a Chraffu Testunau 3 yn ei gyfarfod ar 22 Hydref 2018, ar y testun ‘Cydweithredu â Chynghorau Tref a Chymuned.’

 

Dywedodd y Cadeirydd fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud adolygiad o’r rôl a ddarperir gan Gynghorau Tref/Cymuned, ac yn dilyn awgrym gan un o’r Aelodau, teimlai y byddai o fantais pe gellid gwahodd cynrychiolydd o Lywodraeth Cymru i’r cyfarfod nesaf/i’r dyfodol o’r Fforwm, i esbonio wrth yr Aelodau ganlyniadau’r adolygiad a gynhaliwyd.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 97/drosodd o’r adroddiad a’r gwasanaethau a’r amwynderau a ddarperir ar hyn o bryd gan CTCh a oedd yn sylweddol i gefnogi’r priod gymunedau. Yn ychwanegol at yr hyn a wnaed eisoes, cadarnhaodd yr adran hon o’r adroddiad fod cyfanswm o 71 o CTCh wedi cadarnhau eu bwriad i gynnal gwasanaethau yn y 12 mis nesaf, er enghraifft, cynnal a chadw caeau chwarae/meysydd pentrefi/mannau agored eraill, toiledau cyhoeddus, neuaddau pentref/canolfannau bro ac ardaloedd/llefydd chwarae ac offer chwarae.

 

Teimlai un Aelod hefyd fod sgiliau Clercod CTCh yn bwysig, yn ogystal â bod CTCh yn ysgwyddo gwaith ar y cyd drwy ddarparu gwasanaethau drwy gyd-ariannu a chronni praeseptau, gan gynnwys ar ran CBSP.

 

Roedd un aelod hefyd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 169.

170.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

 

Cofnodion:

Dim.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z