Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Pitman 

Eitemau
Rhif Eitem

193.

Datganiadau o Gysylltiad

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Datganodd y Cyng. B Jones gysylltiad personol ag eitem 13, Cais i Adnewyddu Trwyddedau, a gadawodd y cyfarfod wrth i’r eitem hon gael ei hystyried oherwydd roedd yn adnabod yr ymgeisydd.

194.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 60 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 30/09/2019 a 22/10/2019

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:    Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd dyddiedig 30 Medi 2019 a 22 Hydref 2019 fel cofnod gwir a chywir.

195.

Cais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio adroddiad yn gofyn i’r is-bwyllgor ystyried cais i roi trwydded ar gyfer cerbyd hurio preifat.

 

Gwnaed y cais gan Mr Paul Brain, Peyton Travel Limited o Ben-y-bont ar Ogwr. i drwyddedu cerbyd Renault Trafic Sport DCI, rhif cofrestru CV18 WZM fel cerbyd hurio preifat i gludo 8 person. Roedd y cerbyd yn ail-law ac wedi’i gofrestru gyda’r DVLA am y tro cyntaf ar 10 Mehefin 2018. Nifer milltiroedd presennol y cerbyd oedd 32,614. 

 

Cynghorodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu fod y cais yn cwympo y tu allan i’r Polisi Cerbydau Hurio Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Nid oedd y cerbyd yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Roedd yr MOT cyntaf yn ddisgwyliedig ym mis Mehefin 2021 ac ni ddarparwyd unrhyw ddogfennau eraill.

 

Cyfeiriodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu’r Is-bwyllgor at y detholiad yn y polisi cerbydau oedd yn berthnasol i’r cais hwn.

 

PENDERFYNWYD:     Bod yr is-bwyllgor yn ystyried y cais i drwyddedu rhif cofrestru cerbyd CV18 WZM fel cerbyd hurio preifat.

 

                                     Nododd yr aelodau fod y cais yn cwympo y tu allan i’r Polisi Trwyddedu ym mharagraff 2.1 oherwydd oedran y cerbyd.

 

                                     At hynny, nododd yr Aelodau fod paragraff 2.2 y Polisi yn galluogi iddo gael ei lacio dan amgylchiadau eithriadol, fel y manylir ym mharagraff 2.4 y polisi.

 

                                     Ar ôl astudio’r cerbyd, teimlai’r Is-bwyllgor fod y cerbyd yn eithriadol o ran ansawdd yr ochr fewnol ac allanol a’i rinweddau diogelwch. O’r herwydd, rhoddodd yr Is-bwyllgor y drwydded.

196.

Cais am Drwydded Cerbyd Hacnai pdf eicon PDF 89 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio adroddiad yn gofyn i’r is-bwyllgor ystyried cais i roi trwydded ar gyfer cerbyd hacnai.

 

Gwnaed y cais gan Mr Paul Brain, Peyton Travel Limited o Ben-y-bont ar Ogwr, i drwyddedu cerbyd Dacia Logan, rhif cofrestru LF17 WZM fel cerbyd hacnai i gludo 4 person. Roedd y cerbyd yn ail-law ac wedi’i gofrestru gyda’r DVLA am y tro cyntaf ar 31 Mawrth 2017. Nifer milltiroedd presennol y cerbyd oedd 17,524. 

 

Cynghorodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu fod y cais yn cwympo y tu allan i’r Polisi Cerbydau Hacnai a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Nid oedd y cerbyd yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Cyflwynwyd adroddiad gwasanaeth ar gyfer y cerbyd dyddiedig 12 Rhagfyr 2018, lle cofnodwyd mai nifer y milltiroedd oedd 11,882.

 

Cyfeiriodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu’r Is-bwyllgor at y detholiad yn y polisi cerbydau oedd yn berthnasol i’r cais hwn.

 

PENDERFYNWYD:     Bod yr Is-bwyllgor yn ystyried y cais i drwyddedu rhif cofrestru cerbyd LF17 WZM fel cerbyd hacnai.

