Agenda a Chofnodion

Is-Bwyllgor Deddf Trwyddedu 2003 (A) - Dydd Mawrth, 20fed Gorffennaf, 2021 10:00

Lleoliad: o bell trwy Dimau Microsoft

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif Eitem

16.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn Datganiadau o fuddiant personol a rhagfarnllyd (os oes rhai) gan aelodau / swyddogion yn unol â darpariaethau Cod Ymddygiad yr Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o'r 1af Medi 2008.

Cofnodion:

Dim

17.

Deddf Trwyddedu 2003 - Adrannau 53A i 53D Cais am Adolygiad Cryno, The Station Hotel, Caerau, 1 Caerau Road, Caerau, Maesteg, CF34 OPB pdf eicon PDF 213 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eglurodd F Colwill, Swyddog Trwyddedu, Partneriaeth Diogelwch Cymunedol ei bod yn cynrychioli Heddlu De Cymru er mwyn penderfynu ar y cais a wnaed gan yr Heddlu am adolygiad chwim o Drwydded Safle The Station Hotel, 1 Caerau Road, Caerau, Maesteg. Esboniodd fod y cynrychiolaethau cychwynnol wedi bod ar ffurf cais i gynnal adolygiad chwim o'r Drwydded Safle. Ei barn broffesiynol hi oedd y sylwadau ysgrifenedig a llafar, a rhan o'i rôl oedd sicrhau bod yr holl safleoedd trwyddedig yn cael eu rhedeg yn gyfrifol a bod yr amcanion trwyddedu'n cael eu hyrwyddo. Eglurwyd mai'r ffordd orau o gyflawni hyn oedd drwy weithio mewn partneriaeth â deiliaid trwyddedau. Un rhan hanfodol o'i dyletswyddau oedd cynnal perthynas gadarnhaol rhwng Swyddog Trwyddedu Ardal yr Heddlu, deiliad y Drwydded Safle, a Goruchwyliwr Safle Dynodedig (DPS) unrhyw safle trwyddedig.

 

Ar ddydd Gwener 16 Gorffennaf 2021 cafodd Gwarant Arfau Tanio ei gweithredu yn The Station Hotel yng Nghaerau lle cafodd arfau gwaharddedig, arfau tanio tybiedig, bwledi a chyffuriau eu canfod o fewn y safle trwyddedig. Roedd yn amlwg nad oedd Deiliad y Drwydded a'r DPS yn hyrwyddo’r amcan trwyddedu trosedd ac anhrefn, ac roedd hefyd o bosibl bod problem diogelwch y cyhoedd, yn enwedig i drigolion Caerau, Maesteg.  

 

Gofynnodd aelod yn union beth oedd yr arfau tanio tybiedig. Atebodd Sgt. D McCutcheon fod arfau tanio tybiedig wedi’u canfod ar y safle. Ni allai wneud sylwadau pellach ar y pryd oherwydd bod yr ymchwiliadau'n parhau. O ran yr ymchwiliad troseddol, byddai'n rhaid profi ac archwilio'r arfau i benderfynu a oeddent yn Arfau Tanio Adran 1 neu’n ynnau aer ac ati.

 

Gofynnodd aelod faint o amser y byddai'r ymchwiliadau'n ei gymryd. Atebodd Sgt. D McCutcheon y gallai amrywio o bythefnos hyd at 8 wythnos. Roedd nifer o bethau y bu'n rhaid eu harchwilio fel rhan o'r ymchwiliad gan gynnwys cyffuriau a bwledi.

 

Gofynnodd aelod am yr arfau eraill, a faint ohonynt a fu yno. Atebodd Sgt. D McCutcheon fod nifer o gleddyfau, cyllyll, yn ogystal â phastwn canoloesol. Dywedodd wrth y pwyllgor fod y Gyfraith wedi'i diweddaru o ran arfau gwaharddedig ar 14 Gorffennaf 2021, a daeth yn drosedd i feddu ar yr arfau hyn mewn mannau preifat yn ogystal â mannau cyhoeddus, oni bai bod gennych reswm rhesymol.

 

Gofynnodd aelod a allent ddiystyru'r posibilrwydd mai arfau ffug oeddent. Atebodd Sgt. D McCutcheon na allent ddiystyru hynny a gallai'r arfau a bwledi fod yn rhai ffug. Fodd bynnag, fel yr esboniwyd eisoes, byddai arf tan ffug yn cael ei hystyried yn arf gwaharddedig hefyd, ac roedd yr ymholiadau o ran y gallu i’w tanio yn parhau. 

 

Ymneilltuodd y Pwyllgor wneud ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD

 

Dyma gais gan yr Heddlu am adolygiad interim yn unol â darpariaethau Deddf Trwyddedu 2003 mewn perthynas â thrwydded safle The Station Hotel, Caerau, Maesteg.  Mae'r Heddlu wedi gwneud y cais gan eu bod o'r farn bod y safle'n gysylltiedig â throsedd ac anhrefn difrifol.

 

Mae'r Pwyllgor wedi ystyried yr adroddiad ysgrifenedig gan y Swyddog Trwyddedu a'r sylwadau a wnaed yn y gwrandawiad gan yr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 17.