Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Pwyllgor 1 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Andrew Rees  Senior Democtratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

16.

Datgan Buddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

17.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 50 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 15/09/17

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:           Cymeradwyo cofnodion cyfarfod Cydbwyllgor Amlosgfa Llangrallo ar 15fed Medi 2017 fel rhai gwir a chywir.

18.

Cynllun Busnes yr Amlosgfa a'r Ffioedd Amlosgi pdf eicon PDF 73 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ceisiodd y Clerc a’r Swyddog Technegol gymeradwyaeth ar gyfer y Cynllun Busnes a’r cynllun gwario ar gyfer 2018/2019 a oedd yn cynnwys y cynnydd a gynigir ar gyfer y ffioedd amlosgi.

 

Dywedodd mai 1620 oedd cyfanswm niferoedd amlosgiadau 2017, sef 995 o Ben-y-Bont, 180 o Fro Morgannwg a 379 o Rondda Cynon Taf a 66 nad oeddent yn breswylwyr.  Dywedodd bod cytundeb ag Ysbyty Tywysoges Cymru ar gyfer amlosgi gweddillion ffoetws an-hyfyw, a ychwanegodd 8 amlosgiad cymunol at y cyfanswm.  Trefnwyd 11 amlosgiad unigol arall ar gyfer ffoetysau an-hyfyw yn uniongyrchol â’r rhieni.

 

Dywedodd y Clerc a’r Swyddog Technegol hefyd fod costau Amlosgfa Llangrallo yn ei gosod yn rhif 241 o 284 ar dabl cenedlaethol ffioedd amlosgfeydd yn haf 2017, a luniwyd gan Gymdeithas Amlosgi Prydain.  Dywedodd bod y strategaeth ariannu yn y Cynlluniau Busnes blaenorol wedi argymell cynnydd yn y cost amlosgi gyfwerth â chwyddiant a £25 er mwyn sicrhau y ceir arian digonol i gynnal rhaglenni gwella ond y cedwir safle gystadleuol yr amlosgfa.  Yn dilyn adolygiad, ni ystyriwyd ei bod yn angenrheidiol gweithredu’r ffi £25, ond, parheir i adolygu hyn yn flynyddol.

 

Cyflwynodd y Clerc a’r Swyddog Technegol wybodaeth ynghylch cynnig i godi'r cost amlosgi gan lefel chwyddiant, o £636.70 i £662.20 ar sail cynnydd cyffredinol o 4% (1% yn ogystal â’r Mynegai Pris Defnyddwyr yn unol â’r ffigyrau mwyaf diweddar a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2017). Cyflwynodd gymhariaeth o ffioedd amlosgi cyfredol amlosgfeydd gerllaw.    

 

PENDERFYNWYD             Y dylai’r Cydbwyllgor:

 

1)     Cymeradwywyd y Cynllun Busnes Lefel Gwasanaeth 2018/19

 

Cymeradwyo'r ffioedd amlosgi a gyflwynwyd ar gyfer 2018/19

19.

Rhaglen Cyfarfodydd 2018/19 pdf eicon PDF 56 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth adroddiad i'w gymeradwyo ar gyfer y rhaglen cyfarfodydd a gynigiwyd ar gyfer 2018/2019. Mae Cytundeb Memorandwm Cydbwyllgor Amlosgfa Llangrallo yn nodi y bydd y Cydbwyllgor yn cynnal o leiaf dau gyfarfod ym mhob blwyddyn Cyngor a bydd un o’r rhain yn Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol.  Y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol fydd cyfarfod cyntaf y Cydbwyllgor wedi Cyfarfodydd Blynyddol y cynghorau, lle yr etholir y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd. 

 

Bydd tri chyfarfod ym mlwyddyn 2018/2019 a gynhelir ar y dyddiadau isod:

 

Dydd Gwener 22 Mehefin 2018, Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ac ymweliad safle;

 

Dydd Gwener 14 Medi 2018

 

Dydd Gwener 8 Mawrth 2019

 

PENDERFYNWYD   Bod y Cydbwyllgor yn cymeradwyo rhaglen y   cyfarfodydd ar gyfer 2018/2019.

20.

Y Gyllideb Refeniw a Gynigir 2018-19 pdf eicon PDF 79 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfrifydd adroddiad ar y perfformiad ariannol a ragfynegir ar gyfer yr Amlosgfa yn 2017-18 a cheisiodd gymeradwyaeth gan y Cydbwyllgor ar gyfer y gyllideb a’r ffioedd a chostau a gynigir ar gyfer 2018-19.

