Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Andrew Rees  Democratic Services Manager

Eitemau
Rhif Eitem

145.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Y Cyng. JE Lewis

146.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd y datganiadau canlynol:

Y Cyng. B Jones – Eitem 5 – Adnabod y teulu’n bersonol

Y Cyng. B Jones – Eitem 7, 8, 9, 10 – Adnabod yr ymgeisydd a’i wraig

Y Cyng. G Thomas – Eitem 7, 8, 9, 10 – Adnabod yr ymgeisydd

147.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 58 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod yr Is-Bwyllgor Deddf Trwyddedu 2003 (B) 07/03/2019

Cofnodion:

PENDERFYNIAD: Penderfynwyd bod cofnodion Is-bwyllgor B Deddf Trwyddedu 2003 dyddiedig 07/03/2019 yn gofnod gwir a chywir.

148.

Cais i Drwyddedu Cerbyd Hurio Preifat pdf eicon PDF 101 KB

Cofnodion:

Gwnaed y cais gan David Llewellyn i drwyddedu cerbyd Mercedes E Class Estate, rhif cofrestru S100 DKL, fel Cerbyd Hurio Preifat i gludo 4 unigolyn. Roedd y cerbyd dan berchenogaeth yn barod ac fe’i cofrestrwyd gyntaf yn y DVLA ar 29 Ebrill 2015.

 

Yna, aeth yr Aelodau a’r Swyddogion ymlaen i archwilio’r cerbyd a oedd ar gael i’w archwilio ym maes parcio’r Swyddfeydd Dinesig, a gohiriwyd y cyfarfod am gyfnod byr i wneud hynny.

 

Pan ailgynullwyd y cyfarfod, dywedodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) wrth yr Aelodau fod y cerbyd wedi gwneud 31,749 o filltiroedd ar hyn o bryd. Ychwanegodd fod y cais y tu allan i’r Polisi Cerbyd Hurio Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Nid oedd y cerbyd yn addas i gadeiriau olwyn, ond roedd canllawiau polisi penodol yngl?n â thrwyddedu Cerbydau Hurio Preifat am y tro cyntaf a oedd y tu allan i’r canllawiau polisi a amlinellir ym mharagraff 4.4 yr adroddiad.

 

Roedd yr ymgeisydd wedi darparu hanes gwasanaeth llawn ar gyfer y cerbyd. Rhoddwyd y gwasanaeth diweddaraf i’r cerbyd ar 7 Mawrth 2019.

 

Gofynnodd Aelod i Mr Llewellyn a oedd yn bwriadu defnyddio’r cerbyd yn yr un ffordd â’i gerbydau trwyddedig eraill, neu a oedd unrhyw newidiadau. Cadarnhaodd Mr Llewellyn y byddai’r cerbyd hwn yn cael ei ddefnyddio yn yr un ffordd â’i holl gerbydau eraill.

 

PENDERFYNIAD: Ystyriodd yr Is-bwyllgor y cais i drwyddedu’r cerbyd â’r Rhif Cofrestru S100 DKL fel Cerbyd Hurio Preifat.

 

Nododd yr Aelodau fod y cais y tu allan i baragraff 2.1 y Polisi Trwyddedu oherwydd oedran y cerbyd.

 

Nododd yr Aelodau ymhellach fod paragraff 2.2 y Polisi yn caniatáu iddo gael ei lacio mewn amgylchiadau eithriadol, a rhoddwyd enghreifftiau o’r rhain ym mharagraff 2.4 y Polisi.

 

Ar ôl archwilio’r cerbyd, teimlai’r Is-bwyllgor fod y cerbyd yn eithriadol o ran ei ansawdd y tu mewn a’r tu allan, a’i nodweddion diogelwch. Felly, rhoddodd yr Is-bwyllgor y drwydded.

149.

Cais i Drwyddedu Cerbyd Hurio Preifat pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

Gwnaed y cais gan James Bickerstaff i drwyddedu cerbyd Renault Trafic, rhif cofrestru YC17 OBK, fel Cerbyd Hurio Preifat i gludo 4 unigolyn. Roedd y cerbyd dan berchenogaeth yn barod ac fe’i cofrestrwyd gyntaf yn y DVLA ar 22 Mawrth 2017.

 

Yna, aeth yr Aelodau a’r Swyddogion ymlaen i archwilio’r cerbyd a oedd ar gael i’w archwilio ym maes parcio’r Swyddfeydd Dinesig, a gohiriwyd y cyfarfod am gyfnod byr i wneud hynny.

