Agenda a Chofnodion

Is-Bwyllgor Trwyddedu (B) - Dydd Mawrth, 27ain Awst, 2019 10:00

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

157.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Cynghorydd A Hussain

158.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim.

159.

Derbyn y Cofnodion pdf eicon PDF 49 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 17/06/2019 a 02/07/2019

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                        Derbyn Cofnodion cyfarfodydd yr Is-Bwyllgor Trwyddedu B â'r dyddiad 17 Mehefin a 2 Gorffennaf 2019, fel cofnod gwir a manwl gywir.

160.

Cais i Drwyddedu Cerbyd Cludo Hacni pdf eicon PDF 89 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoli adroddiad a oedd yn gofyn i'r Is-Bwyllgor ystyried cais i ganiatáu trwydded am gerbyd Cludo Hacni.

 

Gwnaethpwyd y cais gan Richard Parrott i drwyddedu Toyota Avensis, rhif cofrestru MD66 VWW fel cerbyd Cludo Hacni i gludo 4 unigolyn. Roedd y cerbyd yn un ail law ac fe'i cofrestrwyd â'r DVLA ar 31 Ionawr 2017.

 

Arolygodd yr Is-Bwyllgor y cerbyd.

 

Dywedodd Reolwr y Tîm Trwyddedu wrth yr Aelodau mai milltiroedd presennol y cerbyd oedd 16,296. Nododd nad oedd y cais yn bodloni'r Polisi Cerbyd Cludo Hacni a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu, am y rhesymau a nodir yn yr adroddiad.

 

Nid oedd y cerbyd yn addas i gadair olwyn, ond roedd canllawiau polisi penodol mewn perthynas â thrwyddedu cychwynnol cerbydau Cludo Hacni, nad oedd yn bodloni canllawiau polisi, sydd wedi'u hamlinellu ym mharagraff 4.6 yr adroddiad.

 

Er gwybodaeth i Aelodau, darparwyd hanes gwasanaeth â'r dyddiad 5 Ebrill 2019, gyda'r milltiroedd yn cael eu cofnodi ar y pryd fel 16,251.

 

PENDERFYNWYD:    Mae'r penderfyniad fel a ganlyn:

 

"Rhoesom ystyriaeth i gofrestru MD66 WVV fel cerbyd Cludo Hacni.

 

Rydym wedi nodi nad yw'r cais hwn yn bodloni canllawiau'r polisi ym mharagraff 2.1, fodd bynnag, rydym wedi nodi ein penderfyniad dan baragraff 2.2 i ganiatáu trwydded i'r cerbyd mewn amgylchiadau eithriadol.

 

Yn yr achos hwn, rydym wedi nodi'r rhesymau dros brynu'r cerbyd hwn a'i ansawdd.

 

Fel y cyfryw, rydym yn hapus caniatáu'r drwydded."         

161.

Cais i Drwyddedu Cerbyd Hurio Preifat pdf eicon PDF 99 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoli adroddiad a oedd yn gofyn i'r Is-Bwyllgor ystyried cais i ganiatáu trwydded i gerbyd Hurio Preifat.

 

Gwnaethpwyd y cais gan Gwynne Evans i drwyddedu Mercedes E220, rhif cofrestru MT17 EJE fel cerbyd Hurio Preifat i gludo 4 unigolyn. Roedd y cerbyd yn un ail law ac fe'i gofrestrwyd â'r DVLA ar 29 Ebrill 2017.

 

Arolygodd yr Is-Bwyllgor y cerbyd.

 

Dywedodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu wrth yr Aelodau mai milltiroedd presennol y cerbyd oedd 31,605. Nododd nad oedd y cais yn bodloni'r Polisi Cerbyd Hurio Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu, am y rhesymau a nodir yn yr adroddiad.