 

                                     Nododd yr aelodau fod y cais yn cwympo y tu allan i’r Polisi Trwyddedu ym mharagraff 2.1 oherwydd oedran y cerbyd.

 

                                     At hynny, nododd yr Aelodau fod paragraff 2.2 y Polisi yn galluogi iddo gael ei lacio dan amgylchiadau eithriadol, fel y manylir ym mharagraff 2.4 y polisi.

 

Ar ôl astudio’r cerbyd, ni fodlonwyd mwyafrif yr Is-bwyllgor fod y sedd ôl yn ddiogel a gwrthodwyd y cais.

197.

Cais am Drwydded Cerbyd Hacnai pdf eicon PDF 90 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio adroddiad yn gofyn i’r is-bwyllgor ystyried cais i roi trwydded ar gyfer cerbyd hacnai.

 

Gwnaed y cais gan Emma Parrott o Borthcawl, i drwyddedu cerbyd Toyota Avensis, rhif cofrestru MD66 WXJ fel cerbyd hacnai i gludo 4 person. Cofrestrwyd y cerbyd gyda’r DVLA am y tro cyntaf ar 31 Ionawr 2017. Nifer milltiroedd presennol y cerbyd oedd 33,866. 

 

Cynghorodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu fod y cais yn cwympo y tu allan i’r Polisi Cerbydau Hacnai a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Nid oedd y cerbyd yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Cyflwynwyd adroddiad gwasanaeth ar gyfer y cerbyd dyddiedig 8 Gorffennaf 2018 lle cofnodwyd mai nifer y milltiroedd oedd 17,357 ac ar 10 Medi 2019, cofnodwyd mai nifer y milltiroedd oedd 31,925.

 

Cyfeiriodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu’r Is-bwyllgor at y detholiad yn y polisi cerbydau oedd yn berthnasol i’r cais hwn.

 

PENDERFYNWYD:     Bod yr Is-bwyllgor yn ystyried y cais i drwyddedu rhif cofrestru cerbyd MD66 WXJ fel cerbyd hacnai.

 

                                     Nododd yr aelodau fod y cais yn cwympo y tu allan i’r Polisi Trwyddedu ym mharagraff 2.1 oherwydd oedran y cerbyd.

 

                                     At hynny, nododd yr Aelodau fod paragraff 2.2 y Polisi yn galluogi iddo gael ei lacio dan amgylchiadau eithriadol, fel y manylir ym mharagraff 2.4 y polisi.

 

Ar ôl astudio’r cerbyd, ni fodlonwyd mwyafrif yr Is-bwyllgor fod y sedd ôl yn ddiogel a gwrthodwyd y cais.

198.

Cais am Drwydded Cerbyd Hacnai pdf eicon PDF 89 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio adroddiad yn gofyn i’r is-bwyllgor ystyried cais i roi trwydded ar gyfer cerbyd hacnai.

 

Gwnaed y cais gan Emma Parrott o Borthcawl i drwyddedu cerbyd Toyota Avensis, rhif cofrestru MF17 OJN fel cerbyd hacnai i gludo 4 person. Cofrestrwyd y cerbyd gyda’r DVLA am y tro cyntaf ar 31 Mawrth 2017. Nifer milltiroedd presennol y cerbyd oedd 14,875. 

 

Cynghorodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu fod y cais yn cwympo y tu allan i’r Polisi Cerbydau Hacnai a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Nid oedd y cerbyd yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Cyflwynwyd adroddiad gwasanaeth ar gyfer y cerbyd dyddiedig 1 Tachwedd 2018 lle cofnodwyd mai nifer y milltiroedd oedd 11,620 ac ar 4 [MD1] Medi 2019, cofnodwyd mai nifer y milltiroedd oedd 14,609.

 

Cyfeiriodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu’r Is-bwyllgor at y detholiad yn y polisi cerbydau oedd yn berthnasol i’r cais hwn.

