Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mark Anthony Galvin Senior Democratic Services Officer - Committees
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008. Cofnodion: Dim. |
|
I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 13/09/2019 Cofnodion: PENDERFYNWYD: I dderbyn Cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Amlosgfa Llangrallo â'r dyddiad 13 Medi 2019, fel cofnod gwir a manwl gywir. |
|
Uwchraddio System Gyfryngau a Cherddoriaeth Gyfrifiadurol y Capel PDF 77 KB Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth adroddiad, a'i ddiben oedd cynghori'r Cyd-bwyllgor ar y gwelliannau gofynnol i systemau cyfryngau a cherddoriaeth gyfrifiadurol Capel Crallo a Chapel Coety yn Amlosgfa Llangrallo a cheisio cymeradwyaeth i wario ar gael rhai newydd yn eu lle, er mwyn darparu cyfleuster mwy modern i ddefnyddwyr y gwasanaeth profedigaeth.
Darparodd yr adroddiad ychydig o wybodaeth gefndirol, ac yn dilyn hynny, cynghorodd Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth fod Wesley Media Ltd wedi datblygu cynhyrchion a rhaglenni arbenigol addas i amlosgfeydd sy'n bodloni disgwyliadau pobl mewn galar yn yr 21ain Ganrif. O ystyried ei ddibynadwyedd profedig yn y maes arbenigol hwn caiff ei ddefnyddio gan y rhan fwyaf o Amlosgfeydd y DU a gan bob un o'r Amlosgfeydd gerllaw, fel y cyfeirir ato ar ffurf pwynt bwled ym mharagraff 4.1 yr adroddiad.
Aeth Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth ymlaen i gadarnhau bod Wesley Media yn darparu pecyn caledwedd cyfrifiadurol addasedig arbenigol i bob capel, wedi'i lwytho â meddalwedd weithredol gyda mynediad at ystod ddiddiwedd o gerddoriaeth yn cynnwys arddulliau cyfoes, emyn-donau a chlasurol. Mae'r feddalwedd hefyd wedi'i rhyngwynebu i sicrhau nad oes lle ar gyfer camgymeriadau. Mae Wesley Media hefyd yn darparu recordiadau USB o wasanaethau angladd ac yn trefnu gweddarllediadau ar gyfer y rheiny nad ydynt yn gallu mynychu'r gwasanaeth angladd. Yn ogystal mae'n darparu teyrngedau gweledol sydd wedi'u teilwra i ofynion teuluoedd mewn galar, y gellir eu lawrlwytho ar gyfrifiadur cerddoriaeth i gapeli Wesley Media i'w chwarae ar eu sgriniau teyrnged-gytûn. Ychwanegodd y rhoddir sylw i bob agwedd ar y gwasanaeth angladd, o drefn y gwasanaeth i acwsteg y lleoliad unigol, i natur sensitif seremonïau personol.
Ychwanegodd Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth, er bod cerddoriaeth organ yn dal i fod yn gyfeiliant poblogaidd i wasanaethau a bod yr holl ganu emynau yn cael ei gyfeilio gan organ bib yr Amlosgfa, gofynnir am fathau eraill o gerddoriaeth yn aml, yn lle cerddoriaeth organ neu i ychwanegu ati.
Ymgynghorwyd ag Wesley Media ym mis Rhagfyr 2019 a chynhaliwyd adolygiad ganddynt o'r system gyfryngau a cherddoriaeth bresennol yn yr Amlosgfa. Amlinellodd eu hadroddiad dilynol y gallent gynnig yr holl gyfleusterau modern sydd eu hangen ar yr Amlosgfa, fel y disgrifir ym mharagraff 4.5 yr adroddiad.
Byddai ychwanegu sgriniau-gytûn Wesley Media yn y ddau gapel yn galluogi'r bobl mewn galar i wylio'r teyrngedau gweledol y mae Wesley Media wedi'u fformatio yn unol â'u gofynion. Dyma wasanaeth a ddarperir gan Amlosgfeydd gerllaw a osododd system Wesley Media yn ddiweddar gyda mantais yr ychwanegiadau mwy modern hyn at wasanaeth Wesley Media. Byddai gosod sgriniau-gytûn Wesley Media ym mhen uchaf a phen isaf y clawstr yn arwain at Gapel Crallo, yn manteisio ar gamera gweddarlledu Wesley Media a fyddai ymlaen yn awtomatig gyda theyrngedau gweledol, gan alluogi galarwyr sy'n sefyll yn yr ardal hon yn ystod ymgynulliadau mawr, i wylio'r gwasanaeth yn y capel yn hytrach na gwrando ar y siaradwyr yn unig. Byddai hyn yn caniatáu iddynt gymryd mwy o ran yn y gwasanaeth angladd.
