Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

211.

Ethol Cadeirydd ar gyfer y Cyfarfod

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

Cofnodion:

CYTUNWYD:           Y dylid ethol y Cynghorydd S Baldwin yn Gadeirydd ar y cyfarfod yn absenoldeb y Cadeirydd, y Cynghorydd HJ David. 

212.

Datgan Diddordeb

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Dim.

213.

Derbyn Cofnodion pdf eicon PDF 197 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 10/05/2021

Cofnodion:

CYTUNWYD:          Fod cofnodion y Fforwm Cyngor Tref a Chymuned dyddiedig 10 Mai 2021 yn cael eu derbyn fel cofnod gwir a chywir. 

214.

Llunio dyfodol Pen-y-bont – Trafodaethau Cyllideb 2021 Ymwneud â Chynghorau Tref a Chymuned pdf eicon PDF 245 KB

Cofnodion:

Adroddodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb ar y broses ymgynghori yngly?n â’r ymgynghoriad am y gyllideb, gyda’r bwriad o sicrhau ymgysylltiad effeithiol gyda Chynghorau Tref a Chymuned a thrigolion lleol. Eglurodd y bydd cyflwyniad yn cael ei roi i’r Fforwm yn ymwneud â Strategaeth Ariannol Tymor Canolog, a fydd yn gosod y sail ar gyfer anghenion cynilo a phwysau cyllidol i’r dyfodol.

 

Rhoddwyd cyflwyniad i’r Fforwm gan Reolwr y Gr?p Cynllunio Ariannol a Rheoli Cyllideb ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) er mwyn creu darlun o anghenion cynilo a phwysau cyllidol i’r dyfodol. Hysbysodd y Fforwm fod chwarter 1 yn rhagweld dangos gorwariant o £904k. Tanlinellodd effaith ariannol Covid-19 ar y Cyngor, a oedd wedi arwain at bwysau costau ychwanegol, colli incwm megis parcio, cinio ysgol a ffioedd cynllunio. Mae’n bosib na fydd modd sicrhau arbedion Strategaeth Ariannol Tymor Canolig o £1.760m yn ystod 2021-22 ac mae’n bosib y bydd diffyg yng nghasgliadau Treth y Cyngor. Serch hynny, cafwyd ambell arbediad annisgwyl gan fod y ddarpariaeth gwasanaeth wedi lleihau ychydig neu wedi dod i ben, yn ogystal ag arbedion costau teithio oherwydd llai o gyfarfodydd wyneb yn wyneb.

 

Darparwyd cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru drwy’r Gronfa Caledi Covid, sydd bellach wedi’i hesgyn tan 31 Mawrth 2022. Tanlinellodd y senarios cyllidebol posib yn Strategaeth Ariannol Tymor Canolig Chwefror 2021, gyda lleihad o £6.959m yn 2022-23 yn cael ei amlygu fel y senario cyllidebol mwyaf tebygol a hysbysodd y Fforwm po uchaf y cynnydd yng Nghyllid Allanol Agregau a'r cynnydd yn Nhreth y Cyngor, lleiaf i gyd fydd y toriadau cyllidebol gofynnol. Pwysleisiodd hefyd yr effaith y byddai cynnydd o 2% yng nghyllid Llywodraeth Cymru yn arwain at dargedau cynilo gwahanol ar gyfer lefelau gwahanol o gynnydd yn Nhreth y Cyngor.

 

Amlinellodd Rheolwr y Gr?p Cynllunio Ariannol a Rheoli Cyllideb y pwysau’n wynebu’r Cyngor megis effaith hir dymor Covid-19 wrth gyrraedd y cyfnod adfer ac ansicrwydd yngly?n lefelau cyllido; effaith Brexit ar gostau ‘ prisiau; costau staffio – cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol, Cyflog Byw Go Iawn, a chodiadau cyflog anhysbys; pwysau chwyddiant, gyda’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) cyfredol yn 3.2%, yn codi’n gyflym a phwysau demograffig. Dywedodd fod y blaenoriaethau posib yn cynnwys Busnes a’r economi’ Digartrefedd; Iechyd a lles; Digideiddio; Datgarboneiddio a lefelau Treth y Cyngor a gesglir.

 

Hysbyswyd y Fforwm gan Reolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Cydraddoldeb o’r nifer o drigolion oedd wedi ymgysylltu yn y broses ymgynghori ynly?n â’r gyllideb, gyda 5,000 yn ymgysylltu yn 2018 a 7,500 yn ymgysylltu yn 2019.  Er gwaethaf y pandemig, a oedd yn rhwystro ymgysylltiad wyneb yn wyneb, roedd 1,831 enghraifft o ryngweithio yn 2020 drwy gyfrwng cyfuniad o gwblhau arolygon, ymgysylltiad mewn sawl cyfarfod, y cyfryngau cymdeithasol ac ymgysylltiad â chyfathrebu digidol drwy Banel Dinasyddion yr awdurdod lleol. Eglurodd mai bwriad yr ymgynghoriad (a aeth yn fyw y prynhawn yma) yw i drafod mor eang â phosib a’r gobaith oedd dyblygu ymgynghoriadau wyneb yn wyneb a chyfarfodydd byw yn 2021.  Bydd dolen  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 214.