 

PENDERFYNWYD:     Bod yr Is-bwyllgor yn ystyried y cais i drwyddedu rhif cofrestru cerbyd MF17 OJN fel cerbyd hacnai.

 

                                     Nododd yr aelodau fod y cais yn cwympo y tu allan i’r Polisi Trwyddedu ym mharagraff 2.1 oherwydd oedran y cerbyd.

 

                                     At hynny, nododd yr Aelodau fod paragraff 2.2 y Polisi yn galluogi iddo gael ei lacio dan amgylchiadau eithriadol, fel y manylir ym mharagraff 2.4 y polisi.

 

                                     Ar ôl astudio’r cerbyd, teimlai’r Is-bwyllgor fod y cerbyd yn eithriadol o ran ansawdd yr ochr fewnol ac allanol a’i rinweddau diogelwch. O’r herwydd, rhoddodd yr Is-bwyllgor y drwydded.

 


 [MD1]Date is wrong in the English version

199.

Cais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio adroddiad yn gofyn i’r is-bwyllgor ystyried cais i roi trwydded ar gyfer cerbyd hurio preifat. Esboniodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu ers i’r adroddiad gael ei baratoi, roedd yr ymgeisydd wedi rhoi plât rhif personol ar yr eiddo a’r rhif cofrestru erbyn hyn oedd S60 DKL. Ychwanegodd fod y gwaith papur ar gyfer y newid wedi’i gyflwyno.

 

Gwnaed y cais gan Mr David Llewellyn o’r Pîl, Pen-y-bont ar Ogwr, i drwyddedu cerbyd Mercedes E Class, rhif cofrestru S60 DKL (VK17 OHX cyn hynny) fel cerbyd hurio preifat i gludo 4 person. Roedd y cerbyd yn ail-law ac wedi’i gofrestru gyda’r DVLA am y tro cyntaf ar 18 Mai 2017. Nifer milltiroedd presennol y cerbyd oedd 24,435. 

 

Cynghorodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu fod y cais yn cwympo y tu allan i’r Polisi Cerbydau Hurio Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Nid oedd y cerbyd yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Cyflwynwyd adroddiad gwasanaeth ar gyfer 18 Ebrill 2017 lle cofnodwyd mai nifer y milltiroedd oedd 12,344 ac ar 18 Ebrill 2019 cofnodwyd mai nifer y milltiroedd oedd 25,524.

 

Cyfeiriodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu’r Is-bwyllgor at y detholiad yn y polisi cerbydau oedd yn berthnasol i’r cais hwn.

 

PENDERFYNWYD:     Bod yr Is-bwyllgor yn ystyried y cais i drwyddedu rhif cofrestru cerbyd S60 DKL (VK17 OHX yn flaenorol) fel cerbyd hurio preifat.

 

                                     Nododd yr aelodau fod y cais yn cwympo y tu allan i’r Polisi Trwyddedu ym mharagraff 2.1 oherwydd oedran y cerbyd.

 

                                     At hynny, nododd yr Aelodau fod paragraff 2.2 y Polisi yn galluogi iddo gael ei lacio dan amgylchiadau eithriadol, fel y manylir ym mharagraff 2.4 y polisi.

 

Ar ôl astudio’r cerbyd, teimlai’r Is-bwyllgor fod y cerbyd yn eithriadol o ran ansawdd yr ochr fewnol ac allanol a’i rinweddau diogelwch. O’r herwydd, rhoddodd yr Is-bwyllgor y drwydded.

200.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Dim

201.

Gwahardd y Cyhoedd

Nid oedd y cofnodion ac adroddiadau sy'n ymwneud â'r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 14 a 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol

(Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

202.

Cymeradwyo Cofnodion Eithriedig

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion eithrio cyfarfod y 30/09/2019 a 22/10/2019

203.

Cais i Roi Trwyddedau

204.

Cais i Adnewyddu Trwyddedau

205.

Gwrandawiad Disgyblu ar gyfer Gyrrwr Tacsi Presennol

206.

Gwrandawiad Disgyblu ar gyfer Gyrrwr Tacsi Presennol

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z