Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

33.

Datgan Buddiannau

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Datganodd nifer o Aelodau fuddiant personol yn Eitem Agenda 4, sef eu bod yn Llywodraethwyr Ysgol, ond, dywedwyd wrthynt gan Swyddogion nad oes angen datganiadau o’r fath gan eu bod wedi’u penodi i’r rhain gan yr Awdurdod Lleol.

 

Datganodd y Cynghorwyr canlynol fuddiant personol yn Eitem Agenda 4 gan fod ganddynt blant sy’n fyfyrwyr mewn sawl un o’r ysgolion y sonnir amdanynt yn yr adroddiad sy’n ymwneud â’r eitem hon:-

 

Y Cynghorydd C Webster

Y Cynghorydd N Burnett

Y Cynghorydd AJ Williams

34.

Diweddariad Rhaglen Gwaith pdf eicon PDF 62 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth adroddiad sydd â'r bwriad o gyflwyno'r eitemau a flaenoriaethwyd gan y Pwyllgor Craffu a Throsolwg Corfforaethol gan gynnwys yr eitem nesaf a ddirprwywyd i'r Pwyllgor Craffu a Throsolwg Pwnc; i gyflwyno i'r Pwyllgor restr o eitemau posibl pellach i roi sylw arnynt a'u blaenoriaethu, ac yn olaf i ofyn i'r Pwyllgor nodi unrhyw eitemau pellach i'w hystyried trwy ddefnyddio'r ffurflen feini prawf wedi'i chreu o flaen llaw.

 

Atodwyd yn Atodiad B i’r adroddiad oedd y blaen-raglen waith cyffredinol ar gyfer y PCThPau oedd yn cynnwys y pynciau a flaenoriaethwyd gan y PCThCau ar gyfer y set nesaf o PCThPau yn Nhabl A, yn ogystal â phynciau y ystyriwyd eu bod yn bwysig i’w blaenoriaethu yn y dyfodol.

 

O ran eitemau yn Nhabl A Atodiad B, amlygwyd bod y Pwyllgor Craffu a Throsolwg Corfforol wedi dirprwyo PCThP 1 gydag eitem Band B Moderneiddio Ysgolion ar gyfer eu cyfarfod nesaf, wedi ei ddilyn gan Gymorth Cynnar – Gofal Cymdeithasol ar gyfer ei gyfarfod ar 16 Ebrill 2018.

 

Dywedodd y Swyddog Craffu, ar ôl mis Ebrill, y dirprwywyd y pwnc yn ymwneud â goblygiadau cyllidebol mewn perthynas â Charchar y Parc i’r Pwyllgor. Ychwanegodd fod yr eitemau pellach y manylwyd arnynt yn Atodiad B yn eitemau a fyddai’n cael eu hystyried mewn cyfarfodydd yn y dyfodol, nad yw’r dyddiadau ar eu cyfer wedi eu pennu eto.

 

PENDERFYNWYD:               Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo adborth ac ymatebion o’i gyfarfod ym mis Rhagfyr a nodi'r eitemau a ddirprwywyd iddynt ar gyfer y setiau nesaf o gyfarfodydd.

35.

Adroddiad Safonau Ysgol – Cyfnod Sylfaen, Camau Allweddol 2, 3 a 4 ac Ôl 16 – Deilliannau ar gyfer 2016-17 pdf eicon PDF 774 KB

Gwahoddedigion:

 

Lindsay Harvey, Cyfarwyddwr CorfforaetholAddysg a Chymorth i Deuluoedd (Dros Dro);

Cllr Charles Smith, Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio;

Nicola Echanis, Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar;

Mandy Paish, Uwch Ymgynghorydd Her,Consortiwm Canolbarth y De

Mike Glavin, Cyfarwyddwr Rheoli, Consortiwm Canolbarth y De

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem gydag Uwch-ymgynghorydd Her Consortiwm Canolbarth y De’n rhoi cyflwyniad o’r enw ‘Cyfnod Sylfaen, Camau Allweddol 2, 3 a 4 ac Ôl 16 – Deilliannau 2016-2017’.

