Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Pitman 

Eitemau
Rhif Eitem

79.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd T. Beedle fuddiant personol yn eitem 4, Cynllun Gweithredu Ôl-arolwg Ysgol Gynradd Plasnewydd, oherwydd ef oedd Cadeirydd Cymdeithas Llywodraethwyr Pen-y-bont ar Ogwr ac roedd ei wraig yn Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Plasnewydd.

80.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 97 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 04/06/2019, 08/07/2019 and 23/08/2019

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth yr aelodau ystyried cofnodion y cyfarfodydd ar 4 Mehefin 2019, 8 Gorffennaf 2019 a 23 Awst 2019.

 

4 Mehefin 2019 – Cofnod 66, paragraff 4, gwnaeth Mr Graham Adamson (nid Gordon Adamson) annerch y Pwyllgor.

 

8 Gorffennaf 2019 – Roedd y Cynghorwyr PA Davies a JPD Blundell yn bresennol yn y cyfarfod ac ni wnaethant anfon eu hymddiheuriadau fel y cofnodwyd. Gwnaeth y ddau Gynghorydd ddatgan buddiant yn eitem 4 ar yr agenda. Cofnodwyd y Parch Canon Edward Evans a William Bond yn anghywir fel aelodau gwadd ac nid fel aelodau o'r pwyllgor. 

 

23 Awst 2019 – Roedd y Parch Canon Edward Evans wedi anfon ei ymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod, ond nid oedd hyn wedi'i gofnodi.    

 

PENDERFYNWYD:     Bod cofnodion y Pwyllgor Trosolwg Pwnc a

                                     Chraffu, dyddiedig 4 Mehefin 2019, 8 Gorffennaf 2019 a 23 Awst 2019 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir, yn amodol ar y cywiriadau a nodwyd uchod.    

81.

Cynllun Gweithredu Ôl-arolwg Ysgol Gynradd Plasnewydd pdf eicon PDF 79 KB

Gwahoddedigion:

 

Lindsay Harvey, Cyfarwyddwr CorfforaetholAddysg a Chymorth i Deuluoedd

Cyng Charles Smith, Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio

Nicola Echanis, Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar

Michelle Hatcher, Rheolwr Grwp Cynhwysiant a Gwella Ysgolion

Andy Rothwell, Uwch Ymgynghorydd Her, Consortiwm Canolbarth y De

Simon Phillips, Ymgynghorydd Her, Consortiwm Canolbarth y De

Andrew Williams, Rheolwr Gyfarwyddwr Cynorthwyol Consortiwm Canolbarth y De

Eleanor Williams, Prifathro

Andy Harding, Cadeirydd y Llywodraethwyr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd gyflwyno adroddiad yn hysbysu Pwyllgor Trosolwg Pwnc a Chraffu 1 o'r cynnydd sydd wedi'i wneud gan Ysgol Gynradd Plasnewydd o ran yr amcanion yng nghynllun gweithredu ôl-arolwg yr ysgol (PIAP). Croesawodd Eleanor Williams (Pennaeth), Andy Harding (Cadeirydd y Llywodraethwyr) ac Andrew Williams (Rheolwr Gyfarwyddwr dros dro), Andy Rothwell (Uwch Ymgynghorydd Her) a Simon Phillips (Ymgynghorydd Her) o Gonsortiwm Canolbarth y De.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod Ysgol Gynradd Plasnewydd wedi'i harolygu gan Estyn ym mis Ionawr 2018. O ganlyniad i'r arolygiad, credai Estyn bod angen mesurau arbennig ar yr ysgol. Lluniwyd PIAP a oedd yn dangos sut byddai'n mynd i'r afael â'r chwe argymhelliad a nodwyd. Gwnaeth yr awdurdod, gyda chefnogaeth Consortiwm Canolbarth y De, gwblhau datganiad o gamau gweithredu ar sut byddai'n cefnogi'r ysgol. Ers mis Medi 2018, roedd Plasnewydd wedi cael cefnogaeth ddwys gan yr awdurdod lleol a Chonsortiwm Canolbarth y De ac roedd ysgolion eraill wedi derbyn cyllid i weithio gyda Plasnewydd i'w chefnogi gyda'r argymhellion. Byddai'r awdurdod lleol a Chonsortiwm Canolbarth y De yn parhau i gefnogi Ysgol Gynradd Plasnewydd fel yr oeddent wedi gwneud drwy gydol y broses ôl-arolygu, hyd nes y penderfynir nad oes angen mesurau arbennig ar yr ysgol mwyach. 

