Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

23.

Datganiadau o fuddiant

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Gwnaethpwyd y datganiadau buddiant personol canlynol mewn perthynas ag eitem 5 ar yr Agenda: -

 

Y Cynghorydd N Burnett - Llywodraethwr Ysgol yn Ysgol Gyfun Brynteg

Y Cynghorydd C Webster - Mae ganddo blentyn sy'n astudio yn Ysgol Gyfun Brynteg

Y Parchedig Canon Evans - Llywodraethwr Ysgol yn Ysgol Gyfun Brynteg

Tim Cahalane - Aelod o Gonsortiwm Canolog y De

Kevin Pascoe - Llywodraethwr Ysgol yn Ysgol Gyfun yr Archesgob McGrath, ac Aelod o Gonsortiwm Canolog y De

Y Cynghorydd JP Blundell - Llywodraethwr Ysgol yn Ysgol Gyfun Bryntirion.

 

24.

Cymeradwyaeth Cofnodion pdf eicon PDF 71 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 4/12/17.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:   Cymeradwyo Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau 1, dyddiedig 4 Rhagfyr 2017 fel cofnod cywir.

25.

Diweddariad Rhaglen Gwaith pdf eicon PDF 62 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, y Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth adroddiad gyda’r diben canlynol: cyflwyno'r eitemau a flaenoriaethwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol; cyflwyno rhestr o eitemau posib pellach i'r Pwyllgor roi sylwadau arnynt a’u blaenoriaethu, ac yn olaf gofyn i'r Pwyllgor nodi unrhyw eitemau pellach i'w hystyried gan ddefnyddio'r ffurflen meini prawf a bennwyd ymlaen llaw.

 

Ynghlwm yn Atodiad A yr adroddiad oedd y Flaenaglen Waith gyffredinol ar gyfer y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar Bynciau, a oedd yn cynnwys y pynciau a flaenoriaethwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ar gyfer y set nesaf o Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar Bynciau yn Nhabl A, yn ogystal â rhestr o bynciau a ystyrid yn bwysig ar gyfer blaenoriaethu yn y dyfodol yn Nhabl B.

 

Dywedodd y Swyddog Craffu, pe bai Aelodau'n gofyn am ystyried unrhyw eitemau pellach fel rhan o'r Flaenaglen Waith, yna gellid anfon y rhain at yr Uned Craffu trwy e-bost y tu allan i'r cyfarfod.

 

Cytunodd yr Aelodau i dderbyn yr eitemau fel y nodwyd yn atodiadau'r adroddiad, yn amodol ar y canlynol: -

 

1.         Blaenoriaethu'r eitem y rhoddir manylion amdani ar dudalen 19 yr adroddiad, hy Effeithiau Cyllidebol Carchar y Parc.

2.         Gwahodd cynrychiolydd o Swyddfa Archwilio Cymru i’r cyfarfod sy'n ystyried pwnc Tai Argyfwng.

3.         Bod ymweliad safle yn cael ei drefnu i Goleg Chweched Dosbarth Dewi Sant yng Nghaerdydd

 

PENDERFYNWYD:               Derbyn a nodi'r adroddiad, yn amodol ar bwyntiau 1 i 3. uchod. 

 

 

26.

Adolygiad Strategol ar Ysgolion Dros Cyngor Bwrdeisdref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr pdf eicon PDF 89 KB

 

Gwahoddedigion:

 

Lindsay Harvey, Cyfarwyddwr CorfforaetholAddysg a Chymorth i Deuluoedd (Dros Dro);

Cllr Charles Smith, Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio;

Nicola Echanis, Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar;

John Fabes, Swyddog Arbenigol: Addysg Ôl-16 a Hyfforddian

Mandy Paish, Uwch Ymgynghorydd Her,Consortiwm Canolbarth y De

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Gwahoddedigion i’r cyfarfod a rhoddodd y Swyddog Arbenigol : Addysg a Hyfforddiant ôl 16 gyflwyniad i’r adroddiad am yr uchod, ac yna gofynnodd y Cadeirydd am gwestiynau oddi wrth yr Aelodau.

