Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

39.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am eu habsenoldeb gan yr Aelodau a’r Swyddog a ganlyn:-

 

Y Cyngh G Cox

Y Cyngh G Hopkins

Y Cyngh JC Spanswick

Y Cyngh DBF White

Y Cyngh JE Williams

Zak Shell

40.

Datganiadau Buddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim.

41.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 61 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 14/09/2018

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:       Cymeradwyo cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Amlosgfa Llangrallo dyddiedig 14 Medi 2018 fel cofnod gwir a chywir.

42.

Atgyweirio’r Organ Bib pdf eicon PDF 76 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd adroddiad, i ddweud wrth y Cyd-bwyllgor am y gwaith atgyweirio i’r organ bib yng Nghapel Crallo ym Amlosgfa Llangrallo ac i ofyn am gymeradwyaeth i waith gwella a chynnal.

 

Esboniodd fod yr Amlosgfa’n adeilad rhestredig Gradd 2* ac yn waith pwysig gan y pensaer Maxwell Fry. Roedd yr organ bresennol yn perthyn i adeilad gwreiddiol 1970 ac fe’i hadeiladwyd gan gwmni adnabyddus N P Mander o Lundain.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd fod gan yr organ bib lawer o fanteision pendant dros organ drydan, megis harddwch gweledol, hirhoedledd ac ansawdd y deunyddiau a’r crefftwaith a ddefnyddiwyd, ond yn bennaf ansawdd y sain. Teimlai fod yr Amlosgfa’n eithriadol o ffodus bod ganddi organ bib o’r maint hwn ac o’r ansawdd hon. Roedd hyn heb os yn un o’r pwyntiau gwerthu unigryw, a welid yn y canu gwych yr oedden ni’n adnabyddus yn ei sgil, gan ddenu llawer o gorau ac unawdwyr.

 

Aeth ymlaen i ddweud mai cyfraniad ariannol bach iawn oedd wedi’i wneud tuag at yr organ ers tua 1970, heblaw’r hyn yr oedd ei angen ar gyfer tiwnio a gwaith cynnal sylfaenol. Er hynny, yn ddiweddar roedd dibynadwyedd yr organ wedi bod yn fwy o her ac yn peri bod yr ymweliadau tiwnio yn hirach ac yn ddrutach. Yn 2016 argymhellodd y tiwnwyr y dylai rhywfaint o foderneiddio ar y cysylltiadau trydan gael ei wneud gan roi rhywfaint o ystyriaeth i ddiogelwch y tiwniwr wrth gyrraedd y pibau uchel. Yng nghynlluniau busnes 2017/18 a 2018/19 cafwyd darpariaeth o £20,000 ar gyfer y gwaith trwsio lleiaf posibl, ond roedd hyn wedi’i ohirio eto er mwyn asesu’r gofynion yn llawn. Ymgynghorwyd wedyn â’r adeiladwyr gwreiddiol, Manders Organs Ltd, i wneud archwiliad llawn ym mis Hydref 2018.

 

Wedyn rhoddodd grynodeb llawn o ganlyniad yr archwiliad, gan gynnwys manylion rhywfaint o waith ehangu ar yr organ yr oedd ei angen bellach o ganlyniad i’r archwiliad.

 

Yn dilyn hyn, ychwanegodd fod yr organ, yn anarferol felly, heb sain corsen ac felly y bwriad oedd cynnwys obo fel rhan o’r cyflwr solet.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd wrth y Cyd-bwyllgor y trefnid bod organ arall ar gael yn ystod y 4 i 5 mis pan gâi’r gwaith ei wneud.

 

O gofio bod yr Amlosgfa wedi’i rhestru fel adeilad Gradd 2*, cynigid y dylai’r gwaith gael ei wneud gan Manders Organs Ltd, fel ffordd ddibynadwy o sicrhau ei bod yn fecanyddol ddibynadwy yn y dyfodol ac er mwyn cadw ei dilysrwydd.

 

Cost y gwaith uchod oedd £96,400 ac roedd hyn wedi’i gynnwys yng Nghynllun Busnes yr Amlosgfa ar gyfer 2019/20. (O ran eglurder, roedd £20,000 wedi’i gario ymlaen o’r flwyddyn ariannol honno ynghyd â £76,000 yn ychwanegol o gronfeydd wrth gefn yr Amlosgfa).

 

Gofynnodd un o’r Aelodau pam nad oedd y gwaith angenrheidiol ar yr organ wedi mynd allan ar dendr, er mwyn sicrhau’r ‘gwerth gorau’ o ran cost y gwaith atgyweirio/uwchraddio.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd fod yr organ bib yn offeryn unigryw  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 42.

43.