 

Pan ailgynullwyd y cyfarfod, dywedodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) wrth yr Aelodau fod y cerbyd wedi gwneud 24,384 o filltiroedd ar hyn o bryd. Ychwanegodd fod y cais y tu allan i’r Polisi Cerbyd Hurio Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Nid oedd y cerbyd yn addas i gadeiriau olwyn, ond roedd canllawiau polisi penodol yngl?n â thrwyddedu Cerbydau Hurio Preifat am y tro cyntaf a oedd y tu allan i’r canllawiau polisi a amlinellir ym mharagraff 4.4 yr adroddiad.

 

Er gwybodaeth yr Aelodau, rhoddwyd gwasanaeth llawn i’r cerbyd ar 4 Mehefin 2019 a rhoddodd Mr Bickerstaff fanylion amdano i’r pwyllgor.

 

PENDERFYNIAD: Ystyriodd yr Is-bwyllgor y cais i drwyddedu’r cerbyd â’r Rhif Cofrestru YC17 OBK fel Cerbyd Hurio Preifat.

 

Nododd yr Aelodau fod y cais y tu allan i baragraff 2.1 y Polisi Trwyddedu oherwydd oedran y cerbyd.

 

Nododd yr Aelodau ymhellach fod paragraff 2.2 y Polisi yn caniatáu iddo gael ei lacio mewn amgylchiadau eithriadol, a rhoddwyd enghreifftiau o’r rhain ym mharagraff 2.4 y Polisi.

 

Ar ôl archwilio’r cerbyd, teimlai’r Is-bwyllgor fod y cerbyd yn eithriadol o ran ei ansawdd y tu mewn a’r tu allan, a’i nodweddion diogelwch. Felly, rhoddodd yr Is-bwyllgor y drwydded.

150.

Cais i Drwyddedu Cerbyd Hurio Preifat pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

Gwnaed y cais gan Lee Grabham i drwyddedu cerbyd Ford Transit Tourneo, rhif cofrestru WF15 CUY, fel Cerbyd Hurio Preifat i gludo 8 unigolyn. Roedd y cerbyd dan berchenogaeth yn barod ac fe’i cofrestrwyd gyntaf yn y DVLA ar 22 Mawrth 2017.

 

Yna, aeth yr Aelodau a’r Swyddogion ymlaen i archwilio’r cerbyd a oedd ar gael i’w archwilio ym maes parcio’r Swyddfeydd Dinesig, a gohiriwyd y cyfarfod am gyfnod byr i wneud hynny.

 

Pan ailgynullwyd y cyfarfod, dywedodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) wrth yr Aelodau fod y cerbyd wedi gwneud 69,830 o filltiroedd ar hyn o bryd. Ychwanegodd fod y cais y tu allan i’r Polisi Cerbyd Hurio Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Nid oedd y cerbyd yn addas i gadeiriau olwyn, ond roedd canllawiau polisi penodol yngl?n â thrwyddedu Cerbydau Hurio Preifat am y tro cyntaf a oedd y tu allan i’r canllawiau polisi a amlinellir ym mharagraff 4.4 yr adroddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) wrth yr Aelodau nad oedd tystysgrif MOT wedi cael ei darparu gan nad oedd angen un oherwydd oedran y cerbyd. Darparwyd hanes gwasanaeth llawn dyddiedig 16 Mawrth 2015, 23 Gorffennaf 2016, 3 Medi 2018 a 26 Mawrth 2019.

 

Gofynnodd i Mr Grabham pryd y cafodd y cerbyd, gan nad oedd ganddynt y wybodaeth honno. Esboniodd Mr Grabham ei fod wedi cael y cerbyd ar 1 Mehefin 2019.

 

PENDERFYNIAD: Ystyriodd yr Is-bwyllgor y cais i drwyddedu’r cerbyd â’r Rhif CofrestruWF15 CUY fel Cerbyd Hurio Preifat.

 

Nododd yr Aelodau fod y cais y tu allan i baragraff 2.1 y Polisi Trwyddedu oherwydd oedran y cerbyd.

 

Nododd yr Aelodau ymhellach fod paragraff 2.2 y Polisi yn caniatáu iddo gael ei lacio mewn amgylchiadau eithriadol, a rhoddwyd enghreifftiau o’r rhain ym mharagraff 2.4 y Polisi.

 

Ar ôl archwilio’r cerbyd, teimlai’r Is-bwyllgor fod y cerbyd yn eithriadol o ran ei ansawdd y tu mewn a’r tu allan, a’i nodweddion diogelwch. Felly, rhoddodd yr Is-bwyllgor y drwydded.

151.