 

Dywedodd un Aelod, er bod y cyflwyniad i'r adroddiad a roddwyd gan y Swyddog uchod wedi esbonio'n eithaf sylweddol yr hyn y byddai'r Adolygiad yn ei olygu, teimlai fod yr adroddiad yn brin o fanylion ynghylch beth roedd y Swyddogion am i'r Pwyllgor ei wneud, hy pa fewnbwn i'w gael o'r broses Trosolwg a Chraffu, ac yn fwy arbennig beth i graffu arno.

 

Cyfeiriodd y Swyddog Arbenigol:  Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 y rhai a oedd yn bresennol at Atodiadau'r adroddiad.  Roedd y rhain yn rhoi manylion am yr adroddiad terfynol mewn perthynas ag Adroddiad Terfynol y Bwrdd Gweithredol Ôl-16 a chynigion ar gyfer y dyfodol. Ychwanegodd fod y dogfennau hyn wedi'u hystyried yn flaenorol gan y Bwrdd Adolygu Statudol Ôl-16 fel rhan o Gam 1 yr adolygiad. Roedd Cam 2 bellach ar y gweill a byddai gwybodaeth a dogfennau pellach yn cael eu cyflwyno i'r Bwrdd ar 15 Ionawr 2018. Ychwanegodd y byddai'r ddogfen fyddai’n rhoi cychwyn ar brosiect newydd, y cylch gorchwyl a cherrig milltir y prosiect ar gael ar ôl y dyddiad hwn. Ystyriwyd adroddiad blaenorol ar y pwnc hwn gan y Cabinet, cyn iddo gael ei ystyried heddiw gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.

 

Ond ychwanegodd, na fyddai cynigion yn y dyfodol ynghylch Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 yn mynd allan yn ffurfiol i ymgynghori nes bod adroddiad pellach ar gamau nesaf y broses yn cael ei ystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod ym mis Ebrill 2018. Ar hyn o bryd, roedd data priodol yn cael ei gasglu i'w gynnwys yn yr adroddiad hwn.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio y byddai'n cynorthwyo'r Cabinet yn eu trafodaethau yn y dyfodol ar y mater hwn, pe bai Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn rhoi sylw arbennig i baragraffau 4.5, 4.6, 4.7 a 4.8 yr adroddiad, gan mai dyma'r opsiynau sydd ar gael i’r awdurdod addysg lleol a fyddai'n rhan o Strategaeth Opsiynau yn y dyfodol. Hysbysodd yr Aelodau fod y Cabinet i fod i ymweld â Champws Pencoed y dydd Gwener yma.  Yn dilyn hyn byddai ymweliadau'n cael eu gwneud i ysgolion eraill, gan gynnwys y rhai a oedd yn cynnig darpariaethau arbennig, er mwyn rhannu opsiynau ar gyfer y dyfodol.

 

Cyfeiriodd y Swyddog Arbenigol:  Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 at y gwahanol gyfnodau gwaith a gyflawnwyd, a chafodd canlyniadau’r rhain eu nodi yn y wybodaeth ategol a gynhwysir yn yr Atodiadau i'r adroddiad. Roedd amryw elfennau o'r rhain wedi cael eu sgorio, ac roedd manylion yn cael eu dangos hefyd yng ngwybodaeth ategol yr adroddiad.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro, Addysg a Chymorth i Deuluoedd, fod y Bwrdd ôl-16 fel rhan o'i drafodaethau wedi adolygu ystod o gysyniadau ar gyfer dyfodol darpariaethau ôl-16 ar draws CBSC, a oedd yn cynnwys: -

 

           Cadw'r status quo;

           Cyfuno dosbarthiadau chweched dosbarth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 26.

27.