Goleuadau Allanol pdf eicon PDF 64 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Mannau Gwyrdd a Gwasanaethau Profedigaeth adroddiad i ofyn am gymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor i’r bwriad i osod goleuadau allanol yn yr Amlosgfa

 

O ran cefndir, esboniodd y byddai darparu goleuadau o’r fath nid yn unig yn peri bod y safle’n fwy dymunol yn esthetig, ond hefyd yn gwella diogelwch adeilad yr Amlosgfa a’r tiroedd o’i hamgylch, gan gynnwys y maes parcio. Byddai goleuadau o’r fath hefyd yn gwella gwelededd i ymwelwyr/galarwyr.

 

Aeth ymlaen drwy ddweud y byddai darparu goleuadau yn gwella gallu’r Amlosgfa i gydymffurfio â’r gofynion presennol ynghylch mynediad i bobl ag anableddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Mannau Gwyrdd a Gwasanaethau Profedigaeth mai’r bwriad oedd gosod bolardiau golau lefel isel ar hyd ffordd a llwybrau’r brif fynedfa, ynghyd â cholofnau goleuadau yn nau brif faes parcio’r Capel a’r swyddfa. Câi arddull y goleuadau ei dewis i gyd-fynd ag arddull bensaernïol yr adeilad.

 

Cadarnhaodd fod y cynllun goleuo a gynigiwyd wedi cael ei asesu gan Beirianwyr Trydan y Cyngor a bod costau’r gyllideb arfaethedig wedi cymryd i ystyriaeth yr holl ffioedd perthynol am waith dylunio, ceisiadau cynllunio, adroddiadau ecoleg a chostau gwaith Rheoli Contract a Rheoli Prosiect.

 

Yn olaf, cadarnhaodd y Rheolwr Mannau Gwyrdd a Gwasanaethau Profedigaeth i’r Aelodau fod yr amcangyfrif o gost y gwaith, sef £300k, wedi’i gynnwys yng Nghynllun Busnes yr Amlosgfa ar gyfer 2019/20.

 

Gofynnodd un o’r Aelodau ai goleuadau LED fyddai’r goleuadau hyn a hynny ar amserwr er mwyn lleihau costau trydan. Gofynnodd hefyd a fyddai’r goleuadau’n creu unrhyw effaith andwyol ar unrhyw eiddo cyfagos yn ymyl yr Amlosgfa.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth y byddai’r goleuadau’n defnyddio technoleg fodern, gan fod honno’n fwy cost-effeithiol na goleuadau safonol. Ychwanegodd na châi darpariaeth goleuadau o’r fath effaith ar anheddau cyfagos, yn arbennig am eu bod yn oleuadau lefel isel ac y byddai dyfeisiau amseru’n cael eu defnyddio.

 

PENDERFYNWYD:                 (1) O ran egwyddor, cymeradwyodd y Cyd-bwyllgor ddarparu goleuadau allanol yn nhiroedd Amlosgfa Llangrallo.

 

                                        (2)     Rhoddodd y Cyd-bwyllgor awdurdod hefyd i’r Clerc a’r Swyddog Technegol wahodd tendrau yngl?n â’r gwaith a oedd i’w wneud ac i adrodd yn ôl i’r Cyd-bwyllgor gyda golwg ar ddechrau gwaith ym mlwyddyn ariannol 2019/20.

44.

Cynllun Busnes a Ffioedd yr Amlosgfa pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd adroddiad a anelai at gymeradwyo’r Cynllun Busnes a’r rhaglen wario ar gyfer 2019/20, gan gynnwys cynnydd arfaethedig mewn ffioedd amlosgi.

 

O ran gwybodaeth gefndir, cadarnhaodd fod Cynllun Busnes yn cael ei gyflwyno bob blwyddyn i’r Cyd-bwyllgor i gael ei gymeradwyo, a hwnnw’n cynnwys amcanion y gwasanaeth a phrosiectau cynnal a gwella arfaethedig i wella a chynnal tiroedd ac adeiladau’r Amlosgfa yn y flwyddyn ariannol nesaf.

 

Cyfeiriodd wedyn at y Cynllun Busnes, a oedd yn dechrau ar dudalen 19 o’r adroddiad, lle y gwelai’r Aelodau’r Dyfarniadau a’r Campau a nodwyd (ar dudalen 22), ac yn fwy nodedig, fod dyfarniad Baner Werdd wedi’i ennill eto yn 2018, yn ogystal â nodi bod y gwasanaeth yn dal yn hunangynhaliol yn ariannol.

 

Wedyn manylodd yr adroddiad ar y strwythur staffio a’r oriau busnes; y mathau o ddulliau coffa oedd ar gael, y gwahanol ffyrdd yr oedd yr Amlosgfa yn ei marchnata ei hun ac yn cyfathrebu â’i defnyddwyr gwasanaethau ac yn olaf, y gwahanol ffyrdd yr oedd yr Amlosgfa yn dal yn gynaliadwy o ran yr amgylchedd.

