Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: o bell trwy Dimau Microsoft

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

88.

Ethol Cadeirydd (o blith aelodau Cyngor Bwrdeistref Bro Morgannwg)

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:                         Cynigiwyd y dylid penodi'r Cynghorydd G John yn Gadeirydd Cyd-bwyllgor Amlosgfa Llangrallo am y flwyddyn ddilynol, a secondiwyd hynny a’i weithredu yn unfrydol.

 

Daeth y Cynghorydd John i'r Gadair.

89.

Ethol Is-gadeirydd (o blith aelodau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr)

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:                        Cynigiwyd y dylid penodi'r Cynghorydd A Pucella yn Is-gadeirydd Cyd-bwyllgor Amlosgfa Llangrallo am y flwyddyn ddilynol, a secondiwyd hynny a’i weithredu yn unfrydol.

90.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

Cofnodion:

Dim.

91.

Cadarnhau Cofnodion pdf eicon PDF 102 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 05/03/2021

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:                              Bod Cofnodion y cyfarfod o Gyd-bwyllgor Amlosgfa Llangrallo ar 5 Mawrth 2021 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

92.

Adolygiad Blynyddol o Amcanion Cynllun Busnes 2020/21 pdf eicon PDF 207 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Clerc a'r Swyddog Technegol adroddiad, a'i ddiben oedd cynghori'r Cydbwyllgor ar berfformiad Amlosgfa Llangrallo yn ystod 2020/21, fel rhan o'r uchod. Rhoddodd gyflwyniad cryno i’r adroddiad cyn rhoi’r awenau i'r Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a'r Cofrestrydd i ymhelaethu ar rywfaint o fanylion y cynnwys.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a'r Cofrestrydd fod Atodiad A i'r adroddiad yn nodi perfformiad Amlosgfa Llangrallo mewn perthynas â, yn benodol:

 

           Nifer yr amlosgiadau

           Safonau gwasanaeth

           Gwariant a gynlluniwyd

           Cyflawni amcanion y Cynllun Busnes

 

O ran nifer yr amlosgiadau ar gyfer 2020/21, cadarnhaodd mai’r cyfanswm oedd 2,086, a bod hyn yn cynnwys amlosgiadau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf ac 'eraill'.

 

Roedd hyn yn gynnydd ar y 1,670 o amlosgiadau o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, a hynny yn bennaf oherwydd marwolaethau ychwanegol o ganlyniad i effaith drychinebus pandemig Covid-19.

 

O ganlyniad i'r amlosgiadau ychwanegol a gynhaliwyd, ym mis Mawrth 2021 cyflogodd yr Amlosgfa ddau aelod staff ychwanegol i gynorthwyo â’r gwaith ychwanegol a ddaeth yn sgil y pandemig, bu aelodau staff yn gweithio'n eithriadol o galed ar sail dwy sifft, gan ymgymryd ag oriau ychwanegol i ymdopi â'r cynnydd yn nifer yr amlosgiadau.

 

Roedd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a'r Cofrestrydd hefyd yn falch o gadarnhau bod yr Amlosgfa wedi sicrhau Gwobr Baner Werdd arall, a hynny am yr unfed flwyddyn ar ddeg yn olynol.

 

O ran boddhad y cyhoedd ar berfformiad yr Amlosgfa yn ystod y cyfnod uchod,gwelwyd lefel bodlonrwydd o safon dda neu ragorol ar y cyfan, h.y. gan gael ei gynnal ar 100% mewn holiaduron a gwblhawyd ac a ddychwelwyd.

 

Roedd adran nesaf yr Atodiad yn cynnwys manylion y gwariant ar gyfer gwaith a gynlluniwyd yn 2020/21, lle cadarnhaodd y rhaglen fod tri phrosiect wedi'u gohirio tan 2021/22 oherwydd y pandemig, sef y Goleuadau Allanol, yr estyniad i’r Cwrt Blodau, a’r gwaith o uwchraddio System Cerddoriaeth a Chyfryngau'r Capel.

 

Roedd y tabl yn yr Atodiad â’r enw Asesiad ac Adolygiad Cynllun Busnes 2020/21 yn cadarnhau fod y gwaith arall a gynlluniwyd ar gyfer eleni wedi'i gwblhau. Roedd hyn yn ymwneud â Byrddau Dosbarthu Trydanol a chamau gweithredu arfaethedig fel y'u cynhwysir yn Strategaeth Cyllideb yr Amlosgfa.