 

Dywedodd y Cyfrifydd mai £35,000 oedd y diffyg cyllidebol a ddisgwylid, fodd bynnag mae’r alldro a ragfynegir ar ddiwedd mis Ionawr dros £44,000 a byddai hyn yn gofyn am drosglwyddo arian o gronfeydd wedi eu clustnodi.  Cyflwynodd eglurhad o’r prif wahaniaethau rhwng y Gyllideb a’r Alldro a Ragfynegir, a ddangosodd danwariant o £21,000 ar gyflogeion oherwydd y bu dwy swydd yn wag am ran o’r flwyddyn, felly bu’n rhaid cyflogi Gwasanaethau Diogelwch ychwanegol i gyflenwi yn ystod yr oriau hyn.  Roedd gorwariant o £8,000 ar Leoliadau oherwydd gorwariant o £18,000 ar ardrethi busnes ond roedd hefyd tanwariant o £5,000 ar Gynnal a Chadw Dydd i Ddydd a £5,000 ar Nwy. Roedd gorwariant pellach o £2,000 ar Offer, Gwasanaethau a Chludiant, sef gorwariant o £20,000 ar Wasanaethau Diogelwch, yn erbyn arbedion o £10,000 ar Drwsio Offer, £2,500 ar Ddillad Arbedol, £2,500 ar Brynu Offer a £2,100 ar Ffioedd Archwilio. Bu tanwariant yn y Gweinyddu oherwydd costau is Rheoli Cyfleusterau o’u cymharu â’r flwyddyn flaenorol. 

 

Rhoddodd y Cyfrifydd wybod i’r Cydbwyllgor bod y gyllideb Cynnal a Chadw Cynlluniedig yn rhan o’r Costau Ariannu Cyfalafol, lle bu tanwariant o £30,000 oherwydd y bu oedi wrth drwsio’r organ, gwerth £20,000, a thanwariant ar Seilwaith gwerth £10,000. Bwriedir trwsio’r organ yn 2018-19 a byddai angen talu £5,000 yn 2018-19 ar gyfer y taliad cadw sydd i’w dalu am y gwaith seilwaith.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth pa waith trwsio oedd angen ei wneud ar yr organ, a gomisiynwyd gan y cwmni adnabyddus, NP Mander ym 1970. Dywedodd fod y gwaith trwsio, sy'n hanfodol, wedi ei ohirio yn 2017-18 er mwyn asesu'r strategaeth drwsio a’r fethodoleg caffael yn llawn oherwydd efallai y bydd angen cynnwys y gwneuthurwr organau yn y broses gaffael. 

 

Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth y sefyllfa o ran ffi gyffredinol amlosgi, nad sy’n cael ei godi yn achos plant dan 18 oed.

 

Rhoddodd y Cyfrifydd fanylion y gyllideb cynnal a chadw cynlluniedig ar gyfer 2017-18 i’r Cydbwyllgor, sef £350,000. Dywedodd fod yr incwm yn uwch na’r swm y cyllidebwyd ar ei gyfer o ganlyniad i ffioedd amlosgi uwch o £25,000 ac incwm o £7,000 o werthu eitemau. 

 

Adroddodd y Cyfrifydd ar y gyllideb refeniw a gynigir ar gyfer 2018-19, lle cynigiwyd gwarged net o £373,000.  Roedd yr holl gyllidebau nad ydynt yn rhai cyflogeion wedi eu hadolygu a’r addasiadau angenrheidiol wedi eu gwneud er mwyn adlewyrchu’r gwariant disgwyliedig ar gyfer 2018-19. Roedd cyllidebau cyflogeion wedi eu haddasu i gynrychioli cynyddrannau ar y raddfa gyflog a chynnwys cynnydd cyflog o 2% yn 2018-19.  Dywedodd fod y Cynllun Busnes ar gyfer 2018-19 yn dangos gofyniad cyllidebol o £75,000 i ateb gwariant o £75,000, a thelid am hyn o’r gyllideb Costau Ariannu Cyfalaf.  Roedd cyllidebau incwm wedi eu paratoi gan gymryd y bydd cynnydd cyffredinol o 4% yn y ffioedd ar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 20.

21.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z