Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

22.

Penodi Cadeirydd y Cydbwyllgor (gan Aelodau Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf)

Cofnodion:

PENDERFYNWYD      Penodi'r Cynghorydd R Turner yn Gadeirydd Cydbwyllgor Amlosgfa Llangrallo ar gyfer y flwyddyn nesaf.  

23.

Penodi Is-Gadeirydd y Cydbwyllgor (gan Aelodau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr)

Cofnodion:

PENDERFYNWYD      Penodi'r Cynghorydd R Young yn Is-gadeirydd Cydbwyllgor Amlosgfa Llangrallo ar gyfer y flwyddyn nesaf.

24.

Datganiadau o Ddiddordeb

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

Cofnodion:

Dim. 

25.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 53 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 09/03/2018

Cofnodion:

PENDERFYNWYD  Bod  cofnodion cyfarfod Cydbwyllgor Amlosgfa Llangrallo ar 15fed Medi 2017 yn rhai gwir a chywir.  

26.

Datganiad Cyfrifyddu Blynyddol 2017-18 pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid – Rheoli Cyllid a Chau Cyfrifon, adroddiad y Trysorydd ar y Datganiad o’r Cyfrifon Blynyddol nas archwiliwyd yn dilyn cau’r cyfrifon ar gyfer blwyddyn ariannol 2017-18 i’r Cydbwyllgor gan ofyn am ganiatâd i gyflwyno Datganiad Amlosgfa Llangrallo i Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Esboniodd, dan Reoliad 14 Rheoliadau Cyfrifon ac Archwiliadau (Cymru) 2014, bod gofyn i Amlosgfa Llangrallo gwblhau Datganiad Cyfrifon  Blynyddol gan ei fod yn cael ei ystyried yn gorff llywodraethol bach gydag incwm a gwariant blynyddol sy'n is na £2.5 miliwn.   Mae Rheoliadau Cyfrifon ac Archwiliadau (Cymru) 2014 yn dweud bod rhaid i’r Cydbwyllgor gymeradwyo’r Datganiad Cyfrifon Terfynol yn ffurfiol erbyn 30 Mehefin a chadarnhau eu bod yn cyflwyno sefyllfa ariannol Amlosgfa Llangrallo yn deg.

 

Esboniodd y Rheolwr Cyllid – Rheoli Cyllid a Chau Cyfrifon bod y Datganiad Blynyddol o’r Cyfrifon yn dangos gwarged net o £176,530, sydd wedi’i ychwanegu at gronfa wrth gefn gronedig yr Amlosgfa a ddygwyd ymlaen ar 31 Mawrth 2017, sy'n golygu bod cyfanswm y gronfa honno yn £1,258,713 ar 31 Mawrth 2018 o’i gymharu ag £1,082,183 yn ystod y flwyddyn cynt. 

 

Esboniodd mai swydd wag oedd y rheswm am yr amrywiadau mwy sylweddol yn y gyllideb gyda thanwariant net o £23k ac oherwydd nad oedd y Rheolwr Mannau Gwyrdd a Phrofedigaeth yn rhan o’r cynllun pensiwn.  Gellir priodoli balans y tanwariant i'r swyddi cynorthwywyr penwythnos a gyda'r nos sydd heb eu llenwi sydd bellach yn cael eu cyflawni gan gwmni diogelwch.  Mae gorwariant o £7k ar y safle yn cynnwys gorwariant ar ardrethi busnes, gwaith cynnal tiroedd a thrydan, sy’n cael eu gwrthbwyso gan danwariant ar gynnal a chadw adeiladau a nwy.  Dywedodd y Rheolwr Cyllid – Rheoli Cyllid a Chau Cyfrifon wrth y Cydbwyllgor am orwariant o £5k ar gyflenwadau a gwasanaethau sy’n ymwneud â gwario ar wasanaethau diogelwch ac atgyweirio a chynnal a chadw offer, a'i fod yn cael ei wrthbwyso gan danwariant ar wisgoedd swyddogol, treuliau meddygol, eitemau i’w gwerthu a phrynu offer.  Dywedodd bod tanwariant o £4k ar asiantaethau / contractwyr a thanwariant o £14k ar weinyddu, oherwydd bod y costau rheoli cyfleusterau yn is na’r flwyddyn cynt.  Bu tanwariant ar gostau ariannu cyfalaf o ganlyniad i ohirio rhywfaint o'r gwaith a gynlluniwyd tan 2018-19 ac oherwydd bod un wedi’i ganslo.  Dywedodd bod incwm ychwanegol o £106k wedi dod i law yn sgil y nifer uwch o amlosgiadau a chynnydd yn y gwaith o ddarparu cynnyrch sy’n gysylltiedig ag amlosgi.     

