Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Pitman 

Eitemau
Rhif Eitem

49.

Ethol Cadeirydd (Aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr)

Cofnodion:

Diolchodd y Cadeirydd blaenorol, y Cynghorydd R Turner, am y gefnogaeth a dderbyniodd gan aelodau a swyddogion yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd.

 

PENDERFYNWYD: Penodi’r Cynghorydd R Young yn Gadeirydd Cydbwyllgor Amlosgfa Llangrallo am y flwyddyn oedd i ddod.

 

50.

Ethol Is-gadeirydd (Aelod o Gyngor Bro Morgannwg)

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:Penodi’r Cynghorydd G John yn Is-gadeirydd Cydbwyllgor Amlosgfa Llangrallo am y flwyddyn oedd i ddod.

 

51.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

To receive apologies for absence from Members.

Cofnodion:

Y Cynghorydd Elaine Venables, Y Cynghorydd Richard Young

 

Yn absenoldeb y Cynghorydd Richard Young, cymerodd y Cynghorydd Gwyn John y Gadair.

 

52.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cynghorydd J Spanswick ddatgan buddiant personol yn eitem 3 ar yr Agenda - Cyfleusterau Cwrt Blodau, gan ei fod yn Aelod o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu.

 

53.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 97 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 08/03/2019

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod 08/03/2019 fel cofnod gwir a chywir.

 

54.

Datganiad Cyfrifon Blynyddol 2018-19 pdf eicon PDF 98 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfrifydd adroddiad y Trysorydd ar y Datganiad Cyfrifon Blynyddol heb eu harchwilio, yn dilyn cau’r cyfrifon am flwyddyn ariannol 2018-2019, i’r Cydbwyllgor, a gofynnodd am gymeradwyaeth i gyflwyno’r datganiad ar gyfer Amlosgfa Llangrallo i Swyddfa Archwilio Cymru. 

 

Esboniodd mai’r gwarged a ddisgwylient ar gyfer eleni oedd oddeutu £300,000 ond dangosai adran 1 o’r Datganiad Cyfrifon Blynyddol, yn Atodiad 1 yr adroddiad, fod y gwarged yn £496,738 a bod hyn yn bennaf o ganlyniad i oedi mewn Gwario Cyfalaf a chynnydd yn yr incwm uwchlaw y swm y cyllidwyd ar ei gyfer yn wreiddiol. Eglurodd y câi’r gwarged hwn ei ychwanegu at y gronfa wrth gefn, fyddai’n rhoi balans newydd o £1,755,451.

 

Cyfeiriodd y Cyfrifydd sylw’r Aelodau at Atodiad 1 yr adroddiad, oedd yn rhoi manylion y datganiad incwm a gwariant am y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2019, a sut yr oedd yn cymharu â’r flwyddyn flaenorol.

 

Esboniodd hefyd ddatganiad y balansau, oedd yn amlinellu'r balans cyfredol ar gyfer amryw o feysydd a sut yr oedd yn cymharu â’r flwyddyn flaenorol.

 

Amlinellodd yn fras hefyd y Datganiad Llywodraethu Blynyddol, Cymeradwyaeth ac Ardystiad y Pwyllgor, Tystysgrif  Archwilio ac Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, ac adroddiad yr Archwiliad Mewnol Blynyddol ar Amlosgfa Llangrallo.

 

Gofynnodd y Cyfrifydd am lofnod y Cadeirydd wedi i’r argymhellion gael eu cymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD: Bod Cydbwyllgor Amlosgfa Llangrallo:

(1)  yn cymeradwyo Datganiad Cyfrifon Blynyddol Amlosgfa Llangrallo ar gyfer 2018-2019 (Atodiad A) a

(2)  wedi derbyn llofnod y Cadeirydd cyn ei gyflwyno i Swyddfa Archwilio Cymru.

 

55.

Adolygiad Blynyddol 2018/19 pdf eicon PDF 171 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Clerc a’r Swyddog Technegol adroddiad oedd yn rhoi gwybodaeth i’r Cydbwyllgor am berfformiad Amlosgfa Llangrallo yn ystod 2018/2019.

 

Eglurodd fod atodiad A yr adroddiad yn rhoi manylion nifer yr amlosgiadau y mae Pen-y-bont ar Ogwr wedi eu cyflawni dros y flwyddyn o gymharu ag awdurdodau lleol eraill, oedd yn dangos bod Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyflawni dros 62% o’r holl amlosgiadau.

 

Dywedodd y Clerc a’r Swyddog Technegol fod lefel gyffredinol bodlonrwydd cwsmeriaid ar gyfer 2018/2019 yn dal yn 100% hyd at safon dda neu ardderchog. Esboniodd ymhellach y dadansoddiad o'r ffigurau oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ac eglurodd, er mai cymysg oedd y farn o ran argaeledd amseroedd gwasanaeth, nad oedd a wnelo hyn â’r Amlosgfa ei hun yn aml ond argaeledd y trefnwyr angladdau a staff eraill, a allai fod yn gweithio mewn meysydd eraill hefyd. Esboniodd yn ogystal fod yna gynyddiadau a gostyngiadau yn y gofynion gwasanaeth drwy gydol y flwyddyn a bod misoedd y gaeaf yn brysurach ac felly’r argaeledd yn llai.

 

Gofynnodd Aelod a oedd yr Amlosgfa yn gallu rhedeg dau wasanaeth yr un pryd.