 

PENDERFYNIAD:                          Bod y Cyd-bwyllgor wedi nodi'r adroddiad.

93.

Datganiad Cyfrifyddu Blynyddol 2020-21 pdf eicon PDF 89 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Trysorydd adroddiad, a'i ddiben oedd cyflwyno'r Datganiad Cyfrifyddu Blynyddol nad oedd wedi’i archwilio ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-21 i'r Cydbwyllgor, ac i geisio cymeradwyaeth i gyflwyno'r Datganiad Cyfrifyddu Blynyddol ar gyfer Amlosgfa Llangrallo i Archwilio Cymru.

 

O dan Reoliad 14 o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014, mae'n ofynnol i Gyd-bwyllgor Amlosgfa Llangrallo gwblhau Datganiad Cyfrifyddu Blynyddol gan eu bod yn cael eu hystyried yn gorff llywodraeth leol llai, gydag incwm a gwariant blynyddol o dan £2.5 miliwn.

 

Rhaid i'r Datganiad Cyfrifyddu Blynyddol ardystiedig gael ei gyhoeddi erbyn 30 Medi.

 

Dangosodd Adran 1 o'r Datganiad Cyfrifyddu Blynyddol (a atodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad), fod Amlosgfa Llangrallo yn 2020-21 wedi gwneud gwarged net o £845,231 (y gwahaniaeth rhwng Llinell 1 'Balansau a ddygwyd ymlaen' a Llinell 7 'Balansau a gariwyd ymlaen'). Mae'r gwarged wedi'i ychwanegu at gronfa gronnol yr Amlosgfa a ddygwyd ymlaen ar 31 Mawrth 2020, gan ddod â chyfanswm y gronfa honno i £2,898,883 ar 31 Mawrth 2021 o'i gymharu â £2,053,652 yn y flwyddyn flaenorol.

 

Roedd Tabl 1 ym mharagraff 4.1 o'r adroddiad yn dangos crynodeb o'r sefyllfa ariannol derfynol ar gyfer yr Amlosgfa ar gyfer 2020-21 o'i gymharu â'r gyllideb a bennwyd ar ddechrau'r flwyddyn ariannol.

 

Rhoddwyd eglurhad o’r amrywiannau mwy sylweddol o'r gyllideb ar ffurf pwyntiau bwled ym mharagraff 4.2 o'r adroddiad, a manylodd y Rheolwr Cyllid, Rheolaeth Ariannol a Chau arnynt yn ystod cyfarfod.

 

Roedd Tabl 2 isod yn yr adran hon o'r adroddiad yn rhoi dadansoddiad o'r Gyllideb Gwaith Cynnal a Chadw a Gynlluniwyd ynghyd â'r Alldro a'r Amrywiannau ar gyfer 2020-21. Ychwanegodd y Rheolwr Cyllid, Rheolaeth Ariannol a Chau fod rhai o fanylion y rhain wedi'u rhannu ag Aelodau'r Cydbwyllgor yn yr eitem flaenorol ar yr agenda, gan gynnwys tanwariant ar brosiectau penodol a oedd wedi'u gohirio o ganlyniad i'r pandemig.

 

Yn ogystal â'r Datganiad Cyfrifyddu Blynyddol, darparwyd Mantolen atodol yn Nhabl 3 a ddangosir yn yr adroddiad. Roedd y wybodaeth atodol hon yn rhoi dadansoddiad pellach o'r ffigurau a gofnodwyd yn y Datganiad Cyfrifyddu Blynyddol. Roedd hyn er gwybodaeth i'r Aelodau yn unig, ac nid oedd yn destun archwiliad ar ddiwedd y flwyddyn.

 

Darparwyd rhagor o wybodaeth i egluro'r balansau ym mharagraff 4.4 yr adroddiad.

 

PENDERFYNIAD:                                 Bod y Cydbwyllgor yn cymeradwyo’r Datganiad Cyfrifyddu Blynyddol ar gyfer Amlosgfa Llangrallo 2020-21 (Atodiad 1 i'r adroddiad) a gofynnwyd i Gadeirydd y Cyd-bwyllgor lofnodi'r Datganiad Cyfrifyddu Blynyddol.

94.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z