 

Nid oedd y cerbyd yn addas i gadair olwyn, ond roedd canllawiau polisi penodol mewn perthynas â thrwyddedu cychwynnol cerbydau Hurio Preifat, nad oedd yn bodloni canllawiau polisi, sydd wedi'u hamlinellu ym mharagraff 4.4 yr adroddiad.

 

Er gwybodaeth i Aelodau, darparwyd hanes gwasanaeth gan Mercedes â'r dyddiad 8 Mehefin 2018, gyda'r milltiroedd yn cael eu cofnodi ar y pryd fel 15,043 ac ar 17 Mehefin 2019 fel 31,510.

 

PENDERFYNWYD:       Mae'r penderfyniad fel a ganlyn:

 

"Rydym wedi ystyried y cais i drwyddedu MT17 EJE fel cerbyd Hurio Preifat.

 

Rydym wedi nodi nad yw'r cerbyd yn bodloni ein polisi. Fodd bynnag, dan 2.2 gallwn lacio'r polisi mewn amgylchiadau eithriadol.

 

Wedi i ni ystyried y cerbyd, teimlwn fod amgylchiadau eithriadol o'r fath yma ac fel y cyfryw, rydym am ganiatáu'r drwydded."         

162.

Cais i Drwyddedu Cerbyd Hurio Preifat pdf eicon PDF 101 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoli adroddiad a oedd yn gofyn i'r Is-Bwyllgor ystyried cais i ganiatáu trwydded i gerbyd Hurio Preifat.

 

Gwnaethpwyd y cais gan Forge Travel Limited i drwyddedu cerbyd â'r rhif cofrestru WX07 DDV, fel cerbyd Hurio Preifat i gludo 8 unigolyn. Roedd y cerbyd yn un ail law ac fe'i cofrestrwyd â'r DVLA ar 6 Mawrth 2007.

 

Arolygodd yr Is-Bwyllgor y cerbyd.

 

Dywedodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu wrth yr Aelodau mai milltiroedd presennol y cerbyd oedd 19,763. Nododd nad oedd y cais yn bodloni'r Polisi Cerbyd Hurio Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu, am y rhesymau a nodir yn yr adroddiad. Roedd y cerbyd yn addas i gadair olwyn.

 

Er gwybodaeth i'r Aelodau, darparwyd hanes gwasanaeth â'r dyddiad 20 Tachwedd 2018, gyda'r milltiroedd yn cael eu cofnodi ar y pryd fel 7,529, 3 Ionawr 2019 gyda milltiroedd fel 10,473, 14 Chwefror 2019 gyda milltiroedd fel 13,543, ar 8 Mai 2019 fel 18,457 a 19 Mehefin 2019 gyda milltiroedd fel 19,242. Mae Tystysgrif Prawf MOT wedi'i darparu i'r cerbyd hwn sy'n dod i ben 27 Awst 2020, gyda'r milltiroedd yn cael eu cofnodi fel 19,596. Mae Adroddiad Gwasanaeth LOLER wedi'i gyflwyno i wasanaeth codi pobl anabl y cerbyd â'r dyddiad 28 Mai 2019.

 

PENDERFYNWYD:          Mae'r penderfyniad fel a ganlyn:

 

"Rydym wedi nodi'r cais i gofrestru WX07 DDV fel cerbyd Hurio Preifat sy'n addas i gadair olwyn.

 

Rydym wedi nodi nad yw hyn yn bodloni ein polisi, fodd bynnag, dan y paragraff 2.2, gallwn ganiatáu'r cais mewn amgylchiadau eithriadol penodol.

 

Wedi i ni ystyried y cerbyd, teimlwn fod amgylchiadau eithriadol o'r fath ac rydym am ganiatáu'r drwydded, yn arbennig yng ngoleuni'r ffaith bod y cerbyd yn addas i gadair olwyn."         

163.

Cais i Drwyddedu Cerbyd Hurio Preifat pdf eicon PDF 101 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoli adroddiad a oedd yn gofyn i'r Is-Bwyllgor ystyried cais i ganiatáu trwydded i gerbyd Hurio Preifat.