 

PENDERFYNWYD:           Cymeradwyodd y Cydbwyllgor y Datganiad o’r Cyfrifon Blynyddol ar gyfer Amlosgfa Llangrallo 2017-18 gan gytuno y caiff y Datganiad o’r Cyfrifon ar gyfer Amlosgfa Llangrallo eu cyflwyno i Swyddfa Archwilio Cymru.

27.

Adolygiad Blynyddol 2017/18 pdf eicon PDF 162 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Clerc a’r Swyddog Technegol adroddiad ar berfformiad yr Amlosgfa yn ystod 2017-18 sy’n ofynnol fel rhan o’r  Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth. Roedd yr adroddiad yn nodi perfformiad yr amlosgfa mewn perthynas â:

 

·         Nifer yr Amlosgiadau;

·         Safonau Gwasanaeth;

·         Gwariant a Gynlluniwyd;

·         Cyflawni Amcanion y Cynllun Busnes

 

Esboniodd y Clerc a Swyddog Technegol bod adolygiad chwarterol o ganlyniadau holiadur wedi ei gynnal sy’n bwydo i mewn i’r asesiad blynyddol ar safon y gwasanaeth.  Ar gyfer 2017/18 roedd hwn yn nodi bod y lefel boddhad cyffredinol hyd at safon dda neu ardderchog yn parhau i fod yn 100%.    Pan oedd angen, roedd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a Chofrestrydd wedi ymateb i geisydd amlosgiad.  Rhoddwyd gwybod i’r Cydbwyllgor am y dadansoddiad o’r ymatebion a gafwyd. 

 

Dywedodd y Clerc a Swyddog Technegol wrth y Cydbwyllgor am y gwariant; fodd bynnag, mae’r project i atgyweirio’r to gwastad wedi’i ganslo yn dilyn trafodaeth gyda’r adran iechyd a diogelwch. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a Chofrestrydd wrth y Cydbwyllgor bod nifer yr amlosgiadau wedi cynyddu o 1,590 y llynedd i 1,620 eleni. 

 

Canmolodd y Cydbwyllgor y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a Chofrestrydd a’i thîm am y ffordd ardderchog y maent yn rheoli'r Amlosgfa ac yn gofalu am y tiroedd lle gall pobl ddod i gofio am eu hanwyliaid. 

 

Gofynnodd y Cydbwyllgor a yw’r ail gapel yn cael ei ddefnyddio i gynnal angladdau.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a Chofrestrydd wrth y Cydbwyllgor bod yr ail gapel wedi cael ei ddefnyddio’n achlysurol i gynnal angladdau, ond bod llawer o bobl yn benodol yn dewis y mwyaf o’r ddau gapel.  Mae’r ail gapel wedi’i ddefnyddio ar ambell achlysur pan fo cyfarwyddwyr angladdau a theuluoedd wedi wynebu oedi anochel yn sgil y traffig ar y daith i’r amlosgfa.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a Chofrestrydd hefyd wrth y Cydbwyllgor am y problemau sy’n gysylltiedig â chael staff i fod ar waith yn y ddau gapel ar yr un pryd. 

 

PENDERFYNWYD:           Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad.       

28.

Cyfleusterau Llys y Flodau pdf eicon PDF 54 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a Chofrestrydd adroddiad ar gyfleusterau’r Cwrt Blodau gan ofyn am ganiatâd i ymchwilio ymhellach i wneud gwaith gwella ynddo. 

 

Atgoffodd y Cydbwyllgor, yn yr ymweliad â'r safle a gynhaliwyd cyn y cyfarfod; dangoswyd cyfleusterau'r Cwrt Blodau yng nghefn adeiladau'r Amlosgfa i'r Aelodau lle caiff teuluoedd mewn profedigaeth gyfarch eu cyd-alarwyr a gweld y teyrngedau blodau yn dilyn y gwasanaeth angladdol yn Eglwys Crallo.  Esboniodd bod tagfeydd yn y lleoliad hwn pan fydd cynulleidfaoedd mawr yn mynd trwy ddim ond un set o ddrysau ac i’r gofod cyfyngedig yn y Cwrt Blodau a bod hynny'n gallu achosi oedi mewn cysylltiad â'r angladd sydd i ddilyn. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a Chofrestrydd  bod y cyfleuster Cwrt Blodau ei hun yn addas i’w wella oherwydd ei gynllun cywasgedig a bod potensial i ddatblygu llain laswellt yn union wrth ymyl y Cwrt er mwyn ehangu’r cyfleuster presennol i greu ardal arddangos blodau ac ymadael llawer mwy.  Dywedodd y bydd costau’r gwaith ymgynghori a dylunio cychwynnol tua £30,000 ac y gellid ei gynnwys yng nghyllideb 2018/19.  Byddai’n rhaid ystyried darparu rhagor o gyllid ar gyfer y project mewn adroddiadau yn y dyfodol; fodd bynnag, mae darpariaeth ar gyfer y gwaith hwn ar gael yng nghronfeydd wrth gefn cronedig yr Amlosgfa.

 

PENDERFYNWYD:           Bod y Cydbwyllgorr:

 

(1)  Yn cymeradwyo mewn egwyddor, darparu estyniad i’r cyfleuster Cwrt Blodau drwy ehangu cefn adeilad yr Amlosgfa;

Yn awdurdodi’r Clerc a Swyddog Technegol i gyflwyno adroddiad pellach ar ymarferoldeb ehangu’r cyfleuster Cwrt Blodau.                   

29.

Ailgylchu Rhoddion Cynlluniau Metelau pdf eicon PDF 78 KB

Cofnodion:

Mae’r Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a Chofrestrydd wedi gofyn am enwebu a chymeradwyo sefydliadau i dderbyn arian elusennol gan gynllun yr Institute of Cemetery and Crematorium Management (ICCM) ar gyfer adfer metelau sy’n deillio o amlosgfeydd a diweddaru’r Cydbwyllgor ar gyfraniadau elusennol a wneir gan Amlosgfa Llangrallo.

 

Esboniodd bodd Amlosgfa Llangrallo yn cymryd rhan mewn cynllun cenedlaethol ar gyfer Ailgylchu Metelau sy’n deillio o’r broses amlosgi.  Caiff unrhyw arian sydd dros ben ar ôl didynnu’r costau sy’n deillio o werthu metelau eu dosbarthu i elusennau sy’n gysylltiedig â gwasanaethau profedigaeth, drwy’r ICCM.   Yn y gorffennol mae’r Cydbwyllgor wedi cyfrannu arian elusennol i Cruse Bereavement Care (Morgannwg), Samariaid Pen-y-bont ar Ogwr, Eye to Eye (RCT), Macmillan Cymorth Canser (Cymru), Make a Wish UK, 2 Wish Upon A Star, T? Hafan, Tenovus, Marie Curie, gyda’r Stroke Association yn cael ei enwebu ym mis Mai 2018.  

 

Rhestrodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a Chofrestrydd yr elusennau sydd wedi cysylltu â’r Amlosgfa, fodd bynnag dim ond un elusen y gellir eu henwebu ar unrhyw un adeg.  Dywedodd y caiff yr elusennau eu henwebu gan yr Amlosgfa yn dilyn cais gan yr ICCM ac yn y drefn a nodir yn yr adroddiad.

 

Argymhellodd y Cydbwyllgor y dylid ychwanegu elusen enwebedig Arglwydd Faer Cyngor RCT Giving to Pink at frig y rhestr.

 

PENDERFYNWYD             y dylai’r Cydbwyllgor:

 

1)     Nodi’r cyfraniadau elusennol a wnaed gan Amlosgfa Llangrallo.

Ychwanegu Giving to Pink Stroke at frig y rhestr a chefnogi’r rhestr o elusennau addas, i’w cyflwyno i gael cyllid gan y Cynllun Cenedlaethol Ailgylchu Metelau.

30.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

There were no urgent items. 

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z