 

Eglurodd Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd fod ganddynt y gallu i wneud hynny ond nad oedd yn rhywbeth oedd yn cael ei gynnig. Esboniodd nad oedd yn addas i wneud hynny gan mai dim ond un tîm capel oedd yna. Eglurodd hefyd nad oeddent yn teimlo bod yna broblemau gyda chyfnodau amser archebu ac felly nad oeddent yn ystyried bod angen gwneud hyn.

 

Eglurodd Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd hefyd nad oedd yr amseroedd aros yn fwy na 2 wythnos ar gyfartaledd. Dywedodd fod amlosgfeydd eraill wedi cael amseroedd aros o fis neu ragor ac felly nad oeddent yn credu bod Amlosgfa Llangrallo dan anfantais mewn unrhyw ffordd o ran amseroedd aros. 

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cydbwyllgor yn nodi'r adroddiad. 

 

 

56.

Cyfleusterau Cwrt Blodau pdf eicon PDF 78 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar gais y Cadeirydd, cytunodd y Cydbwyllgor i ystyried yr eitem hon cyn yr eitem ar y Datganiad Cyfrifon Blynyddol 2018-29.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd adroddiad oedd yn rhoi diweddariad i’r Cydbwyllgor am ddarparu estyniad i gyfleuster y cwrt blodau yn Amlosgfa Llangrallo ac yn gofyn am i’r dyluniad gael ei gymeradwyo.

 

Rhoddodd wybodaeth am gefndir yr Amlosgfa i’r Cydbwyllgor a dywedodd, gan ei fod yn adeilad Cofrestredig Gradd 2, y dylid ystyried unrhyw newidiadau yn ofalus. Rhoddodd hefyd gefndir pellach i Gyfleusterau’r Cwrt Blodau, y rhoddwyd manylion amdano yn adran 3 yr adroddiad. 

 

Dywedodd Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd wrth yr Aelodau am y sefyllfa bresennol fel yr amlinellwyd yn adran 4 yr adroddiad. Dywedodd hi wrth yr Aelodau fod Mr Jonathan Adams, y pensaer, yn bresennol heddiw i gyflwyno ei ddyluniad i’r Cydbwyllgor am eu cymeradwyaeth.

 

Arweiniodd Mr Adams yr Aelodau drwy’r cyflwyniad. Dangosodd lun o’r Amlosgfa fel yr oedd pan agorodd am y tro cyntaf a dangosodd y cyrtiau blodau (y cloestr gwasgaru). Esboniodd fod y dyluniad presennol yn hen-ffasiwn ac nad oedd yn addas bellach ar gyfer y mwyafrif o wasanaethau.

 

Esboniodd Mr Adams fod y colofnau gwreiddiol oedd yn eu lle yn 15x15 troedfedd ar wahân a’u bod yn bwriadu ymestyn y rhain ar draws yr ardd, a dangosodd ddyluniadau cyfrifiadurol i’r Aelodau o sut y byddai’n edrych.

 

Eglurodd Mr Adams pa ddefnyddiau a gâi eu defnyddio i adeiladu’r waliau, y lloriau ac adeiladwaith y bwa. Roedd rhagor o fanylion ynghylch hyn yn y cyflwyniad.

 

Dangosodd Mr Adams Animeiddiad Pensaernïol i’r Aelodau, sef fideo byr yn dangos sut y byddai’r adeiladwaith gorffenedig yn edrych.

 

Gofynnodd Aelod beth oedd hyd oes ddisgwyliedig y defnyddiau a ddefnyddid a pha waith cynnal a chadw fyddai’n ei olygu.

 

Eglurodd Mr Adams fod yna oes hir iawn i'r math o bren a ddefnyddid.  Disgwylid iddo bara am 25 mlynedd o leiaf dan amodau tywydd eithafol ond y byddai’n para am 50 mlynedd o dan amodau arferol.

 

Gofynnodd Aelod a fyddai glanhau yn achosi i rai o'r deunyddiau ddirywio.

 

Esboniodd Mr Adams na fyddai glanhau rheolaidd, fel amodau tywydd arferol, yn effeithio ar y deunyddiau yn unrhyw ffordd.

 

Gofynnodd Aelod a fyddai modd i wynt godi’r to rywfaint.

 

Esboniodd Mr Adams fod hyn wedi ei gymryd i ystyriaeth yn y dyluniad ac felly na fyddent yn disgwyl i hyn fod yn broblem.

 

Dywedodd  Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd wrth yr Aelodau y byddai pobl broffesiynol yn ymgymryd â’r gwaith ar bob cam er mwyn sicrhau bod pob agwedd ar y dyluniad a’r datblygiad wedi cael eu hystyried yn drwyadl.

 

Gofynnodd Aelod am yr amserlen oedd ganddynt mewn golwg a phryd y disgwylient fod wedi cwblhau’r adeiladwaith.

 

Eglurodd Mr Adams fod yna rai tasgau fyddai’n cymryd peth amser i’w cwblhau cyn y gellid dechrau ar y gwaith adeiladu ond eu bod yn anelu at orffen y gwaith erbyn diwedd 2020.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cydbwyllgor:

 

(1)  yn cymeradwyo dyluniad arfaethedig yr estyniad i Gyfleuster y Cwrt Blodau;

(2)  yn awdurdodi’r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 56.

57.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z