 

Ar dudalen 25 o’r adroddiad, tynnodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd sylw at y cyraeddiadau allweddol dros y 10 mlynedd blaenorol a oedd wedi’u rhestru, a’r diweddaraf o’r rhain oedd adeiladu estyniad yr amlosgyddion ac wedyn gosod amlosgyddion bariatrig yn lle’r amlosgyddion, gan gynnwys cyfleusterau oeri a’r offer llawn ar gyfer lleihau mercwri. Cafwyd manylion yn rhan hon o’r Cynllun hefyd am adnewyddu’r to gwastad uwchben rhan wreiddiol yr Amlosgfa. Wedyn tynnodd sylw hefyd at ymestyn y tiroedd i’r tir newydd a’r dulliau coffa newydd yn y fan honno, ynghyd â’r estyniad pellach ar y seilwaith ffyrdd a’r meysydd parcio yn 2017, o dan yr enw Cyfnod 2, a thirlunio’r fan newydd hon yn 2018.

 

Ychwanegodd fod y Capel Cofio wedi’i adnewyddu hefyd yn 2018.

 

Ar waelod tudalen 26 tynnwyd sylw at ddangosyddion perfformiad y pum mlynedd blaenorol, a’r rheiny’n ymwneud â boddhad defnyddwyr, sef canlyniadau sy’n cael eu codi o holiaduron y gwasanaeth sy’n cael eu hanfon at y rhai sy’n gwneud cais am amlosgiad. Y targed oedd sicrhau bod 100% o’r lefelau boddhad cyffredinol yn dda neu’n ardderchog ac roedd y rhain yn parhau’n gyson yn 100%, ac roedd yr un targed wedi’i osod yn 2019/20.

 

Wedyn cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd at yr ystadegau blynyddol ynghylch amlosgi, yr oedd y manylion amdanynt ar dudalen 28/29 o’r Cynllun Busnes. Cyfanswm yr amlosgiadau yn 2018 oedd 1614, sef 998 o Ben-y-bont, 145 o Fro Morgannwg a 415 o Rondda Cynon Taf, a 66 yn preswylio y tu allan. Roedd cytundeb ag Ysbyty Tywysoges Cymru ynghylch amlosgi gweddillion ffetysau anhyfyw (NVF) wedi arwain at 12 amlosgiad cyfunol yn ychwanegol. Ychwanegodd fod 9 amlosgiad NVF unigol arall wedi’u trefnu’n uniongyrchol gyda theuluoedd.

 

Roedd tablau cofnodion ystadegol y cyfnod o Ionawr i Ragfyr 2018 a 2017 wedi’u cynnwys at ddibenion cymharu ar dudalennau 27 a 28 o’r Cynllun ac ar sail hyn byddai’r Aelodau’n nodi mai 1620 oedd cyfanswm  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 44.

45.

Gwasanaeth Nadolig 2018 pdf eicon PDF 60 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd adroddiad i roi’r newyddion diweddaraf i’r Cyd-bwyllgor am drefniadau Gwasanaeth Nadolig 2018.

 

Fel rhan o’r trefniadau hyn, dywedodd fod y Cyd-bwyllgor wedi cael gwybod o’r blaen y câi’r lluniaeth ei noddi gan D? Hebrwng Rosemount, Pen-y-bont ar Ogwr (Co-operative Funeral Care.)

 

Esboniodd hefyd fod T? Hebrwng Rosemount, Pen-y-bont ar Ogwr (Co-operative Funeral Care) wedi tynnu ei nawdd yn ôl yn anffodus, a hynny yn hwyr yn y dydd, am resymau busnes corfforaethol. Wedyn cafodd y lluniaeth ei noddi yn hytrach gan WH Preene a’i Fab, Trefnwyr Angladdau, Pont-y-clun.

 

Cytunodd yr Aelodau anfon llythyr arall o ddiolch i WH Preene a’i Fab, Trefnwyr Angladdau, oddi wrth y Cyd-bwyllgor yn gwerthfawrogi eu cymorth wrth gefn yngl?n â chefnogi’r Gwasanaeth Nadolig.

 

PENDERFYNWYD:              Bod y Cyd-bwyllgor yn nodi’r adroddiad.

46.

Rhaglen Gyfarfodydd 2019/20 pdf eicon PDF 66 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd adroddiad gan ofyn i’r Aelodau gymeradwyo’r Rhaglen Gyfarfodydd arfaethedig ar gyfer 2019/20.

 

Roedd dyddiadau arfaethedig y cyfarfodydd y tymor nesaf fel a ganlyn:-

 

  • Dydd Gwener 14 Mehefin 2019 – Cyfarfod blynyddol ac ymweliad safle (tir yr Amlosgfa);
  • Dydd Gwener 13 Medi 2019;
  • Dydd Gwener 6 Mawrth 2020

 

PENDERFYNWYD:            Bod y Cyd-bwyllgor yn cymeradwyo Rhaglen Gyfarfodydd 2019/20.

