Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o fuddiant Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2014. Cofnodion: Dim. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Tîm, Trwyddedu, adroddiad yn gofyn i'r Is-bwyllgor benderfynu ynghylch hysbysiad gwrthwynebu a gafwyd gan Heddlu De Cymru mewn ymateb i Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro a gyflwynwyd i'r awdurdod trwyddedu.
Eglurodd y Rheolwr Tîm, Trwyddedu, ar 21 Mawrth 2023, fod yr awdurdod trwyddedu wedi derbyn Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro (“TEN”) gan Zahid Rasul (“defnyddiwr y fangre”) mewn perthynas â’r fangre a elwir yn 35 Stryd y Farchnad, Pen-y-bont ar Ogwr. Disgrifiwyd y safle fel bar hwyr a chlwb nos a byddai'r TEN yn cynnwys y tu mewn i'r adeilad a'r ardd gwrw. Disgrifiwyd y digwyddiad fel “Good Friday" ac roedd yn cynnwys y dyddiadau o 8 Ebrill 2023 hyd at 10 Ebrill 2023, gan gynnwys y dyddiadau hynny. Roedd y TEN yn gofyn am awdurdod i werthu alcohol a darparu adloniant rheoledig ar bob un o'r diwrnodau rhwng 0300 a 0430, ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn ac o 0030 i 0430 ar ddydd Sul. Roedd y fangre ar hyn o bryd wedi'i hawdurdod i werthu alcohol ar Ddydd Gwener y Groglith o 1200 tan 0000, ar ddydd Sadwrn o 1000 tan 0300 ac ar Sul y Pasg o 1200 tan 0030. Nid oedd y TEN a gyflwynwyd yn cynnwys gweithgareddau trwyddedadwy a fyddai'n digwydd rhwng hanner nos a 3:00am ar Ddydd Gwener y Groglith. Roedd copi o'r TEN wedi'i gyflwyno i Heddlu De Cymru ac i Dîm Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor o fewn y Cydwasanaethau Rheoleiddio. Ar 27 Mawrth 2023, cyflwynodd Heddlu De Cymru Hysbysiad o Wrthwynebiad i’r awdurdod trwyddedu mewn perthynas â’r TEN. Roedd copi o'r Hysbysiad o Wrthwynebiad wedi'i gyflwyno i ddefnyddiwr y fangre ac wedi'i atodi yn Atodiad A yr adroddiad.
Eglurodd Mr Rasul, defnyddiwr y fangre, fod y TEN yn gofyn am ganiatâd i weini diodydd tan 0400 ac y byddai'r holl gwsmeriaid yn gadael y fangre erbyn 0430, felly nid oedd ond yn gofyn am awr ychwanegol i yfed.
Atebodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu nad oedd hyn yn glir o'r TEN. Atebodd Mr Rasul mai dyna sut yr oedd yn gweithredu ar hyn o bryd ac y byddai'n cadw at hynny.
Cadarnhaodd Clerc y Panel Trwyddedu y byddai’r panel yn ystyried y cais yn seiliedig ar weini alcohol tan 0400 a chau am 0430.
Cyflwynodd Mr Rasul ei achos. Esboniodd fod y TENs y gwnaed cais amdanynt y llynedd wedi'u caniatáu a bod ganddo berthynas dda â'r heddlu. Roedd wedi siomi o ddarganfod bod ei gais TEN wedi'i wrthod eleni, ac nad oedd ond wedi derbyn yr wybodaeth atodol ynghylch y tramgwyddau am 9pm ar y diwrnod blaenorol, ac nad oedd felly wedi gallu edrych ar yr wybodaeth honno tan hynny. Eglurodd nad oedd ond yn agor y fangre ar nos Sadwrn gan nad oedd digon o fasnach ar ddyddiau Gwener. Credai fod yr amseroedd wedi'u "cymysgu" yn yr wybodaeth atodol. Roedd wedi caffael y brydles o dan ei enw, ac roedd ganddi rif TAW ar wahân ac roedd yn endid ar wahân i Eden, a ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |