Agenda, decisions and minutes

Is-Bwyllgor Deddf Trwyddedu 2003 (A) - Dydd Mercher, 29ain Mawrth, 2023 14:00

Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiadau o fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2014.

 

Cofnodion:

Dim.

2.

Cymeradwyaeth Cofnodion pdf eicon PDF 317 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod yr Is-Bwyllgor Deddf Trwyddedu 2003 (A) ar 18 Mawrth 2022.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:               Cytunodd yr Aelodau i ohirio cymeradwyo cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Deddf Trwyddedu 2003, dyddiedig 18 Mawrth 2022, nes cyfarfod yn y dyfodol, yn unol â chyngor y Swyddog Cyfreithiol.

 

 

3.

Deddf Trwyddedu 2003 - Cais i Amrywio Trwydded Safle o dan Adran 34 pdf eicon PDF 230 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Polisi Trwyddedu adroddiad er mwyn gwneud penderfyniad ynghylch cais a gafwyd gan Axa Trading Limited i amrywio'r drwydded mangre sydd mewn grym yn Domino's, Uned 1, Safle Somerfield, Heol Tremaen, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 1TZ. 

Dywedodd fod gan y safle drwydded mangre; BCBCLP565 sy’n awdurdodi’r gweithgareddau trwyddedadwy canlynol yn ystod yr oriau a nodir:

 

-           Darparu Lluniaeth Gyda'r Hwyr

             Dydd Llun i Ddydd Sul: 23:00 o'r gloch tan 03:00 o'r gloch

Roedd copi o'r drwydded mangre bresennol ynghlwm yn Atodiad A yr adroddiad.

Cadarnhaodd y Swyddog Polisi Trwyddedu fod yr Awdurdod Trwyddedu wedi derbyn cais i amrywio'r drwydded mangre. Roedd y cais wedi'i atodi yn Atodiad B yr adroddiad.

Roedd paragraff 4:2 yr adroddiad yn cynnwys manylion yr amrywiad i'r cais, fel y'i cyflwynwyd gan yr ymgeisydd.

Eglurodd nad oedd yr ymgeisydd yn manylu ar unrhyw fesurau ychwanegol i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu a'i fod yn nodi yn y cais “mae’r fangre hon eisoes wedi'i thrwyddedu, a chanddi gyfres gadarn o amodau a fydd yn parhau i fod yn weithredol ar y drwydded mangre wedi i'r amodau gael eu haddasu."

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu wedi derbyn un sylw gan breswylydd lleol yn ystod y cyfnod ymgynghori. Ceir copi o'r sylw yn Atodiad C yr adroddiad.

Gan fod sylw sy'n berthnasol i'r amrywiad wedi dod i law, roedd yn rhaid i'r Is-bwyllgor ddod i benderfyniad ynghylch y cais yn unol â Deddf Trwyddedu 2003.

Yn olaf, gofynnodd y Swyddog Polisi Trwyddedu i bawb a oedd yn bresennol yn y cyfarfod nodi bod gwybodaeth ychwanegol wedi dod i law gan yr ymgeisydd ar ôl i'r rhaglen a'r papurau atodol gael eu dosbarthu, a bod yr wybodaeth honno wedi cael ei hanfon at bob parti drwy e-bost.

Rhoddodd cynrychiolydd yr ymgeisydd wedyn grynodeb o'r cais yn unol â manylion yr adroddiad, ac ar ôl hynny gofynnodd yr Aelodau nifer o gwestiynau, a atebwyd ganddo.

Ymneilltuodd yr aelodau wedyn i ystyried y cais ymhellach, ac ar ôl hynny daeth yr Is-bwyllgor i

 

BENDERFYNIAD: Bod yr Is-bwyllgor Trwyddedu wedi ystyried cais Axa Trading Limited i amrywio trwydded mangre ar gyfer Domino's yn uned 1 Safle Somerfield, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 1TZ.

Roedd y cais yn gofyn am y canlynol:

Disgrifiad o natur yr amrywiad (fel y nodwyd gan yr ymgeisydd):

“Addasu amod 1, fel a ganlyn, o dan Atodiad 2, Atal Niwsans Cyhoeddus:

           Dim ond tan 01:00 o'r gloch, o ddydd Llun i ddydd Sul, y bydd y gwasanaeth cownter ar agor i'r cyhoedd. Wedi hynny, ni chaniateir mynediad i'r cyhoedd at Luniaeth Hwyr y Nos drwy'r gwasanaeth danfon.

I'r canlynol:

          Bydd yr eiddo'n parhau i fod ar gau i'r cyhoedd rhwng 01:00 a 03:00 o'r gloch ac eithrio er mwyn caniatáu gwasanaeth danfon a mynediad i unigolion awdurdodedig.

Dileu’r amodau canlynol o dan Atodiad 3:

           Ni fydd mopedau yn cael eu defnyddio fel cerbydau danfon

           Bydd gan bob gyrrwr label yn ei gar yn datgan "peidiwch â chau drysau'r car yn glep, refio'r injan na chwarae cerddoriaeth uchel  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.