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod Ysgol Gynradd Plasnewydd wedi'i monitro gan Estyn yn ddiweddar ym mis Mehefin 2019. Yn gyffredinol, credai Estyn bod angen mesurau arbennig ar yr ysgol er eu bod wedi gweld cynnydd mewn rhai meysydd. Esboniodd y byddai'n anghyffredin i ysgol ddod allan o fesurau arbennig ar ôl blwyddyn, ond y byddai pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau bod yr ysgol allan o fesurau arbennig mor gynnar â phosibl.     

 

Gofynnodd aelod a oeddent yn fodlon ar y cynnydd a oedd yn cael ei wneud ar wella ansawdd yr addysgu a'r asesu yng nghyfnod allweddol 2. Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod angen iddynt gyflymu'r daith. Roedd yr ysgol wedi cael llawer o gymorth a nawr roedd angen iddi ymwreiddio'r camau gweithredu hynny. Cytunodd Ymgynghorydd Her Consortiwm Canolbarth y De fod angen cyflymu a mynd ati i weithredu mewn modd cyson.

 

Eglurodd y pennaeth fod lefelau isel iawn o lythrennedd yn y cohort presennol, gyda rhai disgyblion prin yn cyrraedd y safon efydd, a byddai angen i o leiaf hanner y rhain gael ymyrraeth llythrennedd. Roedd cynnydd da wedi'i wneud o'r cyfnod meithrin hyd at ddiwedd y cyfnod sylfaen ac roedd angen i'r cynnydd hwn barhau ar draws cyfnod allweddol 2. Eglurodd fod rhieni'n rhoi'r gorau i ddarllen gyda'u plant cyn gynted ag yr oedd y plant yn symud o CA1 i CA2, am nad oeddent yn credu bod angen gwneud hyn mwyach. Gwnaethant fynd ati'n benodol i dargedu'r cohort blwyddyn 2 o 35 o blant, a dim ond saith rhiant a ymgysylltodd â'r ysgol. Nododd y Pwyllgor sylwadau'r pennaeth am yr anawsterau yr oedd yr ysgol yn eu cael wrth geisio  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 81.

82.

Diweddariad ar y Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 77 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Flaenraglen Waith a hysbysodd y Pwyllgor y byddai'n derbyn adroddiad ar Addysg  Ôl-16 – Ymgynghoriad yn ei gyfarfod nesaf ar 30 Hydref 2019. Gwnaeth y Pwyllgor hefyd nodi’r sawl a wahoddir a fydd yn mynychu.  

 

Gofynnodd y Pwyllgor am ddiweddariad ar y cynnydd o ran a oedd yr Arolwg Llesiant a gwblhawyd gan staff wedi'i anfon at staff yr ysgol i'w gwblhau. 

 

83.

Trosolwg a Chraffu - Adborth o gyfarfodydd pdf eicon PDF 74 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr adborth ac ymatebion y swyddog a dyrannwyd y statws COG fel a ganlyn:

 

Cynllun Gweithredu Ôl-Arolwg o ran y pedwar prif argymhelliad a'r cynlluniau i wella'r meysydd i'w datblygu – Gwyrdd

 

Cynllun Gweithredu Ôl-Arolwg – Adroddiad cryno i'w ddarparu gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd ar gyfer y pwyllgor Craffu ar ddiwedd pob tymor i ddangos cynnydd yn erbyn amcanion y cynllun ôl-arolwg – Oren      

 

84.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Dim

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z