 

Gwnaethpwyd y cais gan Robin Leigh, i drwyddedu Mercedes S350, rhif cofrestru DG62 EHW fel cerbyd Hurio Preifat i gludo 5 unigolyn. Roedd y cerbyd yn un ail law ac fe'i gofrestrwyd â'r DVLA ar 3 Medi 2012.

 

Arolygodd yr Is-Bwyllgor y cerbyd. Nododd yr aelodau bod rhif cofrestru'r cerbyd a nodir uchod wedi'i newid i rif cerbyd preifat Y6 DET

 

Dywedodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu wrth yr Aelodau mai milltiroedd presennol y cerbyd oedd 126,129. Nododd nad oedd y cais yn bodloni'r Polisi Cerbyd Hurio Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu, am y rhesymau a nodir yn yr adroddiad.

 

Nid oedd y cerbyd yn addas i gadair olwyn.

 

Nid yw'r cais yn bodloni'r Polisi Cerbyd Hurio Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Er gwybodaeth i'r Aelodau, mae hanes gwasanaeth helaeth i'r cerbyd hwn. Ar 5 Mai 2012 cofnodwyd y milltiroedd fel 178, 10 Mai 2013 fel 15,362, 13 Medi 2013 fel 30,419, 23 Mai 2014 fel 46,012, ar 9 Medi 2014 fel 60,407, ar 27 Mai 2015 fel 74,902, ar 15 Medi 2015 fel 91,317, ar 3 Mawrth 2016 fel 105,118 ac ar 16 Rhagfyr 2016 fel 121,511.  Mae'r Dystysgrif Prawf MOT olaf yn dangos ei fod wedi'i brofi ar 11 Mehefin 2019, gyda'r milltiroedd yn cael eu cofnodi fel 125,362. Daeth y MOT i ben ar 10 Mehefin 2020.

 

PENDERFYNWYD:     Mae'r penderfyniad fel a ganlyn:

 

"Rydym wedi ystyried y cais i drwyddedu Y6 DET fel cerbyd Hurio Preifat.

 

Rydym wedi nodi nad yw'r cerbyd yn bodloni ein polisi. Fodd bynnag, dan baragraff 2.2 gallwn lacio'r polisi mewn amgylchiadau eithriadol.

 

Wedi i ni ystyried y cerbyd, teimlwn fod amgylchiadau eithriadol o'r fath yma ac fel y cyfryw, rydym am ganiatáu'r drwydded."

164.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.

165.

Gwahardd y Cyhoedd

Nid oedd y cofnodion ac adroddiadau sy'n ymwneud â'r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 14 a 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol

(Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                     Mai dan Adran 100A (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y diwygiedig gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007, bod y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod trafodaeth o'r eitemau busnes canlynol gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y diffinnir ym Mharagraff 12 Rhan 4 a/neu Baragraff 21 Rhan 5 Amserlen 12A y Ddeddf.

 

Yn dilyn y cais am brawf budd y cyhoedd, penderfynwyd, mai yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, i ystyried yr eitemau canlynol yn breifat, gyda'r cyhoedd wedi'u gwahardd o'r cyfarfod, gan yr ystyriwyd mai ym mhob amgylchiad mewn perthynas â'r eitemau, roedd budd y cyhoedd i gynnal y gwaharddiad yn gorbwyso budd y cyhoedd i ddatgelu'r wybodaeth, oherwydd byddai'r wybodaeth yn niweidiol i'r ymgeisydd dan sylw. 

 

166.

Derbyn y Cofnodion Eithriedig

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion eithrio cyfarfod y 17/06/2019

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                          Derbyn cofnodion eithriedig cyfarfod yr Is-Bwyllgor Trwyddedu B â'r dyddiad 17 Mehefin 2019, fel cofnod gwir a manwl gywir.

167.

Cais Caniatâd am Drwyddedau