Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Julie Ellams 

Eitemau
Rhif Eitem

207.

Datgan Budd

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd G Thomas fuddiant sy'n rhagfarnu yn eitemau 9 a 10, “Cais am Drwyddedu Cerbyd Hacni” a gadawodd y cyfarfod wrth i’r Aelodau ystyried yr eitemau hyn gan ei fod yn adnabod yr ymgeisydd/ cynrychiolydd.

   

208.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 76 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 17 12 19

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     Bod cofnodion y cyfarfod dyddiedig 17 Rhagfyr 2019 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

 

209.

Cais am Drwyddedu Cerbyd Llogi Preifat pdf eicon PDF 101 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad yn gofyn i’r is-bwyllgor ystyried cais am ddyfarnu trwydded ar gyfer cerbyd llogi preifat.

 

Cyflwynwyd y cais gan Mr Simon Whale o Dde Corneli, Pen-y-bont ar Ogwr i drwyddedu Vauxhall Insignia, rhif cofrestru cerbyd KW65 OXL fel cerbyd llogi preifat i ddal 4 o bobl. Roedd cyn-berchnogaeth ar y cerbyd a chafodd ei gofrestru gyntaf gyda’r DVLA ar 5 Chwefror 2016. Roedd cyfanswm y milltiroedd roedd y cerbyd wedi’i wneud yn 35,512. 

 

Nododd y Rheolwr Tîm Trwyddedu nad oedd y cais yn berthnasol i'r Polisi Cerbydau Llogi Preifat y mae’r Pwyllgor Trwyddedu yn eu cymeradwyo. Nid oedd y cerbyd yn addas i gadeiriau olwyn. Cyflwynwyd adroddiad ar y gwasanaeth roedd y cerbyd wedi'i gael ar gyfer 8 Chwefror 2017 pan cyfanswm milltiroedd y car yn 9162, 1 Mawrth 2018 pan oedd cyfanswm y milltiroedd yn 17453, 11 Mawrth 2019 pan oedd cyfanswm y milltiroedd yn 27359 ac 11 Rhagfyr 2019 pan oedd cyfanswm y milltiroedd yn 35272. Cyflwynwyd tystysgrif MOT dyddiedig 14 Ionawr 2020 pan oedd cyfanswm milltiroedd y car yn 35277.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Tîm Trwyddedu yr Is-bwyllgor at y dyfyniad perthnasol o'r polisi cerbydau sy'n berthnasol i'r cais hwn.

 

PENDERFYNWYD:     Ystyriodd yr Is-Bwyllgor y cais am drwyddedu KW65 OXL fel cerbyd llogi preifat.

 

                                     Nododd yr Aelodau nad yw’r cais yn berthnasol i'r Polisi Trwyddedu ym mharagraff 2.1 oherwydd oedran y cerbyd.

 

                                     Nododd yr Aelodau ymhellach fod paragraff 2.2 y Polisi yn nodi y caniateir ei lacio mewn amgylchiadau eithriadol fel y manylir ym mharagraff 2.4 o'r polisi.

 

                                     Ar ôl archwilio'r cerbyd, roedd yr Is-bwyllgor yn teimlo bod ansawdd y cerbyd yn eithriadol y tu mewn a'r tu allan. Felly, penderfynodd yr Is-bwyllgor ganiatáu’r drwydded. 

 

210.

Cais am Drwyddedu Cerbyd Llogi Preifat. pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad yn gofyn i’r is-bwyllgor ystyried cais am ddyfarnu trwydded ar gyfer cerbyd llogi preifat.

 

Cafodd y cais ei gyflwyno gan Driven Personal Hire Limited o Borthcawl ac Alan Brown o Ogledd Corneli, Pen-y-bont ar Ogwr i drwyddedu Citroen C4 Picasso Exec Blue HDI, rhif cofrestru cerbyd KY15 YBU fel cerbyd llogi preifat i ddal 4 o bobl. Roedd cyn-berchnogaeth ar y cerbyd a chafodd ei gofrestru gyntaf gyda’r DVLA ar 27 Mawrth 2015. Roedd cyfanswm milltiroedd y cerbyd yn 52,848. 

