Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mr Mark Anthony Galvin Senior Democratic Services Officer - Committees
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Datganodd y Cyng. J E Lewis fuddiant sy'n rhagfarnu yn eitem 11 ar yr agenda - cais am ganiatáu trwyddedau, gan ei bod hi'n adnabyddus i'r ymgeisydd, a gadawodd yr ystafell pan ystyriwyd y cais. |
|
Cymeradwyo’r Cofnodion PDF 56 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 10/12/2017
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion yr Is-Bwyllgor Trwyddedu ar 12 Rhagfyr 2017 fel cofnod gwir a chywir.
|
|
Cais i Drwyddedu Cerbyd Hurio Preifat PDF 88 KB Cofnodion: Cyflwynoddyr Uwch Swyddog Technegol Trwyddedu adroddiad ynghylch cais gan Mr Richard Singleton i drwyddedu Mercedes S350L, rhif cofrestru KY63 HLW fel cerbyd hurio preifat i gario 4 person. Roedd y cerbyd wedi bod â pherchennog blaenorol ac fe'i cofrestrwyd gyntaf ar 4 Medi 2015. Daeth Mr Singleton i'r cyfarfod heddiw i gefnogi ei gais a gohiriodd yr Is-bwyllgor y cyfarfod i archwilio'r cerbyd. Wrth archwilio'r cerbyd nodwyd mai nifer y milltiroedd oedd 21,112.
Gan ailddechrau'r cyfarfod yn fuan wedyn, ar ôl archwilio'r dogfennau a anfonwyd gan Mr Singleton, sylwyd bod gwahaniaeth rhwng y milltiroedd a nodwyd arnynt o'u cymharu â'r milltiroedd ar y cloc. Dangosai’rdogfennau mai nifer y milltiroedd oedd 55958.
Esboniodd Mr Singleton ei fod yn credu bod camgymeriad gweinyddol wedi ei wneud, a bod ei wraig mae’n debyg wedi anfon y dogfennau anghywir ato. Ond nid oedd yn cofio i unrhyw un o'i gerbydau fod â 55,000 o filltiroedd ac esboniodd eu bod naill ai yn yr ystod 20,000-30,000 neu dros 100,000.
PENDERFYNWYD: Gan nad oedd gan yr Is-bwyllgor unrhyw ffordd o gadarnhau'r milltiroedd, gohiriwyd ystyried y cais tan ddyddiad diweddarach.
|
|
Cais i Drwyddedu Cerbyd Hurio Preifat PDF 88 KB Cofnodion: Cyflwynoddyr Uwch Swyddog Technegol Trwyddedu adroddiad ynghylch cais gan Mr Richard Singleton i drwyddedu Mercedes E220 AMG, rhif cofrestru LT65 JKE fel cerbyd hurio preifat i gludo 4 person.
Daeth Mr Singleton i'r cyfarfod heddiw i gefnogi ei gais a gohiriodd y pwyllgor y cyfarfod i archwilio'r cerbyd. Wrtharchwilio'r cerbyd nodwyd mai nifer y milltiroedd oedd 28,223.
Gohiriwyd yr Is-bwyllgor i ystyried y cais ymhellach ac ar ôl dychwelyd:
PENDERFYNWYD: Ystyriodd yr Is-bwyllgor y cais am drwyddedu cerbyd rhif cofrestru LT65 JKE.
Nododd yr Is-bwyllgor fod y cais yn disgyn y tu allan i baragraff 2.1 canllawiau polisi trwyddedu’r cyngor.
Caniataoddyr Is-bwyllgor y cais a wnaed gan Mr Singleton i drwyddedu Mercedes E220 AMG, rhif cofrestru LT65 JKE fel cerbyd hurio preifat i gludo 4 o bobl gan ei fod yn bodloni paragraffau 2.2 a 2.2.5 oherwydd cyflwr eithriadol y cerbyd. |
|
Cais i Drwyddedu Cerbyd Hurio Preifat PDF 88 KB Cofnodion: Cyflwynoddyr Uwch Swyddog Technegol Trwyddedu adroddiad ynghylch cais gan Mr Richard Singleton i drwyddedu Mercedes Viano, rhif cofrestru V66 RDS fel cerbyd hurio preifat i gludo 7 o bobl.