47.

Cyllideb refeniw Arfaethedig 2019-20 pdf eicon PDF 90 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfrifydd, Rheoli Cyllid a Chau Cyfrifon adroddiad, i roi gwybod i’r Cyd-bwyllgor am y rhagolygon o berfformiad ariannol yr Amlosgfa ar gyfer 2018-19, ac i sicrhau cymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor i Gyllideb a Ffioedd a Thaliadau arfaethedig 2019-20.

 

Cyfeiriodd hi’r Aelodau at baragraff 4.1 o’r adroddiad ac at Dabl 1, a oedd yn adlewyrchu’r sefyllfa ariannol ar 31 Ionawr 2019 ynghyd â’r rhagolwg o alldro 2018-19.

 

Dywedodd y Cyfrifydd, Rheoli Cyllid a Chau Cyfrifon fod yna ragolwg o warged o £373k, pan gawsai’r Gyllideb ei gosod. Ar ddiwedd mis Ionawr, y rhagolwg o’r alldro oedd y ceid gwarged o £464k, y byddai angen ei drosglwyddo i Warged Cronedig yr Amlosgfa. Ym mharagraff 4.2 roedd esboniad o’r prif amrywiadau rhwng y Gyllideb a’r Rhagolwg o’r Alldro, ac amlinellodd y swyddog y rhain er lles yr Aelodau, gan gynnwys yn Nhabl 2, Cynnal-a-chadw arfaethedig ar gyfer 2018-19.

 

Roedd paragraff 4.3 o’r adroddiad yn rhoi manylion Cyllideb Refeniw Arfaethedig 2019-20, a oedd yn dangos amcangyfrif o warged cyffredinol o £336k. Ychwanegodd fod cyllidebau’r gweithwyr wedi’u haddasu i adlewyrchu cynnydd mewn cyflog lle roedd hynny’n gymwys, gan gynnwys ymgodiad o 2% ar gyfer dyfarniad tâl 2019-20.

 

Wedyn roedd paragraff 4.6 yn rhoi gwybodaeth am Gynllun Busnes 2019-20, gan gynnwys gofyniad o gyllideb o £776k i dalu am y gwariant fesul eitem a geid yn Nhabl 2 yn y rhan honno o’r adroddiad, o dan y teitl Gofynion Gwario’r Cynllun Busnes.

 

Dywedodd wrth y Cyd-bwyllgor fod y cyllidebau incwm wedi’u paratoi ar y rhagdybiaeth y ceid cynnydd cyffredinol yn y ffioedd o 2.8% (1% plws CPI yn ôl 1.8%) ar sail y lefelau gweithgarwch presennol. Atodwyd Tabl Ffioedd Arfaethedig 2019-20 yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

Roedd paragraff 4.9 o’r adroddiad yn rhoi effaith balans cronedig cyllideb arfaethedig 2019-20 ar ffurf tabl (sef Tabl 5), gydag unrhyw ddiffyg yn cael ei dynnu o’r gwarged cronedig. Y rhagolwg oedd y byddai yna falans cronedig ar 31 Mawrth 2020 o £1,387,000. Dywedodd y Cyfrifydd, Rheoli Cyllid a Chau Cyfrifon wrth yr Aelodau y bernid bod balans y Cronfeydd Wrth Gefn (ar 31 Mawrth 2020) yn ddigonol i amddiffyn y gwasanaeth yng ngoleuni unrhyw alwadau anhysbys neu argyfwng.

 

Yn olaf, caeodd ei chyflwyniad drwy ddweud na fyddai’r gwariant cyfalaf yn golygu bod angen unrhyw fenthyciad na chyfraniad ar ffurf tâl gan yr awdurdodau cyfansoddol yn 2019-20. Ychwanegodd y byddai eitemau o natur gyfalaf ar gyfer 2019-20 yn Nhabl 4 (paragraff 4.6 o’r adroddiad), yn cael eu hariannu’n uniongyrchol drwy gyfraniadau refeniw a’r gwarged a gronnwyd yn y blynyddoedd blaenorol.

 

PENDERFYNWYD:     Bod y Cyd-bwyllgor:-

 

(1)      Yn nodi’r rhagolygon ariannol ar gyfer 2018-19.

(2)         Yn cadarnhau ac yn cymeradwyo’r gyllideb refeniw a oedd i’w mabwysiadu ar gyfer 2019-20.

  Yn cymeradwyo’r cynnydd ffioedd a thaliadau o 1 Ebrill 2019, a amlinellwyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

48.

Eitemau brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Dim.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z