Agenda a Chofnodion

Fforwm Cyngor Tref a Chymuned - Dydd Llun, 7fed Chwefror, 2022 16:00

Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

221.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Datganodd Y Cyng. JP Blundell fuddiant personol yn eitem 6, Diweddariad Trosglwyddo Asedau Cymunedol, gan ei fod yn aelod o Gyngor Cymuned Laleston y trosglwyddwyd ased cymunedol (CAT) iddo, sef Canolfan Gymuned Bryntirion, ac roedd yn y broses o gyflwyno mynegiannau o ddiddordeb mewn prosiectau cymunedol eraill.

 

Datganodd Y Cyng. P Davies fuddiant personol yn eitem 6, Diweddariad Trosglwyddo Asedau Cymunedol, gan ei fod yn Ddirprwy Gadeirydd Ymddiriedolaeth Datblygu Caerau a bod prydles ar y Ganolfan Gymuned ar hyn o bryd, ac roedd trafodaethau’n parhau o ran trosglwyddiad CAT. Roedd hefyd yn aelod o Glwb Rygbi Nantyffyllon a oedd yn ymwneud â throsglwyddiad CAT Parc Lles Caerau. 

 

Datganodd Y Cyng. R Granville fuddiant personol yn eitem 6, Diweddariad Trosglwyddo Asedau Cymunedol, gan ei fod yn ymwneud â thrafodaethau ynghylch trosglwyddo’r cae pêl-droed i Gyngor Cymuned Corneli.

 

Datganodd Y Cyng. Chappell fuddiant personol yn eitem 6, Diweddariad Trosglwyddo Asedau Cymunedol, gan ei fod yn gysylltiedig â Chlwb Rygbi Cynffig a’u bod wedi gwneud cais am drosglwyddo ased yn ddiweddar.

 

Datganodd Y Cyng. Huw David fuddiant personol yn eitem 6, Diweddariad Trosglwyddo Asedau Cymunedol, gan ei fod yn aelod o Glwb Rygbi Mynydd Cynffig, Clwb Athletau Cefn Cribwr, a Chlwb Bowls Cefn Cribwr, ac roedd bob un o’r clybiau hyn wedi ymwneud â’r broses CAT.

 

Datganodd Y Cyng. R Young fuddiant personol yn eitem 6, Diweddariad Trosglwyddo Asedau Cymunedol, gan ei fod yn aelod o Gyngor Cymunedol Coety Uchaf, ac roedd cais wedi’i gyflwyno ar gyfer trosglwyddiad CAT ar Great Western Avenue a chaeau chwarae eraill.     

222.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 196 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 29 11 21

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:           Cymeradwywyd cofnodion 29 Tachwedd 2021 fel cofnod gwir a chywir.          

223.

Hysbysu Cymdogion ac Ymgynghori â Chynghorau Tref/Cymuned yn y Broses Gynllunio pdf eicon PDF 129 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu adroddiad a oedd yn rhoi gwybod i aelodau’r Cynghorau Tref a Chymuned am y broses statudol ar gyfer hysbysu cymdogion ag ymgynghori â Chynghorau Tref a Chymuned o fewn y broses geisiadau cynllunio.

 

Eglurodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu, lle’r oedd cais dilys am ganiatâd cynllunio wedi’i gyflwyno, roedd rhwymedigaeth statudol i Awdurdodau Cynllunio Lleol (ACLlau) ymgymryd â chyhoeddusrwydd ac ymgynghori. Roedd gan ADLlau ryddid i benderfynu sut i hysbysu cymunedau a phartïon eraill sydd â diddordeb am geisiadau cynllunio, er bod gofynion statudol sylfaenol. Eglurodd, yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, eu bod yn mynd y tu hwnt i’r gofynion statudol sylfaenol ar gyfer hysbysu cymdogion. O ran ceisiadau syml am estyniad i d?, tra bo’r Gorchymyn yn nodi y dylent roi’r hysbysiad gofynnol trwy arddangos yr hysbysiad mewn o leiaf un lle, ar y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef neu wrth ei ymyl, am gyfnod o ddim llai na 21 diwrnod; neu trwy gyflwyno’r hysbysiad i unrhyw berchennog neu feddiannydd cyfagos. Roeddynt yn dueddol o wneud y ddau, a hefyd yn dueddol o ymestyn yr hysbysiad i amrywiaeth ehangach o eiddo cyfagos. Roeddynt hefyd yn mynd y tu hwnt i’r terfyn amser 14 diwrnod ar gyfer derbyn sylwadau gan Gynghorau Tref a Chymuned, trwy ganiatáu 21 diwrnod. Os nad oedd modd i’r Cyngor Tref neu Gymuned gwrdd â’r terfyn amser hwnnw, byddant yn mynd ati’n rheolaidd i gytuno ar estyniadau o’r cyfnod amser hwnnw.

