Agenda a Chofnodion

Fforwm Cyngor Tref a Chymuned - Dydd Llun, 29ain Tachwedd, 2021 16:00

Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

217.

Datganiadau o fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau /

Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Dim

218.

Cymeradwyaeth Cofnodion pdf eicon PDF 205 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 20/09/21.

Cofnodion:

DATRYSWYD: Cymeradwywyd cofnodion 20/09/2021 fel cofnod cywir.

 

219.

Asesiad Llesiant ac Anghenion Poblogaeth pdf eicon PDF 142 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Bartneriaeth a’r PDC adroddiad yn:

  • hysbysu Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned ynghylch gwaith Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr a Chwm Taf a Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg mewn perthynas â’r Asesiadau Llesiant ac Anghenion y Boblogaeth;

 

  • nodi cyfrifoldebau rhai Cynghorau Tref a Chymuned o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (y Ddeddf).

 

Esboniodd Cadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fod Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wedi’u sefydlu ar 1 Ebrill 2016 ar ôl i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 gael ei rhoi ar waith. Cyhoeddodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr ei Asesiad Llesiant cyntaf ym mis Ebrill 2017, lle’r aethpwyd ati i asesu cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd y cynllun Llesiant nesaf yn cael ei gyhoeddi erbyn mis Ebrill 2023, oherwydd mae’n ofynnol ei gyhoeddi ddim hwyrach na blwyddyn ar ôl cynnal etholiad Lleol.

 

Esboniodd Cadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus mai un o’r gwersi a ddysgwyd yn sgil y cynllun llesiant diwethaf oedd bod y cwmpas yn rhy fawr ac na ellid ei gyflawni’n rhesymol o fewn y cyfnod. Mae cwmpas y cynllun llesiant cyfredol yn fwy penodol a mesuradwy, ac mae’n anelu at fod yn llawer mwy effeithiol. Ychwanegodd mai gwelliant pwysig arall ar gyfer y cynllun llesiant cyfredol yw sicrhau y gellir ymgysylltu â chynifer o bobl â phosibl, ynghyd ag ymgorffori’r anghenion yn yr asesiad a’r cynllun.

Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fod gan Gynghorau Tref a Chymuned rôl ymgysylltu bwysig er mwyn sicrhau cynrychiolaeth leol. Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn dymuno cryfhau’r berthynas gyda Chynghorau Tref a Chymuned er mwyn sicrhau y gellir cyflawn cymaint â phosibl o fewn yr ymgysylltu hwnnw. Y nod yw deall beth yw’r materion lleol a sicrhau bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwneud gwahaniaeth wrth ddatrys materion.

 

Aeth yr Arweinydd yn ei flaen i ganmol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, gan bwysleisio pa mor bwysig ydyw ac yntau’n gweithio ar lefel amlasiantaeth, megis y gwasanaeth tân a Heddlu De Cymru. Bu’r Asesiad o help wrth flaenoriaethu’r gwaith a llunio camau gweithredu y gellir gweithio tuag atynt i ddarparu gwell gwasanaethau.

 

Dywedodd un o’r aelodau fod nifer o Gynghorwyr yn Gynghorwyr Tref a Chymuned hefyd a oedd yn aelodau o’r fforwm hwn. Gofynnodd a oes yna gyfle i gynnal trafodaethau mewn cyfarfodydd cynghorau tref a chymuned unigol.

 

Roedd Cadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn fodlon cyfarfod ag unigolion i’r graddau mwyaf posibl er mwyn sicrhau y bydd modd cyfleu gwybodaeth yngl?n â’r hyn a wna’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, a hefyd er mwyn sicrhau y bydd modd hyrwyddo’r arfer o ymgysylltu â’r asesiad a’r cynllun llesiant, a chyfrannu atynt. Ychwanegodd Rheolwr y Bartneriaeth a’r PDC y byddai modd iddi anfon e-bost at glerc y Cynghorau Tref a Chymuned i drefnu cyfarfodydd pan fo angen rhwng y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’i thîm hi hefyd.

 

Gofynnodd yr Arweinydd i Reolwr y Bartneriaeth a’r PDC a fyddai modd cysylltu â’r Cynghorau Tref a Chymuned hynny a oedd â dyletswyddau cyfreithiol i’w  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 219.

220.

Materion Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Dim