I gloi ei ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 67. |
|
Cynllun Busnes a Ffioedd yr Amlosgfa PDF 85 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cyd-bwyllgorau o'r Cynllun Busnes a'r rhaglen wariant ar gyfer 2020-21, sy'n cynnwys cynnydd arfaethedig i ffioedd amlosgi.
Cynghorodd fod Cynllun Busnes yn cael ei gyflwyno'n flynyddol i'r Cyd-bwyllgor ei gymeradwyo, sy'n cynnwys amcanion y gwasanaeth a phrosiectau cynnal a chadw a gwella arfaethedig, i wella a chynnal tir ac adeiladau'r Amlosgfa ar gyfer y cyfnod sydd i ddod.
Cadarnhaodd mai cyfanswm yr amlosgiadau ar gyfer 2019 oedd 1,625, yn cynnwys 1,004 o Ben-y-bont ar Ogwr, 143 o Fro Morgannwg a 400 o Rondda Cynon Taf, gyda 78 ddim yn preswylio yno. Mae cytundeb gydag Ysbyty Tywysoges Cymru ar gyfer amlosgi gweddillion ffetysol anhyfyw (NVF) wedi arwain at 11 amlosgiad cymunedol ychwanegol. Trefnwyd 8 amlosgiad NVF arall yn uniongyrchol â theuluoedd. Mae cofnodion ystadegol ar gyfer y cyfnod o fis Ionawr i fis Rhagfyr 2018 a 2019 i'w cael yn y Cynllun Busnes er mwyn cymharu.
Mae'r Cynllun Busnes Lefel Gwasanaeth arfaethedig ar gyfer 2020-21 ynghlwm yn Atodiad 1 yr adroddiad, ac mae hwn yn amlinellu amcanion y gwasanaeth ar gyfer y cyfnod. Rhoddodd Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth grynodeb ohono er budd yr Aelodau drwy echdynnu rhai o'r elfennau pwysicaf ohono.
Roedd y Cynllun Busnes yn ymdrin â'r meysydd allweddol canlynol yn dilyn ei gyflwyniad:
· Adran 1 - Gwasanaethu ein Cymuned · Adran 2 - Datblygiadau i'r Gwasanaeth · Adran 3 - Cyllidebau Refeniw · Adran 4 - Adolygiad o'r Cynllun Busnes · Adran 5 - Cysylltiadau
Nododd Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth fod cost amlosgi'r Amlosgfa yn safle 267 allan o 299 o awdurdodau amlosgi, mewn tabl cynghrair o ffioedd cenedlaethol a gyhoeddwyd yn haf 2019 gan Gymdeithas Amlosgi Prydain Fawr (lle mae'r gost uchaf yn cael ei nodi gyntaf). Argymhellwyd bod y gost amlosgi yn cael ei chynyddu gan lefel chwyddiant o £680.70 i £696.40. Mae hyn yn seiliedig ar gynnydd cyffredinol mewn ffioedd o 2.3% (1% yn ogystal â'r Mynegai Pris Defnyddwyr ar 1.3% yn unol â'r ffigyrau mwyaf diweddar a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2019). Mae'r tabl ym mharagraff 4.3 yr adroddiad yn cyflwyno cymhariaeth o ffioedd amlosgi cyfredol (2019-20) amlosgfeydd gerllaw.
Nododd Aelod o'r adroddiad fod amlosgiadau am ddim i'r rheiny dan 18 oed ar ddyddiau'r wythnos, ond nid ar gyfer unrhyw amlosgiadau ar gyfer y categori oedran hwn ar ddydd Sadwrn.
Cynghorodd Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth mai dim ond y gwasanaeth sylfaenol safonol oedd am ddim o dan yMemorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MOU) ar ddyddiau'r wythnos i'r rheiny dan 18 oed, lle ar ddydd Sadwrn codir ffi ychwanegol i dalu am gostau staffio'r Amlosgfa i gefnogi a/neu weinyddu gwaith amlosgi y tu allan i oriau dyddiau'r wythnos arferol. Ychwanegodd fod rhai amlosgiadau ar ddydd Sadwrn, er hynny.
Nododd Aelod gyda phleser fod yr estyniad i'r Cwrt Blodau bellach yn mynd rhagddo.
Cadarnhaodd Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth fod caniatâd cynllunio wedi'i gadarnhau ar gyfer hyn a bod y gwaith cynllunio yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Ychwanegodd fod y cais cynllunio ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 68. |
|
Rhaglen Gyfarfodydd 2020-21 PDF 65 KB Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth adroddiad i'w gymeradwyo gan Aelodau ar gyfer y rhaglen gyfarfodydd a gynigiwyd ar gyfer y Cyd-bwyllgor ar gyfer 2020-21.
