Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Testun 1 - Dydd Llun, 3ydd Rhagfyr, 2018 10:00

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

38.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan yr Aelodau canlynol:-

 

Y Cynghorydd M Jones

Y Cynghorydd D Owen

W Bond

39.

Datganiadau o fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

Cofnodion:

Dim.

40.

Cymeradwyaeth Cofnodion pdf eicon PDF 86 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 16/10/2018

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     Bod Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1, dyddiedig 16 Hydref 2018, yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir, yn amodol ar ychwanegu'r Parch Canon Evans at y rhestr o'r rhai oedd yn bresennol yn y cyfarfod

41.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2019-20 a 2022-23 pdf eicon PDF 242 KB

Gwahoddedigion

Cyng Charles Smith, Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio;

Nicola Echanis, Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar;
Robin Davies, Rheolwr Gr?p Strategaeth Fusnes a Pherfformiad

Deborah Exton, Rheolwr Gr?p Cynllunio Ariannol a Rheoli Cyllidebaue

Eilish Thomas, Cyfrifydd - Addysg a Chymorth i Deuluoedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad, a phwrpas hwn oedd cyflwyno i'r Cabinet Strategaeth Ariannol y Tymor Canol 2019-20 i 2022-23 (SATC), oedd yn egluro blaenoriaethau gwario'r Cyngor, amcanion buddsoddi allweddol a meysydd cyllido a dargedwyd ar gyfer arbedion angenrheidiol. Roedd y Strategaeth yn cynnwys rhagolygon ariannol am 2019-2023, yn ogystal â Chyllideb Refeniw ddrafft fanwl ar gyfer 2019-20.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cyfarfod cyn y Pwyllgor, lle bu Aelodau yn trafod nad oedd y Gyllideb Derfynol wedi cael ei chyhoeddi eto, ac, oherwydd hyn, nad oedd yr adroddiad oedd gerbron yr Aelodau yn adlewyrchu hyn. Felly daethpwyd i'r casgliad, na ellid craffu'n llawn ar ddyraniad arbedion a glustnodwyd o fewn meysydd gwasanaeth Cyfarwyddiaethau yn y Cyngor, gan y gallai cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (LlC) effeithio ar lefelau’r arbedion ac efallai y byddai’r toriadau fyddai eu hangen fel rhan o'r SATC yn newid y cynigion hyn.

 

Casgliad:         Oherwydd yr uchod, argymhellodd yr Aelodau y dylai adroddiad diwygiedig ar gynigion SATC gael ei ddwyn yn ôl gerbron y Pwyllgor, unwaith y byddai setliad terfynol y gyllideb gan LlC wedi cael ei gyhoeddi.

42.

Diweddariad Rhaglen Gwaith pdf eicon PDF 71 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad, a phwrpas hwn oedd:-

 

  • Cyflwyno'r eitemau a flaenoriaethwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol, gan gynnwys yr eitem nesaf a ddirprwywyd i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1;
  • Cyflwyno i'r Pwyllgor restr o eitemau posibl pellach am sylwadau a blaenoriaethu:
  • Gofyn i'r Pwyllgor nodi unrhyw eitemau pellach i'w hystyried gan ddefnyddio'r ffurflen meini prawf a baratowyd;
  • Ystyried a chymeradwyo'r adborth o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1, a nodi'r rhestr o atebion gan gynnwys unrhyw rai sy'n weddill yn Atodiad A i'r adroddiad.

 

Bu'r aelodau yn trafod cynnwys yr adroddiad a'r Atodiadau A, B ac C cysylltiedig, ac yn dilyn hynny:

 

Casgliadau:     

 

            1) Argymhellodd yr aelodau fod y llythyr gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch Cyllid Grant i'r Ystâd Ddiogel yng Nghymru yn cael ei anfon ymlaen at Lywodraeth Cymru gan ofyn am eu sylwadau yn ôl.

 

2) Cytunai'r aelodau y dylai datblygiad aelodau gael ei gynnal gyda golwg ar ddysgu cymysg.

 

3) Cytunai'r aelodau y dylai'r eitem arfaethedig ar Adolygu Ymarfer Plant fod yn sesiwn briffio i'r holl aelodau yn y Cyngor llawn yn hytrach na mynd i bwyllgor craffu.

43.

Materion Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.