Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs Julie Ellams
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o Ddiddordeb Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Dim. |
|
Cymeradwyo Cofnodion PDF 49 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 22/05/18 Cofnodion: PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor Deddf Trwyddedu 2003, dyddiedig 22 Mai 2018, fel cofnod gwir a chywir. |
|
Deddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005 - Dirprwyo Swyddogaethau PDF 65 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Polisi Trwyddedu adroddiad yn egluro’r trefniadau arfaethedig ar gyfer awdurdodi swyddogion o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005 ac yn cadarnhau’r trefniadau i ffurfio is-bwyllgorau yn dilyn Cyfarfod Blynyddol y Cyngor 2018.
Esboniodd y Swyddog Polisi Trwyddedu fod Adran 9 o’r Ddeddf Trwyddedu yn darparu i bwyllgor trwyddedu allu sefydlu un neu ragor o is-bwyllgorau yn cynnwys tri aelod o’r pwyllgor. Sefydlodd y Cyngor yn ei Gyfarfod Blynyddol ar 16 Mai 2018 aelodaeth Pwyllgor Deddf Trwyddedu 2003. Dywedodd fod Adran 10 o Ddeddf Trwyddedu 2003 yn caniatáu i bwyllgor trwyddedu is-ddirprwyo swyddogaethau i is-bwyllgor a sefydlwyd ganddo neu, yn ddarostyngedig i rai cyfyngiadau, i swyddogion. Roedd awdurdodiadau wedi cael eu cymeradwyo gan y Pwyllgor o’r blaen ond roedd angen eu diweddaru i adlewyrchu’r newidiadau yn nheitlau swyddi, yn dilyn sefydlu’r Gwasanaeth Rheoleiddio ar y Cyd a’r newid yn enw adran y gwasanaeth.
Adroddodd y Swyddog Polisi Trwyddedu, er mwyn sicrhau perfformiad effeithiol, fod yna gynnig i ddirprwyo’r cyfrifoldeb am awdurdodi swyddogion i weinyddu gofynion Ddeddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005, i gychwyn achos dan y Deddfau hynny i Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio.
Cynigiwyd hefyd, lle bo’n briodol, awdurdodi Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, Rheolwr y Tîm Trwyddedu (Pen-y-bont ar Ogwr a’r Fro) a’r Uwch Swyddog Trwyddedu (Technegol) a’r Uwch Swyddog Gorfodi Trwyddedu, yr Uwch Swyddog Polisi Trwyddedu a’r Cynorthwyydd Trwyddedu i gydnabod a chyhoeddi Hysbysiadau yn ymwneud â Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro; rhoi, gwrthod, atal dros dro drwyddedau, cofrestriadau, tystysgrifau, papurau caniatâd a hysbysiadau, i weithredu’r darpariaethau perthnasol o ran troseddau, adolygiadau neu ofynion eraill; yn unol ag unrhyw rai o reolau, rheoliadau a / neu Orchmynion a wnaed dan Ddeddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005 (fel y’i diwygiwyd). Ni fyddai’r awdurdodiadau o ran Rheolwr y Tîm Trwyddedu (Pen-y-bont ar Ogwr a’r Fro), yr Uwch Swyddog Trwyddedu (Technegol), yr Uwch Swyddog Gorfodi Trwyddedu, yr Uwch Swyddog Polisi Trwyddedu a’r Cynorthwyydd Trwyddedu yn dod i rym ond pan fyddai’r swyddogion hyn yn cael eu rhoi ar gael i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn unol ag adran 113 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo’r trefniant presennol o ffurfio Is-bwyllgorau pellach yn cynnwys tri Aelod o Bwyllgor Deddf Trwyddedu 2003 i benderfynu ar geisiadau dan Ddeddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005. Gofynnwyd i’r Pwyllgor nodi bod rhaid, drwy statud, i’r Cyngor benderfynu ynghylch cymeradwyo datganiadau polisi trwyddedu a gamblo hefyd. Cynigiwyd bod Is-bwyllgorau Deddf Trwyddedu 2003 yn cael eu cadeirio gan Gadeirydd neu Is-gadeirydd Pwyllgor Deddf Trwyddedu 2003, lle bo modd. Pe bai’r Cadeirydd neu’r Is-gadeirydd yn digwydd methu â bod yn bresennol, byddai cadeirydd yn cael ei ethol o blith y rhai fyddai’n bresennol.
PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor:
1) Yn arfer ei awdurdod dirprwyedig i awdurdodi Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio i gychwyn achos dan y Deddfau y cyfeiriwyd atynt uchod.
2) Yn arfer ei awdurdod dirprwyedig i awdurdodi Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, Rheolwr y Tîm Trwyddedu (Pen-y-bont ar Ogwr a’r Fro), yr Uwch Swyddog Trwyddedu ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10. |
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Nid oedd eitemau brys. |