 

Nododd y Rheolwr Tîm Trwyddedu nad oedd y cais yn berthnasol i'r Polisi Cerbydau Llogi Preifat y mae’r Pwyllgor Trwyddedu yn eu cymeradwyo. Nid oedd y cerbyd yn addas i gadeiriau olwyn. Roedd adroddiad gwasanaeth wedi'i gyflwyno ar gyfer 5 Ionawr 2016 pan oedd y car wedi teithio 14364 o filltiroedd, a chyflwynwyd tystysgrif MOT ar 7 Ionawr 2020 pan oedd y car wedi teithio 45121 o filltiroedd.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Tîm Trwyddedu yr Is-bwyllgor at y dyfyniad perthnasol o'r polisi cerbydau sy'n berthnasol i'r cais hwn.

 

PENDERFYNWYD:     Ystyriodd yr Is-Bwyllgor y cais am drwyddedu KY15 YBU fel cerbyd llogi preifat.

 

                                     Nododd yr Aelodau nad yw’r cais yn berthnasol i'r Polisi Trwyddedu ym mharagraff 2.1 oherwydd oedran y cerbyd.

 

                                     Nododd yr Aelodau ymhellach fod paragraff 2.2 y Polisi yn nodi y caniateir ei lacio mewn amgylchiadau eithriadol fel y manylir ym mharagraff 2.4 o'r polisi.

 

                                     Ar ôl archwilio'r cerbyd, roedd yr Is-bwyllgor yn teimlo bod ansawdd y cerbyd yn eithriadol y tu mewn a'r tu allan. Felly, penderfynodd yr Is-bwyllgor ganiatáu’r drwydded.   

211.

Cais am Drwyddedu Cerbyd Hacni pdf eicon PDF 90 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad yn gofyn i’r is-bwyllgor ystyried cais am ddyfarnu trwydded ar gyfer cerbyd hacni.

 

Cafodd y cais ei wneud gan Somir Uddin o Bort Talbot i drwyddedu Toyota Auris Excel Hybrid, rhif cofrestru cerbyd FN68 UCU, fel cerbyd hacni ar gyfer 4 o bobl. Cafodd y cerbyd ei gofrestru gyda’r DVLA am y tro cyntaf ar 14 Medi 2018. Roedd cyfanswm milltiroedd y cerbyd yn 10,759.

 

Nododd y Rheolwr Tîm Trwyddedu nad oedd y cais yn berthnasol i'r Polisi Cerbydau Hacni y mae’r Pwyllgor Trwyddedu yn eu cymeradwyo. Nid oedd y cerbyd yn addas i gadeiriau olwyn. Cyflwynwyd adroddiad ar y gwasanaeth roedd y cerbyd wedi'i gael ar 9 Medi 2019 pan oedd nifer y milltiroedd yn 10074 ac ar 15 Ionawr 2020 pan oedd nifer y milltiroedd yn 10711.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Tîm Trwyddedu yr Is-bwyllgor at y dyfyniad perthnasol o'r polisi cerbydau sy'n berthnasol i'r cais hwn.

 

PENDERFYNWYD:     Ystyriodd yr Is-Bwyllgor y cais am drwyddedu cerbyd gyda rhif cofrestru FN68 UCU fel cerbyd hacni. 

 

                                     Nododd yr Aelodau nad yw’r cais yn berthnasol i'r Polisi Trwyddedu ym mharagraff 2.1 oherwydd oedran y cerbyd.

 

                                     Nododd yr Aelodau ymhellach fod paragraff 2.2 y Polisi yn nodi y caniateir ei lacio mewn amgylchiadau eithriadol fel y manylir ym mharagraff 2.4 o'r polisi.

 

                                     Ar ôl archwilio'r cerbyd, roedd yr Is-bwyllgor yn teimlo bod ansawdd y cerbyd yn eithriadol y tu mewn a'r tu allan. Felly, penderfynodd yr Is-bwyllgor ganiatáu’r drwydded. 

 

212.

Cais am Drwyddedu Cerbyd Hacni pdf eicon PDF 89 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad yn gofyn i’r is-bwyllgor ystyried cais am ddyfarnu trwydded ar gyfer cerbyd hacni.

 

Cafodd y cais ei gyflwyno gan Shamal Chowdhury o Ben-y-bont ar Ogwr i drwyddedu Seat Alhambra, rhif cofrestru cerbyd HGZ 8870, fel cerbyd hacni ar gyfer 6 o bobl. Cafodd y cerbyd ei gofrestru gyda’r DVLA am y tro cyntaf ar 13 Rhagfyr 2017. Roedd cyfanswm milltiroedd y cerbyd yn 11269.