Roedd y rhain fel a ganlyn:-
Dydd Gwener 12 Mehefin 2020 - Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ac Ymweliad â'r Safle; Dydd Gwener 4 Medi 2020; Dydd Gwener 5 Mawrth 2021.
PENDERFYNWYD: Bod y Cyd-bwyllgor yn cymeradwyo'r rhaglen gyfarfodydd ar gyfer 2020-21, fel yr amlinellir yn Adroddiad y Swyddog. |
|
Y Gyllideb Refeniw a Gynigir 2020-21 PDF 92 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid, Rheoli Ariannol a Chau adroddiad, a'i ddiben oedd cynghori'r Cyd-bwyllgor ar y perfformiad ariannol a ragfynegir ar gyfer yr Amlosgfa yn 2019-20, a cheisio cymeradwyaeth gan y Cyd-bwyllgor ar gyfer y Gyllideb a'r Ffioedd a Chostau a gynigir ar gyfer 2020-21.
Roedd Tabl 1 ym mharagraff 4.1 yr adroddiad, yn dangos y sefyllfa ariannol ar 31 Ionawr 2020 a'r alldro a ragfynegir ar gyfer 2019-20. Roedd hyn yn dangos tanwariant o £652,000 ar gyfer 2019-20.
Dywedodd mai £336,000 oedd y diffyg cyllidebol a ddisgwylid pan osodwyd y gyllideb. Dangosodd yr alldro a ragfynegir ar ddiwedd Ionawr arian dros ben o £316,000 a byddai hyn yn gofyn am drosglwyddo arian i Gronfeydd wedi'u Clustnodi'r Amlosgfa.
Ceir eglurhad o'r prif wahaniaethau rhwng y Gyllideb a'r Alldro a Ragfynegir ar ffurf pwynt bwled ym mharagraff 4.2 yr adroddiad.
Dangosodd Tabl 2 yn yr adroddiad ddadansoddiad o'r Gyllideb Cynnal a Chadw Arfaethedig ynghyd â'r Gwahaniaethau a'r Alldro a Ragfynegir ar gyfer 2019-20. Amlinellodd hyn danwariant ar gyfer y Cwrt Blodau o £272,000 a thanwariant tebyg ar gyfer Golau Stryd o £300,000.
Dangosodd paragraff 4.3 yr adroddiad (Tabl 3) y Gyllideb Refeniw arfaethedig ar gyfer 2020-21. Gosodwyd ar ddiffyg o £395,000.
Roedd Tabl 4 ym mharagraff 4.6 yr adroddiad yn cynnwys manylion Gofynion Gwariant Cyfalaf Cynnal a Chadw Arfaethedig, a thelid am y rhain gyda'r gyllideb Costau Ariannu Cyfalaf a nodwyd yn Nhabl 3 y cyfeirir ato uchod.
Roedd cyllidebau incwm wedi'u paratoi gan gymryd y bydd cynnydd cyffredinol o 2.3% yn y ffioedd (1% yn ogystal â'r Mynegai Pris Defnyddwyr ar 1.3%), ar sail y lefelau presennol o weithgarwch. Roedd Tabl Ffioedd arfaethedig 2020-21 ynghlwm yn Atodiad 1 yr adroddiad.
Dangosodd paragraff 4.8 yr adroddiad yr effaith ar falans cronnol y gyllideb arfaethedig ar gyfer 2020-21 yn Nhabl 5. Rhagfynegwyd y bydd balans cronnol o £1,675, 000 ar 31 Mawrth 2020. Ystyriwyd bod balans cronfeydd wrth gefn ar 31 Mawrth 2021 yn ddigonol er mwyn cynnal ac amddiffyn y gwasanaeth, o ystyried galw annisgwyl neu argyfyngau.
Yn olaf, cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid, Rheoli Ariannol a Chau na fyddai angen benthyciad na chyfraniad gan awdurdodau etholedig ar gyfer y gwariant Cyfalaf yn 2020-21. Byddai eitemau gwariant cyfalaf ar gyfer 2020-21 yn Nhabl 4, paragraff 4.6 yr adroddiad, yn cael eu hariannu'n uniongyrchol gan gyfraniadau refeniw a'r gwarged o flynyddoedd blaenorol.
PENDERFYNWYD: Y dylai'r Cyd-bwyllgor:-
(1) Nodi'r perfformiad ariannol a ragfynegir ar gyfer 2019-20. (2) Cadarnhau a chymeradwyo'r gyllideb refeniw i'w mabwysiadu yn 2020-21. Cymeradwyo'r cynnydd yn y ffioedd a chostau o 1 Ebrill 2020, fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad. |
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad. Cofnodion: Dim. |