Roedd Mr Singleton yn y cyfarfod heddiw i gefnogi ei gais a gohiriodd y pwyllgor y cyfarfod i archwilio'r cerbyd. Wrtharchwilio'r cerbyd nodwyd mai nifer y milltiroedd oedd 102,566. Gohiriwyd yr Is-bwyllgor i ystyried y cais ymhellach ac ar ôl dychwelyd:
PENDERFYNWYD: Ystyriodd y pwyllgor y cais a wnaed gan Mr Singleton i drwyddedu Mercedes Viano, rhif cofrestru V66 RDS
Nododd yr Is-bwyllgor fod y cais yn disgyn y tu allan i baragraff 2.1 canllawiau polisi trwyddedu’r cyngor.
Caniataoddyr Is-bwyllgor y cais a wnaed gan Mr Singleton i drwyddedu Mercedes Viano, rhif cofrestru V66 RDS fel cerbyd hurio preifat i gludo 7 o bobl gan ei fod yn bodloni paragraffau 2.2 a 2.2.5 oherwydd cyflwr eithriadol y cerbyd. |
|
Cais i Drwyddedu Cerbyd Hurio Preifat PDF 87 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Technegol Trwyddedu adroddiad yngl?n â chais gan Peyton Travel i drwyddedu Renault Trafic, rhif cofrestru WN15, CVW fel cerbyd hurio preifat i gludo 8 o bobl
Roedd Paul Brain yn y cyfarfod heddiw i gefnogi ei gais a gohiriodd y pwyllgor y cyfarfod i archwilio'r cerbyd. Wrth archwilio'r cerbyd nodwyd mai nifer y milltiroedd oedd 58,009
Gohiriwyd yr Is-bwyllgor i ystyried y cais ymhellach ac ar ôl dychwelyd:
PENDERFYNWYD: Ystyriodd y pwyllgor y cais a wnaed gan Peyton Travel i drwyddedu Renault Trafic, rhif cofrestru WN15 CVW
Nododd yr Is-bwyllgor fod y cais yn disgyn y tu allan i baragraff 2.1 canllawiau polisi trwyddedu’r cyngor.
Caniataodd yr Is-bwyllgor y cais a wnaed gan Peyton Travel i drwyddedu Renault Trafic, rhif cofrestru WN15 CVW15 fel cerbyd hurio preifat i gludo 8 o bobl gan ei fod yn bodloni paragraffau 2.2 a 2.2.5 oherwydd cyflwr eithriadol y cerbyd.
|
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys |
|
Gwahardd y Cyhoedd
Nid oedd y cofnodion ac adroddiadau sy'n ymwneud â'r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 14 a 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).
Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.
Cofnodion: PENDERFYNWYD: O dan Adran 100A(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, y dylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitemau busnes canlynol gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 12 Rhan 4 a / neu Baragraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A y Ddeddf.
Yn dilyn cymhwyso prawf budd y cyhoedd penderfynwyd, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, ystyried yr eitemau canlynol yn breifat, gyda'r cyhoedd wedi ei eithrio o'r cyfarfod, gan yr ystyrid yn yr holl amgylchiadau yn ymwneud â'r eitemau, bod budd y cyhoedd o ran cadw’r eithriad yn gorbwyso budd y cyhoedd wrth ddatgelu'r wybodaeth, oherwydd byddai'r wybodaeth yn niweidiol i'r ymgeiswyr a grybwyllid felly.
|
|
Cymeradwyo Cofnodion Eithriedig I dderbyn am gymeradwyaeth y Cafnodian gwahardd Cyfardod y 12/12/2017. |
|
Cais am Ganiatáu Trwyddedau |
|
Cais i Ganiatáu Trwyddedau |