 

Nododd y Rheolwr Tîm Trwyddedu nad oedd y cais yn berthnasol i'r Polisi Cerbydau Hacni y mae’r Pwyllgor Trwyddedu yn eu cymeradwyo. Nid oedd y cerbyd yn addas i gadeiriau olwyn. Cyflwynwyd adroddiad ar y gwasanaeth roedd y cerbyd wedi'i gael ar 17 Rhagfyr 2019 pan oedd nifer y milltiroedd yn 10074.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Tîm Trwyddedu yr Is-bwyllgor at y dyfyniad perthnasol o'r polisi cerbydau sy'n berthnasol i'r cais hwn.

 

PENDERFYNWYD:     Ystyriodd yr Is-Bwyllgor y cais am drwyddedu cerbyd gyda rhif cofrestru HGZ 8870 fel cerbyd hacni. 

 

                                     Nododd yr Aelodau nad yw’r cais yn berthnasol i'r Polisi Trwyddedu ym mharagraff 2.1 oherwydd oedran y cerbyd.

 

                                     Nododd yr Aelodau ymhellach fod paragraff 2.2 y Polisi yn nodi y caniateir ei lacio mewn amgylchiadau eithriadol fel y manylir ym mharagraff 2.4 o'r polisi.

 

                                     Ar ôl archwilio'r cerbyd, roedd yr Is-bwyllgor yn teimlo bod ansawdd y cerbyd yn eithriadol y tu mewn a'r tu allan. Felly, penderfynodd yr Is-bwyllgor ganiatáu’r drwydded. 

 

213.

Cais am Drwyddedu Cerbyd Hacni pdf eicon PDF 90 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad yn gofyn i’r is-bwyllgor ystyried cais am ddyfarnu trwydded ar gyfer cerbyd hacni.

 

Cafodd y cais ei wneud gan Lyn Hiscock o Ben-y-bont ar Ogwr i drwyddedu BMW 520 Touring, rhif cofrestru cerbyd AE66 UBO, fel cerbyd hacni ar gyfer 4 o bobl. Cafodd y cerbyd ei gofrestru gyda’r DVLA am y tro cyntaf ar 7 Medi 2016. Roedd cyfanswm milltiroedd y cerbyd yn 37818.

 

Nododd y Rheolwr Tîm Trwyddedu nad oedd y cais yn berthnasol i'r Polisi Cerbydau Hacni y mae’r Pwyllgor Trwyddedu yn eu cymeradwyo. Nid oedd y cerbyd yn addas i gadeiriau olwyn. Cyflwynwyd adroddiad ar y gwasanaeth roedd y cerbyd wedi'i gael ar 21 Ionawr 2020 pan oedd nifer y milltiroedd yn 37782. Roedd tystysgrif MOT gyfredol hefyd wedi'i darparu gyda chyfanswm y milltiroedd yn 37782.  

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Tîm Trwyddedu yr Is-bwyllgor at y dyfyniad perthnasol o'r polisi cerbydau sy'n berthnasol i'r cais hwn.

 

PENDERFYNWYD:     Ystyriodd yr Is-Bwyllgor y cais am drwyddedu cerbyd gyda rhif cofrestru AE66 UBO fel cerbyd hacni. 

 

                                     Nododd yr Aelodau nad yw’r cais yn berthnasol i'r Polisi Trwyddedu ym mharagraff 2.1 oherwydd oedran y cerbyd.

 

                                     Nododd yr Aelodau ymhellach fod paragraff 2.2 y Polisi yn nodi y caniateir ei lacio mewn amgylchiadau eithriadol fel y manylir ym mharagraff 2.4 o'r polisi.

 

                                     Ar ôl archwilio'r cerbyd, roedd yr Is-bwyllgor yn teimlo bod ansawdd y cerbyd yn eithriadol y tu mewn a'r tu allan. Felly, penderfynodd yr Is-bwyllgor ganiatáu’r drwydded. 

 

214.

Cais am Drwyddedu Cerbyd Hacni pdf eicon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad yn gofyn i’r is-bwyllgor ystyried cais am ddyfarnu trwydded ar gyfer cerbyd hacni.

 

Cafodd y cais ei wneud gan Lee Grabham o’r Pîl i drwyddedu Skoda Rapid E saloon, rhif cofrestru cerbyd YB63 APY, fel cerbyd hacni ar gyfer 4 o bobl. Derbyniwyd y cais ar 9 Ionawr 2020. Roedd cyfanswm milltiroedd y cerbyd yn 171,511. Cafodd y cerbyd ei gofrestru gyda’r DVLA am y tro cyntaf ar 18 Rhagfyr 2013. 

 

Nododd y Rheolwr Tîm Trwyddedu fod y cerbyd wedi'i drwyddedu fel cerbyd hacni HCO17 a bod y drwydded yn dod i ben ar 18 Rhagfyr 2019. Roedd Mr Grabham wedi rhoi bil gwerthiant iddo ef ei hun dyddiedig 6 Rhagfyr 2019, a oedd ynghlwm wrth y papurau. Roedd Mr Grabham wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig i rai dogfennau gael eu datgelu fel rhan o'i gais.

 

Eglurodd y Rheolwr Tîm Trwyddedu, o ran y drwydded cerbyd hacni, i'r perchennog roi gwybod i'r Cyngor ei fod yn ildio'r drwydded ar 13 Rhagfyr 2019. Felly nid oedd y drwydded yn effeithiol ar y dyddiad hwnnw ac felly roedd y cais hwn yn ymwneud â dyfarnu trwydded cerbyd hacni. Ychwanegodd nad oedd y cais yn berthnasol i’r Polisi Cerbydau Hacni y mae’r Pwyllgor Trwyddedu yn eu cymeradwyo, ac nad oedd y cerbyd yn addas i gadeiriau olwyn. Y tro diwethaf i’r Gwasanaethau Fflyd gynnal prawf ar y cerbyd oedd 18 Mehefin 2019 pan oedd cyfanswm y milltiroedd yn 159,762. Nid oedd unrhyw nodiadau na chyngor yng nghyswllt cyflwr y cerbyd. Roedd yr ymgeisydd wedi nodi bod y cerbyd mewn cyflwr gwael ac nad oedd yn lân pan gafodd ei werthu, a'i fod wedi cyflwyno lluniau a dynnodd pan brynodd y cerbyd. Cyflwynodd hefyd dystiolaeth o’r gwaith a gyflawnwyd ar y cerbyd sydd wedi'i gynnwys yn Atodiad B i'r adroddiad. Gofynnodd Mr Grabham i'r is-bwyllgor ystyried amgylchiadau'r pryniant, y gwaith gwella a wnaethpwyd i gyflwr y cerbyd a gofynnodd i'r is-bwyllgor ystyried llacio'r polisi oedran dan amgylchiadau eithriadol.

 

Rhoddodd K Spencer wybodaeth gefndirol i'r is-bwyllgor. Bu'n gweithio gyda Mr Grabham, yr ymgeisydd, ac roedd yn ymwybodol o'r broses. Roedd Mr Grabham dan yr argraff bod y cerbyd hwn a'r cerbyd nesaf, YH64 FPE, wedi eu trwyddedu. Ni fyddent byth wedi talu'r swm hwnnw o arian am y cerbydau pe na baent yn gerbydau hacni. Pan gafodd y cerbydau eu casglu, nid oedd ganddynt deiar sbâr, pecynnau cymorth cyntaf na diffoddyddion tân. Aethant â’r cerbydau i Rely on Tyres i’w trwsio. Pan oedd y cerbydau yno, cafodd y platiau eu tynnu a rhoddwyd y gorau i’w defnyddio fel tacsis. Roedd Mr Grabham wedi gwario mwy na £6,000 ar wella'r ddau gerbyd a gyda chost gychwynnol y cerbydau, roedd wedi buddsoddi £13,000 yn y ddau gar. Roedd yn gyfarwydd â'r polisi a gofynnodd a fyddai modd ei lacio oherwydd yr amgylchiadau eithriadol.

           

Ychwanegodd K Spencer fod y cwmni wedi cael arolygiadau wythnosol a'i fod yn tyfu'n gyflym. Roeddent wedi prynu'r cerbydau i gynyddu'r fflyd ac i wasanaethu ardaloedd difreintiedig  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 214.

215.

Cais am Drwyddedu Cerbyd Hacni pdf eicon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad yn gofyn i’r is-bwyllgor ystyried cais am ddyfarnu trwydded ar gyfer cerbyd hacni.

 

Cafodd y cais ei wneud gan Lee Grabham o’r Pîl i drwyddedu Seat Toledo Ecomotive saloon, rhif cofrestru cerbyd YH64 FPE, fel cerbyd hacni ar gyfer 4 o bobl. Derbyniwyd y cais ar 9 Ionawr 2020. Roedd cyfanswm milltiroedd y cerbyd yn 129,275. Cafodd y cerbyd ei gofrestru gyda’r DVLA am y tro cyntaf ar 7 Hydref 2014. 

 

Nododd y Rheolwr Tîm Trwyddedu fod y cerbyd wedi'i drwyddedu fel cerbyd hacni HC255 a bod y drwydded yn dod i ben ar 10 Hydref 2020. Roedd Mr Grabham wedi rhoi bil gwerthiant iddo ef ei hun dyddiedig 6 Rhagfyr 2019, a oedd ynghlwm wrth y papurau. Roedd Mr Grabham wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig i rai dogfennau gael eu datgelu fel rhan o'i gais.

 

Eglurodd y Rheolwr Tîm Trwyddedu, o ran y drwydded cerbyd hacni, i'r perchennog roi gwybod i'r Cyngor ei fod yn ildio'r drwydded ar 13 Rhagfyr 2019. Felly nid oedd y drwydded yn effeithiol ar y dyddiad hwnnw ac felly roedd y cais hwn yn ymwneud â dyfarnu trwydded cerbyd hacni. Ychwanegodd nad oedd y cais yn berthnasol i’r Polisi Cerbydau Hacni y mae’r Pwyllgor Trwyddedu yn eu cymeradwyo, ac nad oedd y cerbyd yn addas i gadeiriau olwyn. Y tro diwethaf i’r Gwasanaethau Fflyd gynnal prawf ar y cerbyd oedd 11 Hydref 2019 pan oedd cyfanswm y milltiroedd yn 126,794. Cynghorwyd bod angen rhoi sylw i un teiar a bod ychydig o olew yn gollwng ond pasiodd y cerbyd y prawf. Roedd yr ymgeisydd wedi nodi bod y cerbyd mewn cyflwr gwael ac nad oedd yn lân pan gafodd ei werthu, a'i fod wedi cyflwyno lluniau a dynnodd pan brynodd y cerbyd. Cyflwynodd hefyd dystiolaeth o’r gwaith a gyflawnwyd ar y cerbyd sydd wedi'i gynnwys yn Atodiad B i'r adroddiad. Gofynnodd Mr Grabham i'r is-bwyllgor ystyried amgylchiadau'r pryniant, y gwaith gwella a wnaethpwyd i gyflwr y cerbyd a gofynnodd i'r is-bwyllgor ystyried llacio'r polisi oedran dan amgylchiadau eithriadol.

 

Rhoddodd K Spencer wybodaeth gefndirol i'r is-bwyllgor. Bu'n gweithio gyda Mr Grabham, yr ymgeisydd, ac roedd yn ymwybodol o'r broses. Roedd Mr Grabham dan yr argraff bod y cerbyd hwn a'r cerbyd blaenorol, YB63 APY, wedi eu trwyddedu. Ni fyddent byth wedi talu'r swm hwnnw o arian am y cerbydau pe na baent yn gerbydau hacni. Pan gafodd y cerbydau eu casglu, nid oedd ganddynt deiar sbâr, pecynnau cymorth cyntaf na diffoddyddion tân. Aethant â’r cerbydau i Rely on Tyres i’w trwsio. Pan oedd y cerbydau yno, cafodd y platiau eu tynnu a rhoddwyd y gorau i’w defnyddio fel tacsis. Roedd wedi gwario mwy na £6,000 ar wella'r ddau gerbyd a gyda chost gychwynnol y cerbydau, roedd wedi buddsoddi £13,000 yn y ddau gar. Roedd yn gyfarwydd â'r polisi a gofynnodd a fyddai modd ei lacio oherwydd yr amgylchiadau eithriadol.    

      

Ychwanegodd K Spencer fod y cwmni wedi cael arolygiadau wythnosol a'i fod yn tyfu'n gyflym. Roeddent wedi prynu'r cerbydau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 215.

216.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Dim

 

217.

Eithrio’r Cyhoedd

Nid oedd y cofnodion ac adroddiadau sy'n ymwneud â'r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 14 a 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol

(Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     O dan Adran 100A(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod wrth ystyried yr eitemau busnes canlynol, gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y diffinnir ym Mharagraff 12 Rhan 4 a/neu Baragraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A y Ddeddf.

                                     Ar ôl gweithredu’r prawf budd cyhoeddus, penderfynwyd, yn unol â’r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, ystyried yr eitemau canlynol yn breifat, gan eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod, oherwydd credid, o dan yr holl amgylchiadau perthnasol i’r eitemau, bod y budd cyhoeddus o ran cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus o ddatgelu’r wybodaeth, oherwydd byddai’r wybodaeth yn creu rhagfarn i’r ymgeiswyr a grybwyllir.

    

218.

Cymeradwyo Cofnodion Eithriedig

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion eithrio cyfarfod y 17 12 19

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     Bod cofnodion eithriedig y cyfarfod dyddiedig 17 Rhagfyr 2019 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z