 

Yna gwahoddodd y cadeirydd gwestiynau gan bawb oedd yno.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at baragraff 4.53 yr adroddiad gan nodi bod safon cyrhaeddiad disgyblion ôl 16 yng Ngholeg Cymunedol y Dderwen ar gyfer graddau A* i C wedi gostwng 20.8% yn 2017 o’i gymharu â 2016 a oedd yn ostyngiad sylweddol yn ei barn hi.

 

Dywedodd y Swyddog Arbenigol ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Ôl 16 fod hyn yn bennaf yn ymwneud â’r ffaith bod trosiant staff yn y meysydd pwnc allweddol (h.y. Cymraeg, mathemateg, gwyddoniaeth a Saesneg) wedi digwydd yn ystod y cyfnod uchod. Mae’r swyddi allweddol hyn wedi’u llenwi erbyn hyn ac mae prosesau monitro wedi’u rhoi ar waith er mwyn sicrhau bod gwelliannau’n cael eu gwneud y flwyddyn gyfredol hon yn barod at arholiadau AS eleni. .

 

Gofynnodd aelod beth ddigwyddodd i fyfyrwyr a fethodd eu harholiadau lefel A ac a wnaeth canran uchel o’r rhain ailsefyll yr arholiadau.  Gofynnon nhw hefyd faint o ddisgyblion a aeth ymlaen i addysg bellach.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Arbenigol ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Ôl 16, o ran trothwy Lefel 3, i 90% o fyfyrwyr gyflawni rhyw fath o radd hyd yn oed os nad oeddent yr uchaf o ran cyrhaeddiad. Fodd bynnag, ychwanegodd nad yw canlyniadau lefel A mor arwyddocaol i fyfyrwyr ag yr arferent fod, gan fod Prifysgolion bellach yn llai llym nag o'r blaen o ran gofynion mynediad. Gwireddwyd hyn gan y ffaith bod bron bob myfyriwr ym Mwrdeistref Sirol Pen-Y-Bont Ar Ogwr a wnaeth gais am le mewn prifysgol y llynedd wedi’i dderbyn. Ychwanegodd y derbyniwyd rhai o’r disgyblion hyn heb unrhyw gymwysterau lefel A o gwbl, felly nid oes anfantais i’r myfyrwyr hyn o ran eu cais i gael eu derbyn mewn amgylcheddau addysg uwch. Er gwaethaf hynny, roedd staff addysgu ym mhob ysgol am gynorthwyo gyda gwella graddau cymwysterau ar gyfer pob disgybl.

 

Gofynnodd Aelod a oedd cynlluniau digonol wrth gefn yn eu lle mewn ysgolion pe bbyddai nifer o aelodau staff yno yn gadael ar yr un pryd, er mwyn galluogi disgyblion i wneud y gorau o’u cyfleoedd i gyflawni canlyniadau lefel A da.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio bod modd symud staff o un ysgol i un arall er mwyn cyflenwi at y staff oedd yno, pe bai diffyg yn nifer y staff addysgu yno am ba reswm bynnag. Ychwanegodd ei bod yn haws lliniaru ar  absenoldeb staff a ragwelir a hyd yn oed absenoldeb staff hirdymor, ond bod hi’n fwy anodd rhoi cynlluniau wrth gefn ar waith ar gyfer achosion o absenoldeb byrdymor na ragwelid.

 

Nododd y Cadeirydd i adroddiad Ysgol Gyfun Pencoed adlewyrchu lefelau perfformiad da iawn ar gyfer disgyblion/addysg ôl 16.

 

Dywedodd y Swyddog Arbenigol ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Ôl 16 fod enw da gan yr ysgol hon ar bob lefel oedran, a bod hyn wedi ffynnu ers i’r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 35.

36.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z