Agenda a Chofnodion

Cyd Bwyllgor Amlosgfa Llangrallo - Dydd Gwener, 15fed Medi, 2017 14:00

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

10.

Datganiadau o Fuddiant

To receive declarations of personal and prejudicial interest (if any) from Members/Officers in accordance with the provisions of the Members’ Code of Conduct adopted by Council from 1st September 2009.

 

Cofnodion:

Dim.

11.

Datganiadau o Fuddiant pdf eicon PDF 61 KB

To receive for approval the Minutes of the meeting of the Coychurch Crematorium Joint Committee held on 30 June 2017

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:    Cymeradwyo Cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Amlosgfa Llangrallo dyddiedig 30 Mehefin 2017 fel cofnod gwir a chywir.

12.

Gwobr y Faner Werdd pdf eicon PDF 58 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a'r Cofrestrydd adroddiad, a phwrpas hwn oedd cynghori'r Cyd-bwyllgor ynghylch cais llwyddiannus Amlosgfa Llangrallo am Wobr y Faner Werdd yn 2017.

 

Tynnodd yr adroddiad sylw at y ffaith fod yr Amlosgfa unwaith eto wedi llwyddo i sicrhau'r wobr hon a gydnabyddir yn genedlaethol am y safonau gofal ac am gynnal a chadw'r safle a'r tiroedd. Mae'r wobr yn cadarnhau'r ymrwymiad i gynnal safonau uchel, y gellir ei werthfawrogi gan yr holl ymwelwyr.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a'r Cofrestrydd mai Llangrallo oedd un o ddim ond tri safle amlosgfa yng Nghymru sydd wedi ennill Gwobr y Faner Werdd, ac roedd wedi derbyn y wobr hon yn awr am yr wythfed flwyddyn yn olynol.

 

Mae'n rhaid gwneud cais blynyddol am y Wobr a bydd cyflwyniad pellach yn cael ei wneud ym mis Ionawr 2018.

 

Yn olaf, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a'r Cofrestrydd mai cost gwneud cais am y wobr oedd £350, a byddai’r arian hwn yn cael ei dalu o'r Gyllideb Refeniw.

 

Diolchodd y Cadeirydd a'r Aelodau i'r Swyddog a'i staff am ennill y Wobr hon unwaith eto.

 

PENDERFYNWYD:   Bod y Cyd-bwyllgor yn nodi llwyddiant yr Amlosgfa wrth sicrhau Gwobr y Faner Werdd am 2017.

13.

Gwasanaeth Nadolig pdf eicon PDF 57 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Clerc a'r Swyddog Technegol adroddiad, a oedd yn hysbysu’r Cydbwyllgor am y trefniadau ar gyfer Gwasanaeth Nadolig 2017.

 

Amlinellwyd y manylion am hyn ym mharagraff 4.1 yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a'r Cofrestrydd y bydd gwahoddiadau yn cael eu hanfon at Feiri Cynghorau Bwrdeistrefi Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Bro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf, Aelodau'r Cydbwyllgor a Chynghorwyr lleol, gan gynnwys Cynghorwyr Tref / Cymuned.

 

Ychwanegodd y byddai'r digwyddiad yn cael ei hysbysebu fel y bo'n briodol, gan gynnwys ar wefan y Cyngor.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a'r Cofrestrydd ymhellach, y byddai arian y casgliad ariannol a dderbynnir ar y noson yn cael ei roi i Gronfa Elusen y Maer Cadeirydd y Cydbwyllgor fel arfer.

 

O ran goblygiadau ariannol yr adroddiad, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a'r Cofrestrydd wrth yr Aelodau y byddai'r Co-operative Funeral Group yn rhoi cyfraniad at y lluniaeth ar gyfer y digwyddiad. Cyfrifwyd am gost staff a pherfformwyr, a amcangyfrifwyd yn £450, o fewn cyllideb refeniw'r Amlosgfa.

 

PENDERFYNWYD:              Bod y Cydbwyllgor yn nodi'r adroddiad.

14.

Datganiad Monitro Refeniw 1 Ebrill i 30 Mehefin 2017 pdf eicon PDF 68 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Trysorydd adroddiad, a'i bwrpas oedd hysbysu'r Cydbwyllgor am fanylion incwm a gwariant ar gyfer chwarter cyntaf blwyddyn ariannol 2017-18, a rhoi rhagamcan o'r alldro terfynol,

 

Dywedodd y Cyfrifydd - System Ffurflenni fod mân newidiadau i'r gyllideb am y flwyddyn, oherwydd recriwtio staff diogelwch i weithio yn lle aelod staff oedd ar absenoldeb salwch tymor hir. Adlewyrchwyd hyn yn y gwahaniaeth rhwng adran cyllideb y gweithwyr a'r gyllideb ar gyfer adeiladau yn yr adroddiad.

 

Ychwanegodd ymhellach y bu cynnydd yn Ardrethi Busnes y gyllideb adeiladau.

 

Mae’r gorwariant alldro rhagamcanol ar gyfer y Safle sef £11k yn cynnwys gorwariant o ran Ardrethi Busnes o £18k o ganlyniad i ailbrisio Gwerth Trethiannol.

 

Hysbysodd y Cyfrifydd - System Ffurflenni'r Aelodau hefyd fod mân danwariannau o tua £6k wedi bod o ran costau atgyweirio a dillad.

 

Yna cadarnhaodd fod y costau Cyfalaf yn £429k gyda chostau Gwaith Cyfalaf fel y cytunwyd gan y Cydbwyllgor yn gyfanswm o £315k o'r swm hwn.

 

O ran Cyllideb Gwaith Cyfalaf 2017-18 fel y'i gwelir yn Nhabl 2 a gynhwysir ym mharagraff 4.2 yr adroddiad, roedd balans o £79k a fydd yn cael ei ddefnyddio i dalu balans y benthyciad sydd ar ôl, a gymeradwywyd gan y Cydbwyllgor yn flaenorol ar 3 Mawrth 2017.

 

O ran y Ffurflen Flynyddol ar gyfer 2016-17, dangoswyd hon yn Atodiad 1 yr adroddiad ac fe’i cyflwynwyd i Swyddfa Archwilio Cymru ar ddiwedd Mehefin 2017, gan ddangos gweddill o £347k am y flwyddyn, a balans cronedig o £1,082,000 i'w ddefnyddio yn yr Amlosgfa. Dangosodd Atodiad 2 yr adroddiad fod y Ffurflen wedi cael ei harchwilio ac nad oedd unrhyw newidiadau iddi.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a'r Cofrestrydd statws presennol Loj yr Amlosgfa, mewn ymateb i gwestiynau am hyn gan Aelodau.

 

PENDERFYNWYD:              Bod y Cydbwyllgor yn nodi'r adroddiad.    

15.

Eitemau Brys

To consider any other item(s) of business in respect of which notice has been given in accordance with Rule 4 of the Council Procedure Rules and which the person presiding at the meeting is of the opinion should by reason of special circumstances be transacted at the meeting as a matter of urgency.

Cofnodion:

Dim.