 

Roedd Rheolwr Gr?p yr Adran Cynllunio a Datblygu yn adrodd bod Cynghorau Cymunedol unigol a’r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned wedi cynnig y dylai’r ACLl anfon copïau o wrthwynebiadau cymdogion iddynt er mwyn i’r Cynghorau gael gwybod beth yw cryfder y teimladau ar lefel leol. Eglurodd, yn anffodus, nad oedd modd iddynt anfon unrhyw sylwadau gan gymdogion ymlaen i’r Cynghorau Tref (CT) a Chymuned (CC) gan y byddai hynny’n torri’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Hyd yn oed os oedd cymydog wedi cydsynio i anfon ei sylwadau ymlaen i’r CT/CC, nid oedd ganddynt yr amser na’r adnoddau i olygu unrhyw sylwadau a gyflwynwyd am wybodaeth bersonol cyn gwneud hynny. Yn ogystal, roedd y prosesau ymgynghori a hysbysu yn cydredeg, ac felly nid oedd modd iddynt ohirio’r broses oherwydd targedau statudol ar gyfer penderfynu ceisiadau. Os oeddynt yn dymuno hynny, awgrymodd y gallai Cynghorau Tref a Chymuned gysylltu â’u preswylwyr a rhoi gwybod iddynt y gallent anfon copi o’u sylwadau ar unrhyw gais cynllunio at y Cyngor Cymuned ar yr un pryd ag yr oeddent yn ymateb i’r ACLl.

 

Cyfeiriodd aelod at y modd yr oedd yr ACLl yn ymestyn ei hysbysiadau i amrywiaeth ehangach o eiddo cyfagos, a gofynnodd p’un a oedd unrhyw bellter penodol wedi’i benderfynu. Ymatebodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu nad oedd unrhyw bellter penodol a bod hyn yn ddewisol. Nid oedd ond rhaid iddynt ymgynghori â thirfeddianwyr neu gymdogion cyfagos, ond roeddynt yn ceisio ymgynghori’n ehangach, yn dibynnu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 223.

224.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2022-23 tan 2025-26 pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Er gwybodaeth, cyflwynodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid (y Swyddog Adran 151) gopi i’r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned o’r adroddiad a aeth i’r Cabinet ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) 2022-23 tan 2025-26, ar 18 Ionawr 2022.

 

Eglurodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid (y Swyddog Adran 151), oherwydd yr oedi o ran canlyniad yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant ar gyfer 2021, nid oedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei chyllideb ddrafft tan 20 Rhagfyr 2021, na’r Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro tan 21 Rhagfyr 2021. Roedd hyn yn unol â’r flwyddyn flaenorol, ond mae’n dal i fod yn tua 2 fis yn hwyrach nag arfer. O ganlyniad i’r oedi o ran cyhoeddiadau, ni chafodd y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ei chyflwyno i’r Cabinet tan 18 Ionawr 2022, cyn ei chyflwyno ar gyfer ei chraffu gan Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu’r Cyngor. Caiff y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig derfynol ei chyflwyno i’r Cabinet a’r Cyngor ar                           22 a 23 Chwefror 2022, yn y drefn honno, i’w chymeradwyo. Byddai’r dreth gyngor arfaethedig ar gyfer 2022-23 yn cael ei chyflwyno i’r Cyngor hefyd, i’w chymeradwyo ar 23 Chwefror 2022.

 

Eglurodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid (y Swyddog Adran 151), wrth geisio parhau i gyflawni’r blaenoriaethau a nodwyd gan y Cyngor, ynghyd â diogelu ei fuddsoddiad mewn Addysg ac ymyrraeth gynnar, y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, ynghyd â blaenoriaethu’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, eu bod yn cynnig nifer o newidiadau yng nghyllideb 2022-23. Cyfeiriodd at gyfleoedd i godi incwm ychwanegol, ynghyd â modelau cyflenwi eraill i sicrhau mwy o gynaliadwyedd ac effeithlonrwydd, effeithlonrwydd ac arbedion o ran eiddo, ynghyd â newidiadau o safbwynt darpariaeth gwasanaeth.

 

Eglurodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid (y Swyddog Adran 151) bod MTFS y Cyngor wedi’i gosod o fewn cyd-destun cynlluniau gwariant economaidd a chyhoeddus y DU, blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru. Roedd y MTFS yn mynegi’r modd yr oedd y Cyngor yn cynllunio i ddefnyddio ei adnoddau i gefnogi’r gwaith o gyflawni ei flaenoriaethau corfforaethol a’i ddyletswyddau statudol, gan gynnwys rheoli pwysau ariannol a risgiau dros y pedair blynedd nesaf. Amlinellodd Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro Llywodraeth Cymru 2022-23, oblygiadau’r setliad ar gyfer 2023 i 2026, trosglwyddiadau i mewn ac allan o Setliad Refeniw 2022-23, ynghyd â grantiau penodol.            

 

Eglurodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid (y Swyddog Adran 151) bod sawl math o bwysau sylweddol o ran costau yr oedd angen iddynt eu hariannu o fewn y cynnydd. Roedd hyn yn cynnwys cyllid ychwanegol i gwrdd â’r cytundeb tâl ar gyfer gweddill y flwyddyn gyfredol ac ar gyfer y flwyddyn nesaf, i gyflawni’r gofynion newydd o ran cyfraniadau Yswiriant Gwladol, ac i ariannu cyflwyno’r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal. Yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol a’r llynedd, derbyniodd y Cyngor arian gan Lywodraeth Cymru trwy gronfa galedi a oedd wedi helpu’r awdurdod i gwrdd â’r costau ychwanegol a’r incwm a gollwyd, a brofwyd o ganlyniad i’r pandemig. Ni  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 224.

225.

Diweddariad Trosglwyddo Asedau Cymunedol pdf eicon PDF 341 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y swyddog Trosglwyddo Asedau Cymunedol (CAT) adroddiad a oedd yn darparu amlinelliad i’r Fforwm o’r newidiadau i bolisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CAT), ynghyd â’r cymorth a’r cyfleoedd a oedd ar gael ar hyn o bryd i Gynghorau Tref a Chymuned (CTaCh) weithio gyda’r Cyngor a grwpiau cymunedol i gyflawni’r trefniadau rheoli gorau ar gyfer asedau a gwasanaethau yn y sector cyhoeddus.

 

Eglurodd y swyddog CAT y cymeradwywyd y Polisi CAT, sydd wedi’i ddiweddaru, gan y Cabinet ym mis Gorffennaf 2019 ac roedd yn ystyried argymhellion y Gr?p Tasg a Gorffen CAT. Y prif newidiadau i’r polisi oedd y rheiny o safbwynt blaenoriaethu asedau: blaenoriaeth 1, pafiliynau chwaraeon, caeau chwarae a chanolfannau cymuned; blaenoriaeth 2, meysydd chwarae, meysydd parcio am ddim a rhandiroedd; ac yna blaenoriaeth 3, a oedd yn cynnwys popeth nad oedd wedi’i gynnwys o dan flaenoriaeth 1 a blaenoriaeth 2. Eglurodd bod y ddogfen yn cyflwyno system llwybr carlam, gan mai un o’r beirniadaethau mwyaf a dderbyniwyd ganddynt oedd ynghylch yr amser a gymerwyd i gwblhau CATau. Yn flaenorol, roedd angen cynlluniau busnes manwl, ond bellach nid oeddynt ond yn gofyn am gyflwyno amcanestyniadau incwm a gwariant am gyfnod o o leiaf 5 mlynedd ar gyfer y mwyafrif o CATau (ond y byddid yn dal i ofyn am gynlluniau busnes manwl ar gyfer prosiectau mwy cymhleth, e.e. adeiladau newydd).

 

Roedd y swyddog CAT yn amlinellu’r sefyllfa o ran cyllid ac adnoddau ar gyfer CATau, ac ychwanegodd, ym mis Hydref 2020, cymeradwywyd Achos Busnes am gymorth o dan Gronfa Rheoli Newid y Cyngor o £266,461 gan y Bwrdd Rheoli Corfforaethol (BRhC). Roedd hyn yn cynnwys creu tair swydd newydd am gyfnod penodol i fwrw ymlaen â sawl CAT, ac i gyflawni’r arbedion ariannol o dan y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS). Eglurodd bod paragraff 4.12 o’r adroddiad yn rhoi amlinelliad cryno o’r cynnydd a wnaed, yn enwedig yn ystod dwy flynedd ddiwethaf y pandemig COVID, ac roedd Atodiad B hefyd yn darparu gwybodaeth fanwl am y trosglwyddiadau oedd ar waith. Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion wyth trosglwyddiad a oedd wedi’u cwblhau hyd yma, ynghyd ag un arall ers cyhoeddi’r adroddiad.                                                                  

 

Eglurodd y swyddog CAT mai un o agweddau mwyaf dymunol y Trosglwyddiadau o Asedau Cymunedol yn ystod y pandemig oedd bod 10 allan o 12 o glybiau bowls wedi cytuno i ymgymryd â’r gwaith o reoli 11 o lawntiau bowls eu hunain, o 1 Tachwedd 2020, tra bo prydlesi hirdymor yn cael eu cwblhau.

 

Amlinellodd y swyddog CAT y cynnydd o ran adolygiad strategol y 3 parc mawr. Cwblhawyd y cam cyntaf o’r adolygiad ym mis Mai 2021. Dylid datblygu’r cylch gorchwyl ar Gam Dau o’r Adolygiad mewn ymgynghoriad â

Just Solutions er mwyn ystyried yr egwyddorion a gytunwyd gan y Cabinet / CMB, ynghyd â galluogi bwrw ymlaen â fframweithiau priodol ar gyfer strategaethau unigol ar gyfer Caeau Newbridge a Pharc Lles Maesteg.

 

Eglurodd y swyddog CAT bod adnoddau staff CAT wedi cynyddu yn yr ychydig fisoedd diwethaf ac  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 225.

226.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim