Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Pitman 

Eitemau
Rhif Eitem

168.

Appointment of Chairperson

169.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cyng. G Thomas ddiddordeb anfanteisiol yn eitem 4, Cais i Drwyddedu Cerbyd Cludo Hacni, a gadawodd y cyfarfod pan oedd yr eitem yn cael ei hystyried am ei fod yn adnabod yr ymgeisydd. 

 

170.

Cais i Drwyddedu Cerbyd Cludo Hacni pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoli adroddiad a oedd yn gofyn i'r Is-bwyllgor ystyried cais i ganiatáu trwydded am gerbyd cludo hacni.

 

Gwnaethpwyd y cais gan Mr Christopher Jenkins i drwyddedu cerbyd Ford Tourneo rhif cofrestru BV65 VZP fel cerbyd cludo hacni i gludo 8 unigolyn. Roedd y cerbyd yn un ail law ac fe'i cofrestrwyd â'r DVLA ar 19 Tachwedd 2015.

 

Nododd Rheolwr y Tîm Trwyddedu nad oedd y cais yn bodloni'r Polisi Cerbyd Cludo Hacni a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Nid oedd y cerbyd yn addas i gadair olwyn.

 

Er gwybodaeth i'r Aelodau, darparwyd hanes gwasanaeth wedi'i ddyddio 4 Gorffennaf 2017, gyda'r milltiroedd yn cael eu cofnodi fel 29613, 21 Mai 2018 gyda milltiroedd fel 46721 a 11 Mehefin 2019 gyda milltiroedd fel 52198.  Darparwyd Tystysgrifau Prawf MOT ar gyfer 6 Gorffennaf 2017 gyda'r milltiroedd yn cael eu cofnodi fel 29747, 12 Mehefin 2018 gyda milltiroedd fel 49115 a 28 Mehefin 2019 gyda milltiroedd fel 55199. Milltiroedd presennol y cerbyd oedd 57,279 milltir.

 

Bu i Reolwr y Tîm Trwyddedu gyfeirio'r Is-bwyllgor at y detholiad perthnasol o'r polisi cerbyd sy'n berthnasol i'r cais hwn.

 

PENDERFYNWYD:         Ystyriodd yr Is-Bwyllgor y cais i drwyddedu'r cerbyd â'r rhif cofrestru BV65 VZP fel Cerbyd Hurio Preifat.

 

                              Nododd yr aelodau bod y cais yn mynd y tu hwnt i ganllawiau'r polisi yn sgil oedran y cerbyd.

 

                              Nododd yr aelodau hefyd bod y Polisi ym mharagraff 4.4 yn caniatáu i'r rheol gael ei llacio mewn amgylchiadau eithriadol, fel sydd wedi'u manylu yn yr adroddiad.

 

                              Wedi archwilio'r cerbyd, barn yr Is-Bwyllgor oedd bod y cerbyd yn eithriadol o ran ansawdd a'i rinweddau diogelwch, ac felly bu iddynt ganiatáu'r drwydded.    

171.

Cais i Drwyddedu Cerbyd Cludo Hacni pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoli adroddiad a oedd yn gofyn i'r Is-Bwyllgor ystyried cais i ganiatáu trwydded am gerbyd cludo hacni.

 

Gwnaethpwyd y cais gan Mr Karl Svensen i drwyddedu cerbyd Ford Transit Custom rhif cofrestru LN66 NYZ fel cerbyd cludo hacni i gludo 8 unigolyn. Roedd y cerbyd yn un ail law ac fe'i cofrestrwyd â'r DVLA ym mis Medi 2016. Roedd y cais yn bodloni'r Polisi Cerbyd Cludo Hacni a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Nid oedd y cerbyd yn addas i gadair olwyn. Darparwyd hanes gwasanaeth â'r dyddiad 6 Medi 2019, gyda'r milltiroedd yn cael eu cofnodi fel 56180 a darparwyd Tystysgrif Prawf MOT â'r dyddiad 6 Medi 2019 gyda'r milltiroedd yn cael eu cofnodi fel 56181. Milltiroedd presennol y cerbyd oedd 56,530.

 

Bu i Reolwr y Tîm Trwyddedu gyfeirio'r Is-Bwyllgor at y detholiad perthnasol o'r polisi cerbyd sy'n berthnasol i'r cais hwn.

 

PENDERFYNWYD:         Ystyriodd yr Is-Bwyllgor y cais i drwyddedu'r cerbyd â'r rhif cofrestru LN66 NYZ fel Cerbyd Hurio Preifat.

 

                              Nododd yr aelodau bod y cais yn mynd y tu hwnt i ganllawiau'r polisi yn sgil oedran y cerbyd.

 

                              Nododd yr aelodau bod y Polisi ym mharagraff 4.4 yn caniatáu i'r rheol gael ei llacio mewn amgylchiadau eithriadol, fel sydd wedi'u manylu yn y polisi.

 

Wedi iddo archwilio'r cerbyd, nododd yr Is-Bwyllgor bod niwed sylweddol i un o'r panelau ac felly gwrthodwyd y drwydded.

 

172.

Cais i Drwyddedu Cerbyd Hurio Preifat pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoli adroddiad a oedd yn gofyn i'r Is-Bwyllgor ystyried cais i ganiatáu trwydded i gerbyd hurio preifat. 

 

Gwnaethpwyd y cais gan Forge Travel Limited i drwyddedu cerbyd Mercedes Vitoc â'r rhif cofrestru KV18 WPT fel cerbyd hurio preifat i gludo 8 unigolyn. Roedd y cerbyd yn un ail law ac fe'i cofrestrwyd â'r DVLA ar 29 Mawrth 2018. Nid oedd y cais yn bodloni'r Polisi Cerbyd Hurio Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Nid oedd y cerbyd yn addas i gadair olwyn. Darparwyd hanes gwasanaeth y cerbyd â'r dyddiad 22 Gorffennaf 2019, gyda'r milltiroedd yn cael eu cofnodi fel 36093. Milltiroedd presennol y cerbyd oedd 36,488.

 

Bu i Reolwr y Tîm Trwyddedu gyfeirio'r Is-Bwyllgor at y detholiad perthnasol o'r polisi cerbyd sy'n berthnasol i'r cais hwn.

 

PENDERFYNWYD:           Ystyriodd yr Is-Bwyllgor y cais i drwyddedu'r cerbyd â'r Rhif Cofrestru KV18 WPT fel Cerbyd Hurio Preifat.

 

Nododd yr aelodau bod y cais yn mynd y tu hwnt i'r Polisi Trwyddedu ym mharagraff 2.1 oherwydd oedran y cerbyd.

 

Nododd yr aelodau hefyd bod y Polisi ym mharagraff 2.2 yn caniatáu i'r rheol gael ei llacio mewn amgylchiadau eithriadol, ac mae enghreifftiau o'r rhain wedi'u manylu ym mharagraff 2.4 y Polisi.

 

Wedi archwilio'r cerbyd, barn yr Is-Bwyllgor oedd bod y cerbyd yn eithriadol o ran ansawdd y tu mewn yn ogystal â'r tu allan, a'i rinweddau diogelwch. Felly, rhoddodd yr Is-Bwyllgor ganiatâd i drwyddedu'r cerbyd.

 

173.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim

174.

Gwahardd y Cyhoedd

Nid oedd y adroddiadau sy'n ymwneud â'r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 14 a 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'I newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:               Mai dan Adran 100A (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y diwygiedig gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007, bod y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod trafodaeth o'r eitemau busnes canlynol gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y diffinnir ym Mharagraff 12 Rhan 4 a/neu Baragraff 21 Rhan 5 Amserlen 12A y Ddeddf.

 

                                   Yn dilyn y prawf budd y cyhoedd, penderfynwyd, mai yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, i ystyried yr eitemau canlynol yn breifat, gyda'r cyhoedd wedi'u gwahardd o'r cyfarfod, gan yr ystyrir mai ym mhob amgylchiad mewn perthynas â'r eitemau, roedd budd y cyhoedd i gynnal y gwaharddiad yn gorbwyso budd y cyhoedd i ddatgelu'r wybodaeth, oherwydd byddai'r wybodaeth yn niweidiol i'r ymgeiswyr dan sylw.    

175.

Ceisiadau i Gymeradwyo Trwyddedau

176.

Ceisiadau i Gymeradwyo Trwyddedau

177.

Ceisiadau i Adnewyddu Trwyddedau

178.

Ceisiadau i Adnewyddu Trwyddedau

179.

Ceisiadau i Gymeradwyo Trwyddedau

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z