Cais i Drwyddedu Cerbyd Hacni pdf eicon PDF 84 KB

Cofnodion:

Gwnaed y cais gan Karl Svensen i drwyddedu cerbyd Volkswagen Caddy, rhif cofrestru DX65 XJF, fel Cerbyd Hacni i gludo 5 unigolyn, gyda 4 sedd gyffredin ac 1 ar gyfer cadair olwyn. Roedd y cerbyd dan berchenogaeth yn barod ac fe’i cofrestrwyd gyntaf yn y DVLA ar 30 Tachwedd 2015.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei bod hi’n falch o weld cerbyd sy’n addas i gadeiriau olwyn yn cael ei gofrestru gan fod galw cynyddol am y cerbydau hyn.

 

Yna, aeth yr Aelodau a’r Swyddogion ymlaen i archwilio’r cerbyd a oedd ar gael i’w archwilio ym maes parcio’r Swyddfeydd Dinesig, a gohiriwyd y cyfarfod am gyfnod byr i wneud hynny.

 

Pan ailgynullwyd y cyfarfod, dywedodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) wrth yr Aelodau fod y cerbyd wedi gwneud 79,856 o filltiroedd ar hyn o bryd. Cadarnhawyd bod y cerbyd yn addas i gadeiriau olwyn.

 

Cyflwynwyd tystysgrif MOT ar 4 Mehefin 2019 a darparwyd hanes gwasanaeth hefyd dyddiedig 3 Mehefin 2019.

 

PENDERFYNIAD: Ystyriodd yr Is-bwyllgor y cais i drwyddedu’r cerbyd â’r Rhif Cofrestru DX65 XJF fel Cerbyd Hacni.

 

Nododd yr Aelodau fod y cais y tu allan i baragraff 2.1 y Polisi Trwyddedu oherwydd oedran y cerbyd.

 

Nododd yr Aelodau fod y cerbyd yn addas i gadeiriau olwyn, a nodwyd y canllawiau polisi yn 2.2.4.

 

Nododd yr Aelodau ymhellach fod paragraff 2.2 y Polisi yn caniatáu iddo gael ei lacio mewn amgylchiadau eithriadol, a rhoddwyd enghreifftiau o’r rhain ym mharagraff 2.4 y Polisi.

 

Ar ôl archwilio’r cerbyd, teimlai’r Is-bwyllgor fod y cerbyd yn eithriadol o ran ei ansawdd y tu mewn a’r tu allan, a’i nodweddion diogelwch. Felly, rhoddodd yr Is-bwyllgor y drwydded.

152.

Cais i Drwyddedu Cerbyd Hacni pdf eicon PDF 91 KB

Cofnodion:

Gwnaed y cais gan Karl Svensen i drwyddedu cerbyd Volkswagen Caddy, rhif cofrestru SA67 FEM, fel Cerbyd Hacni i gludo 8 unigolyn. Roedd y cerbyd dan berchenogaeth yn barod ac fe’i cofrestrwyd gyntaf yn y DVLA ar 27 Hydref 2017.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei bod hi’n falch o weld cerbyd sy’n addas i gadeiriau olwyn yn cael ei gofrestru gan fod galw cynyddol am y cerbydau hyn.

 

Yna, aeth yr Aelodau a’r Swyddogion ymlaen i archwilio’r cerbyd a oedd ar gael i’w archwilio ym maes parcio’r Swyddfeydd Dinesig, a gohiriwyd y cyfarfod am gyfnod byr i wneud hynny.

 

Pan ailgynullwyd y cyfarfod, dywedodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) wrth yr Aelodau fod y cerbyd wedi gwneud 31,821 o filltiroedd ar hyn o bryd. Cadarnhawyd bod y cerbyd yn addas i gadeiriau olwyn.

 

Er gwybodaeth yr Aelodau, ni ddarparwyd tystysgrif MOT gan nad oedd angen un oherwydd oedran y cerbyd. Fodd bynnag, cynhaliwyd gwasanaeth arferol ar ôl 25,000 o filltiroedd a rhoddwyd manylion hyn i’r pwyllgor.

 

 

PENDERFYNIAD: Ystyriodd yr Is-bwyllgor y cais i drwyddedu’r cerbyd â’r Rhif Cofrestru SA67 FEM fel Cerbyd Hacni.

 

Nododd yr Aelodau fod y cais y tu allan i baragraff 2.1 y Polisi Trwyddedu oherwydd oedran y cerbyd.

 

Nododd yr Aelodau ymhellach fod paragraff 2.2 y Polisi yn caniatáu iddo gael ei lacio mewn amgylchiadau eithriadol, a rhoddwyd enghreifftiau o’r rhain ym mharagraff 2.4 y Polisi.

