Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: o bell trwy Microsoft Teams

Cyswllt: Gwasaneathau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

206.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Dim.

207.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 85 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 15/02/2021

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:         Cymeradwyo cofnodion cyfarfod Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned dyddiedig 15 Chwefror 2021 fel cofnod gwir a chywir, ar yr amod fod y Cynghorwyr Amanda Williams ac RM Granville yn cael eu hychwanegu at restr y rhai oedd yn bresennol.

208.

Argyfwng yr Hinsawdd - diweddariad ar Agenda Datgarboneiddio 2030 pdf eicon PDF 240 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau gyda chymorth Rheolwr Gr?p yr Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaladwyedd, adroddiad, a phwrpas hwn oedd rhoi diweddariad byr ar raglen waith datgarboneiddio Cyngor Bwrdeistref Sirol (CBS) Pen-y-bont ar Ogwr a chodi materion oedd yn berthnasol i Gynghorau Tref a Chymuned yn eu gwaith hwy o ddatgarboneiddio.

Cadarnhaodd fod Llywodraeth Cymru (LlC) wedi datgan Argyfwng yr Hinsawdd ym mis Ebrill 2019 ac wedi gosod ei blaenoriaethau i fynd i’r afael â newid i Gymru er mwyn adeiladu gwytnwch. Ym mis Gorffennaf 2020, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i sicrhau sector cyhoeddus sero carbon net yng Nghymru erbyn 2030. Roedd yr ymrwymiad hwn yn cynnwys y sector cyhoeddus yn ei gyfanrwydd, gan gynnwys Cynghorau Tref a Chymuned.

Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi’r nod o sero net ac wedi ei mabwysiadu yn ei Gynllun Corfforaethol ar gyfer 2021-2022 wedi ei ddiweddaru. At hynny, mae’r Cyngor yn ymrwymedig i gyd-drefnu gweithredu er mwyn cynorthwyo meysydd eraill o’r economi i gymryd cam pendant yng nghyfeiriad datgarboneiddio, drwy ymgysylltu a thrafod gyda chyrff eraill yn y sector cyhoeddus (yn cynnwys Cynghorau Tref a Chymuned), y byd academaidd, diwydiant a’r trydydd sector.

Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau mai’r meysydd ffocws ar gyfer ein hymdrechion mewnol i ddatgarboneiddio yw ynni, cludiant, adeiladau, caffael a mannau agored. Byddai CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn gwneud y defnydd gorau o adeiladau, gan leihau’r defnydd o ynni, dylunio adeiladau newydd i’r safonau uchaf o effeithlonrwydd ynni, sicrhau defnydd doeth o’i fannau agored i wella bioamrywiaeth ac atafaelu carbon drwy blannu coed, edrych am gyfleoedd ynni adnewyddadwy, a phrynu’n well yn gyffredinol. Yn bwysicaf, byddai CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn cael sgyrsiau’n fewnol ar draws yr Awdurdod fel y gallai’r staff uno o gwmpas uchelgais a rennir yn wirioneddol i wneud newid mawr sylweddol mewn perthynas ag effaith ar yr hinsawdd.

Aeth ymlaen i ddweud ymhellach fod 99% o allyriadau o fewn ffiniau’r fwrdeistref sirol yn dod o sectorau ar wahân i’r sector cyhoeddus. Roedd gan y Cyngor swyddogaeth glir i arwain, gyrru a hwyluso newid ar draws yr holl Awdurdod. Felly, mae alinio strategaethau carbon isel a rhannu arfer gorau gyda Byrddau Partneriaeth Lleol, cymdogion rhanbarthol, cymunedau a busnesau, gan gynnwys Cynghorau Tref a Chymuned, yn hanfodol er mwyn mynd i’r afael ag ystod lawn yr allyriadau, gan gynnwys y rheiny o nwyddau a gwasanaethau a brynir.

Mae angen i’r holl gyrff cyhoeddus fynd i’r afael â dod yn Niwtral o ran Carbon erbyn 2030, ar sail delio â’r allyriadau mewn gwahanol gwmpasau fel yr eglurir yn yr adroddiad. Roedd partneriaethau’r sector cyhoeddus wrthi’n sefydlu eu gwaelodlinau carbon ac yn ceisio mynd i’r afael â’r un materion. Roedd busnesau hefyd yn nodi eu cyfrifoldebau corfforaethol a chymdeithasol i ddelio â’r newid yn yr hinsawdd er mwyn lleihau eu heffaith a gwella lles cymdeithasol. Roedd dull cydweithredol ar draws sectorau felly’n rhywbeth i’w ddymuno ac yn ymarferol hefyd.

Mae symud i system garbon isel yn cynyddu allbwn economaidd ac mae’n rhan o’n cynlluniau adfer cenedlaethol. Bydd strategaeth CBS Pen-y-bont ar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 208.

209.

Diweddariad cynllunio ar y Cynllun Datblygu Lleol, y Polisi Cynllunio Cenedlaethol a Chreu Lleoedd. pdf eicon PDF 127 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:         Bod yr Aelodau’n cytuno i ohirio’r adroddiad hwn tan gyfarfod nesaf Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned.

210.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z