Panel Craffu Aelodau a Throsolwg Ymgysylltu Ysgol pdf eicon PDF 73 KB

Gwahoddedigion:

 

Cyng CE Smith – Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio

Lindsay Harvey – Cyfarwyddwr CorfforaetholAddysg a Chymorth i Deuluoedd (Dros Dro);

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad oedd yn cyflwyno i'r Pwyllgor y canfyddiadau a'r argymhellion o gyfarfod Panel Ymgysylltu Aelodau ac Ysgolion (MSEP) gydag Ysgol Maesteg.

 

Rhoddodd yr adroddiad rywfaint o wybodaeth gefndirol, gan dynnu sylw at y ffaith bod perfformiad yr ysgolion wedi bod o dan y chwyddwydr yn ddiweddar, yn enwedig o ran dangosydd trothwy cyfun Saesneg a Mathemateg. Roedd hyn o bosib wedi ei gymhlethu gan y ffaith bod yna hefyd nifer o newidiadau y bu'n rhaid i bob ysgol eu cyflwyno dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf, a allai fod wedi effeithio ar berfformiad eleni ymhob ysgol, gan gynnwys Maesteg, a chafodd y rhain eu hamlinellu yn fanylach yn yr adroddiad.

 

Yna nododd yr adroddiad fod ymholiad ar y cyd rhwng yr awdurdod lleol a Chonsortiwm Canolog y De mewn perthynas ag Ysgol Maesteg wedi’i gynnal gyda'r ysgol ym mis Mai 2017.  Roeddrhai argymhellion wedi’u gwneud ar gyfer yr ysgol er mwyn iddi wella perfformiad, a ddangosir ar ffurf pwyntiau bwled ym mharagraff 3.5 yr adroddiad. Roedd adolygiad o berfformiad yr ysgol wedi nodi bod yr ysgol wedi gwneud dechrau cadarnhaol i fynd i'r afael â'r argymhellion hyn.

 

O ran y datblygiadau diweddaraf yn yr ysgol, ac er mwyn mesur y gwelliannau a wnaed yno ymhellach, cyfarfu'r Panel Ymgysylltu Aelodau ac Ysgolion â'r Prifathro a Chadeirydd y Llywodraethwyr, ynghyd â Swyddogion o'r Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd ym mis Tachwedd 2017.

 

Yndilyn hyn, tynnodd y Panel sylw at gyfres o bwyntiau allweddol ac argymhellion, a thynnwyd sylw at y rhain ar ffurf pwyntiau bwled, yn adran gyntaf paragraff 4.1 yr adroddiad. Hefyd, tynnodd y Panel sylw at rai pwyntiau pellach, o ran y dulliau allweddol yr oedd yr ysgol wedi eu nodi ar gyfer gwelliant yn ogystal â rhai meysydd posibl ar gyfer rhannu arferion gorau gydag eraill.

 

Yna, roedd paragraff 4.2 yr adroddiad yn cynnig tri  argymhelliad a gyflwynodd y Panel hefyd yn y cyfarfod neu ar ôl y cyfarfod.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro, Addysg a Chymorth i Deuluoedd y byddai'n gweithredu'n briodol ar yr argymhellion a gyflwynwyd, ac yn sicrhau bod y rhain yn cael eu gweithredu. Ychwanegodd y byddai hefyd yn trefnu bod y gwelliannau hyn yn cael eu monitro yn unol â hynny.

 

Cefnogoddyr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio y sylwadau a wnaed gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro, Addysg a Chymorth i Deuluoedd.

 

ARGYMHELLWYD:          Bod y Pwyllgor yn:

 

(1)        Derbyn sylwadau ac argymhellion y Panel Ymgysylltu ag Aelodau ac Ysgolion mewn perthynas ag Ysgol Maesteg.

(2)        Anfon y sylwadau a'r argymhellion at y Cabinet, y Gyfarwyddiaeth a'r Consortiwm ar gyfer unrhyw ymateb addas.

 

28.

Materion Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z