 

Ar ôl archwilio’r cerbyd, teimlai’r Is-bwyllgor fod y cerbyd yn eithriadol o ran ei ansawdd y tu mewn a’r tu allan, a’i nodweddion diogelwch. Felly, rhoddodd yr Is-bwyllgor y drwydded.

153.

Cais i Drwyddedu Cerbyd Hacni pdf eicon PDF 92 KB

Cofnodion:

Gwnaed y cais gan Karl Svensen i drwyddedu cerbyd Dacia Logan Diesel Estate, rhif cofrestru VX15 YBU, fel Cerbyd Hacni i gludo 4 unigolyn. Roedd y cerbyd dan berchenogaeth yn barod ac fe’i cofrestrwyd gyntaf yn y DVLA ar 22 Ebrill 2015.

 

Yna, aeth yr Aelodau a’r Swyddogion ymlaen i archwilio’r cerbyd a oedd ar gael i’w archwilio ym maes parcio’r Swyddfeydd Dinesig, a gohiriwyd y cyfarfod am gyfnod byr i wneud hynny.

 

Pan ailgynullwyd y cyfarfod, dywedodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) wrth yr Aelodau fod y cerbyd wedi gwneud 28,408 o filltiroedd ar hyn o bryd.

 

Er gwybodaeth yr Aelodau, ni ddarparwyd tystysgrif MOT gan nad oedd angen un oherwydd oedran y cerbyd. Fodd bynnag, darparwyd taflen wasanaeth a oedd yn rhoi manylion nifer o adroddiadau gwasanaeth.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) wrth Mr Svensen fod y gwiriad hanes MOT ar gov.uk ar yr adeg y lluniwyd yr adroddiad yn dangos bod y cerbyd wedi’i alw yn ôl am resymau diogelwch. Gofynnodd i Mr Svensen a oedd yn gwybod pam.

 

Dywedodd Mr Svensen mai’r rheswm oedd oherwydd bod tolc yn y ffenestr flaen a drodd yn grac. Rhoddodd sicrwydd i’r Aelodau fod hyn wedi derbyn sylw ac nad oedd yn gwybod pam yr oedd y cofnod yn dangos ei fod wedi’i alw yn ôl o hyd. Cadarnhaodd y byddai’n gwirio’r rheswm pam.

 

PENDERFYNIAD: Ystyriodd yr Is-bwyllgor y cais i drwyddedu’r cerbyd â’r Rhif Cofrestru VX15 YBU fel Cerbyd Hacni.

 

Nododd yr Aelodau fod y cais y tu allan i baragraff 2.1 y Polisi Trwyddedu oherwydd oedran y cerbyd.

 

Nododd yr Aelodau ymhellach fod paragraff 2.2 y Polisi yn caniatáu iddo gael ei lacio mewn amgylchiadau eithriadol, a rhoddwyd enghreifftiau o’r rhain ym mharagraff 2.4 y Polisi.

 

Ar ôl archwilio’r cerbyd, teimlai’r Is-bwyllgor fod y cerbyd yn eithriadol o ran ei ansawdd y tu mewn a’r tu allan, a’i nodweddion diogelwch. Felly, rhoddodd yr Is-bwyllgor y drwydded.

154.

Cais i Drwyddedu Cerbyd Hacni pdf eicon PDF 91 KB

Cofnodion:

Gwnaed y cais gan Karl Svensen i drwyddedu cerbyd Dacia Logan Diesel Estate, rhif cofrestru WM65 GXC, fel Cerbyd Hacni i gludo 4 unigolyn. Roedd y cerbyd dan berchenogaeth yn barod ac fe’i cofrestrwyd gyntaf yn y DVLA ar 31 Rhagfyr 2015.

 

Yna, aeth yr Aelodau a’r Swyddogion ymlaen i archwilio’r cerbyd a oedd ar gael i’w archwilio ym maes parcio’r Swyddfeydd Dinesig, a gohiriwyd y cyfarfod am gyfnod byr i wneud hynny.

 

Pan ailgynullwyd y cyfarfod, dywedodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) wrth yr Aelodau fod y cerbyd wedi gwneud 25,282 o filltiroedd ar hyn o bryd.

 

Er gwybodaeth yr Aelodau, darparwyd MOT a hanes gwasanaeth.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) wrth Mr Svensen fod y gwiriad hanes MOT ar gov.uk ar yr adeg y lluniwyd yr adroddiad yn dangos bod y cerbyd wedi’i alw yn ôl am resymau diogelwch. Gofynnodd i Mr Svensen a oedd yn gwybod pam.