215.

Diweddariad Cynllunio’r Cynllun Datblygu Lleol, y Polisi Cynllunio Cenedlaethol a Chreu Lleoedd pdf eicon PDF 230 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd cyflwyniad i’r Fforwm gan Reolwr Gr?p – Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu ar y Cynllun Datblygu Lleol, y Polisi Cynllunio Cenedlaethol a Chreu Lleoedd.

 

Eglurodd Rheolwr y Gr?p – Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu fod y Cynllun Datblygu Lleol (LDP) yn strategaeth statudol, lefel uchel y mae angen paratoi ar ei chyfer ac sy’n nodi telerau defnydd tir a blaenoriaethau ac amcanion y Cyngor. Mae’r Cynllun Datblygu Lleol cyfredol yn dirwyn i ben ac mae cynlluniau ar gyfer cynllun newydd ar waith. Eglurodd fod y cynllun mewn man allweddol a bod y Cyngor wedi cyhoeddi Blaen Ddrafft o Gynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer y cyhoedd, gydag ymgynghoriad 98 wythnos wedi’i gynnal yn ystod yr Haf.  

 

Hysbysodd y Fforwm fod y Blaen Ddrafft yn adeiladu ar y Strategaeth Ddewisol, yr ymgynghorwyd yn ei chylch yn 2019. Diben yr ymgynghoriad yw ceisio barn pob un o’n cymunedau ar gam nesaf y broses Cynllun Datblygu Lleol. O’i gwblhau a’i fabwysiadu, bydd y Cynllun Datblygu Lleol Newydd yn cymryd lle’r Cynllun Datblygu Lleol cyfredol (2006-2021) fel Cynllun Datblygu statudol ar gyfer y Fwrdeistref Sirol a hynny tan 2030. Eglurodd fod y Blaen Ddrafft yn cynnwys Datganiad Ysgrifenedig sy’n amlinellu polisïau cynllunio lleol, dosraniadau defnydd tir a chyfiawnhad cysylltiedig ar sail tystiolaeth gefnogol. Mae’r Map Cynllun yn dangos y dosraniadau defnydd tir, ffiniau aneddiadau a dynodiadau cynllunio sy’n cael eu hawgrymu yn y Cynllun Datblygu Lleol ar ffurf cynllun.

 

Hysbyswyd y Fforwm gan Reolwr y Gr?p – Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu o’r 4 amcan strategol, oedd yn ceisio adlewyrchu’r polisi a’r ddeddfwriaeth genedlaethol ac ymdrin â’r materion oedd yn wynebu’r Fwrdeistref Sirol. Dywedodd fod yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Blaen Ddrafft wedi rhoi cyfle i bob aelod o’r gymuned a rhanddeiliaid allweddol i gynnig barn, gyda 1200 ymateb wedi’u derbyn. Roedd yr ymatebion yn cael eu hystyried gan swyddogion cyn penderfynu oedd angen gwneud newidiadau i’r Blaen Ddrafft. Byddai Cytundeb Cyflawni wedyn yn cael ei baratoi, gyda Llywodraeth Cymru’n argymell amserlen addas o safbwynt mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd yn ffurfiol.

 

Eglurodd Rheolwr y Gr?p - Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu egwyddorion Cymru’r Dyfodol 2040 (Y Cynllun Cenedlaethol), sef Cynllun Datblygu defnydd tir cenedlaethol ar gyfer Cymru, sy’n cymryd lle Cynllun Gofodol Cymru. Amlinella lle dylid buddsoddi mewn isadeiledd a datblygiad er lles Cymru gyfan a’i phobl mewn cysylltiad â’r Ddeddf Lles a Chenedlaethau’r Dyfodol. Fframwaith ydyw sy’n seiliedig ar y Cynlluniau Datblygu Strategol (SDPs) ar lefel ranbarthol a Chynlluniau Datblygu Lleol (LDPs) ar lefel awdurdod lleol, y mae angen iddyn nhw gydymffurfio â Cymru’r Dyfodol. Dywedodd fod y Cynllun Cenedlaethol yn ogystal â Pholisi Cynllunio Cymru 11 (PPW11) yn rhoi pwyslais mawr ar gynllunio rhanbarthol drwy Gynlluniau Datblygu Lleol a mwy o bwysau ar greu lleoedd. Ystyrir Cymru’r Dyfodol 2040 gan Lywodraeth Cymru fel y cynllun datblygu cenedlaethol cyntaf. Diffinnir ardaloedd o dyfiant cenedlaethol, gyda Phen-y-bont yn cael ei hadnabod fel lleoliad strategol pwysig a thref allweddol o fewn y rhanbarth yn ogystal â bod yn rhan o Ardal Tyfiant Cenedlaethol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 215.

216.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z