Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Pitman  Democratic Services Section

Eitemau
Rhif Eitem

51.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd PA Davies, y Cynghorydd JE Lewis a'r Cynghorydd RM James fuddiant personol ar eitem 3, gan eu bod yn adnabod y sawl sy'n ymgeisio, sydd yn Gynghorydd BCBS.

52.

Deddf Trwyddedu 2003 Adran 17, Cais am Drwydded Safle - Tŷ Owen, Stryd Llewellyn, Nantymoel, Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu adroddiad a oedd yn gofyn i Is-bwyllgor Deddf Trwyddedu 2003 ystyried cais am drwydded safle ar gyfer y safle uchod.   Cynghorodd fod y drwydded safle yn drwydded safle a oedd yn awdurdodi'r amrywiol weithgareddau trwyddedig ar y safle.   Mae amseroedd gofynnol fel a ganlyn:Cyflenwi Alcohol: Dydd Llun i ddydd Sadwrn: 18:00 - 23:00 awr  Dywedodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu fod gwrthwynebiad i'r cais hwn gan breswylydd. Nid oedd y gwrthwynebiad wedi'i dynnu'n ôl gan yr ymgeisydd; fodd bynnag, nid oedd y gwrthwynebydd yn bresennol.  Roedd yr ymgeisydd, Mark Owen yn bresennol gyda'i gynrychiolydd cyfreithiol, Stuart Richards.  Gofynnodd Y rheolwr Tîm - Trwyddedu i Mr Richards ddarparu manylion pellach i gefnogi cais Mr Owen.  Eglurodd Mr Richards fod Mr Owen yn aelod o dîm p?l ac yn chwaraewr yng Nghynghrair P?l Pen-y-bont ar Ogwr a'r Cylch. Dywedodd fod tua 15 o dimau yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl a Maesteg. Ychwanegodd fod Mr Owen fel arfer yn chwarae ar ddydd Llun a dydd Iau a'i fod yn bwriadu cynnal y digwyddiadau hyn yn ei ystafell gemau yn ei d?.   Eglurodd Mr Richards mai'r ystafell gemau fyddai'r unig ystafell yn y t? a oedd â thrwydded i werthu alcohol ac felly ni fyddai gwesteion yn cael cludo'r alcohol a dalwyd amdano oddi ar y safle.   Ychwanegodd Mr Richards fod Mr Owen eisoes wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau ar ei safle ac wedi gwerthu alcohol drwy drwyddedau Digwyddiadau Dros Dro ac yn honni ei fod wedi cael tua 14. Esboniodd nad oedd wedi derbyn unrhyw gwynion gan y cyhoedd, trigolion na'r heddlu yn ystod y digwyddiadau hyn.  Ychwanegodd Mr Richards mai'r rheswm yr oedd Mr Owen am wneud cais am drwydded barhaol oedd oherwydd ei fod yn rhatach ac yn fwy cyfleus na gwneud cais am drwydded Digwyddiad Dros Dro bob mis.  Esboniodd Mr Richards fod Mr Owen yn deall pryderon y preswylydd o wrthwynebu'r cais hwn yn llawn. Roedd Mr Owen wrth gwrs wedi ystyried y maes chwarae i blant sydd y tu cefn i'w safle wrth ystyried y drwydded i werthu alcohol, a dyna pam fod y cais ar gyfer gwerthu dan do yn unig. Fodd bynnag, roedd Mr Richards yn ansicr pam fod Mr Owen wedi derbyn cwyn am y cais hwn ac nid am unrhyw geisiadau blaenorol, ac wedi cwestiynu dilysrwydd honiadau Mr Moore gan y sylwyd mai anaml yr oedd Mr Moore gartref, a honnodd mai dim ond ei fab oedd yn byw yn y cyfeiriad yn barhaol.   Gofynnodd un aelod i Mr Richards sut y byddai hyn yn cael ei reoli, er enghraifft, pe bai gwestai eisiau mynd allan i ysmygu.  Atebodd Mr Owen gan ddweud bod ganddo drwydded diogelwch personol a'i fod am wylio'r drws ei hun i sicrhau nad oedd gwesteion yn gadael gydag alcohol. Eglurodd fod bin ar gyfer sigaréts y tu allan i'w safle hefyd er mwyn sicrhau bod y gwesteion yn cael gwared â sigaréts yn briodol.    Eglurodd Mr Richards fod digon  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 52.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z