Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

24.

Datganiadau o fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

25.

Deddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005 – Dirprwyo Swyddogaethau pdf eicon PDF 66 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu adroddiad yn rhestru’r trefniadau arfaethedig ar gyfer awdurdodi swyddogion o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005 ac yn cadarnhau trefniadau ar gyfer ffurfio is-bwyllgorau yn dilyn Cyfarfod Blynyddol y Cyngor 2021.

 

Esboniodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu fod Adran 9 y Ddeddf Trwyddedu yn darparu y gallai pwyllgor trwyddedu sefydlu un neu fwy o is-bwyllgorau yn cynnwys tri aelod neu fwy o'r pwyllgor.  Ar 16 Mai 2018, derbyniodd y Cyngor adroddiad sy’n pennu aelodaeth Pwyllgor Deddf Trwyddedu 2003.

 

Caniataodd Adran 10 Deddf Trwyddedu 2003 am is-ddirprwyo swyddogaethau gan bwyllgor trwyddedu i is-bwyllgor a sefydlwyd ganddo, neu'n amodol â rhai cyfyngiadau penodol, i swyddogion.    Yn flaenorol cafodd awdurdodaethau eu cymeradwyo gan y Pwyllgor ond roedd angen eu diweddaru er mwyn adlewyrchu newidiadau i deitlau swyddi yn dilyn sefydlu'r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir a’r newid yn enw’r adran gwasanaeth.

 

Er mwyn perfformio’n effeithiol, cynigwyd dirprwyo’r cyfrifoldeb dros awdurdodi swyddogion i weinyddu gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005, i Gyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth, ac i Bennaeth Gwasanaethau Rheoleiddiol a Phartneriaeth, ac ar gyfer Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredu a Phartneriaeth i gychwyn achos o dan y Deddfau hynny.

 

Cynigiwyd hefyd, lle y bo’n briodol, y byddai Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth, Rheolwr y Tîm Trwyddedu (Pen-y-Bont Ar Ogwr a’r  Fro) a’r Uwch-swyddog Trwyddedu (Technegol) a’r Uwch-swyddog Gorfodi Trwyddedu yn cael eu hawdurdodi i gydnabod a chyhoeddi Hysbysiadau sy’n perthyn i Hysbysiadau Digwyddiadau Dros dro; dosbarthu, gwrthod, gohirio trwyddedu, cofrestriadau, tystysgrifau, hawlenni a hysbysiadau, i weithredu'r darpariaethau perthnasol yngl?n â throseddau, adolygiadau neu ofynion eraill; yn unol ag unrhyw un o’r rheolau, rheoliadau a/neu Gorchmynion a wnaed o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005 (fel y’i diwygiwyd).   Byddai’r awdurdodiad mewn perthynas â Rheolwr y Tîm Trwyddedu (Pen-Y-Bont Ar Ogwr a'r Fro) a’r Uwch-swyddog Trwyddedu (Technegol) ond yn dod i rym wrth iddynt gael eu rhoi ar gael i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-Y-Bont Ar Ogwr yn unol ag adran 113 Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo’r trefniant presennol o ran ffurfio rhagor o is-bwyllgorau gan gynnwys tri Aelod o Bwyllgor Deddf Trwyddedu 2003 er mwyn pennu ceisiadau o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005. Gofynnwyd i’r Pwyllgor nodi bod rhaid i gymeradwyo datganiadau’r polisïau trwyddedu a gamblo, yn ôl y statud, gael eu pennu gan y Cyngor.   Cynigiwyd y câi is-bwyllgorau Deddf Trwyddedu 2003eu cadeirio gan Gadeirydd neu is-Gadeirydd Pwyllgor Deddf Trwyddedu 2003 lle y bo'n bosibl. Os digwydd na allai’r Cadeirydd neu’r is-gadeirydd fod yn bresennol, câi cadeirydd ei ethol o’r rhai sy’n bresennol.

 

PENDERFYNWYD:     Bod y Y Pwyllgor:

 

Yn ymarfer ei awdurdod dirprwyedig ac yn awdurdodi Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth i gychwyn achos o dan y Deddfau y soniwyd amdanynt uchod.

 

Byddai’n ymarfer ei awdurdod dirprwydedig i awdurdodi  Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth, Rheolwr y Tîm Trwyddedu (Pen-y-Bont Ar Ogwr a’r  Fro) a’r Uwch-swyddog Trwyddedu (Technegol) a’r Uwch-swyddog Gorfodi Trwyddedu i gydnabod a chyhoeddi Hysbysiadau sy’n perthyn i Hysbysiadau Digwyddiadau Dros dro; dosbarthu,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 25.

26.

Materion Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z