Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mr Mark Anthony Galvin Senior Democratic Services Officer - Committees
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgan Buddiannau Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd AJ Williams fuddiant personol yn Eitem Agenda 5, gan ei fod yn aelod o Gr?p Cymunedol Elusennol oedd wedi’i gefnogi’n ariannol gan G4S. |
|
Cymeradwyo Cofnodion PDF 81 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 12/3/18
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc a gynhaliwyd ar 12 Mawrth 2018 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir, ar yr amod y caiff y rheswm am ddatganiad o fuddiant y Cynghorydd Webster fel y cyfeirir ato yng Nghofnod 11 y Cofnodion hyn ei newid fel a ganlyn:-
‘Fel Cadeirydd GMC yn Ysgol Heronsbridge.’ |
|
Diweddariad ar y Flaenraglen Waith PDF 71 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad ar yr uchod i:
a) Gyflwyno’r eitemau a flaenoriaethwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol gan gynnwys yr eitem nesaf i’w dirprwyo i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc hwn;
b) Cyflwyno i’r Pwyllgor restr o eitemau posibl eraill i'w blaenoriaethu ac i roi sylwadau arnynt;
c) Gofyn i’r Pwyllgor nodi eitemau eraill i’w hystyried gan ddefnyddio’r ffurflen meini prawf a bennwyd ymlaen llaw;
ch) Ystyried a chymeradwyo’r adborth o gyfarfodydd blaenorol Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1, a nodi’r rhestr o ymatebion, gan gynnwys unrhyw beth sydd dal yn weddill yn Atodiad A.
Atodwyd yn Atodiad B i’r adroddiad oedd y flaenraglen waith gyffredinol ar gyfer y PCThPau oedd yn cynnwys y pynciau a flaenoriaethwyd gan y PCThP ar gyfer y set nesaf o PCThPau yn Nhabl A, yn ogystal â phynciau y ystyriwyd eu bod yn bwysig i’w blaenoriaethu yn y dyfodol yn Nhabl B. Mae hwn wedi’i greu o eitemau a awgrymwyd gan bob un o’r PCThCau un eu cyfarfodydd blaenorol yn ogystal â’r PCThP. Roedd hefyd yn cynnwys gwybodaeth a gynigiwyd gan Gyfarwyddwyr Corfforaethol, manylion o ymchwil wedi’i wneud gan Swyddogion Craffu a gwybodaeth o gyfarfodydd Datblygu'r Flaenraglen waith rhwng Cadeiryddion Craffu a’r Cabinet.
Wedi ystyried y wybodaeth yn yr adroddiad,
PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad a’r wybodaeth ategol wedi’i hatodi ato ar ffurf Atodiadau A, B a C. |
|
Invitees Susan Cooper – Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Carmel Donovan - Rheolwr Integredig Gwasanaethau Cymunedol Corin Morgan Armstrong – Cynrychiolydd o G4S Cllr Phil White - Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar
Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd y Gwahoddedigion i'r cyfarfod, gan gynnwys Pennaeth Ymyraethau Teulu o G4S. Yna cyflwyno Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion yr adroddiad i aelodau a gwahoddodd gwestiynau gan y Pwyllgor. Nododd Aelod gynnwys yr adroddiad, ond roedd o’r farn ei bod yn annheg bod disgwyl i lefel y cyllid grant gan Lywodraeth Cymru wedi’i roi i’r Awdurdod yn 2016/17 a 2017/18 i sefydlu a gweithredu gwasanaeth a thîm Ystâd Ddiogel leihau yn y dyfodol a'i rannu ymysg pob un o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru yn rhan o Setliad Llywodraeth Leol cyffredinol. Teimlodd fod hyn yn annheg, o ystyried bod carcharau yn Wrecsam, Sir Fynwy, Caerdydd, Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr yn unig. Nid oedd rhaid ardaloedd awdurdod lleol eraill gefnogi ystadau diogel felly. Golygodd hyn fod disgwyl i lefel y cyllid ar gyfer CBSP yn 2018/19 leihau o fwy na 200k i 18k, sy’n lleihad sylweddol. Cefnogwyd y farn hon gan hol aelodau’r Pwyllgor.
Cytunodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant gyda’r sylwadau a ychwanegodd fod yr awdurdod lleol wedi bod o’r farn y byddai'r lefel gychwynnol o gyllid a roddir at y diben hwnnw yn parhau i gael ei rhoi mewn blynyddoedd yn y dyfodol.
Ychwanegodd fod y gr?p Is-grant Dosbarthu wedi’i sefydlu gyda chynrychiolaeth o bob un o’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru, yn ogystal ag o CLlLC a Llywodraeth Cymru. Mae’r gr?p hwn yn cyfarfod bob dau fis, ac roedd y pwnc ynghylch cyllid i gefnogi ystadau diogel awdurdodau lleol Cymru yn y dyfodol yn cael ei drafod, a meddyliodd y dylid ei rannu ar sail lefel o boblogaeth lle bo Awdurdod Lleol yn cefnogi darpariaeth ofal cymdeithasol i garcharwyr dan drefniant ystâd ddiogel. Ychwanegodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ei bod yn obeithiol y gallai'r gr?p hwn ddatrys rhywbeth a fyddai'n arwain at Ben-y-bont yn derbyn mwy o gyllid yn y d’fodol, gobeithio.
Gofynnodd aelod sut mae Parc Prison yn wahanol i garchar gwladol
Dywedodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion mai carchar Categori B oedd Carchar Parc, mae gan bob carchar lefelau poblogaeth gwahanol gyda gwahanol fathau o droseddwyr yno, yn gyffredinol roedd gan y carcharwyr yng Ngharchar Parc yn Ne Cymru ddedfrydau hirach o’u cymharu â charcharau eraill.
Ychwanegodd y cynrychiolydd o G4S y gall Carchar Parc roi lle i garcharwyr Categori A, felly gall roi lle i garcharwyr o’r lefel diogelwch uchaf, ac mae carcharwyr yno ar hyn o bryd sy'n cwblhau dedfrydau oes. Ond yn gyffredinol, mae’r carchar yn rhoi lle i droseddwyr tymor canolog a hir dymor, ac ail-droseddwyr yn fwy na thebyg. Mae hefyd gan rai o’r carcharwyr hyn anghenion cymhleth y mae angen eu rheoli’n ofalus. .
Gofynnodd Aelod ba ganran o’r carcharwyr yng Ngharchar Parc sy’n dod o’r tu allan i’r Fwrdeistref Sirol ac yna’n ymgartrefu yn yr ardal pan ddaw eu dedfryd i ben. . Gofynnodd hyn, gan y gallai effeithio ar y cyllid a ddyrennir o ran ystadau diogel os oes angen cymorth arnynt ar ôl gadael y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 24. |
|
Enwebu i Banel Trosolwg a Chraffu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus PDF 64 KB Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth adroddiad i enwebu Aelod i sefyll ar Banel Trosolwg a Chraffu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
PENDERFYNWYD: Enwebu’r Cynghorydd KJ Watts i sefyll fel Aelod ar Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1 ar Banel Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. |
|
Adroddiad Enwebu Hyrwyddwr Rhiant Corfforaethol PDF 79 KB Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth adroddiad a ofynnwyd i'r Pwyllgor enwebu Aelod fel ei Hyrwyddwr Rhianta Corfforaethol i gynrychioli'r Pwyllgor fel Gwahoddai i gyfarfodydd Pwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet.
PENDERFYNWYD: Enwebu'r Cynghorydd J Gebbie i sefyll fel Aelod o Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1 ar Bwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet yn rhinwedd Gwahoddai. |
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim. |