 

PENDERFYNIAD: Ystyriodd yr Is-bwyllgor y cais i drwyddedu’r cerbyd â’r Rhif Cofrestru WM65 GXC fel Cerbyd Hacni.

 

Nododd yr Aelodau fod y cais y tu allan i baragraff 2.1 y Polisi Trwyddedu oherwydd oedran y cerbyd.

 

Nododd yr Aelodau ymhellach fod paragraff 2.2 y Polisi yn caniatáu iddo gael ei lacio mewn amgylchiadau eithriadol, a rhoddwyd enghreifftiau o’r rhain ym mharagraff 2.4 y Polisi.

 

Ar ôl archwilio’r cerbyd, teimlai’r Is-bwyllgor fod y cerbyd yn eithriadol o ran ei ansawdd y tu mewn a’r tu allan, a’i nodweddion diogelwch. Felly, rhoddodd yr Is-bwyllgor y drwydded.

155.

Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, Cais i Adnewyddu Trwydded Sefydliad Rhyw, The Private Shop 72 Bridgend Road, Abercynffig. pdf eicon PDF 69 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) adroddiad a oedd yn amlinellu’r cais a gafwyd gan Darker Enterprises Limited i adnewyddu’r Drwydded Sefydliad Rhyw mewn perthynas â’r safle uchod.

 

Esboniodd fod y cais wedi dod gerbron y pwyllgor i’w ystyried oherwydd nid oes gan y swyddogion bwerau dirprwyedig mewn perthynas â Thrwyddedau Sefydliad Rhyw.

 

Esboniodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) fod y drwydded bresennol yn ddarostyngedig i amodau safonol ac amodau arbennig, fel y nodir yn atodiad A yr adroddiad.

 

Esboniodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) fod yr ymgeisydd wedi cydymffurfio â’r holl ofynion statudol o ran hysbysebu am adnewyddu’r drwydded.

 

Dywedodd wrth yr Aelodau nad oedd y Tîm Trwyddedu wedi cael unrhyw wrthwynebiadau gan y cyhoedd, ymgyngoreion statudol, aelodau’r ward na Heddlu De Cymru.

 

Cadarnhaodd Heddlu De Cymru hefyd nad oedd gan yr ymgeisydd unrhyw euogfarnau.

 

Esboniodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) nad oedd gan y Tîm Trwyddedu achos i bryderu mewn perthynas â’r Canllawiau i Aelodau: Sail i Wrthod, fel y nodir yn adran 4.6 yr adroddiad.

 

Gofynnodd Aelod a fu unrhyw achos i bryderu, cwynion neu broblemau eraill yn y gorffennol mewn perthynas â’r sefydliad hwn neu’r trwyddedai.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) na fu unrhyw broblemau hyd yma.

 

Gofynnodd Aelod ba mor aml yr oedd y sefydliad yn cael ei archwilio i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r amodau a restrir yn Atodiad A.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) fod y safle’n cael ei archwilio unwaith y flwyddyn ac ni chanfuwyd unrhyw achos i bryderu ar unrhyw achlysur. Pe byddai achos i bryderu, byddai’r safle’n cael ei archwilio’n amlach.

 

Torrodd y pwyllgor i wneud penderfyniad. Rhoddwyd y penderfyniad fel a ganlyn:

 

PENDERFYNIAD: “Rydym wedi ystyried y cais i adnewyddu’r Drwydded Sefydliad Rhyw ar gyfer Darker Enterprises Limited.

 

Rydym wedi nodi na fu unrhyw gynrychiolaethau gan y cyhoedd, ymgyngoreion statudol, aelodau’r ward na Heddlu De Cymru.

 

Rydym wedi nodi nad yw’r ymgeisydd a’r rheolwr wedi gwneud unrhyw beth sy’n golygu eu bod yn anaddas ers i’r drwydded gael ei hadnewyddu ddiwethaf, nad oes ganddynt unrhyw euogfarnau perthnasol ac nad oes gan yr heddlu unrhyw wrthwynebiadau.

 

Nodwyd mai hwn yw’r unig sefydliad yn yr ardal.

 

Rydym wedi ystyried cymeriad yr ardal a safleoedd eraill yn y cyffiniau. Rydym wedi nodi’r archwiliadau blynyddol ac nad oes unrhyw broblemau o ran gosodiad a chyflwr y safle.

 

Felly, o dan atodlen 3 paragraff 12 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, nid yw’r un o’r seiliau y gallem wrthod y cais arnynt wedi’u cyflwyno, ac felly rydym yn fodlon rhoi’r drwydded.”

156.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z